6(1)Mae taliad y mae’n ofynnol ei wneud yn achos diffygdaliad gan ddeiliad y contract, o dan gontract meddiannaeth safonol, yn daliad a ganiateir, ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraff (3).
(2)Yn y paragraff hwn, ystyr “diffygdaliad” yw—
(a)methiant gan ddeiliad y contract i wneud taliad i’r landlord erbyn y dyddiad dyledus, neu
(b)toriad gan ddeiliad y contract o un o delerau’r contract.
(3)Yn achos diffygdaliad y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo, os yw swm y taliad sy’n ofynnol yn achos y diffygdaliad yn fwy na’r terfyn rhagnodedig, mae’r swm ychwanegol yn daliad gwaharddedig.
(4)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i—
(a)methiant gan ddeiliad contract i dalu rhent i’r landlord erbyn y dyddiad dyledus;
(b)unrhyw ddisgrifiad ychwanegol o ddiffygdaliad a bennir gan reoliadau.
(5)Yn is-baragraff (3), ystyr y “terfyn rhagnodedig” yw terfyn a bennir gan reoliadau, neu y penderfynir arno yn unol â rheoliadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 30(2)
I2Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.9.2019 gan O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)