Deddf Cyllido Gofal Plant (Cymru) 2019
2019 dccc 1
Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer cyllido gofal plant gan Weinidogion Cymru ar gyfer plant rhieni sy’n gweithio; ac at ddibenion cysylltiedig.
Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:
Darparu cyllid ar gyfer gofal plant
1Cyllido gofal plant ar gyfer plant rhieni sy’n gweithio
1
Rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu cyllid mewn cysylltiad â darparu gofal plant ar gyfer plant cymhwysol rhieni sy’n gweithio.
2
Rhaid i reoliadau bennu faint o ofal plant sydd i’w sicrhau yn rhinwedd y cyllid a ddarperir o dan is-adran (1).
3
Mae plentyn cymhwysol rhieni sy’n gweithio yn blentyn o dan yr oedran ysgol gorfodol—
a
sydd yng Nghymru;
b
sydd o oedran (neu o fewn ystod oedran) a bennir mewn rheoliadau;
c
sy’n bodloni unrhyw amodau eraill a bennir mewn rheoliadau;
d
y mae datganiad wedi cael ei wneud mewn cysylltiad ag ef, yn unol â rheoliadau, i’r perwyl bod gofynion paragraffau (a), (b) ac (c) wedi eu bodloni neu’n parhau i gael eu bodloni.
4
Caiff amodau a bennir o dan is-adran (3)(c) mewn cysylltiad â phlentyn ymwneud (ymhlith pethau eraill) ag addysg gynradd (o fewn yr ystyr a roddir i “primary education” yn adran 2(1)(a) o Ddeddf Addysg 1996) a geir gan y plentyn neu a roddir ar gael iddo.
5
Caiff amodau a bennir o dan is-adran (3)(c) mewn cysylltiad â phlentyn hefyd ymwneud â rhiant i’r plentyn, neu bartner i riant i’r plentyn, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) â gwaith am dâl a wneir gan riant neu bartner.
6
Caiff darpariaeth a wneir o dan is-adran (3)(d) mewn cysylltiad â datganiad gynnwys (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch pryd y mae datganiad i’w wneud, hyd datganiad, ac amodau sydd i’w bodloni gan berson sy’n gwneud datganiad.
7
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth, at ddibenion yr adran hon, ynghylch—
a
amgylchiadau pan fo, neu pan na fo, plentyn i’w ystyried fel pe bai yng Nghymru;
b
amgylchiadau pan fo, neu pan na fo, person i’w ystyried yn bartner i berson arall;
c
amgylchiadau pan fo, neu pan na fo, person i’w drin fel pe bai’n gwneud gwaith am dâl.
8
At ddibenion yr adran hon, mae “rhiant”, mewn perthynas â phlentyn, yn cynnwys—
a
unrhyw unigolyn a chanddo gyfrifoldeb rhiant (o fewn yr ystyr a roddir i “parental responsibility” yn Neddf Plant 1989 (p. 41)) dros y plentyn;
b
unrhyw unigolyn a chanddo ofal am y plentyn.
9
Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at reoliadau yn gyfeiriadau at reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
Pŵer i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â chyllido gofal plant
2Pŵer i wneud darpariaeth ynghylch gweinyddu etc. cyllid
1
Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ynghylch gweinyddu a gweithredu unrhyw drefniadau a wneir gan Weinidogion Cymru at ddibenion adran 1.
2
Mae’r ddarpariaeth y caniateir iddi gael ei gwneud drwy’r rheoliadau yn cynnwys (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth o fewn adrannau 3 i 7.
3
Mae cyfeiriadau yn yr adrannau hynny at “y rheoliadau” yn gyfeiriadau at reoliadau o dan yr adran hon.
Darpariaeth ar gyfer datgelu gwybodaeth
3Gofyniad i rieni etc. ddarparu gwybodaeth
1
Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu dogfennau neu wybodaeth a bennir yn y rheoliadau, neu sydd o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau, i Weinidogion Cymru neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i Weinidogion Cymru.
2
Ond ni chaniateir i ofyniad gael ei osod ar berson yn rhinwedd yr adran hon oni bai bod y person wedi gwneud, neu ei fod yn gwneud, ddatganiad o dan adran 1(3)(d).
3
Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth i gosb gael ei gosod ar berson sy’n darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol mewn cysylltiad â gofyniad a osodir yn rhinwedd yr adran hon.
4
Yn is-adran (3) ystyr “anwir neu gamarweiniol” yw anwir neu gamarweiniol mewn manylyn perthnasol.
5
Ond nid yw person yn agored i gosb yn rhinwedd yr adran hon mewn cysylltiad ag unrhyw beth os yw’r person wedi ei euogfarnu o drosedd mewn perthynas ag ef.
6
Uchafswm unrhyw gosb y caniateir iddi gael ei phennu neu ei phenderfynu yn unol â’r rheoliadau yn rhinwedd is-adran (3) yw £3,000.
4Darparu gwybodaeth gan drydydd partïon
1
Caiff y rheoliadau ganiatáu i Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, neu berson sy’n darparu gwasanaethau i’r Comisiynwyr, ddarparu gwybodaeth gymhwysol i Weinidogion Cymru neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i Weinidogion Cymru.
2
Caiff y rheoliadau hefyd ganiatáu i adran o’r llywodraeth neu i un o Weinidogion y Goron, neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i adran o’r llywodraeth neu i un o Weinidogion y Goron, ddarparu gwybodaeth gymhwysol i Weinidogion Cymru neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i Weinidogion Cymru.
3
Caiff y rheoliadau ganiatáu neu ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i awdurdod lleol, ddarparu gwybodaeth gymhwysol i Weinidogion Cymru, neu i berson sy’n darparu gwasanaethau i Weinidogion Cymru.
4
Ystyr “gwybodaeth gymhwysol” yw gwybodaeth a bennir yn y rheoliadau neu sydd o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau; ond ni chaiff gwybodaeth na disgrifiad o wybodaeth gael ei phennu neu ei bennu felly ond os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny at ddibenion penderfyniadau o ran cymhwystra i gael cyllid o dan adran 1.
5
Ni chaniateir gwneud darpariaeth yn y rheoliadau ar gyfer datgelu gwybodaeth a gedwir gan—
a
Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi;
b
un o Weinidogion y Goron;
c
adran o’r llywodraeth;
d
person sy’n darparu gwasanaethau i berson a grybwyllir ym mharagraff (a), (b), neu (c),
ond os yw’r Gweinidog priodol wedi cydsynio â’r ddarpariaeth.
6
Y Gweinidog priodol yw—
a
mewn perthynas â Chomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, y Trysorlys;
b
mewn perthynas ag un o Weinidogion y Goron neu adran o’r llywodraeth, yr Ysgrifennydd Gwladol.
5Datgelu ymlaen wybodaeth sydd wedi ei datgelu yn rhinwedd adran 3 neu 4
1
Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer datgelu ymlaen wybodaeth sydd wedi cael ei datgelu yn rhinwedd adran 3 neu 4.
2
Ond mae is-adran (3) yn gymwys yn achos gwybodaeth sydd wedi ei datgelu yn unol â darpariaeth y mae’r Gweinidog priodol wedi cydsynio â hi o dan adran 4(5).
3
Ni chaiff y rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer datgelu ymlaen yr wybodaeth ond os yw’r Gweinidog priodol (o fewn ystyr adran 4) wedi cydsynio â’r ddarpariaeth ar gyfer datgelu ymlaen.
4
Caiff y rheoliadau gynnwys darpariaeth sy’n creu troseddau mewn cysylltiad â datgelu ymlaen wybodaeth sy’n ymwneud â pherson penodol.
5
Os yw’r rheoliadau yn creu trosedd mewn perthynas â datgelu ymlaen wybodaeth, ni chaiff darpariaeth a wneir ar gyfer unrhyw gosb o garchar ar euogfarn ar dditiad bennu cyfnod o garchar sy’n hwy na dwy flynedd (pa un a yw’n dod gyda dirwy ai peidio).
Darpariaeth ar gyfer adolygiadau ac apelau
6Adolygu penderfyniadau ac apelau i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf
1
Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer adolygiadau o benderfyniadau o ran cymhwystra i gael cyllid o dan adran 1, neu ar gyfer apelau i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn y penderfyniadau hynny.
2
Pan fo darpariaeth wedi ei gwneud yn rhinwedd adran 3 ar gyfer gosod cosbau ariannol, rhaid i’r rheoliadau gynnwys darpariaeth sy’n galluogi person y mae cosb ariannol wedi ei gosod arno—
a
i’w gwneud yn ofynnol adolygu gosod y gosb neu ei swm;
b
i apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn gosod y gosb neu ei swm.
Darpariaeth ar gyfer swyddogaethau i’w harfer gan awdurdodau lleol
7Pŵer i roi swyddogaethau i awdurdodau lleol
1
Caiff y rheoliadau roi pwerau i awdurdod lleol neu osod rhwymedigaethau arno mewn cysylltiad â chyllido o dan adran 1.
2
Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, wrth arfer pŵer neu wrth gydymffurfio â rhwymedigaeth, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan y rheoliadau.
Dyletswydd i adrodd ar effaith y Ddeddf
8Dyletswydd i lunio a chyhoeddi adroddiad ar effaith y Ddeddf hon
1
Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o bum mlynedd, rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi adroddiad ar effaith y Ddeddf hon, ac ar weithredu unrhyw drefniadau a wneir at ddibenion adran 1.
2
Y cyfnod o bum mlynedd, at ddibenion yr adran hon, yw’r cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw adran 1 i rym.
Cyffredinol
9Diwygiad canlyniadol i Ddeddf y Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005
Yn adran 18 o Ddeddf y Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005 (p. 11) (dyletswydd cyfrinachedd), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (i) mewnosoder—
ia
which is made to the Welsh Ministers, or to a person providing services to the Welsh Ministers,by virtue of regulations made under the Childcare Funding (Wales) Act 2019,
10Ystyr “awdurdod lleol”
Yn y Ddeddf hon, ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.
11Pŵer i newid swm y gosb ariannol ar gyfer darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol
Caiff rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon roi swm gwahanol yn lle’r swm sydd wedi ei bennu am y tro yn adran 3(6).
12Darpariaeth atodol ynghylch rheoliadau o dan y Ddeddf hon
1
Mae unrhyw bŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol, ac yn cynnwys pŵer i—
a
rhoi disgresiwn i unrhyw berson,
b
gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol, ac
c
gwneud darpariaeth ganlyniadol, gysylltiedig, atodol, ddarfodol, drosiannol neu arbed.
2
Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.
13Dod i rym
1
Daw’r adran hon ac adran 14 i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
2
Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
3
Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—
a
pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol;
b
gwneud darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed mewn cysylltiad â dwyn darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.
14Enw byr
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Cyllido Gofal Plant (Cymru) 2019.