xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Dehongli’r termau craidd

3Ystyr “cyflenwi alcohol” a “mangre gymhwysol”

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr cyflenwi alcohol yw—

(a)gwerthu drwy fanwerthu alcohol i berson yng Nghymru, neu

(b)cyflenwi alcohol gan neu ar ran clwb i aelod o’r clwb, a’r aelod hwnnw yng Nghymru, neu i berson yng Nghymru ar orchymyn aelod o’r clwb,

ac mae ymadroddion cysylltiedig i gael eu dehongli yn unol â hynny.

(2)Mae mangre yn fangre gymhwysol at ddibenion y Ddeddf hon—

(a)os yw trwydded mangre a roddir o dan Ran 3 o Ddeddf 2003 yn awdurdodi defnyddio’r fangre i gyflenwi alcohol,

(b)os yw tystysgrif mangre clwb a roddir o dan Ran 4 o Ddeddf 2003 yn ardystio y caniateir i’r fangre gael ei defnyddio i gyflenwi alcohol, neu

(c)os yw cyflenwi alcohol yn y fangre neu o’r fangre yn weithgaredd dros dro a ganiateir at ddibenion Rhan 5 o Ddeddf 2003.

4Ystyr “manwerthwr alcohol”

(1)Mewn perthynas â chyflenwi alcohol o fangre sy’n fangre gymhwysol yn rhinwedd adran 3(2)(a), mae pob un o’r canlynol i gael ei drin fel manwerthwr alcohol at ddibenion y Ddeddf hon—

(a)unigolyn y mae trwydded bersonol wedi ei rhoi iddo o dan Ran 6 o Ddeddf 2003 sy’n awdurdodi’r unigolyn i gyflenwi alcohol, neu i awdurdodi cyflenwi alcohol, yn unol â’r drwydded mangre o dan sylw;

(b)yr unigolyn sy’n oruchwyliwr dynodedig y fangre at ddibenion Deddf 2003.

(2)Mewn perthynas â chyflenwi alcohol o fangre sy’n fangre gymhwysol yn rhinwedd adran 3(2)(b), mae’r person sy’n ddeiliad y dystysgrif mangre clwb o dan sylw i gael ei drin fel manwerthwr alcohol at ddibenion y Ddeddf hon.

(3)Mewn perthynas â chyflenwi alcohol o fangre sy’n fangre gymhwysol yn rhinwedd adran 3(2)(c), mae’r unigolyn sy’n ddefnyddiwr y fangre at ddibenion Rhan 5 o Ddeddf 2003 i gael ei drin fel manwerthwr alcohol at ddibenion y Ddeddf hon.