TrosolwgLL+C

1Trosolwg o’r Ddeddf honLL+C

(1)Mae’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig drwy ddiwygio Deddfau presennol, gan gynnwys yn benodol Ddeddf Tai 1996 (Housing Act 1996 (c. 52)).

(2)Mae adrannau 3 i 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch gofynion y mae’n rhaid cydymffurfio â hwy pan fo newidiadau penodol yn cael eu gwneud mewn cysylltiad â threfniadau cyfansoddiadol neu strwythur landlord cymdeithasol cofrestredig.

(3)Mae adrannau 6 i 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd mewn cysylltiad â swyddogion neu reolaeth landlord cymdeithasol cofrestredig.

(4)Mae adran 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch pwerau Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ymchwiliadau i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

(5)Mae adrannau 11 a 12 yn gwneud darpariaeth ynghylch hysbysiadau gorfodi a chosbau.

(6)Mae adrannau 13 i 15 yn gwneud darpariaeth ynghylch gwarediadau tir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

(7)Mae adran 16 yn cyflwyno Atodlen 1, sy’n gwneud darpariaeth sy’n cyfyngu ar ddylanwad awdurdodau lleol ar fyrddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

(8)Mae adrannau 17 i 20 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol sy’n gymwys i’r Ddeddf, gan gynnwys darpariaeth ynghylch y pŵer i wneud diwygiadau canlyniadol, ac ynghylch y Ddeddf yn dod i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 19(2)

I2A. 1 mewn grym ar 15.6.2018 gan O.S. 2018/777, ergl. 2(a)