Trosolwg

I1I21Trosolwg o’r Ddeddf hon

1

Mae’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig drwy ddiwygio Deddfau presennol, gan gynnwys yn benodol Ddeddf Tai 1996 (Housing Act 1996 (c. 52)).

2

Mae adrannau 3 i 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch gofynion y mae’n rhaid cydymffurfio â hwy pan fo newidiadau penodol yn cael eu gwneud mewn cysylltiad â threfniadau cyfansoddiadol neu strwythur landlord cymdeithasol cofrestredig.

3

Mae adrannau 6 i 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd mewn cysylltiad â swyddogion neu reolaeth landlord cymdeithasol cofrestredig.

4

Mae adran 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch pwerau Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ymchwiliadau i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

5

Mae adrannau 11 a 12 yn gwneud darpariaeth ynghylch hysbysiadau gorfodi a chosbau.

6

Mae adrannau 13 i 15 yn gwneud darpariaeth ynghylch gwarediadau tir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

7

Mae adran 16 yn cyflwyno Atodlen 1, sy’n gwneud darpariaeth sy’n cyfyngu ar ddylanwad awdurdodau lleol ar fyrddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

8

Mae adrannau 17 i 20 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol sy’n gymwys i’r Ddeddf, gan gynnwys darpariaeth ynghylch y pŵer i wneud diwygiadau canlyniadol, ac ynghylch y Ddeddf yn dod i rym.