ATODLEN 1FFIOEDD A THALIADAU

2Pŵer i addasu ffioedd neu daliadau cyn ymadael

1

Mae is-baragraff (3) yn gymwys pan fo is-ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaeth (“y ddarpariaeth codi tâl”) ar gyfer codi ffioedd neu daliadau eraill neu mewn cysylltiad â chodi ffioedd neu daliadau eraill—

a

sydd wedi ei gwneud mewn rheoliadau o dan adran 4 neu sy’n cael ei thrin fel pe bai wedi ei gwneud o dan adran 5, a

b

a oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, wedi ei gwneud o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 neu adran 56 o Ddeddf Cyllid 1973.

2

Mae is-baragraff (3) hefyd yn gymwys pan fo is-ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaeth a addesir o dan y paragraff hwn.

3

Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau sy’n addasu’r is-ddeddfwriaeth at ddibenion—

a

dirymu’r ddarpariaeth codi tâl,

b

newid swm unrhyw un neu ragor o’r ffioedd neu’r taliadau sydd i’w codi,

c

newid sut y mae unrhyw un neu ragor o’r ffioedd neu’r taliadau i’w penderfynu, neu

d

newid fel arall y ffioedd neu’r taliadau y caniateir iddynt gael eu codi mewn perthynas ag unrhyw beth y caniateir i ffioedd neu daliadau gael eu codi mewn cysylltiad ag ef o dan y ddarpariaeth codi tâl.

4

Caniateir i reoliadau o dan y paragraff hwn gael eu gwneud cyn y diwrnod ymadael os bydd y ddarpariaeth codi tâl yn dod o fewn is-baragraff (1) ar y diwrnod ymadael.