(1)Ni chaiff corff llywodraethu nac awdurdod lleol godi tâl ar blentyn, ar riant plentyn neu ar berson ifanc am unrhyw beth y mae’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol yn ei sicrhau ar gyfer plentyn neu berson ifanc o dan y Rhan hon.
(2)Nid yw plentyn, rhiant plentyn, neu berson ifanc yn atebol i dalu unrhyw dâl a godir gan berson am unrhyw beth y mae corff llywodraethu neu awdurdod lleol yn ei sicrhau ar gyfer plentyn neu berson ifanc o dan y Rhan hon.
(3)Yn yr adran hon, nid yw “rhiant” yn cynnwys rhiant nad yw’n unigolyn.
(4)Mae Atodlen 1 i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(5)Ym mharagraff 1, yn is-baragraff (1), ar ôl “mewn achosion ar wahân i’r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (8)” mewnosoder “, ac mewn achosion pan fo codi ffioedd wedi ei wahardd gan neu o dan ddeddfiad”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 49 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))
I3A. 49 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))
I4A. 49 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)
I5A. 49 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)
I6A. 49 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(f), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))
I7A. 49 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(f)
I8A. 49 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(f), 4
I9A. 49 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)
I10A. 49 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))
I11A. 49 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)
I12A. 49 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-22)
I13A. 49 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(f), 3
I14A. 49 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(f) (ynghyd ag erglau. 4-25)