xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3TRIBIWNLYS ADDYSG CYMRU

91Cyfansoddiad Tribiwnlys Addysg Cymru

(1)Mae Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru i barhau a chaiff ei ailenwi’n Dribiwnlys Addysg Cymru.

(2)Mae’r Tribiwnlys i gael—

(a)Llywydd i’r Tribiwnlys,

(b)panel o bersonau a gaiff wasanaethu fel cadeirydd cyfreithiol y Tribiwnlys (“y panel cadeirydd cyfreithiol”), ac

(c)panel o bersonau a gaiff wasanaethu fel y ddau aelod arall o’r Tribiwnlys ond nid fel y cadeirydd cyfreithiol (“y panel lleyg”).

(3)Mae’r Llywydd i gael ei benodi gan yr Arglwydd Ganghellor gyda chytundeb yr Arglwydd Brif Ustus.

(4)Mae pob aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol i gael ei benodi gan yr Arglwydd Ganghellor gyda chytundeb y Llywydd.

(5)Mae aelodau’r panel lleyg i gael eu penodi gan Weinidogion Cymru gyda chytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol a’r Llywydd.

(6)Caiff rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru—

(a)darparu i awdurdodaeth y Tribiwnlys gael ei harfer gan y nifer hwnnw o dribiwnlysoedd y mae’r Llywydd yn penderfynu arno o bryd i’w gilydd, a

(b)gwneud unrhyw ddarpariaeth arall mewn cysylltiad â sefydlu’r Tribiwnlys a’i barhad yr ystyrir ei bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu staff ac adeiladau ar gyfer y Tribiwnlys.

92Y Llywydd ac aelodau’r paneli

(1)Ni chaniateir i berson gael ei benodi’n Llywydd nac yn aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol oni bai ei fod yn bodloni’r amod cymhwystra penodiad barnwrol ar sail 5 mlynedd.

(2)Ni chaniateir i berson gael ei benodi’n aelod o’r panel lleyg oni bai ei fod yn bodloni gofynion a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Os yw’r Llywydd, ym marn yr Arglwydd Ganghellor a’r Arglwydd Brif Ustus, yn anaddas i barhau mewn swydd neu’n analluog i gyflawni ei ddyletswyddau, caiff yr Arglwydd Ganghellor (gyda chytundeb yr Arglwydd Brif Ustus) ei ddiswyddo.

(4)Mae pob aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol neu’r panel lleyg i ddal a gadael swydd o dan delerau’r offeryn y mae wedi ei benodi odano.

(5)Ond dim ond gyda chytundeb y Llywydd y caniateir i aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol neu’r panel lleyg gael ei ddiswyddo o dan delerau’r offeryn.

(6)O ran y Llywydd neu aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol neu’r panel lleyg—

(a)caiff ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Arglwydd Ganghellor neu (yn ôl y digwydd) i Weinidogion Cymru, a

(b)mae’n gymwys i gael ei ailbenodi os yw’n peidio â dal y swydd.

93Dirprwy Lywydd y Tribiwnlys

(1)Caiff y Llywydd benodi aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol yn Ddirprwy Lywydd y Tribiwnlys.

(2)Mae person a benodir yn Ddirprwy Lywydd y Tribiwnlys yn dal ac yn gadael y swydd honno yn unol â’r telerau penodi.

(3)Mae person yn peidio â bod yn Ddirprwy Lywydd os yw’n peidio â bod yn aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol.

(4)Caiff person ymddiswyddo fel Dirprwy Lywydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Llywydd.

(5)Caiff Dirprwy Lywydd arfer swyddogaethau’r Llywydd—

(a)os yw’r Llywydd wedi dirprwyo eu harfer i’r Dirprwy Lywydd,

(b)os yw swydd y Llywydd yn wag, neu

(c)os na all y Llywydd eu harfer am unrhyw reswm.

94Tâl a threuliau

Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)talu tâl a lwfansau i’r Llywydd ac unrhyw berson arall mewn cysylltiad â’i wasanaeth fel aelod o’r Tribiwnlys, a

(b)talu treuliau’r Tribiwnlys.