Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Rhan 4 – Amrywiol a Chyffredinol

Adran 95 - Ystyr “yn ardal” awdurdod lleol

194.Mae adran 95 yn diwygio diffiniad rhannol Deddf 1996 o “yn ardal” awdurdod lleol. Mae’r diffiniad rhannol hwnnw yn darparu nad yw cyfeiriadau at berson sydd “yn ardal” awdurdod lleol yn Lloegr yn Neddf 1996 yn cynnwys person a fyddai’n preswylio’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru (er enghraifft, person sy’n byw’n barhaol yng Nghymru). Mae’r diwygiadau a wneir gan yr adran hon yn amodi hyn er mwyn sicrhau nad yw cyfeiriadau at berson sydd “yn ardal” awdurdod lleol yn Lloegr yn cynnwys person a fyddai’n preswylio’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru oni bai am ddarpariaeth a sicrheir o dan Ran 2. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, fod person ifanc sy’n byw yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sydd wedyn yn cael ei leoli gan yr awdurdod hwnnw mewn sefydliad addysgol preswyl yn Lloegr am gwrs dwy flynedd er mwyn sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol yn dal i fod yn ardal yr awdurdod lleol yng Nghymru ac felly fod yr awdurdod hwnnw yn parhau i fod yn gyfrifol am y person o dan Ran 2 (ac felly fod rhaid iddo gynnal CDU y person, ei adolygu, sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol, etc.).

195.Yn yr un modd, mae’r diffiniad rhannol yn Neddf 1996 ar gyfer cyfeiriadau at berson sydd yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru yn cael ei ddiwygio fel nad yw cyfeiriadau o’r fath yn cynnwys person a fyddai’n preswylio’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr, oni bai am ddarpariaeth a sicrheir o dan Ran 3 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014.

196.Mae’r adran hon hefyd yn mewnosod pŵer i wneud rheoliadau yn Neddf 1996 gan ganiatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth bellach ynghylch ystyr cyfeiriadau at y ffaith bod person yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

197.Mae’r diffiniad yn Neddf 1996 fel y’i diwygir gan yr adran hon yn cymhwyso, at ddibenion Deddf 1996, y Ddeddf hon (gweler adran 99(6)) a darpariaethau Deddfau Addysg eraill y mae’r diffiniad yn Neddf 1996 yn gymwys iddynt.

Adran 96 - Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau

198.Mae adran 96 yn cyflwyno Atodlen 1, sy’n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.

Adran 97 - Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc.

199.Mae adran 97 yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i wneud darpariaethau atodol, cysylltiedig, canlyniadol, darfodol, trosiannol neu arbed os ydynt yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaethau yn y Ddeddf hon neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaethau yn y Ddeddf neu at ddibenion unrhyw ddarpariaethau yn y Ddeddf. Caiff y rheoliadau ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddarpariaethau mewn deddfiad (a ddiffinnir yn adran 99(1)) a dogfennau statudol (a ddiffinnir yn is-adran (4)).

Adran 98 - Rheoliadau

200.Mae adran 98 yn nodi bod pwerau i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i gael eu harfer drwy offeryn statudol. Mae’n caniatáu i’r rheoliadau hynny wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer achosion gwahanol; a gwneud darpariaethau atodol, cysylltiedig, canlyniadol, darfodol, trosiannol neu arbed. Mae hefyd yn nodi gweithdrefn Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n gymwys i’r pwerau i wneud rheoliadau.

Adran 99 - Dehongli cyffredinol

201.Mae adran 99 yn darparu dehongliadau a diffiniadau o dermau a chyfeiriadau a ddefnyddir yn y Ddeddf. Mae hefyd yn darparu i ddiffiniadau yn Neddf 1996 fod yn gymwys pan ddefnyddir y term diffiniedig yn y Ddeddf hon, oni roddir ystyr gwahanol i’r term yn y Ddeddf hon, ac mewn achos o’r fath mae’r diffiniad yn y Ddeddf hon yn gymwys (is-adrannau (6) a (7)). O ganlyniad, mae termau amrywiol yn y Ddeddf yn dwyn ystyr Deddf 1996 (er enghraifft, ‘ysgol’ a ‘rhiant’).

202.Ymhlith pethau eraill, mae’r adran hon yn darparu, at ddibenion y Ddeddf, fod awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc os yw’r plentyn neu’r person ifanc “yn ardal” yr awdurdod lleol. Mae ystyr “in the area of” (yn ardal awdurdod lleol) yn Neddf 1996 yn gymwys (mae adran 95 yn diwygio’r diffiniad rhannol o’r term hwnnw yn adran 579 o DDeddf 1996).

Adran 100 - Dod i rym

203.Mae adran 100 yn darparu i nifer o adrannau ddod i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol; mae’r adrannau hyn wedi eu rhestru yn is-adran (1). Mae hefyd yn darparu i baragraff 5 o Atodlen 1 ddod i rym ddau fis ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Mae’n darparu i’r darpariaethau sy’n weddill yn y Ddeddf ddod i rym ar y diwrnod a nodir mewn gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru, sy’n arferadwy drwy offeryn statudol, a gaiff bennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer achosion gwahanol; a chaiff y gorchymyn wneud darpariaethau darfodol, trosiannol neu arbed sy’n gysylltiedig â chychwyn.

Adran 101 - Enw byr a chynnwys y Ddeddf yn y rhestr o Ddeddfau Addysg

204.Enw byr y Ddeddf yw ‘Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018’.

205.Mae’r Ddeddf wedi ei chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a nodir yn adran 578 o DDeddf 1996 (is-adran (2)). Effaith hyn ac adran 99(6) (sy’n darparu i ddarpariaethau’r Ddeddf hon gael eu darllen fel pe baent yn Neddf 1996) yw bod gan Weinidogion Cymru bwerau i ymyrryd os bydd corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu awdurdod lleol yn methu â chydymffurfio â dyletswyddau o dan y Ddeddf neu’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf mewn ffordd afresymol. Y pwerau hyn yw pwerau Gweinidogion Cymru yn Rhan 2 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i ymyrryd yn ymddygiad ysgolion a gynhelir ac yn arferiad awdurdod lleol o’i swyddogaethau addysg. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i ymyrryd hefyd (o dan adran 57 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992) mewn perthynas â chyrff llywodraethu sefydliadau addysg bellach os byddant yn torri dyletswyddau o dan y Ddeddf hon neu’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn ffordd afresymol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources