Search Legislation

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Status:

This is the original version (as it was originally enacted).

RHAN 1TROSOLWG

1Trosolwg o’r Ddeddf hon

(1)Mae Rhan 2 o’r Ddeddf hon yn sefydlu’r system statudol yng Nghymru ar gyfer diwallu anghenion dysgu ychwanegol plant a phobl ifanc; mae iddi 5 pennod.

(2)Mae Pennod 1 (adrannau 2 i 9)—

(a)yn rhoi ystyr y termau allweddol “anghenion dysgu ychwanegol” a “darpariaeth ddysgu ychwanegol” (adrannau 2 a 3);

(b)yn darparu ar gyfer cod ymarfer ar anghenion dysgu ychwanegol (adrannau 4 a 5);

(c)yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfranogiad plant, eu rhieni a phobl ifanc mewn penderfyniadau, ynghylch rhoi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anabledd, ac ynghylch mynediad at wybodaeth am y system anghenion dysgu ychwanegol a sefydlir gan Ran 2 (adrannau 6 i 9).

(3)Mae Pennod 2 (adrannau 10 i 46) yn darparu ar gyfer cynlluniau datblygu unigol ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

(4)Gwneir darpariaeth i’r cynlluniau gael eu llunio a’u cynnal gan gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, cyrff llywodraethu sefydliadau yn y sector addysg bellach neu awdurdodau lleol; ac i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod a chanddo’r ddyletswydd i gynnal y cynllun sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd yn y cynllun.

(5)Gwneir darpariaeth arbennig ar gyfer cynlluniau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal (adrannau 15 i 19) a phlant a phobl ifanc sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw ac sydd wedi eu gosod mewn mathau penodol o lety cadw ieuenctid (adrannau 39 i 45).

(6)Gwneir darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff iechyd penodol—

(a)ystyried, ar atgyfeiriad gan gorff llywodraethu neu awdurdod lleol, a oes triniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol y gallent ei darparu neu ei ddarparu sy’n debygol o fod o fudd o ran ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc ac, os felly, sicrhau y darperir y driniaeth honno neu’r gwasanaeth hwnnw (adrannau 20 a 21);

(b)penodi swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedig (adran 61);

(c)hysbysu rhieni ac awdurdodau lleol pan fônt yn ffurfio’r farn bod gan blentyn o dan yr oedran ysgol gorfodol, neu ei bod yn debygol bod gan blentyn o’r fath, anghenion dysgu ychwanegol (adran 64).

(7)Mae Pennod 3 (adrannau 47 i 67) yn gwneud darpariaeth bellach ar gyfer swyddogaethau sy’n ymwneud â diwallu anghenion dysgu ychwanegol ac mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny, gan gynnwys—

(a)dyletswydd ar awdurdodau lleol i ffafrio addysg mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol (adran 51);

(b)darpariaeth sy’n newid y system gofrestru ar gyfer ysgolion annibynnol i’w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi rhestr o’r ysgolion cofrestredig sy’n nodi’r math neu’r mathau o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae ysgol annibynnol yn ei gwneud (adran 54);

(c)darpariaeth sy’n cyfyngu ar bŵer awdurdodau lleol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer plant neu bobl ifanc mewn ysgolion annibynnol i ysgolion annibynnol cofrestredig (adran 55);

(d)dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sefydlu a chynnal rhestr o sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol, a darpariaeth sy’n cyfyngu ar bŵer awdurdodau lleol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn sefydliadau o’r fath i’r rheini ar y rhestr (adran 56);

(e)dyletswydd ar gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a sefydliadau yn y sector addysg bellach i benodi cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol (adran 60);

(f)dyletswydd ar gyrff iechyd, awdurdodau lleol, ysgolion a gynhelir a chyrff eraill i ddarparu gwybodaeth a help arall i awdurdodau lleol sy’n gofyn amdano (adran 65).

(8)Mae Pennod 4 (adrannau 68 i 81) yn gwneud darpariaeth ynghylch osgoi a datrys anghytundebau; mae’n darparu ar gyfer—

(a)trefniadau awdurdodau lleol ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau (adran 68);

(b)gwasanaethau eirioli annibynnol (adran 69);

(c)yr hawl i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru mewn cysylltiad â phenderfyniadau o ran pa un a oes gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol ai peidio, cynnwys cynlluniau datblygu unigol a phenderfyniadau eraill sy’n ymwneud â chynlluniau (adrannau 70 a 72).

(9)Mae Pennod 5 (adrannau 82 i 90) yn gwneud darpariaeth gyffredinol, gan gynnwys—

(a)pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch datgelu a defnyddio gwybodaeth (adran 82);

(b)dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau at ddiben rhoi effaith i Ran 2 mewn achos pan na fo gan riant plentyn, neu pan na fo gan berson ifanc, alluedd (adran 83);

(c)darpariaeth i ddatgymhwyso dyletswyddau penodol i hysbysu plentyn neu i roi gwybod i blentyn, neu i gymryd camau yn dilyn cais gan blentyn, pan na fo gan y plentyn alluedd a phan na fo ganddo gyfaill achos (adran 84);

(d)darpariaeth ynghylch cyfeillion achos ar gyfer plant nad oes ganddynt alluedd (adran 85).

(10)Mae Rhan 3 (adrannau 91 i 94) yn parhau â Thribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru ac yn ei ailenwi’n Dribiwnlys Addysg Cymru.

(11)Yn ogystal â’r awdurdodaeth a nodir ym Mhennod 4, mae gan y Tribiwnlys Addysg awdurdodaeth mewn perthynas â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion (am ddarpariaeth ynghylch hyn, gweler adran 116 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15) ac Atodlen 17 i’r Ddeddf honno).

(12)Mae Rhan 4 (adrannau 95 i 101) yn gwneud darpariaeth ynghylch ystyr “yn ardal” awdurdod lleol at ddibenion y Deddfau Addysg (adran 95) ac yn gwneud darpariaeth gyffredinol, gan gynnwys darpariaethau ynghylch dehongli sy’n gymwys at ddibenion y Ddeddf (adran 99).

RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 1TERMAU ALLWEDDOL, Y COD A CHYFRANOGIAD

Termau allweddol

2Anghenion dysgu ychwanegol

(1)Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (pa un a yw’r anhawster dysgu neu’r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol ai peidio) sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

(2)Mae gan blentyn sydd o’r oedran ysgol gorfodol neu berson sy’n hŷn na’r oedran hwnnw anhawster dysgu neu anabledd—

(a)os yw’n cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na’r mwyafrif o’r rhai eraill sydd o’r un oedran, neu

(b)os oes ganddo anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15) sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant o fath a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach.

(3)Mae gan blentyn sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol anhawster dysgu neu anabledd os yw’r plentyn yn debygol o fod o fewn is-adran (2) pan fydd o’r oedran ysgol gorfodol, neu y byddai’n debygol o fod felly pe na bai darpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei gwneud.

(4)Os yw’r iaith (neu’r ffurf ar iaith) y mae neu y bydd person yn cael ei addysgu ynddi yn wahanol i iaith (neu ffurf ar iaith) sy’n cael neu sydd wedi cael ei defnyddio gartref, nid yw hynny’n unig yn golygu bod gan y person anhawster dysgu neu anabledd.

(5)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.

3Darpariaeth ddysgu ychwanegol

(1)Ystyr “darpariaeth ddysgu ychwanegol” i berson sy’n dair oed neu’n hŷn yw darpariaeth addysgol neu ddarpariaeth hyfforddiant sy’n ychwanegol at yr hyn, neu sy’n wahanol i’r hyn, a wneir yn gyffredinol i eraill sydd o’r un oedran—

(a)mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir yng Nghymru,

(b)mewn sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach yng Nghymru, neu

(c)mewn mannau yng Nghymru lle y darperir addysg feithrin.

(2)Ystyr “darpariaeth ddysgu ychwanegol” i blentyn sy’n iau na thair oed yw darpariaeth addysgol o unrhyw fath.

(3)Yn is-adran (1), ystyr “addysg feithrin” yw addysg sy’n addas i blentyn sydd wedi cyrraedd tair oed ond sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol.

(4)Caiff rheoliadau ddiwygio’r adran hon i roi cyfeiriadau at oedran gwahanol yn lle’r cyfeiriadau at dair oed.

(5)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.

Cod ymarfer

4Cod anghenion dysgu ychwanegol

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod ar anghenion dysgu ychwanegol (“y cod”) a chânt ei ddiwygio o bryd i’w gilydd.

(2)Caiff y cod gynnwys canllawiau ynghylch arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac ynghylch unrhyw fater arall sy’n gysylltiedig â nodi a diwallu anghenion dysgu ychwanegol.

(3)Rhaid i’r personau a ganlyn, wrth arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol sydd wedi eu cynnwys yn y cod—

(a)awdurdod lleol yng Nghymru neu yn Lloegr;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr;

(c)corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;

(d)perchennog Academi;

(e)tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal yng Nghymru neu yn Lloegr;

(f)person a chanddo gyfrifoldeb am lety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr;

(g)Bwrdd Iechyd Lleol;

(h)ymddiriedolaeth GIG;

(i)Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol;

(j)grŵp comisiynu clinigol;

(k)ymddiriedolaeth sefydledig GIG;

(l)Awdurdod Iechyd Arbennig.

(4)Gweler adran 153 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) am ddarpariaeth ynghylch awdurdodau lleol yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr penodol addysg feithrin roi sylw i ganllawiau sydd wedi eu cynnwys yn y cod.

(5)Caiff y cod osod gofynion—

(a)ar awdurdod lleol mewn cysylltiad â threfniadau y mae rhaid iddo eu gwneud o dan adrannau 9 (cyngor a gwybodaeth), 68 (osgoi a datrys anghytundebau) a 69 (gwasanaethau eirioli annibynnol);

(b)ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol mewn cysylltiad â—

(i)penderfyniadau ynghylch a oes gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol,

(ii)llunio, cynnwys, ffurf, adolygu a diwygio cynlluniau datblygu unigol, neu

(iii)peidio â chynnal cynlluniau datblygu unigol;

(c)ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru mewn cysylltiad â darparu gwybodaeth at ddibenion y Rhan hon.

(6)Rhaid i’r cod gynnwys y gofynion a ganlyn ar gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol—

(a)gofyniad o dan is-adran (5)(b)(i) i’r hysbysiad o benderfyniad nad oes gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol gael ei roi yn unol ag adran 11(4), 13(3), 18(3) neu 40(4) cyn diwedd cyfnod o amser a bennir yn y cod, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau i’r gofyniad a bennir yn y cod;

(b)gofyniad o dan is-adran (5)(b)(ii) i lunio cynllun datblygu unigol a rhoi copi ohono yn unol ag adran 22 neu 40(5) cyn diwedd cyfnod o amser a bennir yn y cod, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau i’r gofyniad a bennir yn y cod;

(c)gofyniad o dan is-adran (5)(b)(ii) i ddefnyddio’r ffurf safonol briodol a nodir yn y cod ar gyfer cynllun datblygu unigol; a rhaid i’r cod gynnwys un neu ragor o ffurfiau safonol at y diben hwn.

(7)Caiff y cod wneud—

(a)darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer achosion gwahanol, a

(b)darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed,

mewn perthynas â gofyniad a osodir o dan is-adran (5) neu ddarpariaeth a wneir o dan adran 7(4) neu 8(4).

(8)Mae’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (3) a dyletswydd a osodir o dan is-adran (5) hefyd yn gymwys i berson sy’n arfer swyddogaeth at ddiben cyflawni swyddogaethau o dan y Rhan hon gan y personau a grybwyllir yn is-adran (3).

(9)Nid yw’r pŵer i osod gofynion o dan is-adran (5)(c) yn cynnwys y pŵer i osod gofynion mewn cysylltiad â datgelu data personol i berson nad yw’n destun y data, ac eithrio mewn achosion pan fo’r person yn rhiant i blentyn ac mai’r plentyn yw testun y data; ac yn yr is-adran hon mae i “data personol” a “testun y data” yr ystyr a roddir i “personal data” a “data subject” gan Ddeddf Diogelu Data 1998 (p. 29).

(10)Rhaid i Dribiwnlys Addysg Cymru roi sylw i unrhyw ddarpariaeth yn y cod yr ymddengys iddo ei bod yn berthnasol i gwestiwn sy’n codi ar apêl o dan y Rhan hon.

(11)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r cod sydd mewn grym am y tro ar eu gwefan.

5Y weithdrefn ar gyfer gwneud y cod

(1)Cyn dyroddi neu ddiwygio cod o dan adran 4, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau a ganlyn ar ddrafft o’r cod—

(a)pob awdurdod lleol;

(b)corff llywodraethu pob ysgol a gynhelir yng Nghymru;

(c)corff llywodraethu pob sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru;

(d)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;

(e)Comisiynydd Plant Cymru;

(f)Comisiynydd y Gymraeg;

(g)y pwyllgor perthnasol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru y mae ei gylch gorchwyl yn cynnwys addysg plant a phobl ifanc;

(h)unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r drafft (gydag addasiadau neu hebddynt) rhaid iddynt osod copi o’r drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddyroddi cod oni bai bod drafft ohono wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu cymeradwyo drafft o’r cod—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod ar ffurf y drafft, a

(b)daw’r cod i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(5)Caiff gorchymyn o dan is-adran (4)(b)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth yn y cod i rym.

(6)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at god yn cynnwys cod diwygiedig.

(7)Caniateir i’r gofyniad i ymgynghori a osodir gan is-adran (1) gael ei fodloni drwy gynnal ymgynghoriad cyn y daw’r Rhan hon i rym.

Cyfranogiad, confensiynau’r Cenhedloedd Unedig a mynediad at wybodaeth

6Dyletswydd i gynnwys a chefnogi plant, eu rhieni a phobl ifanc

Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc roi sylw—

(a)i safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r plentyn a’i riant neu’r person ifanc,

(b)i bwysigrwydd bod y plentyn a’i riant neu’r person ifanc yn cymryd rhan mor llawn â phosibl mewn penderfyniadau sy’n ymwneud ag arfer y swyddogaeth o dan sylw, ac

(c)i bwysigrwydd bod yr wybodaeth a’r gefnogaeth angenrheidiol yn cael eu darparu i’r plentyn ac i riant y plentyn neu i’r person ifanc er mwyn eu galluogi neu ei alluogi i gymryd rhan yn y penderfyniadau hynny.

7Dyletswydd i roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

(1)Rhaid i gorff perthnasol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc roi sylw dyladwy i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a fabwysiadwyd ac a agorwyd i’w lofnodi, ei gadarnhau a’i dderbyn gan benderfyniad 44/25 y Cynulliad Cyffredinol ar 20 Tachwedd 1989 (“y Confensiwn”).

(2)At ddibenion is-adran (1), mae Rhan 1 o’r Confensiwn i gael ei drin fel pe bai’n cael effaith—

(a)fel y’i nodir am y tro yn Rhan 1 o’r Atodlen i Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (mccc 2), ond

(b)yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiad neu neilltuad fel y'u nodir am y tro yn Rhan 3 o'r Atodlen honno.

(3)Nid yw is-adran (1) yn gwneud ystyriaeth benodol o’r Confensiwn yn ofynnol ar bob achlysur y caiff swyddogaeth ei harfer.

(4)Caiff cod a ddyroddir o dan adran 4 wneud darpariaeth sy’n nodi’r hyn sy’n ofynnol er mwyn cyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (1); ac mae is-adran (1) i gael ei dehongli yn unol ag unrhyw ddarpariaeth o’r fath.

(5)Yn is-adran (1), ystyr “corff perthnasol” yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff GIG.

8Dyletswydd i roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau

(1)Rhaid i gorff perthnasol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc anabl roi sylw dyladwy i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a’i brotocol dewisol a fabwysiadwyd ar 13 Rhagfyr 2006 gan benderfyniad A/RES/61/106 y Cynulliad Cyffredinol ac a agorwyd i’w lofnodi ar 30 Mawrth 2007 (“y Confensiwn”).

(2)Mae’r Confensiwn i’w drin fel petai iddo effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiad neu neilltuad a wnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ôl ei gadarnhau, ac eithrio pan fo’r datganiad neu’r neilltuad wedi ei dynnu’n ôl wedi hynny.

(3)Nid yw is-adran (1) yn gwneud ystyriaeth benodol o’r Confensiwn yn ofynnol ar bob achlysur y caiff swyddogaeth ei harfer.

(4)Caiff cod a ddyroddir o dan adran 4 wneud darpariaeth sy’n nodi’r hyn sy’n ofynnol er mwyn cyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (1); ac mae is-adran (1) i gael ei dehongli yn unol ag unrhyw ddarpariaeth o’r fath.

(5)Yn is-adran (1), ystyr “corff perthnasol” yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff GIG.

9Cyngor a gwybodaeth

(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth a chyngor i bobl ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a’r system y gwneir darpariaeth ar ei chyfer gan y Rhan hon.

(2)Wrth wneud trefniadau o dan is-adran (1), rhaid i awdurdod lleol roi sylw i’r egwyddor bod rhaid i wybodaeth a chyngor a ddarperir o dan y trefniadau gael eu darparu mewn modd diduedd.

(3)Rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i wneud y trefniadau a wneir o dan yr adran hon, adrannau 68 (osgoi a datrys anghytundebau) a 69 (gwasanaethau eirioli annibynnol) yn hysbys i—

(a)plant a phobl ifanc yn ei ardal,

(b)rhieni plant yn ei ardal,

(c)plant y mae’n gofalu amdanynt sydd y tu allan i’w ardal,

(d)cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yn ei ardal,

(e)cyrff llywodraethu sefydliadau yn y sector addysg bellach yn ei ardal,

(f)cyfeillion achos plant yn ei ardal, ac

(g)unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(4)Pan fo corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi ei hysbysu am drefniadau o dan is-adran (3), rhaid iddo gymryd camau rhesymol i wneud y trefniadau yn hysbys i—

(a)disgyblion yr ysgol a’u rhieni, a

(b)cyfeillion achos y disgyblion.

(5)Pan fo corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach wedi ei hysbysu am drefniadau o dan is-adran (3), rhaid iddo gymryd camau rhesymol i wneud y trefniadau yn hysbys i fyfyrwyr y sefydliad.

PENNOD 2CYNLLUNIAU DATBLYGU UNIGOL

Llunio a chynnal cynlluniau datblygu unigol

10Cynlluniau datblygu unigol

At ddibenion y Ddeddf hon, dogfen sy’n cynnwys y canlynol yw cynllun datblygu unigol—

(a)disgrifiad o anghenion dysgu ychwanegol person;

(b)disgrifiad o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae anhawster dysgu neu anabledd y person yn galw amdani;

(c)unrhyw beth arall sy’n ofynnol neu sydd wedi ei awdurdodi gan neu o dan y Rhan hon.

11Dyletswydd i benderfynu: ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach

(1)Pan fo’n cael ei dwyn i sylw corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan blentyn neu berson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol anghenion dysgu ychwanegol, rhaid iddo benderfynu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (3) yn gymwys.

(2)Pan fo’n cael ei dwyn i sylw corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan berson ifanc sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr yn y sefydliad anghenion dysgu ychwanegol, rhaid iddo benderfynu a oes gan y person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (3) yn gymwys.

(3)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan y Rhan hon;

(b)bod y corff llywodraethu wedi penderfynu o’r blaen a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol a bod y corff llywodraethu wedi ei fodloni—

(i)nad yw anghenion y plentyn neu’r person ifanc wedi newid yn sylweddol ers i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, a

(ii)nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad hwnnw;

(c)bod y penderfyniad yn ymwneud â pherson ifanc ac nad yw’r person ifanc yn cydsynio i’r penderfyniad gael ei wneud;

(d)bod y plentyn neu’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach) a bod awdurdod lleol yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc;

(e)bod awdurdod lleol yn Lloegr yn cynnal cynllun AIG ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc.

(4)Os yw’r corff llywodraethu yn penderfynu nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol rhaid iddo hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn am—

(a)y penderfyniad, a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

(5)Nid yw’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (gweler adran 17 (dyletswydd i atgyfeirio mater i awdurdod sy’n gofalu am blentyn)), oni bai bod y plentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr.

12Dyletswyddau i lunio a chynnal cynlluniau: ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach

(1)Os yw corff llywodraethu yn penderfynu o dan adran 11 fod gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol, rhaid iddo—

(a)llunio cynllun datblygu unigol ar ei gyfer, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (2) yn gymwys, a

(b)cynnal y cynllun, oni bai bod yr amgylchiadau ym mharagraff (b) neu (d) o is-adran (2) yn gymwys.

(2)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod y corff llywodraethu yn ystyried bod gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol—

(i)a all alw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol na fyddai’n rhesymol i’r corff llywodraethu ei sicrhau,

(ii)na all y corff llywodraethu bennu eu graddau neu eu natur yn ddigonol, neu

(iii)na all y corff llywodraethu bennu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar eu cyfer yn ddigonol,

a bod y corff llywodraethu yn atgyfeirio achos y plentyn neu’r person ifanc i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc i’r awdurdod benderfynu yn ei gylch o dan adran 13(1);

(b)bod y cynllun yn ymwneud â pherson ifanc ac nad yw’r person ifanc yn cydsynio i’r cynllun gael ei lunio neu ei gynnal;

(c)bod y corff llywodraethu yn gofyn i awdurdod lleol yn Lloegr sicrhau asesiad o dan adran 39(1) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) a bod yr awdurdod, yn rhinwedd y cais neu fel arall, yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 24(1) o’r Ddeddf honno);

(d)bod awdurdod lleol yn Lloegr yn cynnal cynllun AIG ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc.

(3)Pan fo corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi ei gyfarwyddo i lunio a chynnal, neu i gynnal, cynllun datblygu unigol ar gyfer person o dan adran 14(2)(b), 14(4) neu 27(6)(a), rhaid i’r corff llywodraethu lunio a chynnal, neu gynnal, y cynllun (yn ôl y digwydd), oni bai bod yr amgylchiadau ym mharagraff (b) neu (d) o is-adran (2) yn gymwys.

(4)Pan fo corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach wedi cytuno i gais o dan adran 36(2) i ddod yn gyfrifol am gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc, neu pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o dan adran 36(4) y dylai’r corff llywodraethu gynnal y cynllun, rhaid i’r corff llywodraethu gynnal y cynllun oni bai bod yr amgylchiadau ym mharagraff (b) neu (d) o is-adran (2) yn gymwys.

(5)Os yw’r corff llywodraethu, yn dilyn cais o dan is-adran (2)(c), yn cael ei hysbysu gan yr awdurdod lleol yn Lloegr nad yw’n ofynnol iddo sicrhau cynllun AIG ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc, rhaid i’r corff llywodraethu lunio a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc, oni bai bod yr amgylchiadau ym mharagraff (b) neu (d) o is-adran (2) yn gymwys.

(6)Rhaid i gorff llywodraethu sy’n llunio neu’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc—

(a)ystyried a ddylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc, a

(b)os yw’n penderfynu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, bennu yn y cynllun y dylai gael ei ddarparu yn Gymraeg.

(7)Rhaid i gorff llywodraethu—

(a)sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir mewn cynllun datblygu unigol y mae’n ei gynnal o dan y Rhan hon, a

(b)os yw’r cynllun yn pennu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc.

13Dyletswydd i benderfynu: awdurdodau lleol

(1)Pan fo’n cael ei dwyn i sylw awdurdod lleol neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan blentyn neu berson ifanc y mae’n gyfrifol amdano anghenion dysgu ychwanegol, rhaid i’r awdurdod benderfynu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (2) yn gymwys.

(2)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan y Rhan hon;

(b)bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu o’r blaen a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol a’i fod wedi ei fodloni—

(i)nad yw anghenion y plentyn neu’r person ifanc wedi newid yn sylweddol ers i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, a

(ii)nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad hwnnw;

(c)bod adran 11(1) yn gymwys a bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod penderfyniad ynghylch pa un a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol ai peidio yn cael ei wneud o dan yr adran honno;

(d)bod y penderfyniad yn ymwneud â pherson ifanc ac nad yw’r person ifanc yn cydsynio i’r penderfyniad gael ei wneud;

(e)bod y penderfyniad yn ymwneud â pherson ifanc—

(i)sy’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru, a

(ii)nad yw hefyd wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad arall yn y sector addysg bellach neu’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol,

ac na wnaed cais mewn cysylltiad â’r person ifanc i’r awdurdod lleol o dan adran 12(2)(a).

(3)Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol rhaid iddo hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn, am—

(a)y penderfyniad, a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (gweler adrannau 17 (dyletswydd i atgyfeirio mater i awdurdod sy’n gofalu am blentyn) ac 18 (dyletswydd i benderfynu a oes gan blentyn sy’n derbyn gofal anghenion dysgu ychwanegol)).

14Dyletswyddau i lunio a chynnal cynlluniau: awdurdodau lleol

(1)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys os yw awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc ac—

(a)yn achos plentyn, os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu o dan adran 13 fod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol,

(b)yn achos person ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru, os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu o dan adran 13 fod gan y person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, neu

(c)yn achos unrhyw berson ifanc arall, os yw’r awdurdod lleol—

(i)yn penderfynu o dan adran 13 fod gan y person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, a

(ii)yn penderfynu yn unol â rheoliadau o dan adra 46 fod angen llunio a chynnal cynllun o dan yr adran hon ar gyfer y person ifanc i ddiwallu ei anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)llunio a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw, neu

(b)os yw’r plentyn neu’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig, neu i fod yn ddisgybl cofrestredig, mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru a bod yr awdurdod yn ystyried ei bod yn briodol—

(i)llunio cynllun datblygu unigol a chyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i gynnal y cynllun, neu

(ii)cyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i lunio a chynnal cynllun.

(3)Ond nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys os yw’r cynllun yn ymwneud â pherson ifanc ac nad yw’r person ifanc yn cydsynio i’r cynllun gael ei lunio neu ei gynnal.

(4)Caiff awdurdod lleol sy’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru gyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i gynnal y cynllun.

(5)Rhaid i awdurdod leol sy’n llunio neu’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc, neu sy’n ailystyried cynllun o dan adran 27—

(a)ystyried a ddylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc, a

(b)os yw’n penderfynu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, bennu yn y cynllun y dylai gael ei ddarparu yn Gymraeg.

(6)Os na ellir diwallu anghenion rhesymol plentyn neu berson ifanc am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol oni bai bod awdurdod lleol hefyd yn sicrhau darpariaeth o’r math a grybwyllir yn is-adran (7), rhaid i’r awdurdod gynnwys disgrifiad o’r ddarpariaeth arall honno yn y cynllun.

(7)Y mathau o ddarpariaeth yw—

(a)lle mewn ysgol benodol neu sefydliad arall;

(b)bwyd a llety.

(8)O ran y ddyletswydd yn is-adran (6)—

(a)nid yw’n gymwys i le mewn ysgol benodol neu sefydliad arall nad yw’n ysgol a gynhelir yng Nghymru os nad yw’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am dderbyniadau i’r ysgol neu’r sefydliad arall yn cydsynio;

(b)mae’n ddarostyngedig i’r dyletswyddau yn adrannau 55, 56(3) a 59.

(9)Os yw’r ddyletswydd yn is-adran (6) yn gymwys i awdurdod lleol, ni chaiff roi cyfarwyddyd o dan is-adran (2)(b) neu (4).

(10)Pan fo awdurdod lleol yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc, rhaid i’r awdurdod—

(a)sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yn y cynllun,

(b)sicrhau unrhyw ddarpariaeth arall a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag is-adran (6), ac

(c)os yw’r cynllun yn pennu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc.

Darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal

15Termau allweddol

(1)Mae plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol—

(a)os nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ac os yw’n derbyn gofal gan awdurdod lleol at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (“Deddf 2014”), a

(b)os nad yw’n berson sy’n cael ei gadw’n gaeth.

(2)Caiff rheoliadau ragnodi categorïau o blant sy’n derbyn gofal nad ydynt i gael eu trin fel pe baent yn derbyn gofal gan awdurdod lleol at ddibenion y Ddeddf hon.

(3)Ystyr “swyddog adolygu annibynnol” yw’r swyddog a benodir o dan adran 99 o Ddeddf 2014 ar gyfer achos plentyn.

(4)Ystyr “cynllun addysg personol” yw’r cynllun sydd wedi ei gynnwys yn y cynllun gofal a chymorth a gynhelir ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal o dan adran 83(2A) o Ddeddf 2014.

(5)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.

16Diwygiadau i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

(1)Mae adran 83 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (cynlluniau gofal a chymorth) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)Rhaid i gynllun gofal a chymorth ar gyfer plentyn gynnwys cofnod o’r trefniadau a wneir i ddiwallu anghenion y plentyn mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant (“cynllun addysg personol”).

(2B)Ond nid yw is-adran (2A) yn gymwys i blentyn os yw o fewn categori o blentyn sy’n derbyn gofal a ragnodir mewn rheoliadau, nad oes cynllun addysg personol i gael ei lunio ar ei gyfer.

(2C)Os—

(a)oes gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol, a

(b)yw cynllun gofal a chymorth y plentyn yn cynnwys cynllun addysg personol,

rhaid cynnwys unrhyw gynllun datblygu unigol a gynhelir ar gyfer y plentyn o dan adran 19 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn y cynllun addysg personol.

(2D)At ddibenion is-adran (2C)—

(a)ystyr “plentyn” yw plentyn nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol (o fewn yr ystyr a roddir i “compulsory school age” gan adran 8 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56));

(b)mae i “anghenion dysgu ychwanegol” yr ystyr a roddir gan adran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

(3)Yn is-adran (3), yn lle “y cynlluniau y mae’n eu cynnal o dan yr adran hon” rhodder “gynllun gofal a chymorth”.

(4)Yn is-adran (4), yn lle “cynllun”, y tro cyntaf y mae’n ymddangos, rhodder “cynllun gofal a chymorth”.

(5)Yn is-adran (5)—

(a)ar y dechrau, mewnosoder “Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rhan 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018,”;

(b)ym mharagraff (a), yn lle “cynlluniau o dan yr adran hon” rhodder “cynlluniau gofal a chymorth”;

(c)ym mharagraff (b), yn lle “mae’n rhaid i gynllun eu cynnwys” rhodder “mae cynllun gofal a chymorth i’w cynnwys (gan gynnwys pa bethau y mae cynllun addysg personol i’w cynnwys)”;

(d)ym mharagraff (c), yn lle “cynlluniau” rhodder “cynlluniau gofal a chymorth”.

(6)Yn is-adran (7), yn lle “cynllun o dan yr adran hon” rhodder “cynllun gofal a chymorth”.

(7)Yn is-adran (8), ym mharagraff (a), yn lle “cynllun o dan yr adran hon” rhodder “cynllun gofal a chymorth”.

(8)Yn is-adran (9), yn lle “gynllun a gynhelir o dan yr adran hon” rhodder “gynllun gofal a chymorth”.

(9)Ar ôl is-adran (9) mewnosoder—

(10)Mae cyfeiriadau yn is-adrannau (2A) i (9) at gynllun gofal a chymorth i’w dehongli fel cyfeiriadau at gynllun gofal a chymorth a lunnir neu a gynhelir o dan yr adran hon.

17Dyletswydd i atgyfeirio mater i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan—

(a)bo’n cael ei dwyn i sylw corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan blentyn sy’n derbyn gofal sy’n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol anghenion dysgu ychwanegol, neu

(b)bo’n cael ei dwyn i sylw awdurdod lleol neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan blentyn y mae’n gyfrifol amdano, ond sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol arall, anghenion dysgu ychwanegol.

(2)Rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol atgyfeirio’r mater i’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn.

18Dyletswydd i benderfynu a oes gan blentyn sy’n derbyn gofal anghenion dysgu ychwanegol

(1)Pan fo’n cael ei dwyn i sylw awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol, rhaid i’r awdurdod benderfynu a oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (2) yn gymwys.

(2)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn o dan adran 19;

(b)bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu o’r blaen a oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol a bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—

(i)nad yw anghenion y plentyn wedi newid yn sylweddol ers i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, a

(ii)nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad hwnnw;

(c)bod y plentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr.

(3)Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu nad oes gan y plentyn sy’n derbyn gofal anghenion dysgu ychwanegol rhaid iddo hysbysu’r plentyn, rhiant y plentyn a swyddog adolygu annibynnol y plentyn am—

(a)y penderfyniad, a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

19Dyletswyddau i lunio a chynnal cynlluniau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal

(1)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys os yw awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn wedi penderfynu o dan adran 18 fod gan blentyn sy’n derbyn gofal anghenion dysgu ychwanegol.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn os yw’r plentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

(3)Rhaid i awdurdod lleol sy’n llunio neu’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn y mae’n gofalu amdano—

(a)ystyried a ddylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg i’r plentyn, a

(b)os yw’n penderfynu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, bennu yn y cynllun datblygu unigol y dylai gael ei ddarparu yn Gymraeg.

(4)Os na ellir diwallu anghenion rhesymol y plentyn am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol oni bai bod yr awdurdod lleol hefyd yn sicrhau darpariaeth o’r math a grybwyllir yn is-adran (5), rhaid i’r awdurdod gynnwys disgrifiad o’r ddarpariaeth arall honno yn y cynllun datblygu unigol.

(5)Y mathau o ddarpariaeth yw—

(a)lle mewn ysgol benodol neu sefydliad arall;

(b)bwyd a llety.

(6)O ran y ddyletswydd yn is-adran (4)—

(a)nid yw’n gymwys i le mewn ysgol benodol neu sefydliad arall nad yw’n ysgol a gynhelir yng Nghymru os nad yw’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am dderbyniadau i’r ysgol neu’r sefydliad arall yn cydsynio;

(b)mae’n ddarostyngedig i’r dyletswyddau yn adrannau 55, 56(3) a 59.

(7)Pan fo awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn, rhaid i’r awdurdod—

(a)sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yn y cynllun,

(b)sicrhau unrhyw ddarpariaeth arall a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag is-adran (4), ac

(c)os yw’r cynllun yn pennu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn.

(8)Gweler adran 35 am ddarpariaeth ynghylch trosglwyddo dyletswyddau i gynnal cynlluniau datblygu unigol ar gyfer plant sydd eisoes â chynlluniau pan ydynt yn dod yn blant sy’n derbyn gofal.

Darpariaeth ddysgu ychwanegol a chyrff y GIG

20Darpariaeth ddysgu ychwanegol: Byrddau Iechyd Lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG

(1)Caiff y cyrff a bennir yn is-adran (2) atgyfeirio mater i gorff GIG, gan ofyn iddo ystyried a oes unrhyw driniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol sy’n debygol o fod o fudd o ran ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc.

(2)Y cyrff yw—

(a)pan fyddai’r atgyfeiriad yn ymwneud â phlentyn, neu â pherson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, awdurdod lleol;

(b)pan fyddai’r atgyfeiriad yn ymwneud â pherson ifanc nad yw’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, y corff sy’n llunio neu’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person ifanc.

(3)Ond ni chaiff corff wneud atgyfeiriad o dan is-adran (1) oni bai—

(a)ei fod wedi rhoi gwybod i’r plentyn neu i’r person ifanc ac, yn achos plentyn, i riant y plentyn, ei fod yn bwriadu gwneud yr atgyfeiriad,

(b)ei fod wedi rhoi cyfle i’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, i riant y plentyn, i drafod a ddylai’r atgyfeiriad gael ei wneud, ac

(c)ei fod wedi ei fodloni bod gwneud yr atgyfeiriad er lles pennaf y plentyn neu’r person ifanc.

(4)Os caiff mater ei atgyfeirio i gorff GIG o dan yr adran hon, rhaid i’r corff GIG ystyried a oes triniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol sy’n debygol o fod o fudd o ran ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol y plentyn neu’r person ifanc.

(5)Os yw’r corff GIG yn nodi triniaeth neu wasanaeth o’r fath, rhaid iddo—

(a)sicrhau’r driniaeth neu’r gwasanaeth ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc,

(b)penderfynu a ddylai’r driniaeth gael ei darparu neu a ddylai’r gwasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc, ac

(c)os yw’n penderfynu y dylai’r driniaeth gael ei darparu neu y dylai’r gwasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn neu i’r person ifanc, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y driniaeth yn cael ei darparu neu fod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn Gymraeg.

(6)Yn yr adran hon, ac yn adran 21, ystyr “triniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol” yw unrhyw driniaeth neu wasanaeth y byddai corff GIG fel arfer yn ei darparu neu yn ei ddarparu fel rhan o’r gwasanaeth iechyd cynhwysfawr yng Nghymru a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42).

21Cynlluniau datblygu unigol: Byrddau Iechyd Lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG

(1)Os yw corff GIG yn nodi triniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol sy’n debygol o fod o fudd o ran ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc yn dilyn atgyfeiriad o dan adran 20 rhaid iddo—

(a)rhoi gwybod i’r corff a atgyfeiriodd y mater am y driniaeth honno neu’r gwasanaeth hwnnw,

(b)os nad corff sy’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc a atgyfeiriodd y mater, roi gwybod i’r corff sy’n cynnal y cynllun datblygu unigol am y driniaeth honno neu’r gwasanaeth hwnnw, ac

(c)os yw’n ystyried y dylai’r driniaeth gael ei darparu neu y dylai’r gwasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc, roi gwybod i’r personau a grybwyllir ym mharagraffau (a) a (b) y dylai’r driniaeth gael ei darparu neu y dylai’r gwasanaeth gael ei ddarparu yn Gymraeg.

(2)Os nad yw corff GIG yn nodi triniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol sy’n debygol o fod o fudd o ran ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc yn dilyn atgyfeiriad o dan adran 20 rhaid iddo—

(a)rhoi gwybod i’r corff a atgyfeiriodd y mater am y ffaith honno, a

(b)os nad corff sy’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc a atgyfeiriodd y mater, roi gwybod i’r corff sy’n cynnal y cynllun datblygu unigol am y ffaith honno.

(3)Os yw corff GIG yn hysbysu corff sy’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc fod triniaeth berthnasol neu wasanaeth perthnasol yn debygol o fod o fudd o ran ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc, rhaid i’r corff sy’n cynnal y cynllun ddisgrifio’r driniaeth neu’r gwasanaeth yn y cynllun, gan bennu bod y driniaeth neu’r gwasanaeth yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd i gael ei sicrhau gan y corff GIG.

(4)Os yw corff GIG yn hysbysu corff sy’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc y dylai triniaeth berthnasol gael ei darparu neu y dylai gwasanaeth perthnasol gael ei ddarparu yn Gymraeg i blentyn neu berson ifanc, rhaid i’r corff sy’n cynnal y cynllun bennu yn y cynllun fod y driniaeth neu’r gwasanaeth yn ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddylai gael ei darparu yn Gymraeg.

(5)Os yw cynllun datblygu unigol yn pennu o dan yr adran hon fod darpariaeth ddysgu ychwanegol i gael ei sicrhau gan gorff GIG, nid yw’r dyletswyddau a ganlyn yn gymwys i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol honno—

(a)dyletswydd corff llywodraethu i sicrhau darpariaeth o dan adran 12(7) (gan gynnwys y ddyletswydd i gymryd camau rhesymol i sicrhau darpariaeth yn Gymraeg);

(b)dyletswydd awdurdod lleol i sicrhau darpariaeth o dan adran 14(10)(a) a’r ddyletswydd i gymryd camau rhesymol i sicrhau darpariaeth yn Gymraeg o dan adran 14(10)(c);

(c)dyletswydd awdurdod lleol i sicrhau darpariaeth o dan adran 19(7)(a) a’r ddyletswydd i gymryd camau rhesymol i sicrhau darpariaeth yn Gymraeg o dan adran 19(7)(c).

(6)Ni chaniateir i’r disgrifiad o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir mewn cynllun o dan yr adran hon fel darpariaeth y mae corff GIG i’w sicrhau gael ei ddileu neu ei newid ond ar adolygiad o gynllun yn unol ag adran 23 neu 24 ac â chytundeb neu ar gais y corff GIG.

(7)Os yw’r corff GIG, ar adolygiad o gynllun, yn gofyn i gorff llywodraethu neu awdurdod lleol sy’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc ddileu neu newid y disgrifiad o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir yn y cynllun o dan yr adran hon fel darpariaeth y mae’r corff GIG i’w sicrhau, rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol gydymffurfio â’r cais.

(8)Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar bŵer Tribiwnlys Addysg Cymru i wneud gorchymyn o dan y Rhan hon.

(9)Os yw Tribiwnlys Addysg Cymru yn gorchymyn i gynllun datblygu unigol gael ei ddiwygio mewn perthynas â darpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir o dan yr adran hon fel darpariaeth y mae corff GIG i’w sicrhau, nid yw’n ofynnol i gorff GIG sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ddiwygiedig oni bai ei fod yn cytuno i wneud hynny.

(10)Rhaid i reoliadau ddarparu, pan fo corff GIG o dan ddyletswydd i roi gwybod o dan is-adran (1) neu (2), fod rhaid iddo gydymffurfio â’r ddyletswydd honno o fewn cyfnod rhagnodedig, oni bai bod eithriad rhagnodedig yn gymwys.

Gwybodaeth am gynlluniau

22Darparu gwybodaeth am gynlluniau datblygu unigol

(1)Os yw corff llywodraethu neu awdurdod lleol yn llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc, rhaid iddo roi copi o’r cynllun—

(a)i’r plentyn neu’r person ifanc, a

(b)os yw’r cynllun ar gyfer plentyn, i riant y plentyn.

(2)Os yw corff llywodraethu neu awdurdod lleol yn dod yn gyfrifol am gynnal cynllun datblygu unigol a oedd gynt yn cael ei gynnal ar gyfer plentyn neu berson ifanc gan gorff arall, rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol—

(a)rhoi gwybod i’r plentyn neu’r person ifanc fod y corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol wedi dod yn gyfrifol am gynnal y cynllun, a

(b)os yw’r cynllun ar gyfer plentyn, roi gwybod i riant y plentyn.

(3)Os yw awdurdod lleol yn llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal neu’n dod yn gyfrifol am gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal a oedd gynt yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn gan gorff arall, rhaid iddo roi copi o’r cynllun i swyddog adolygu annibynnol y plentyn hefyd.

Adolygu cynlluniau

23Adolygu a diwygio cynlluniau datblygu unigol

(1)Rhaid i gorff llywodraethu neu awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo gynnal cynllun datblygu unigol ei adolygu cyn diwedd pob cyfnod adolygu.

(2)Mae’r cyfnod adolygu cyntaf yn gyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddir copi o’r cynllun o dan adran 22.

(3)Mae pob cyfnod adolygu dilynol yn gyfnod o 12 mis sy’n dechrau—

(a)â’r dyddiad yn ystod y cyfnod adolygu blaenorol y rhoddir copi o gynllun diwygiedig o dan is-adran (11) mewn perthynas â’r cyfnod adolygu hwnnw, neu

(b)pan na fo’r cynllun wedi ei ddiwygio yn y cyfnod adolygu blaenorol—

(i)â’r dyddiad yn ystod y cyfnod adolygu blaenorol hwnnw y rhoddir hysbysiad o benderfyniad o dan is-adran (10) mewn perthynas â’r cyfnod adolygu hwnnw, neu

(ii)â’r dyddiad yn ystod y cyfnod adolygu blaenorol hwnnw y rhoddir hysbysiad o benderfyniad o dan adran 27(4) mewn perthynas â’r cyfnod adolygu hwnnw.

(4)Ond pan na fo’r un o’r dogfennau y cyfeirir atynt yn is-adran (3)(a) a (b) wedi ei rhoi yn ystod y cyfnod adolygu blaenorol, mae’r cyfnod adolygu dilynol yn gyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod adolygu blaenorol hwnnw.

(5)Pan fo’n ofynnol rhoi copi o gynllun, cynllun diwygiedig neu hysbysiad o benderfyniad i fwy nag un person, mae’r cyfeiriad yn is-adrannau (2) a (3) at y dyddiad y’i rhoddir yn gyfeiriad at y dyddiad y rhoddir y cynllun, y cynllun diwygiedig neu’r hysbysiad o benderfyniad gyntaf.

(6)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (1) i adolygu cynllun cyn diwedd cyfnod adolygu yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei chyflawni os, cyn diwedd y cyfnod hwnnw—

(a)caiff y cynllun ei ailystyried gan awdurdod lleol o dan adran 27;

(b)yw Tribiwnlys Addysg Cymru yn gorchymyn i gorff llywodraethu neu awdurdod lleol ddiwygio’r cynllun, neu

(c)yn achos cynllun a gynhelir gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir, yw Tribiwnlys Addysg Cymru yn gorchymyn i awdurdod lleol adolygu’r cynllun.

(7)Rhaid i gorff llywodraethu neu awdurdod lleol adolygu cynllun datblygu unigol y mae’n ofynnol iddo ei gynnal os—

(a)yw’r cynllun yn cynnwys darpariaeth ddysgu ychwanegol y mae’n ofynnol i gorff GIG ei sicrhau o dan adran 20, a

(b)yw’r corff GIG yn gofyn iddo adolygu’r cynllun.

(8)Rhaid i gorff llywodraethu neu awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc adolygu’r cynllun os gofynnir iddo wneud hynny gan y plentyn, gan riant y plentyn neu gan y person ifanc, oni bai ei fod yn ystyried bod adolygiad yn ddiangen.

(9)Caiff corff llywodraethu neu awdurdod lleol—

(a)adolygu cynllun datblygu unigol ar unrhyw adeg, a

(b)diwygio cynllun yn dilyn adolygiad.

(10)Os yw corff llywodraethu neu awdurdod lleol yn penderfynu yn dilyn adolygiad (sy’n ofynnol neu sydd wedi ei awdurdodi gan neu o dan y Rhan hon) na ddylai’r cynllun gael ei ddiwygio rhaid iddo hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn am—

(a)y penderfyniad, a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

(11)Os yw corff llywodraethu neu awdurdod lleol yn diwygio cynllun datblygu unigol (fel sy’n ofynnol neu sydd wedi ei awdurdodi gan neu o dan y Rhan hon), rhaid iddo roi copi o’r cynllun diwygiedig—

(a)i’r plentyn neu i’r person ifanc, a

(b)os yw’r cynllun ar gyfer plentyn, i riant y plentyn.

(12)Nid yw’r adran hon yn gymwys os yw cynllun datblygu unigol yn ymwneud â phlentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, oni bai bod y plentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr.

24Adolygu a diwygio cynlluniau datblygu unigol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal

(1)Rhaid i awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal adolygu’r cynllun cyn diwedd pob cyfnod adolygu.

(2)Mae’r cyfnod adolygu cyntaf yn gyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddir copi o’r cynllun gyntaf o dan adran 22.

(3)Mae pob cyfnod adolygu dilynol yn gyfnod o 12 mis sy’n dechrau—

(a)â’r dyddiad yn ystod y cyfnod adolygu blaenorol y rhoddir copi o gynllun diwygiedig gyntaf o dan is-adran (10) mewn perthynas â’r cyfnod adolygu hwnnw, neu

(b)pan na fo’r cynllun wedi ei ddiwygio yn y cyfnod adolygu blaenorol, â’r dyddiad yn ystod y cyfnod hwnnw y rhoddir hysbysiad o benderfyniad gyntaf o dan is-adran (9) mewn perthynas â’r cyfnod hwnnw.

(4)Ond pan na fo’r naill ddogfen na’r llall o’r dogfennau y cyfeirir atynt yn is-adran (3)(a) a (b) wedi ei rhoi yn ystod y cyfnod adolygu blaenorol, mae’r cyfnod adolygu dilynol yn gyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod adolygu blaenorol hwnnw.

(5)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (1) i adolygu cynllun cyn diwedd cyfnod adolygu yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei chyflawni os yw Tribiwnlys Addysg Cymru, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, yn gorchymyn i’r awdurdod lleol ddiwygio’r cynllun.

(6)Rhaid i awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal adolygu’r cynllun os—

(a)yw’r cynllun yn cynnwys darpariaeth ddysgu ychwanegol y mae’n ofynnol i gorff GIG ei sicrhau o dan adran 20, a

(b)yw’r corff GIG yn gofyn i’r awdurdod lleol adolygu’r cynllun.

(7)Rhaid i awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal adolygu’r cynllun os gofynnir iddo wneud hynny gan y plentyn sy’n derbyn gofal neu gan riant y plentyn sy’n derbyn gofal, oni bai bod yr awdurdod yn ystyried bod adolygiad yn ddiangen.

(8)Caiff awdurdod lleol—

(a)adolygu cynllun datblygu unigol ar unrhyw adeg, a

(b)diwygio cynllun yn dilyn adolygiad.

(9)Os yw awdurdod lleol yn penderfynu yn dilyn adolygiad (sy’n ofynnol neu sydd wedi ei awdurdodi gan neu o dan y Rhan hon neu gan neu o dan adran 83 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)) na ddylai’r cynllun gael ei ddiwygio rhaid iddo hysbysu’r plentyn, rhiant y plentyn a swyddog adolygu annibynnol y plentyn am—

(a)y penderfyniad, a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

(10)Os yw awdurdod lleol yn diwygio cynllun datblygu unigol plentyn sy’n derbyn gofal (fel sy’n ofynnol neu sydd wedi ei awdurdodi gan neu o dan y Rhan hon neu gan neu o dan adran 83 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)), rhaid iddo roi copi o’r cynllun datblygu unigol diwygiedig i—

(a)y plentyn sy’n derbyn gofal,

(b)rhiant y plentyn sy’n derbyn gofal, ac

(c)swyddog adolygu annibynnol y plentyn sy’n derbyn gofal.

25Perthynas cynlluniau datblygu unigol â dogfennau tebyg eraill

Caiff corff llywodraethu neu awdurdod lleol—

(a)llunio, adolygu neu ddiwygio cynllun o dan y Rhan hon ar yr un pryd ag y mae ef neu gorff arall yn llunio, yn adolygu neu’n diwygio dogfen arall yn achos y person o dan sylw, a

(b)cynnwys y ddogfen arall yn y cynllun neu gynnwys y cynllun yn y ddogfen arall.

Ailystyriaeth gan awdurdodau lleol o benderfyniadau a chynlluniau cyrff llywodraethu

26Ailystyriaeth gan awdurdodau lleol o benderfyniadau o dan adran 11(1)

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan—

(a)bo corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi gwneud penderfyniad ynghylch disgybl cofrestredig o dan adran 11(1) neu wedi gwrthod gwneud penderfyniad o dan yr adran honno, a

(b)bo’r plentyn neu’r person ifanc neu, yn achos plentyn, rhiant y plentyn yn gofyn i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc ailystyried y mater.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol.

(3)Cyn iddo wneud ei benderfyniad, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i’r corff llywodraethu am y cais a gwahodd sylwadau oddi wrth y corff llywodraethu.

(4)At ddibenion y Rhan hon, mae penderfyniad o dan is-adran (2) i gael ei drin fel penderfyniad o dan adran 13(1).

(5)Pan fo awdurdod lleol yn gwneud penderfyniad o dan is-adran (2), mae penderfyniad blaenorol y corff llywodraethu o dan adran 11(1) yn peidio â chael effaith.

27Ailystyriaeth gan awdurdodau lleol o gynlluniau a gynhelir o dan adran 12

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan—

(a)bo corff llywodraethu ysgol a gynhelir yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer disgybl cofrestredig o dan adran 12(1) neu 12(3), a

(b)bo’r plentyn neu’r person ifanc neu, yn achos plentyn, rhiant y plentyn yn gofyn i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc ailystyried y cynllun gyda golwg ar ei ddiwygio.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol ailystyried y cynllun a phenderfynu pa un ai i ddiwygio’r cynllun ai peidio.

(3)Cyn iddo wneud ei benderfyniad, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i’r corff llywodraethu am y cais a gwahodd sylwadau oddi wrth y corff llywodraethu.

(4)Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu na ddylai’r cynllun gael ei ddiwygio rhaid iddo hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn am—

(a)y penderfyniad, a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

(5)Rhaid i’r awdurdod lleol roi copi o hysbysiad o dan is-adran (4) i’r corff llywodraethu.

(6)Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu y dylai’r cynllun gael ei ddiwygio, neu os gorchmynnir iddo ei ddiwygio gan Dribiwnlys Addysg Cymru, rhaid iddo lunio cynllun diwygiedig a naill ai—

(a)cyfarwyddo’r corff llywodraethu i’w gynnal, neu

(b)arfer y pŵer yn adran 28(6) i gymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal y cynllun.

(7)Rhaid i’r awdurdod lleol roi copi o’r cynllun diwygiedig i’r corff llywodraethu (am ddarpariaeth ynghylch eraill y mae rhaid rhoi copi iddynt, gweler adran 23(11)).

28Dyletswydd awdurdodau lleol i benderfynu pa un ai i gymryd drosodd gynlluniau cyrff llywodraethu ai peidio

(1)Mae is-adran (3) yn gymwys pan—

(a)bo corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc o dan adran 12(1) neu 12(3), a

(b)bo unrhyw un neu ragor o’r personau a grybwyllir yn is-adran (2) yn gofyn i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc ystyried cymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal y cynllun.

(2)Y personau yw—

(a)y plentyn neu’r person ifanc,

(b)yn achos plentyn, rhiant y plentyn, neu

(c)y corff llywodraethu.

(3)Rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a ddylai gymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal cynllun datblygu unigol a gynhelir gan y corff llywodraethu.

(4)Pan fo corff llywodraethu yn gwneud y cais, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn am y cais a gwahodd sylwadau.

(5)Pan fo plentyn, rhiant plentyn, neu berson ifanc yn gwneud y cais, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i’r corff llywodraethu am y cais a gwahodd sylwadau oddi wrth y corff llywodraethu.

(6)Caiff awdurdod lleol benderfynu cymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal cynllun a gynhelir gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir os yw’n penderfynu o dan adran 27(6) y dylai’r cynllun gael ei ddiwygio.

(7)Rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc, yn achos plentyn, rhiant y plentyn, a’r corff llywodraethu am—

(a)penderfyniad o dan is-adran (3) neu (6), a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

(8)Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu cymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal y cynllun—

(a)mae i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal gan yr awdurdod o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon, a

(b)nid yw’n ofynnol i’r corff llywodraethu ei gynnal,

o’r dyddiad y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (7).

29Amgylchiadau pan nad yw’r dyletswyddau yn adrannau 26(2), 27(2) a 28(3) yn gymwys

(1)Yn dilyn cais o dan adran 26(1)(b), 27(1)(b) neu 28(1)(b), nid yw’r ddyletswydd yn adran 26(2), 27(2) neu 28(3) (yn ôl y digwydd) yn gymwys mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc os yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (2) yn gymwys.

(2)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod yr awdurdod lleol wedi gwneud penderfyniad o’r blaen o dan yr un adran mewn perthynas â’r un plentyn neu’r un person ifanc a’i fod wedi ei fodloni—

(i)nad yw anghenion y plentyn neu’r person ifanc wedi newid yn sylweddol ers y penderfyniad blaenorol, a

(ii)nad oes gwybodaeth newydd a fyddai’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad hwnnw;

(b)bod y cais yn ymwneud â phlentyn sydd wedi dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol.

30Cofrestru neu ymrestru mewn mwy nag un sefydliad

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan—

(a)bo’n cael ei dwyn i sylw corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru, neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall, y gall fod gan blentyn neu berson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig yn yr ysgol neu’r sefydliad (yn ôl y digwydd) anghenion dysgu ychwanegol,

(b)bo’r plentyn neu’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach),

(c)bo addysg neu hyfforddiant i gael ei ddarparu i’r plentyn neu’r person ifanc ym mhob un o’r sefydliadau y mae’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig ynddynt,

(d)na fo cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc, ac

(e)bo awdurdod lleol yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc.

(2)Rhaid i’r corff llywodraethu atgyfeirio achos y plentyn neu’r person ifanc i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc er mwyn i’r awdurdod benderfynu yn ei gylch o dan adran 13(1).

(3)Mae is-adrannau (4), (5) a (6) yn gymwys pan—

(a)bo corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc,

(b)bo’r plentyn neu’r person ifanc yn dod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach),

(c)bo addysg neu hyfforddiant i gael ei ddarparu i’r plentyn neu’r person ifanc ym mhob un o’r sefydliadau y mae’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig ynddynt, a

(d)bo awdurdod lleol yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc.

(4)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc gynnal y cynllun datblygu unigol yn lle’r corff llywodraethu ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal gan yr awdurdod lleol o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon.

(5)Mae dyletswydd yr awdurdod lleol yn is-adran (4) yn cymryd effaith ar y diwrnod yr hysbysir yr awdurdod o dan is-adran (6) neu pan ddaw’n ymwybodol fel arall fod yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (3) yn gymwys.

(6)Os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru yn ymwybodol bod yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (3) yn gymwys mewn cysylltiad â phlentyn neu berson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig yn yr ysgol neu’r sefydliad (yn ôl y digwydd), rhaid i’r corff llywodraethu roi gwybod i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc am y ffaith honno.

(7)Ni chaiff awdurdod lleol arfer ei bŵer i gyfarwyddo o dan is-adrannau (2)(b) neu (4) o adran 14 mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn mwy nag un sefydliad (pa un a yw’n ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach) os yw addysg neu hyfforddiant i gael ei ddarparu iddo ym mhob un o’r sefydliadau hynny.

Peidio â chynnal cynlluniau

31Peidio â chynnal cynlluniau datblygu unigol

(1)Mae dyletswydd corff llywodraethu ysgol a gynhelir i lunio neu gynnal cynllun ar gyfer plentyn neu berson ifanc o dan adran 12 yn peidio â bod yn gymwys—

(a)yn achos plentyn neu berson ifanc, os yw’n peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol, neu

(b)yn achos plentyn, os yw’r plentyn yn dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol.

(2)Mae’r ddyletswydd ar gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach o dan adran 12 i lunio neu gynnal cynllun ar gyfer person ifanc yn peidio â bod yn gymwys os yw’r plentyn ifanc yn peidio â bod wedi ymrestru’n fyfyriwr yn y sefydliad.

(3)Mae’r ddyletswydd ar awdurdod lleol o dan adran 14 i lunio neu gynnal cynllun ar gyfer plentyn neu berson ifanc yn peidio â bod yn gymwys—

(a)yn achos plentyn neu berson ifanc, os yw’r awdurdod lleol yn peidio â bod yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc, neu

(b)yn achos plentyn, os yw’r plentyn yn dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol.

(4)Mae’r ddyletswydd ar awdurdod lleol i lunio neu gynnal cynllun ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal o dan adran 19 yn peidio â bod yn gymwys—

(a)os yw’n peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal at ddibenion y Rhan hon (pa un ai am ei fod yn hŷn na’r oedran ysgol gorfodol neu fel arall (gweler adran 15)), neu

(b)os yw’n peidio â bod yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

(5)Pan fo gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach ddyletswydd o dan y Rhan hon i gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc, caiff y corff llywodraethu beidio â chynnal y cynllun os yw’n penderfynu nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol mwyach.

(6)Pan fo gan awdurdod lleol ddyletswydd o dan y Rhan hon i gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc, caiff yr awdurdod beidio â chynnal y cynllun os yw’r awdurdod—

(a)yn penderfynu nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol mwyach, neu

(b)yn achos person ifanc nad yw’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir nac wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru, yn penderfynu yn unol â rheoliadau o dan adran 46 nad oes angen cynnal y cynllun mwyach i ddiwallu anghenion rhesymol y person ifanc am addysg neu hyfforddiant.

(7)Cyn i gorff llywodraethu benderfynu o dan is-adran (5), neu i awdurdod lleol benderfynu o dan is-adran (6), rhaid iddo hysbysu—

(a)y plentyn neu’r person ifanc,

(b)yn achos plentyn, rhiant y plentyn, ac

(c)yn achos plentyn sy’n derbyn gofal, swyddog adolygu annibynnol y plentyn

ei fod yn bwriadu gwneud penderfyniad o’r fath.

(8)Ar ôl i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol wneud ei benderfyniad, rhaid iddo hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc, yn achos plentyn, rhiant y plentyn ac, yn achos plentyn sy’n derbyn gofal, swyddog adolygu annibynnol y plentyn am—

(a)y penderfyniad, a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

(9)A rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir hefyd hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn am ei hawl i ofyn i’r awdurdod lleol ailystyried y mater o dan adran 32.

(10)Gweler adran 44 (darpariaethau nad ydynt yn gymwys i blant a phersonau ifanc sy’n cael eu cadw’n gaeth) am amgylchiadau pellach pan fo’r ddyletswydd i gynnal cynllun yn peidio.

32Ailystyriaeth gan awdurdodau lleol o benderfyniadau cyrff llywodraethu o dan adran 31

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan—

(a)bo plentyn, rhiant plentyn, neu berson ifanc wedi ei hysbysu am benderfyniad corff llywodraethu ysgol a gynhelir o dan adran 31, a

(b)bo’r plentyn, rhiant y plentyn, neu’r person ifanc yn gwneud cais o fewn cyfnod rhagnodedig i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc, iddo benderfynu a ddylai dyletswydd y corff llywodraethu i gynnal y cynllun beidio.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a ddylai’r corff llywodraethu beidio â chynnal y cynllun.

(3)Rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r corff llywodraethu a‘r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn am—

(a)y penderfyniad, a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

(4)Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu y dylai’r cynllun gael ei gynnal, rhaid i’r corff llywodraethu barhau i gynnal y cynllun.

(5)Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu na ddylai’r cynllun gael ei gynnal, rhaid i’r corff llywodraethu beidio â chynnal y cynllun, yn ddarostyngedig i adran 33.

33Cyfyngiad ar beidio â chynnal cynlluniau er mwyn caniatáu ailystyriaeth neu apêl

(1)Ni chaiff corff llywodraethu ysgol a gynhelir beidio â chynnal cynllun datblygu unigol o dan adran 31(5) oni bai bod is-adran (2) neu (3) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r cyfnod a ragnodir o dan adran 32(1)(b) wedi dod i ben ac nad oes cais wedi ei wneud o dan yr adran honno.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 32 y dylai’r cynllun beidio â chael ei gynnal ac—

(a)bod y cyfnod a ragnodir o dan adran 75 y caniateir i apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol gael ei dwyn ynddo wedi dod i ben heb i apêl gael ei dwyn, neu

(b)bod apêl wedi ei dwyn cyn diwedd y cyfnod a ragnodir o dan adran 75, a dyfarnwyd yn llawn arni.

(4)Ni chaiff corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach sy’n gweithredu o dan adran 31(5), neu awdurdod lleol sy’n gweithredu o dan adran 31(6), beidio â chynnal cynllun datblygu unigol tan pa un bynnag o’r canlynol sydd ddiweddaraf—

(a)bod y cyfnod a ragnodir o dan adran 75 y caniateir i apêl yn erbyn penderfyniad i beidio â chynnal y cynllun gael ei dwyn ynddo wedi dod i ben heb i apêl gael ei dwyn, neu

(b)bod apêl wedi ei dwyn cyn diwedd y cyfnod a ragnodir o dan adran 75, a dyfarnwyd yn llawn arni.

34Cynllun datblygu unigol ar ôl pen-blwydd person ifanc yn 25 oed

(1)Mae’r ddyletswydd ar gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach o dan adran 12, neu ar awdurdod lleol o dan adran 14, i lunio neu gynnal cynllun ar gyfer person ifanc yn peidio â bod yn gymwys ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y person ifanc yn cyrraedd 25 oed ynddi.

(2)Yn yr adran hon, ystyr “blwyddyn academaidd” yw—

(a)mewn perthynas â pherson ifanc sy’n mynychu sefydliad yn y sector addysg bellach, cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Gorffennaf, a

(b)mewn perthynas ag unrhyw berson ifanc arall, cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae cwrs addysg neu hyfforddiant y person ifanc yn dod i ben neu’r diwrnod cyn i’r person ifanc gyrraedd 26 oed (pa un bynnag sydd gynharaf).

Trosglwyddo cynlluniau

35Trosglwyddo dyletswyddau i gynnal cynlluniau

(1)Mae is-adran (3) yn gymwys os—

(a)yw plentyn neu berson ifanc yn dod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru,

(b)yn union cyn i’r plentyn neu’r person ifanc ddod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol, oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan adran 12 gan gorff llywodraethu ysgol arall a gynhelir, ac

(c)na fwriedir i addysg neu hyfforddiant barhau i gael ei ddarparu i’r plentyn neu’r person ifanc yn yr ysgol arall honno.

(2)Mae is-adran (3) hefyd yn gymwys os—

(a)yw plentyn neu berson ifanc yn dod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru cyn diwedd mis Medi mewn blwyddyn academaidd,

(b)oedd y plentyn neu’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol arall a gynhelir yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol, ac

(c)oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan adran 12 gan gorff llywodraethu’r ysgol arall ar ddiwrnod olaf yr addysg neu’r hyfforddiant a ddarperid ar ei gyfer yn yr ysgol.

(3)Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol a grybwyllir yn is-adran (1)(a) neu (2) (a) gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 12 at ddibenion y Rhan hon.

(4)Mae is-adran (6) yn gymwys os—

(a)yw person ifanc yn ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru cyn diwedd mis Medi mewn blwyddyn academaidd,

(b)oedd y person ifanc yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol, ac

(c)oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y person ifanc o dan adran 12 gan gorff llywodraethu’r ysgol ar ddiwrnod olaf yr addysg neu’r hyfforddiant a ddarperid ar ei gyfer yn yr ysgol.

(5)Yn is-adran (4)(a) a (b), ystyr “blwyddyn academaidd” yw unrhyw gyfnod rhwng 1 Awst a 31 Gorffennaf.

(6)Rhaid i gorff llywodraethu’r sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 12 at ddibenion y Rhan hon.

(7)Mae is-adran (8) yn gymwys os—

(a)yw awdurdod lleol yn dod yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc, a

(b)yn union cyn i’r awdurdod ddod yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc, oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan adran 14 gan awdurdod lleol arall.

(8)Rhaid i’r awdurdod lleol a grybwyllir yn is-adran (7)(a) gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon.

(9)Mae is-adran (10) yn gymwys os—

(a)yw plentyn yn dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, a

(b)yn union cyn i’r plentyn ddod yn blentyn sy’n derbyn gofal, oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn o dan adran 12 neu 14.

(10)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn gynnal y cynllun datblygu unigol; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 19 at ddibenion y Rhan hon, gydag unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 14(6) yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei disgrifio yn unol ag adran 19(4).

(11)Mae is-adran (12) a (13) yn gymwys os—

(a)yw person yn peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal (pa un ai am ei fod yn hŷn na’r oedran ysgol gorfodol neu fel arall (gweler adran 15)),

(b)yw awdurdod lleol yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc, ac

(c)yn union cyn peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal, oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan adran 19.

(12)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc gynnal y cynllun datblygu unigol.

(13)Mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon, gydag unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 19(4) yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei disgrifio yn unol ag adran 14(6).

36Cais i drosglwyddo cynllun i gorff llywodraethu sefydliad addysg bellach

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

(2)Caiff yr awdurdod lleol ofyn i gorff llywodraethu’r sefydliad ddod yn gyfrifol am gynnal y cynllun.

(3)Os yw’r corff llywodraethu yn methu â chytuno i’r cais o fewn cyfnod rhagnodedig, caiff yr awdurdod lleol atgyfeirio’r mater at Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu a ddylai corff llywodraethu’r sefydliad addysg bellach gynnal y cynllun.

37Rheoliadau ynghylch trosglwyddo cynlluniau datblygu unigol

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ar gyfer y canlynol ac mewn cysylltiad â hwy⁠—

(a)trosglwyddo o dan adran 35 ddyletswydd i gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc;

(b)gwneud cais o dan adran 36, atgyfeiriad neu benderfyniad o dan yr adran honno a throsglwyddo dyletswydd i gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc yn dilyn cais neu benderfyniad o’r fath;

(c)trosglwyddo o dan amgylchiadau rhagnodedig ddyletswydd i gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc—

(i)o un awdurdod lleol i awdurdod lleol arall;

(ii)o gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach i gorff llywodraethu ysgol arall a gynhelir neu sefydliad arall yn y sector addysg bellach;

(iii)o gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach i awdurdod lleol;

(iv)o awdurdod lleol i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach.

(2)Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach yn gyfeiriad at gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad yng Nghymru.

Pwerau i gyfarwyddo cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir

38Pŵer awdurdod lleol i gyfarwyddo cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir

Nid yw unrhyw bŵer awdurdod lleol o dan y Bennod hon i gyfarwyddo corff llywodraethu ysgol a gynhelir yn arferadwy mewn cysylltiad ag ysgol nad yw’r awdurdod yn ei chynnal oni bai bod yr awdurdod wedi ymgynghori â’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol ynghylch ei fwriad i arfer y pŵer.

Darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer personau sy’n cael eu cadw’n gaeth

39Ystyr “person sy’n cael ei gadw’n gaeth” a thermau allweddol eraill

(1)At ddibenion y Ddeddf hon—

  • mae i “awdurdod cartref” yr ystyr a roddir i “home authority” gan adran 562J o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56), yn ddarostyngedig i reoliadau o dan is-adran (2);

  • mae i “dechrau’r cyfnod o gadw person yn gaeth” yr ystyr a roddir i “beginning of the detention” gan adran 562J o Ddeddf Addysg 1996;

  • mae i “llety ieuenctid perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant youth accommodation” gan adran 562(1A)(b) o Ddeddf Addysg 1996;

  • ystyr “person sy’n cael ei gadw’n gaeth” (“detained person”) yw plentyn neu berson ifanc—

    (a)

    sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw (o fewn yr ystyr a roddir i “detention order” gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 1996), a

    (b)

    sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr,

    ac mewn darpariaethau sy’n gymwys pan gaiff person ei ryddhau mae’n cynnwys person a oedd, yn union cyn ei ryddhau, yn berson a oedd yn cael ei gadw’n gaeth.

(2)Caiff rheoliadau ddarparu—

(a)i baragraff (a) o’r diffiniad o “home authority” yn adran 562J(1) o Ddeddf Addysg 1996 (awdurdod cartref plentyn sy’n derbyn gofal) fod yn gymwys gydag addasiadau at ddibenion y Rhan hon;

(b)i ddarpariaeth mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 562J(4) o Ddeddf Addysg 1996 fod yn gymwys gydag addasiadau neu hebddynt at ddibenion y Rhan hon.

40Dyletswydd i lunio cynlluniau datblygu unigol ar gyfer personau sy’n cael eu cadw’n gaeth

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo’n cael ei dwyn i sylw awdurdod cartref yng Nghymru neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall—

(a)y gall fod gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol, a

(b)nad oes cynllun datblygu unigol yn cael ei gadw gan awdurdod lleol o dan adran 42.

(2)Rhaid i’r awdurdod—

(a)penderfynu a oes gan y person sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol, a

(b)os yw’n penderfynu bod gan y person sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol, benderfynu yn unol â rheoliadau o dan adran 46 a fydd angen cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff ei ryddhau er mwyn diwallu anghenion rhesymol y person sy’n cael ei gadw’n gaeth am addysg neu hyfforddiant.

(3)Cyn i’r awdurdod cartref wneud ei benderfyniad rhaid iddo wahodd y person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol i fod yn rhan o’r penderfyniad ac, os oes angen cynllun datblygu unigol, yn rhan o’r gwaith o lunio cynllun datblygu unigol.

(4)Os yw’r awdurdod cartref yn penderfynu nad oes gan y person sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol neu na fydd angen cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff ei ryddhau, rhaid iddo hysbysu’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth, rhiant person sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn, a’r person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol am y penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad.

(5)Os yw’r awdurdod cartref yn penderfynu bod gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol ac y bydd angen cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff ei ryddhau, rhaid iddo—

(a)llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth, a

(b)rhoi copi o’r cynllun i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth, rhiant person sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn, a’r person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol.

(6)Os yw’r awdurdod cartref yn llunio cynllun datblygu unigol, rhaid iddo—

(a)penderfynu a ddylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth, a

(b)os yw’n penderfynu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, bennu yn y cynllun y dylai gael ei ddarparu yn Gymraeg.

(7)Os na fydd yn bosibl diwallu anghenion rhesymol y person sy’n cael ei gadw’n gaeth am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol pan gaiff ei ryddhau oni bai bod yr awdurdod cartref hefyd yn sicrhau darpariaeth o’r math a grybwyllir yn is-adran (8), rhaid i’r awdurdod gynnwys disgrifiad o’r ddarpariaeth arall honno yn y cynllun.

(8)Y mathau o ddarpariaeth yw—

(a)lle mewn ysgol benodol neu sefydliad arall;

(b)bwyd a llety.

(9)O ran y ddyletswydd yn is-adran (7)—

(a)nid yw’n gymwys i le mewn ysgol benodol neu sefydliad arall nad yw’n ysgol a gynhelir yng Nghymru os nad yw’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am dderbyniadau i’r ysgol neu’r sefydliad arall yn cydsynio;

(b)mae’n ddarostyngedig i’r dyletswyddau yn adrannau 55, 56(3) a 59.

41Amgylchiadau pan nad yw’r ddyletswydd yn adran 40(2) yn gymwys

(1)Nid yw’r ddyletswydd yn adran 40(2) yn gymwys os yw’r un neu’r llall o’r amgylchiadau yn is-adran (2) yn gymwys.

(2)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod y person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn berson ifanc nad yw’n cydsynio i benderfyniad o dan adran 40(2)(a) gael ei wneud neu i gynllun gael ei lunio;

(b)bod yr awdurdod cartref wedi penderfynu o’r blaen a oes gan y person sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol a’i fod wedi ei fodloni—

(i)nad yw anghenion y person sy’n cael ei gadw’n gaeth wedi newid yn sylweddol ers i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, a

(ii)nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar benderfyniad o dan adran 40(2)(a) neu (b).

42Dyletswydd i gadw cynlluniau datblygu unigol ar gyfer personau sy’n cael eu cadw’n gaeth

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’r person yn gaeth—

(a)gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru o dan adran 12, neu

(b)gan awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 14 neu 19.

(2)Mae’r adran hon hefyd yn gymwys pan fo cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio o dan adran 40(5).

(3)Os yw’r awdurdod cartref ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn awdurdod cartref yng Nghymru, rhaid i’r awdurdod cartref gadw’r cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn ystod y cyfnod o gadw’r person yn gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol.

(4)Ond nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (3) yn gymwys pan fo’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn berson ifanc nad yw’n cydsynio i’r cynllun datblygu unigol gael ei gadw.

(5)Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (3) yn gymwys ychwaith mewn perthynas â chynllun datblygu unigol a oedd yn cael ei gynnal gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach, neu gan awdurdod lleol ac eithrio’r awdurdod cartref, oni ddygir y ffaith bod y cynllun yn cael ei gynnal i sylw’r awdurdod cartref.

(6)Rhaid i’r awdurdod cartref roi gwybod i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth a rhiant person sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn ei fod yn cadw cynllun datblygu unigol tra bo’r person yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol.

(7)Rhaid i’r awdurdod cartref roi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol.

(8)Pan fo awdurdod cartref yn cadw cynllun datblygu unigol, rhaid iddo—

(a)trefnu i ddarpariaeth ddysgu ychwanegol briodol gael ei darparu i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth, a

(b)os yw’r cynllun yn pennu y dylai’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol briodol yn cael ei darparu yn Gymraeg i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth.

(9)Yn yr adran hon, ystyr “darpariaeth ddysgu ychwanegol briodol” yw—

(a)y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir yn y cynllun datblygu unigol,

(b)os ymddengys i’r awdurdod cartref nad yw’n ymarferol i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir yn y cynllun gael ei darparu, darpariaeth addysgol sy’n cyfateb mor agos â phosibl i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol honno, neu

(c)os ymddengys i’r awdurdod cartref nad yw’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir yn y cynllun yn briodol mwyach ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth, darpariaeth ddysgu ychwanegol y mae’r awdurdod cartref yn ystyried ei bod yn briodol.

43Rhyddhau person sy’n cael ei gadw’n gaeth

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os—

(a)yw person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn cael ei ryddhau,

(b)yw awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am y person ar y dyddiad rhyddhau, ac

(c)oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gadw ar gyfer y person o dan adran 42 yn ystod y cyfnod o gadw’r person yn gaeth.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol gynnal y cynllun; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon, gydag unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 19(4) neu 40(7) yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei disgrifio yn unol ag adran 14(6).

(3)Ond mae is-adran (4) yn gymwys yn lle is-adran (2)—

(a)os yw’r person sydd wedi ei ryddhau yn blentyn, a

(b)os yw’r plentyn, yn union wedi iddo gael ei ryddhau, yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru.

(4)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn gynnal y cynllun; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 19 at ddibenion y Rhan hon, gydag unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 14(6) neu 40(7) yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei disgrifio yn unol ag adran 19(4).

44Darpariaethau penodol Rhan 2 nad ydynt i fod yn gymwys i blant a phersonau ifanc sy’n cael eu cadw’n gaeth

(1)Mae’r dyletswyddau a osodir gan y darpariaethau yn is-adran (2) ar y cyrff a ganlyn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â pherson sy’n cael ei gadw’n gaeth o ddechrau’r cyfnod o gadw’r person hwnnw yn gaeth—

(a)corff llywodraethu ysgol a gynhelir;

(b)corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach;

(c)awdurdod lleol.

(2)Y darpariaethau yw—

(a)adran 11 (dyletswydd corff llywodraethu i benderfynu);

(b)adran 12 (dyletswydd corff llywodraethu i lunio a chynnal cynllun);

(c)adran 13 (dyletswydd awdurdod lleol i benderfynu);

(d)adran 14 (dyletswydd awdurdod lleol i lunio a chynnal cynllun);

(e)adran 26 (dyletswydd awdurdod lleol i ailystyried penderfyniad corff llywodraethu);

(f)adran 30(2) (dyletswydd corff llywodraethu i atgyfeirio pan fo plentyn neu berson ifanc wedi ei gofrestru neu wedi ymrestru mewn mwy nag un sefydliad);

(g)adran 47(2) (dyletswydd corff llywodraethu i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol).

(3)Nid yw’r dyletswyddau a osodir gan y darpariaethau yn is-adran (4) ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ar gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yn gymwys mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc ar unrhyw adeg tra bo’r plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw—

(a)yn ddarostyngedig i orchymyn cadw (o fewn yr ystyr a roddir i “detention order” gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 1996), a

(b)wedi ei gadw’n gaeth mewn llety ac eithrio llety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr.

(4)Y darpariaethau yw—

(a)adran 11 (dyletswydd i benderfynu);

(b)adran 12 (dyletswydd i lunio a chynnal cynllun);

(c)adran 17 (dyletswydd i atgyfeirio mater i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn);

(d)adran 30(2) (dyletswydd i atgyfeirio pan fo plentyn neu berson ifanc wedi ei gofrestru neu wedi ymrestru mewn mwy nag un sefydliad);

(e)adran 47(2) (dyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol).

(5)Mae is-adran (6) yn gymwys hyd nes bod adran 49 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22) (cymhwyso darpariaethau i bersonau sy’n cael eu cadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol) yn dod i rym yn llawn o ran Cymru.

(6)Mae adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) i gael effaith at ddiben y pwerau a’r dyletswyddau a roddir neu a osodir gan neu o dan y Rhan hon ar awdurdodau lleol fel pe bai adran 49 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22) mewn grym yn llawn o ran Cymru.

(7)At ddibenion y Rhan hon, mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) o adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) at lety ieuenctid perthnasol i gael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at lety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr.

45Cadw’n gaeth o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan, oherwydd adran 44 neu adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56), na fo pwerau neu ddyletswyddau a roddir neu a osodir gan neu o dan y Rhan hon i neu ar awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir neu sefydliadau yn y sector addysg bellach yn gymwys mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc—

(a)sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw (o fewn yr ystyr a roddir i “detention order” gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 1996), a

(b)sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (p. 20).

(2)Caiff rheoliadau ddarparu i’r pwerau neu’r dyletswyddau hynny gael eu cymhwyso, gydag addasiad neu hebddo, mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc.

Yr angen am gynlluniau

46Rheoliadau ynghylch penderfynu a oes angen cynllun datblygu unigol

(1)Mae rheoliadau o dan yr adran hon yn gymwys i’r darpariaethau a ganlyn a phenderfyniadau a wneir odanynt—

(a)adran 14(1)(c)(ii);

(b)adran 31(6)(b);

(c)adran 40(2)(b).

(2)Caiff rheoliadau—

(a)pennu ffactorau sydd i gael eu hystyried wrth asesu a oes angen llunio neu gynnal cynllun;

(b)pennu amgylchiadau y mae angen, neu nad oes angen, llunio neu gynnal cynllun odanynt;

(c)darparu ar gyfer yr hyn sydd i gael ei ystyried, neu nad yw i gael ei ystyried, yn anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant (pa un ai wrth bennu ffactorau, pennu amgylchiadau neu fel arall);

(d)gwneud darpariaeth bellach ynghylch y diffiniad o “addysg neu hyfforddiant”;

(e)gwneud darpariaeth ynghylch y broses ar gyfer gwneud penderfyniadau.

PENNOD 3SWYDDOGAETHAU ATODOL

Swyddogaethau sy’n ymwneud â sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol

47Dyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys i blentyn neu berson ifanc—

(a)sydd ag anghenion dysgu ychwanegol,

(b)nad oes cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar ei gyfer, ac

(c)sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

(2)Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol a gynhelir neu’r sefydliad yn y sector addysg bellach (yn ôl y digwydd), wrth arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â’r ysgol neu’r sefydliad, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae anghenion dysgu ychwanegol y plentyn neu’r person ifanc yn galw amdani yn cael ei gwneud.

(3)Rhaid i’r Cod o dan adran 4 gynnwys canllawiau ynghylch arfer y swyddogaeth yn is-adran (2) yn ystod y cyfnod y mae cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ynddo ar gyfer plentyn neu berson ifanc ond nad yw wedi ei roi.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys i blentyn neu berson ifanc—

(a)y mae cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar ei gyfer gan awdurdod lleol, a

(b)sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

(5)Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol a gynhelir neu’r sefydliad yn y sector addysg bellach (yn ôl y digwydd) gymryd pob cam rhesymol i helpu’r awdurdod lleol sy’n cynnal y cynllun i sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir ynddo.

48Dyletswydd i dderbyn plant i ysgolion a gynhelir a enwir

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw ysgol a gynhelir yng Nghymru wedi ei henwi mewn cynllun datblygu unigol a lunnir neu a gynhelir ar gyfer plentyn gan awdurdod lleol at ddiben sicrhau bod y plentyn yn cael ei dderbyn i’r ysgol.

(2)Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol dderbyn y plentyn.

(3)Cyn enwi ysgol o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori—

(a)â chorff llywodraethu’r ysgol, a

(b)yn achos ysgol a gynhelir pan nad yr awdurdod lleol na’i chorff llywodraethu yw’r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol, â’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r ysgol.

(4)Ni chaiff awdurdod lleol enwi ysgol a gynhelir mewn cynllun datblygu unigol at ddiben sicrhau bod plentyn yn cael ei dderbyn ond—

(a)os yw’r awdurdod wedi ei fodloni ei bod, er lles y plentyn, yn ofynnol i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a nodir yn ei gynllun gael ei gwneud yn yr ysgol, a

(b)os yw’n briodol darparu addysg neu hyfforddiant i’r plentyn yn yr ysgol.

(5)Mae is-adran (2) yn cael effaith er gwaethaf unrhyw ddyletswydd a osodir ar gorff llywodraethu ysgol gan adran 1(6) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31) (terfynau ar faint dosbarthiadau babanod).

(6)Nid yw is-adran (2) yn effeithio ar unrhyw bŵer i wahardd disgybl o ysgol.

(7)Yn yr adran hon, mae i “awdurdod derbyn” yr ystyr a roddir i “admissions authority” gan adran 88 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

49Dim pŵer i godi tâl am ddarpariaeth a sicrheir o dan y Rhan hon

(1)Ni chaiff corff llywodraethu nac awdurdod lleol godi tâl ar blentyn, ar riant plentyn neu ar berson ifanc am unrhyw beth y mae’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol yn ei sicrhau ar gyfer plentyn neu berson ifanc o dan y Rhan hon.

(2)Nid yw plentyn, rhiant plentyn, neu berson ifanc yn atebol i dalu unrhyw dâl a godir gan berson am unrhyw beth y mae corff llywodraethu neu awdurdod lleol yn ei sicrhau ar gyfer plentyn neu berson ifanc o dan y Rhan hon.

(3)Yn yr adran hon, nid yw “rhiant” yn cynnwys rhiant nad yw’n unigolyn.

(4)Mae Atodlen 1 i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(5)Ym mharagraff 1, yn is-baragraff (1), ar ôl “mewn achosion ar wahân i’r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (8)” mewnosoder “, ac mewn achosion pan fo codi ffioedd wedi ei wahardd gan neu o dan ddeddfiad”.

50Dyletswyddau Gweinidogion Cymru i sicrhau addysg a hyfforddiant ôl-16

(1)Mae Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 31(3) (addysg a hyfforddiant ar gyfer personau 16 i 19 oed), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(cc)take account of the education and training that is required in order to ensure that employees and potential employees are available who are able to deliver additional learning provision in Welsh;

(cd)take account of the education and training that is required in order to ensure that facilities are available for assessing through the medium of Welsh whether persons have additional learning needs;.

(3)Yn adran 32(3) (addysg a hyfforddiant ar gyfer personau sy’n hŷn na 19 oed), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(cc)take account of the education and training that is required in order to ensure that employees and potential employees are available who are able to deliver additional learning provision in Welsh;

(cd)take account of the education and training that is required in order to ensure that facilities are available for assessing through the medium of Welsh whether persons have additional learning needs;.

(4)Yn adran 41 (personau ag anawsterau dysgu)—

(a)yn y pennawd, yn lle “learning difficulties” rhodder “additional learning needs”;

(b)yn is-adran (1)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “learning difficulties, and” rhodder “additional learning needs;”;

(ii)yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)to the desirability of facilities being available which would assist the discharge of duties under the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018.;

(c)hepgorer is-adrannau (2), (3) a (4);

(d)yn lle is-adran (5) rhodder—

(5A)In this Part, “additional learning needs” has the meaning given by section 2 of the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018, and “additional learning provision” has the meaning given by section 3 of that Act.”;;

(e)hepgorer is-adran (6).

(5)Hepgorer adran 140 (asesiadau sy’n ymwneud ag anawsterau dysgu).

Darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn mathau penodol o ysgol neu sefydliad arall

51Dyletswydd i ffafrio addysg i blant mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir

(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlentyn sydd o’r oedran ysgol gorfodol sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac a ddylai gael ei addysgu mewn ysgol sicrhau bod y plentyn yn cael ei addysgu mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (2) yn gymwys.

(2)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod addysgu’r plentyn mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir yn anghydnaws â darparu addysg effeithlon ar gyfer plant eraill;

(b)bod addysgu’r plentyn mewn man ac eithrio mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir yn briodol er lles pennaf y plentyn ac yn gydnaws â darparu addysg effeithlon ar gyfer plant eraill;

(c)bod rhiant y plentyn yn dymuno i’r plentyn gael ei addysgu mewn man ac eithrio mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir.

(3)Ni chaiff awdurdod lleol ddibynnu ar yr eithriad yn is-adran (2)(a) oni bai nad oes unrhyw gamau rhesymol y gallai’r awdurdod eu cymryd i atal yr anghydnawsedd.

(4)Pan fo rhiant plentyn yn dymuno i’w blentyn gael ei addysgu mewn man ac eithrio mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir, nid yw is-adran (2)(c) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sicrhau bod y plentyn yn cael ei addysgu mewn man ac eithrio mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir.

(5)Nid yw is-adran (1) yn atal plentyn rhag cael ei addysgu mewn—

(a)ysgol annibynnol, neu

(b)ysgol a gymeradwyir o dan adran 342 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56),

os telir y gost ac eithrio gan awdurdod lleol.

52Plant ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir

(1)Pan fo plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei addysgu mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir yng Nghymru, rhaid i’r rheini sy’n ymwneud â gwneud darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer y plentyn sicrhau bod y plentyn yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r ysgol ar y cyd â phlant nad oes ganddynt anghenion dysgu ychwanegol.

(2)Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (1) ond yn gymwys i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol a’i bod yn gydnaws—

(a)â’r plentyn yn cael y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae ei anghenion dysgu ychwanegol yn galw amdani,

(b)â darparu addysg effeithlon ar gyfer y plant y caiff ei addysgu gyda hwy, ac

(c)â’r defnydd effeithlon o adnoddau.

53Darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn mannau ac eithrio mewn ysgolion

(1)Caiff awdurdod lleol drefnu i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir mewn cynllun datblygu unigol y mae’n ei gynnal ar gyfer plentyn, neu i unrhyw ran o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol honno, gael ei gwneud mewn man ac eithrio mewn ysgol.

(2)Ond ni chaiff awdurdod lleol wneud hynny ond os yw wedi ei fodloni y byddai’n amhriodol i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei gwneud mewn ysgol.

54Diwygiadau i ofynion cofrestru ar gyfer ysgolion annibynnol yng Nghymru

(1)Mae Deddf Addysg 2002 (p. 32) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 158 (cofrestrau), ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(4)The Welsh Ministers must publish a list of the schools included in the register of independent schools in Wales, as amended from time to time.

(5)If the Welsh Ministers have been provided with the necessary information by the proprietor of the school, the published list must specify the type or types of additional learning provision made by a school on the list for pupils with additional learning needs (if any).

(3)Yn adran 160 (ceisiadau i gofrestru), yn is-adran (2), yn lle paragraff (e) rhodder—

(e)the type or types of additional learning provision made by the school for pupils with additional learning needs (if any).

55Amodau sy’n gymwys i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn ysgolion annibynnol

(1)Ni chaiff awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon i sicrhau bod plentyn neu berson ifanc yn cael ei addysgu mewn ysgol annibynnol yng Nghymru oni bai—

(a)bod yr ysgol wedi ei chynnwys yn y gofrestr o ysgolion annibynnol yng Nghymru, a

(b)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni y gall yr ysgol wneud y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yng nghynllun datblygu unigol y plentyn neu’r person ifanc.

(2)Ni chaiff awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon i sicrhau bod plentyn neu berson ifanc yn cael ei addysgu mewn sefydliad addysgol annibynnol yn Lloegr oni bai—

(a)bod y sefydliad wedi ei gynnwys yn y gofrestr o sefydliadau addysgol annibynnol yn Lloegr (a gedwir o dan adran 95 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25) (“Deddf 2008”)), a

(b)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni y gall y sefydliad wneud y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yng nghynllun datblygu unigol y plentyn neu’r person ifanc.

(3)Yn yr adran hon, mae i “sefydliad addysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent educational institution” gan Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 2008.

56Rhestr o sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu a chynnal rhestr o sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru a Lloegr (“y rhestr”) at ddiben is-adran (3).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r rhestr, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

(3)Dim ond os yw sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru neu yn Lloegr wedi ei gynnwys yn y rhestr y caiff awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon i sicrhau addysg neu hyfforddiant ar gyfer plentyn neu berson ifanc yn y sefydliad hwnnw, yn ddarostyngedig i unrhyw esemptiadau rhagnodedig.

(4)Dim ond ar gais perchennog sefydliad y caiff Gweinidogion Cymru gynnwys y sefydliad hwnnw yn y rhestr.

(5)Rhaid i reoliadau ddarparu ar gyfer—

(a)cynnwys y rhestr;

(b)gofynion y mae rhaid cydymffurfio â hwy fel amod o gynnwys y sefydliad yn y rhestr;

(c)gofynion y mae rhaid cydymffurfio â hwy tra bo’r sefydliad wedi ei restru (gan gynnwys gofynion o ran cael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru i drefniadau yn y sefydliad ac i newid trefniadau o’r fath);

(d)dileu’r sefydliad o’r rhestr;

(e)yr hawl i berchenogion sefydliadau apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniadau—

(i)i wrthod rhestru sefydliad;

(ii)i ddileu sefydliad o’r rhestr;

(iii)i beidio â chymeradwyo trefniadau yn y sefydliad neu i beidio â chymeradwyo newid iddynt.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” yw sefydliad sy’n darparu addysg neu hyfforddiant ar gyfer personau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ac sydd wedi ei drefnu’n arbennig i ddarparu addysg neu hyfforddiant o’r fath ar gyfer personau ag anghenion dysgu ychwanegol, ac nad yw’n—

(a)sefydliad yn y sector addysg bellach,

(b)ysgol annibynnol sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr o ysgolion annibynnol yng Nghymru (a gedwir o dan adran 158 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32)),

(c)sefydliad addysgol annibynnol (o fewn ystyr Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25)), sydd wedi ei gynnwys yn y gofrestr o sefydliadau addysgol annibynnol yn Lloegr (a gedwir o dan adran 95 o’r Ddeddf honno), neu

(d)Academi 16 i 19.

57Diddymu cymeradwyo ysgolion arbennig nas cynhelir yng Nghymru

(1)Mae Deddf Addysg 1996 (p. 56) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 337A (dehongli’r Bennod), hepgorer y diffiniad o “the appropriate national authority”.

(3)Yn adran 342 (cymeradwyo ysgolion arbennig nas cynhelir)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”, a

(ii)ar ôl “school”, y tro cyntaf y mae’n ymddangos, mewnosoder “in England”;

(b)yn is-adran (5)(a), yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”;

(c)hepgorer is-adran (6).

58Diddymu cymeradwyo ysgolion annibynnol yng Nghymru

Mae adran 347 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) (cymeradwyo ysgolion annibynnol fel rhai sy’n addas i dderbyn plant â datganiadau anghenion addysgol arbennig) wedi ei diddymu.

59Darpariaeth ddysgu ychwanegol y tu allan i Gymru a Lloegr

Caiff awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon i wneud trefniadau i blentyn neu berson ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol fynychu sefydliad y tu allan i Gymru a Lloegr, ond dim ond os yw’r sefydliad wedi ei drefnu i wneud y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yng nghynllun datblygu unigol y plentyn neu’r person ifanc.

Swyddogion cydlynu anghenion dysgu ychwanegol

60Cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol

(1)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys—

(a)i gorff llywodraethu ysgol yng Nghymru—

(i)sy’n ysgol gymunedol, yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol,

(ii)sy’n ysgol feithrin a gynhelir, neu

(iii)sy’n uned cyfeirio disgyblion;

(b)i gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

(2)Rhaid i’r corff llywodraethu ddynodi person, neu fwy nag un person, i fod â chyfrifoldeb am gydlynu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr (yn ôl y digwydd) ag anghenion dysgu ychwanegol.

(3)Mae person sydd wedi ei ddynodi o dan yr adran hon i gael ei alw’n “cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol”.

(4)Caiff rheoliadau—

(a)ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sicrhau bod gan gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol gymwysterau rhagnodedig neu brofiad rhagnodedig (neu’r ddau);

(b)rhoi swyddogaethau i gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol mewn perthynas â darparu ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr (yn ôl y digwydd) ag anghenion dysgu ychwanegol.

(5)Yn is-adrannau (2) a (4)(b), ystyr “myfyrwyr” yw myfyrwyr sydd wedi ymrestru yn y sefydliad yn y sector addysg bellach.

61Swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedig

(1)Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ddynodi swyddog i fod â chyfrifoldeb am gydlynu swyddogaethau’r Bwrdd mewn perthynas â phlant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

(2)Ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol ond dynodi swyddog—

(a)sy’n ymarferydd meddygol cofrestredig, neu

(b)sy’n nyrs gofrestredig neu’n weithiwr iechyd proffesiynol arall.

(3)Ni chaiff Bwrdd Iechyd Lleol ond dynodi swyddog y mae’n ystyried ei fod yn meddu ar gymwysterau a phrofiad addas o ran darparu gofal iechyd ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

(4)Mae swyddog sydd wedi ei ddynodi o dan yr adran hon i gael ei alw’n “swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedig”.

62Swyddog arweiniol anghenion dysgu ychwanegol blynyddoedd cynnar

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddynodi swyddog i fod â chyfrifoldeb am gydlynu swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlant sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn mynychu ysgolion a gynhelir.

(2)Mae swyddog sydd wedi ei ddynodi o dan yr adran hon i gael ei alw’n “swyddog arweiniol anghenion dysgu ychwanegol blynyddoedd cynnar”.

Swyddogaethau amrywiol

63Dyletswydd i gadw darpariaeth ddysgu ychwanegol o dan adolygiad

(1)Rhaid i awdurdod lleol gadw o dan adolygiad y trefniadau a wneir gan yr awdurdod a chan gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yn ei ardal ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol ystyried y graddau y mae’r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yn ddigonol i ddiwallu anghenion dysgu ychwanegol y plant a’r bobl ifanc y mae’n gyfrifol amdanynt, gan roi sylw i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a all gael ei threfnu’n rhesymol gan eraill.

(3)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn cynnwys dyletswydd i ystyried—

(a)digonolrwydd darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg;

(b)maint a gallu’r gweithlu sydd ar gael.

(4)Os bydd awdurdod lleol yn ystyried nad yw’r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) (gan gynnwys y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ar gael yn Gymraeg) yn ddigonol, rhaid iddo gymryd pob cam rhesymol i unioni’r mater.

(5)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori ag unrhyw bersonau, ac ar unrhyw adegau, y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

64Dyletswydd cyrff iechyd i hysbysu rhieni etc.

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo corff iechyd a grybwyllir yn is-adran (2), wrth arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â phlentyn sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol ac y mae awdurdod lleol yn gyfrifol amdano, yn ffurfio barn bod gan y plentyn, neu ei bod yn debygol bod gan y plentyn, anghenion dysgu ychwanegol.

(2)Y cyrff iechyd yw—

(a)Bwrdd Iechyd Lleol;

(b)ymddiriedolaeth GIG;

(c)grŵp comisiynu clinigol;

(d)ymddiriedolaeth sefydledig GIG;

(e)Awdurdod Iechyd Arbennig.

(3)Rhaid i’r corff iechyd roi gwybod i riant y plentyn am ei farn ac am ei ddyletswydd yn is-adran (4).

(4)Ar ôl rhoi cyfle i’r rhiant i drafod barn y corff iechyd â swyddog o’r corff, rhaid i’r corff iechyd ddwyn y farn i sylw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu, os yw’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal, i sylw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn, os yw’r corff iechyd wedi ei fodloni y byddai gwneud hynny er lles pennaf y plentyn.

(5)Os yw’r corff iechyd o’r farn bod sefydliad gwirfoddol penodol yn debygol o allu rhoi cyngor neu gymorth arall i’r rhiant mewn cysylltiad ag unrhyw anghenion dysgu ychwanegol a all fod gan y plentyn, rhaid iddo roi gwybod i’r rhiant yn unol â hynny.

65Dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth a help arall

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw awdurdod lleol yn gofyn i berson a grybwyllir yn is-adran (4) arfer swyddogaethau’r person i ddarparu gwybodaeth neu help arall i’r awdurdod, sy’n ofynnol ganddo at ddiben arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r person ei hun, neu

(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer swyddogaethau’r person.

(3)Rhaid i berson sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (1) roi rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad i’r awdurdod lleol a wnaeth y cais.

(4)Y personau yw—

(a)awdurdod lleol arall;

(b)awdurdod lleol yn Lloegr;

(c)corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr;

(d)corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;

(e)perchennog Academi;

(f)tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal yng Nghymru neu yn Lloegr;

(g)person a chanddo gyfrifoldeb am lety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr;

(h)Bwrdd Iechyd Lleol;

(i)ymddiriedolaeth GIG;

(j)Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol;

(k)grŵp comisiynu clinigol;

(l)ymddiriedolaeth sefydledig GIG;

(m)Awdurdod Iechyd Arbennig.

(5)Caiff rheoliadau ddarparu, pan fo person o dan ddyletswydd i gydymffurfio â chais o dan yr adran hon, fod rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais o fewn cyfnod rhagnodedig, oni bai bod eithriad rhagnodedig yn gymwys.

66Hawl awdurdod lleol i gael mynediad i fangreoedd ysgolion a sefydliadau eraill

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn cynnal cynllun datblygu unigol o dan y Rhan hon ar gyfer plentyn neu berson ifanc.

(2)Mae hawl gan berson sydd wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod lleol i gael mynediad ar unrhyw adeg resymol i unrhyw fan lle y darperir addysg neu hyfforddiant ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc ym mangre sefydliad a restrir yn is-adran (3) os yw mynediad i’r man hwnnw’n angenrheidiol at ddiben arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan y Rhan hon.

(3)Y sefydliadau yw—

(a)ysgol annibynnol yng Nghymru neu yn Lloegr;

(b)ysgol a gynhelir yn ardal awdurdod lleol arall yng Nghymru neu yn Lloegr;

(c)sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;

(d)Academi;

(e)ysgol arbennig nas cynhelir;

(f)sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr o dan adran 56.

67Darparu nwyddau neu wasanaethau mewn perthynas â darpariaeth ddysgu ychwanegol

(1)Caiff rheoliadau ddarparu i awdurdod lleol gyflenwi nwyddau neu wasanaethau i—

(a)person sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon, neu

(b)person sy’n gwneud darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Caiff y rheoliadau, ymhlith pethau eraill, ddarparu ar gyfer y telerau a’r amodau y caniateir i nwyddau a gwasanaethau gael eu cyflenwi yn unol â hwy.

PENNOD 4OSGOI A DATRYS ANGHYTUNDEBAU

Trefniadau awdurdodau lleol

68Trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau

(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau gyda golwg ar osgoi a datrys anghytundebau rhwng—

(a)cyrff addysg, a

(b)plant neu bobl ifanc y mae’r awdurdod yn gyfrifol amdanynt, neu yn achos plant o’r fath, eu rhieni,

ynghylch arfer gan gyrff addysg eu swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau gyda golwg ar osgoi a datrys anghytundebau rhwng—

(a)perchenogion sefydliadau perthnasol, a

(b)plant neu bobl ifanc y mae’r awdurdod yn gyfrifol amdanynt ac sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac, yn achos plant o’r fath, eu rhieni,

ynghylch y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a wneir ar gyfer plant neu bobl ifanc.

(3)Rhaid i’r trefniadau o dan is-adrannau (1) a (2) gynnwys darpariaeth i bartïon mewn anghytundeb gael mynediad at help i’w ddatrys oddi wrth bersonau sy’n annibynnol ar y partïon.

(4)Rhaid i awdurdod lleol hybu’r defnydd o’r trefniadau a wneir o dan yr adran hon.

(5)Rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i roi gwybod i blant, eu rhieni a phobl ifanc nad yw trefniadau a wneir o dan yr adran hon yn effeithio ar unrhyw hawliau a all fod ganddynt i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “corff addysg” yw unrhyw un o’r canlynol—

(a)corff llywodraethu ysgol a gynhelir;

(b)corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach;

(c)awdurdod lleol.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “sefydliad perthnasol” yw—

(a)ysgol a gynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr;

(b)sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;

(c)sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol ar y rhestr a gynhelir o dan adran 56;

(d)ysgol annibynnol yng Nghymru neu yn Lloegr;

(e)ysgol arbennig nas cynhelir;

(f)Academi.

(8)At ddibenion yr adran hon ac adran 69 mae awdurdod lleol hefyd yn gyfrifol am blant y mae’n gofalu amdanynt nad ydynt yn ei ardal.

69Gwasanaethau eirioli annibynnol

(1)Rhaid i awdurdod lleol—

(a)gwneud trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer y plant a’r bobl ifanc y mae’n gyfrifol amdanynt;

(b)atgyfeirio unrhyw blentyn neu berson ifanc y mae’n gyfrifol amdano sy’n gofyn am wasanaethau eirioli annibynnol i ddarparwr gwasanaeth eirioli annibynnol;

(c)atgyfeirio unrhyw berson sy’n gyfaill achos i blentyn y mae’n gyfrifol amdano ac sy’n gofyn am wasanaethau eirioli annibynnol i ddarparwr gwasanaeth eirioli annibynnol.

(2)Yn yr adran hon ystyr “gwasanaethau eirioli annibynnol” yw cyngor a chymorth (drwy gynrychiolaeth neu fel arall) i blentyn, person ifanc neu gyfaill achos—

(a)sy’n gwneud, neu sy’n bwriadu gwneud, apêl i Dribiwnlys Addysg Cymru o dan y Rhan hon,

(b)sy’n ystyried pa un ai i apelio i’r Tribiwnlys ai peidio, neu

(c)sy’n cymryd rhan, neu sy’n bwriadu cymryd rhan, mewn trefniadau a wneir o dan adran 68.

(3)Wrth wneud trefniadau o dan yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i’r egwyddor bod rhaid i unrhyw wasanaethau a ddarperir o dan y trefniadau fod yn annibynnol ar unrhyw berson sydd—

(a)yn destun apêl i’r Tribiwnlys, neu

(b)yn ymwneud ag ymchwilio i apêl o’r fath neu ddyfarnu arni.

(4)Caiff y trefniadau gynnwys darpariaeth i’r awdurdod lleol wneud taliadau i unrhyw berson, neu mewn perthynas ag unrhyw berson, sy’n cyflawni swyddogaethau yn unol â’r trefniadau a wneir o dan yr adran hon.

Apelau a cheisiadau i’r Tribiwnlys

70Hawliau o ran apelau a cheisiadau

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys—

(a)i benderfyniadau corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol;

(b)i gynlluniau datblygu unigol a lunnir neu a gynhelir gan gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol;

(c)i gynlluniau datblygu unigol a ddiwygir gan awdurdod lleol o dan adran 27(6).

(2)Caiff plentyn neu berson ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn, apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru yn erbyn y materion a ganlyn—

(a)penderfyniad gan gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru o dan adran 11 neu gan awdurdod lleol o dan adran 13, 18 neu 26 o ran a oes gan berson anghenion dysgu ychwanegol;

(b)yn achos person ifanc, penderfyniad gan awdurdod lleol o dan adran 14(1)(c)(ii) o ran a oes angen llunio a chynnal cynllun datblygu unigol;

(c)y disgrifiad o anghenion dysgu ychwanegol person mewn cynllun datblygu unigol;

(d)y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cynllun datblygu unigol neu’r ffaith nad yw darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cynllun (gan gynnwys a yw’r cynllun yn pennu y dylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg);

(e)y ddarpariaeth a gynhwysir mewn cynllun datblygu unigol o dan adran 14(6) neu 19(4) neu’r ffaith nad yw darpariaeth o dan yr adrannau hynny yn y cynllun;

(f)yr ysgol a enwir mewn cynllun datblygu unigol at ddiben adran 48;

(g)os nad enwir ysgol mewn cynllun datblygu unigol at ddiben adran 48, y ffaith honno;

(h)penderfyniad o dan adran 27 i beidio â diwygio cynllun datblygu unigol;

(i)penderfyniad o dan adran 28 i beidio â chymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynllun datblygu unigol yn dilyn cais i ystyried gwneud hynny;

(j)penderfyniad i beidio â chynnal cynllun datblygu unigol o dan adran 31(5) neu 31(6);

(k)penderfyniad o dan adran 32(2) y dylai corff llywodraethu ysgol a gynhelir beidio â chynnal cynllun;

(l)gwrthodiad i benderfynu ar fater ar y sail bod adran 11(3)(b), 13(2)(b), 18(2)(b) neu 29(2)(a) yn gymwys (dim newid sylweddol mewn anghenion a dim gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad).

(3)Caiff plentyn neu riant plentyn wneud cais i Dribiwnlys Addysg Cymru am ddatganiad bod gan y plentyn y galluedd neu nad oes ganddo’r galluedd i ddeall—

(a)gwybodaeth y mae rhaid ei rhoi i blentyn neu ddogfennau y mae rhaid eu rhoi i blentyn o dan y Rhan hon, neu

(b)yr hyn y mae arfer yr hawliau a roddir i blentyn gan y Rhan hon yn ei olygu.

(4)Mae arfer hawliau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i—

(a)darpariaeth a wneir gan reoliadau o dan adrannau 74, 75, 83 ac 85(8);

(b)adran 85(4).

71Penderfyniadau ar apelau a cheisiadau o dan adran 70

(1)Ar apêl o dan adran 70(2), caiff Tribiwnlys Addysg Cymru—

(a)gwrthod yr apêl;

(b)gorchymyn bod gan berson, neu nad oes gan berson, anghenion dysgu ychwanegol o fath a bennir yn y gorchymyn;

(c)gorchymyn i gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol lunio cynllun datblygu unigol;

(d)gorchymyn i gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol ddiwygio cynllun datblygu unigol fel a bennir yn y gorchymyn;

(e)gorchymyn i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol barhau i gynnal cynllun datblygu unigol (gyda diwygiadau neu hebddynt);

(f)gorchymyn i awdurdod lleol gymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal cynllun datblygu unigol;

(g)gorchymyn i gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol adolygu cynllun datblygu unigol;

(h)anfon yr achos yn ôl i gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru sy’n gyfrifol am y mater neu i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y mater er mwyn iddo ailystyried, ar ôl rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wneir gan y Tribiwnlys, a oes angen gwneud penderfyniad gwahanol neu gymryd camau gwahanol.

(2)Ar gais o dan adran 70(3) mewn cysylltiad â phlentyn, caiff Tribiwnlys Addysg Cymru ddatgan naill ai bod gan y plentyn y galluedd neu nad oes ganddo’r galluedd i ddeall—

(a)gwybodaeth y mae rhaid ei rhoi neu ddogfennau y mae rhaid eu rhoi i blentyn o dan y Rhan hon, neu

(b)yr hyn y mae arfer yr hawliau a roddir i blentyn gan y Rhan hon yn ei olygu.

72Hawliau o ran apelio: personau sy’n cael eu cadw’n gaeth

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys—

(a)i benderfyniadau awdurdod cartref yng Nghymru o dan adran 40;

(b)i gynlluniau datblygu unigol a gedwir gan awdurdod cartref o dan adran 42.

(2)Caiff person sy’n cael ei gadw’n gaeth ac, yn achos person sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn, rhiant y person sy’n cael ei gadw’n gaeth, apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru yn erbyn y materion a ganlyn—

(a)penderfyniad gan yr awdurdod cartref o ran a oes gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol;

(b)penderfyniad gan yr awdurdod cartref o ran a fydd angen i gynllun datblygu unigol gael ei gynnal ar gyfer person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff y person ei ryddhau;

(c)y disgrifiad o anghenion dysgu ychwanegol person mewn cynllun datblygu unigol;

(d)y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cynllun datblygu unigol neu’r ffaith nad yw darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cynllun (gan gynnwys a yw’r cynllun yn pennu y dylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg);

(e)y ddarpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn cynllun datblygu unigol o dan adran 40(7) neu’r ffaith nad yw darpariaeth o dan o dan yr adran honno yn y cynllun;

(f)yr ysgol a enwir mewn cynllun datblygu unigol at ddiben adran 48;

(g)os nad enwir ysgol mewn cynllun datblygu unigol at ddiben adran 48, y ffaith honno;

(h)gwrthodiad i wneud penderfyniad o dan adran 40(2) ar y sail bod adran 41(2)(b) yn gymwys (dim newid sylweddol mewn anghenion a dim gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad).

(3)Mae arfer hawliau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i—

(a)darpariaeth a wneir gan reoliadau o dan adrannau 74, 75, 83 ac 85(8);

(b)adran 85(4).

73Penderfyniadau ar apelau o dan adran 72

Ar apêl o dan adran 72, caiff Tribiwnlys Addysg Cymru—

(a)gwrthod yr apêl;

(b)gorchymyn bod gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth neu nad oes gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol o fath a bennir yn y gorchymyn;

(c)gorchymyn i awdurdod cartref lunio cynllun datblygu unigol;

(d)gorchymyn i awdurdod cartref ddiwygio cynllun datblygu unigol fel a bennir yn y gorchymyn;

(e)anfon yr achos yn ôl i’r awdurdod cartref sy’n gyfrifol am y mater er mwyn iddo ailystyried, ar ôl rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wneir gan y Tribiwnlys, a oes angen gwneud penderfyniad gwahanol neu gymryd camau gwahanol.

74Rheoliadau ynghylch apelau a cheisiadau

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch apelau a cheisiadau i Dribiwnlys Addysg Cymru o dan y Rhan hon, gan gynnwys, er enghraifft, ddarpariaeth—

(a)ynghylch materion eraill yn ymwneud â chynllun datblygu unigol y gellir dwyn apêl yn ei erbyn;

(b)ynghylch gwneud apelau neu geisiadau a dyfarnu arnynt;

(c)sy’n rhoi pwerau pellach i’r Tribiwnlys wrth ddyfarnu ar apelau neu geisiadau;

(d)ar gyfer apelau neu geisiadau heb wrthwynebiad.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(c) gynnwys darpariaeth sy’n rhoi pŵer i’r Tribiwnlys, wrth ddyfarnu ar apêl yn erbyn mater neu wrth ddyfarnu ar gais, i wneud argymhellion mewn cysylltiad â materion eraill (gan gynnwys materion na chaniateir i apêl gael ei dwyn neu i gais gael ei ddwyn yn eu herbyn).

75Rheoliadau ynghylch y weithdrefn

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)cychwyn apêl neu gais o dan y Rhan hon;

(b)trafodion Tribiwnlys Addysg Cymru ar apêl neu gais o dan y Rhan hon.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth—

(a)o ran y cyfnod y mae apelau neu geisiadau i gael eu cychwyn ynddo a’r dull ar gyfer cychwyn apelau neu geisiadau;

(b)pan fo awdurdodaeth y Tribiwnlys yn cael ei harfer gan fwy nag un tribiwnlys—

(i)ar gyfer penderfynu pa dribiwnlys sydd i wrando ar unrhyw apêl neu gais, a

(ii)ar gyfer trosglwyddo trafodion o un tribiwnlys i dribiwnlys arall;

(c)ar gyfer galluogi i unrhyw swyddogaethau sy’n ymwneud â materion sy’n rhagarweiniol i apêl neu gais neu faterion sy’n gysylltiedig ag apêl neu gais gael eu cyflawni gan y Llywydd neu gan y cadeirydd cyfreithiol;

(d)i wrandawiadau gael eu cynnal yn absenoldeb aelod ac eithrio’r cadeirydd cyfreithiol;

(e)o ran y personau a gaiff ymddangos ar ran y partïon;

(f)ar gyfer rhoi unrhyw hawliau o ran datgelu neu arolygu dogfennau neu o ran manylion pellach y caniateir i’r llys sirol eu rhoi;

(g)sy’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau fod yn bresennol i roi tystiolaeth a dangos dogfennau;

(h)ar gyfer awdurdodi i lwon gael eu gweinyddu ar gyfer tystion;

(i)ar gyfer dyfarnu ar apelau neu geisiadau heb wrandawiad o dan amgylchiadau rhagnodedig;

(j)o ran tynnu apelau neu geisiadau yn ôl;

(k)o ran dyfarnu costau neu dreuliau;

(l)ar gyfer asesu neu setlo fel arall unrhyw gostau neu dreuliau (ac, yn benodol, ar gyfer galluogi i gostau neu dreuliau o’r fath gael eu hasesu yn y llys sirol);

(m)ar gyfer cofrestru penderfyniadau a gorchmynion a chael prawf ohonynt;

(n)ar gyfer galluogi’r Tribiwnlys i adolygu ei benderfyniadau, neu i ddirymu neu amrywio ei orchmynion, o dan amgylchiadau rhagnodedig;

(o)ar gyfer galluogi’r Tribiwnlys i atal trafodion;

(p)ar gyfer ychwanegu ac amnewid partïon;

(q)ar gyfer galluogi delio ag apelau neu geisiadau gan bersonau gwahanol gyda’i gilydd;

(r)i apêl neu gais o dan y Rhan hon gael ei gwrando neu ei wrando, o dan amgylchiadau a ragnodir yn y rheoliadau, gyda hawliad o dan Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15).

(3)Rhaid i drafodion gerbron y Tribiwnlys gael eu cynnal yn breifat, ac eithrio o dan amgylchiadau rhagnodedig.

(4)Nid yw Rhan 1 o Ddeddf Cymrodeddu 1996 (p. 23) yn gymwys i unrhyw drafodion gerbron y Tribiwnlys, ond caiff rheoliadau wneud darpariaeth sy’n cyfateb i unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan honno.

76Cyrff GIG: tystiolaeth ac argymhellion y Tribiwnlys

(1)Caiff Tribiwnlys Addysg Cymru, mewn perthynas ag apêl o dan y Rhan hon,—

(a)arfer ei swyddogaethau i’w gwneud yn ofynnol i gorff GIG roi tystiolaeth ynghylch arfer swyddogaethau’r corff;

(b)gwneud argymhellion i gorff GIG ynghylch arfer swyddogaethau’r corff.

(2)Nid oes dim yn is-adran (1) sy’n effeithio ar gyffredinolrwydd y pwerau i wneud rheoliadau yn adrannau 74 a 75.

(3)Rhaid i gorff GIG y gwnaed argymhelliad iddo gan y Tribiwnlys lunio adroddiad i’r Tribiwnlys cyn diwedd unrhyw gyfnod rhagnodedig sy’n dechrau â’r dyddiad y gwneir yr argymhelliad.

(4)Rhaid i’r adroddiad o dan is-adran (3) nodi—

(a)y camau y mae’r corff GIG wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r argymhelliad, neu

(b)pam nad yw’r corff GIG wedi cymryd unrhyw gamau a pham nad yw’n bwriadu cymryd unrhyw gamau mewn ymateb i’r argymhelliad.

77Cydymffurfedd â gorchmynion

(1)Os yw Tribiwnlys Addysg Cymru yn gwneud gorchymyn o dan y Rhan hon, rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol o dan sylw gydymffurfio â’r gorchymyn cyn diwedd unrhyw gyfnod rhagnodedig sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff ei wneud.

(2)Rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol o dan sylw lunio adroddiad i’r Tribiwnlys yn datgan a yw wedi cydymffurfio â’r gorchymyn a sut y gwnaeth gydymffurfio â’r gorchymyn, cyn diwedd cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod a ragnodir o dan is-adran (1).

78Pŵer i rannu dogfennau a gwybodaeth arall â Gweinidogion Cymru

Caiff Tribiwnlys Addysg Cymru rannu â Gweinidogion Cymru unrhyw ddogfen neu wybodaeth arall sydd yn ei feddiant sy’n ymwneud â pha un a fu neu a fydd cydymffurfedd â gorchymyn neu argymhelliad a wnaed gan y Tribiwnlys o dan y Rhan hon ai peidio neu sy’n ymwneud â pha un a gafodd neu a gaiff gorchymyn neu argymhelliad o’r fath ei ddilyn ai peidio.

79Trosedd

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad—

(a)mewn cysylltiad â datgelu neu arolygu dogfennau, neu

(b)i fod yn bresennol i roi tystiolaeth a dangos dogfennau,

pan fo’r gofyniad hwnnw wedi ei osod drwy reoliadau o dan adran 74 neu 75 mewn perthynas ag apêl neu gais o dan adran 70 neu 72.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

80Lwfansau am fod yn bresennol yn Nhribiwnlys Addysg Cymru

Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau at ddiben presenoldeb personau yn Nhribiwnlys Addysg Cymru neu mewn cysylltiad â hynny.

81Apelau o Dribiwnlys Addysg Cymru i’r Uwch Dribiwnlys

(1)Caiff parti i unrhyw drafodion o dan adran 70 neu 72 gerbron Tribiwnlys Addysg Cymru apelio i’r Uwch Dribiwnlys ar unrhyw bwynt cyfreithiol sy’n deillio o benderfyniad a wneir gan Dribiwnlys Addysg Cymru yn y trafodion hynny.

(2)Dim ond os yw Tribiwnlys Addysg Cymru neu’r Uwch Dribiwnlys, ar gais a wneir gan y parti o dan sylw, wedi rhoi ei ganiatâd y caniateir i apêl gael ei dwyn o dan is-adran (1).

(3)Mae adran 12 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 (p. 15) (trafodion ar apêl i’r Uwch Dribiwnlys) yn gymwys mewn perthynas ag apelau i’r Uwch Dribiwnlys o dan yr adran hon fel y mae’n gymwys mewn perthynas ag apelau iddo o dan adran 11 o’r Ddeddf honno, ond fel pe bai cyfeiriadau at y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gyfeiriadau at Dribiwnlys Addysg Cymru.

PENNOD 5CYFFREDINOL

Gwybodaeth

82Rheoliadau ynghylch datgelu a defnyddio gwybodaeth

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch datgelu neu ddefnyddio gwybodaeth at ddibenion y Rhan hon neu at ddibenion eraill sy’n gysylltiedig ag addysg plentyn neu berson ifanc.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), er enghraifft—

(a)pennu personau pellach y mae rhaid rhoi hysbysiad o benderfyniadau iddynt (gan gynnwys, mewn achosion penodedig, roi hysbysiad o benderfyniadau heb gydsyniad y person y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef neu, yn achos plentyn, heb gydsyniad rhiant y person hwnnw);

(b)pennu personau pellach y mae rhaid darparu copïau ysgrifenedig o gynllun iddynt (gan gynnwys, mewn achosion penodedig, ddarparu copïau heb gydsyniad y person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef neu, yn achos plentyn, heb gydsyniad rhiant y person hwnnw);

(c)gwneud darpariaeth ynghylch datgelu cynlluniau;

(d)gwneud darpariaeth ynghylch defnyddio’r wybodaeth a gesglir wrth lunio a chynnal cynlluniau.

Galluedd

83Rhieni a phobl ifanc nad oes ganddynt alluedd

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau at ddiben rhoi effaith i’r Rhan hon mewn achos pan na fo gan riant plentyn, neu pan na fo gan berson ifanc, alluedd ar yr adeg berthnasol.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth sy’n cymhwyso unrhyw ddeddfiad gydag addasiadau, gan gynnwys (er enghraifft) ddarpariaeth—

(a)i gyfeiriadau at riant plentyn gael eu dehongli fel cyfeiriadau at, neu fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at, gynrychiolydd y rhiant;

(b)i gyfeiriadau at berson ifanc gael eu dehongli fel cyfeiriadau at, neu fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at, gynrychiolydd y person ifanc, rhiant y person ifanc, neu gynrychiolydd rhiant y person ifanc;

(c)i addasiadau gael effaith er gwaethaf adran 27(1)(g) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p. 9) (nad yw’n caniatáu i benderfyniadau ar gyflawni cyfrifoldebau rhiant mewn materion nad ydynt yn ymwneud ag eiddo plentyn gael eu gwneud ar ran person).

(3)Yn is-adran (1), ystyr “yr adeg berthnasol” yw’r adeg, o dan y deddfiad o dan sylw, pan fo’n ofynnol, neu pan ganiateir, i rywbeth gael ei wneud gan y rhiant neu’r person ifanc neu mewn perthynas â’r rhiant neu’r person ifanc.

(4)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at fod heb alluedd yn gyfeiriad at fod heb alluedd o fewn yr ystyr a roddir i “lacking capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005.

(5)Ystyr “cynrychiolydd”, mewn perthynas â rhiant neu berson ifanc, yw—

(a)dirprwy a benodir gan y Llys Gwarchod o dan adran 16(2)(b) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 i wneud penderfyniadau ar ran y rhiant neu’r person ifanc mewn perthynas â materion o fewn y Rhan hon;

(b)rhoddai atwrneiaeth arhosol (o fewn yr ystyr a roddir i “lasting power of attorney” yn adran 9 o’r Ddeddf honno) a benodir gan y rhiant neu’r person ifanc i wneud penderfyniadau ar ei ran mewn perthynas â materion o fewn y Rhan hon;

(c)atwrnai y mae atwrneiaeth barhaus (o fewn yr ystyr a roddir i “enduring power of attorney” yn Atodlen 4 i’r Ddeddf honno) sydd wedi ei chreu gan y rhiant neu’r person ifanc wedi ei breinio ynddo, pan fo’r atwrneiaeth wedi ei chofrestru yn unol â pharagraffau 4 a 13 o’r Atodlen honno neu pan fo cais i gofrestru’r atwrneiaeth wedi ei wneud.

84Galluedd plant

(1)Mae is-adrannau (2) i (7) yn gymwys—

(a)i’r ddyletswydd i hysbysu plentyn neu i roi gwybod i blentyn o dan adran 11(4), 13(3), 18(3), 22(2), 23(10), 24(9), 27(4), 28(4), 28(7), 31(7), 31(8), 31(9), 32(3), 40(4) neu 42(6);

(b)i’r ddyletswydd i roi copi o gynllun neu gynllun diwygiedig i blentyn o dan adran 22(1), 23(11), 24(10) neu 40(5);

(c)i’r amodau ym mharagraffau (a) a (b) o adran 20(3) fel y bônt yn gymwys i blentyn;

(d)i’r ddyletswydd i adolygu cynllun yn dilyn cais gan blentyn o dan adran 23(8) neu 24(7);

(e)i’r ddyletswydd i ailystyried yn dilyn cais gan blentyn o dan adran 26(1), 27(1) neu 32(1)(b);

(f)i’r ddyletswydd i benderfynu yn dilyn cais gan blentyn o dan adran 28(1).

(2)Nid yw’r amod neu’r ddyletswydd yn gymwys os yw’r corff llywodraethu, yr awdurdod lleol neu’r corff GIG (yn ôl y digwydd) yn ystyried nad oes gan y plentyn y galluedd i ddeall y mater o dan sylw, oni bai bod is-adran (3) yn gymwys.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys os—

(a)yn achos penderfyniad gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir, yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn yn rhoi gwybod i’r corff llywodraethu ei fod yn ystyried bod gan y plentyn y galluedd i ddeall y mater o dan sylw,

(b)oes cyfaill achos wedi ei benodi ar gyfer y plentyn o dan adran 85 drwy orchymyn gan Dribiwnlys Addysg Cymru, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth yn neu o dan yr adran honno, neu

(c)oes datganiad wedi ei wneud gan Dribiwnlys Addysg Cymru o dan adran 71(2) fod gan y plentyn y galluedd i ddeall y mater o dan sylw.

(4)Nid yw’r amod neu’r ddyletswydd yn gymwys i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir os yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn yn rhoi gwybod i’r corff llywodraethu fod yr awdurdod yn ystyried nad oes gan y plentyn y galluedd i ddeall y mater o dan sylw.

(5)Mae is-adran (6) yn gymwys pan—

(a)bo corff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ystyried bod naill ai gan blentyn y galluedd neu nad oes ganddo’r galluedd i ddeall mater sy’n ymwneud ag arfer swyddogaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi, a

(b)bo’r plentyn neu riant y plentyn yn gofyn i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn ailystyried hynny.

(6)Rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a oes gan y plentyn y galluedd i ddeall y mater o dan sylw.

(7)Nid yw’r amod neu’r ddyletswydd yn gymwys os yw Tribiwnlys Addysg Cymru yn datgan o dan adran 71(2) nad oes gan y plentyn y galluedd i ddeall.

(8)Yn yr adran hon ystyr “y galluedd i ddeall y mater” yw’r galluedd i ddeall—

(a)gwybodaeth y mae rhaid ei rhoi neu ddogfennau y mae rhaid eu rhoi i blentyn o dan y Rhan hon, neu

(b)yr hyn y mae arfer yr hawliau a roddir i blentyn gan y Rhan hon yn ei olygu.

85Cyfeillion achos ar gyfer plant nad oes ganddynt alluedd

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i blentyn nad oes ganddo’r galluedd i ddeall—

(a)gwybodaeth y mae rhaid ei rhoi neu ddogfennau y mae rhaid eu rhoi i blentyn o dan y Rhan hon, neu

(b)yr hyn y mae arfer yr hawliau a roddir i blentyn gan y Rhan hon yn ei olygu.

(2)Caiff Tribiwnlys Addysg Cymru drwy orchymyn—

(a)penodi person i fod yn gyfaill achos ar gyfer plentyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo, neu

(b)diswyddo’r person rhag bod yn gyfaill achos ar gyfer y plentyn,

ar gais unrhyw berson neu ar ei ysgogiad ei hun, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth mewn rheoliadau o dan is-adran (8).

(3)Caiff cyfaill achos a benodir ar gyfer plentyn o dan yr adran hon—

(a)cynrychioli a chefnogi’r plentyn, a

(b)gwneud penderfyniadau a gweithredu ar ran y plentyn,

mewn cysylltiad â materion sy’n codi o dan neu yn rhinwedd y Rhan hon, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth mewn rheoliadau o dan is-adran (8).

(4)Pan fo person wedi ei benodi i fod yn gyfaill achos drwy orchymyn gan y Tribiwnlys o dan yr adran hon, mae hawliau plentyn o dan y darpariaethau yn is-adran (5) i gael eu harfer gan y cyfaill achos ar ran y plentyn ac mae’r darpariaethau i gael eu dehongli yn unol â hynny.

(5)Y darpariaethau yw—

(a)adrannau 11(4), 13(3), 18(3), 22(2), 23(10), 24(9), 27(4), 28(4), 28(7), 31(7), 31(8), 31(9), 32(3), 40(4) a 42(6) (dyletswyddau i hysbysu neu i roi gwybod);

(b)adrannau 22(1), 23(11), 24(10) a 40(5) (dyletswyddau i roi copi o gynllun neu gynllun diwygiedig);

(c)adran 20(3) (dyletswydd i roi gwybod a rhoi cyfle i drafod);

(d)adrannau 23(8) a 24(7) (dyletswydd i adolygu cynllun yn dilyn cais);

(e)adran 26(1), 27(1) a 32(1)(b) (dyletswyddau i ailystyried yn dilyn cais);

(f)adran 28(1) (dyletswydd i benderfynu yn dilyn cais);

(g)adran 70(2) (yr hawl i apelio);

(h)adran 72 (yr hawl i apelio: personau sy’n cael eu cadw’n gaeth).

(6)O ran cyfaill achos sydd wedi ei benodi o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo weithredu’n deg ac yn gymwys,

(b)ni chaiff fod ag unrhyw fuddiant sy’n groes i fuddiant y plentyn,

(c)rhaid iddo sicrhau bod yr holl gamau a gymerir a’r holl benderfyniadau a wneir gan y cyfaill achos er budd y plentyn, a

(d)rhaid iddo ystyried safbwyntiau’r plentyn, i’r graddau y bo’n bosibl.

(7)Wrth benderfynu pa un ai i benodi person i fod yn gyfaill achos ai peidio neu benderfynu pa un ai i ddiswyddo cyfaill achos ai peidio, rhaid i’r Tribiwnlys roi sylw, yn benodol, i a yw’r person yn debygol o gydymffurfio (yn achos penodi) neu a yw wedi cydymffurfio (yn achos diswyddo) â’r ddyletswydd yn is-adran (6).

(8)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch cyfeillion achos, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth—

(a)sy’n rhoi swyddogaethau i Dribiwnlys Addysg Cymru;

(b)sy’n rhoi swyddogaethau i gyfeillion achos;

(c)ynghylch gweithdrefnau mewn perthynas â chyfeillion achos;

(d)sy’n pennu’r amgylchiadau pan gaiff person neu pan na chaiff person weithredu fel cyfaill achos;

(e)sy’n pennu’r amgylchiadau pan fydd rhaid i blentyn gael cyfaill achos;

(f)sy’n pennu gofynion mewn cysylltiad ag ymddygiad cyfeillion achos;

(g)sy’n cymhwyso unrhyw ddeddfiad gydag addasiadau neu hebddynt at ddiben galluogi cyfaill achos i wneud penderfyniadau neu i weithredu ar ran plentyn mewn cysylltiad â materion sy’n codi o dan neu yn rhinwedd y Rhan hon.

Cyrsiau addysg uwch a ddarperir gan sefydliadau addysg bellach

86 Myfyrwyr mewn sefydliadau addysg bellach sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch

(1)At ddibenion y Rhan hon, nid yw myfyriwr addysg uwch mewn sefydliad yn y sector addysg bellach i gael ei drin fel pe bai wedi ymrestru’n fyfyriwr yn y sefydliad.

(2)Nid yw’r ddyletswydd a osodir ar awdurdod lleol gan adran 68(2) (trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau) yn gymwys i’r graddau y byddai’n gymwys fel arall mewn perthynas â pherson ifanc i’r graddau y mae’r person hwnnw yn fyfyriwr addysg uwch mewn sefydliad yn y sector addysg bellach.

(3)Mae person yn fyfyriwr addysg uwch mewn sefydliad yn y sector addysg bellach os yw’r person yn dilyn cwrs addysg uwch a ddarperir gan y sefydliad ac nad yw’r person hefyd yn cael addysg neu hyfforddiant a ddarperir ganddo.

(4)Pan fo person sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yn cael addysg neu hyfforddiant a ddarperir gan y sefydliad hwnnw, a hefyd yn dilyn cwrs addysg uwch a ddarperir ganddo, mae’r person yn fyfyriwr addysg uwch yn y sefydliad mewn perthynas â’r cwrs addysg uwch (ond mae fel arall i gael ei drin fel pe bai wedi ymrestru’n fyfyriwr yn y sefydliad).

(5)Yn yr adran hon, ystyr “cwrs addysg uwch” yw cwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40).

Disgyblion a myfyrwyr mewn sefydliadau yng Nghymru sy’n preswylio yn Lloegr

87Cymhwyso darpariaethau ailystyried i ddisgyblion a myfyrwyr sy’n preswylio yn Lloegr

(1)Mae is-adrannau (2) a (3) o’r adran hon yn gymwys i blentyn neu berson ifanc sydd—

(a)yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr, a

(b)yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru.

(2)Mae adrannau 26, 27, 29 (fel y mae’n gymwys i adrannau 26 a 27 yn unig) a 32 yn gymwys i’r plentyn neu’r person ifanc gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)yn adran 26(1)(b), 27(1)(b) a 32(1)(b), yn lle “i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc” rhodder “i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol”;

(b)yn adran 27(1)(a), yn lle “neu 12(3)” rhodder “, 12(3) neu 12(5)”;

(c)yn adran 29(2), hepgorer paragraff (b);

(d)ym mhob un o’r adrannau mae’r cyfeiriadau eraill at “awdurdod lleol” i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol;

(e)ni chaniateir i’r ddyletswydd yn adran 27(6) gael ei chyflawni ond yn unol â pharagraff (a) o’r ddarpariaeth honno.

(3)Mae adran 14 yn gymwys i’r plentyn neu’r person ifanc yn rhinwedd is-adran (2) ac adran 26(4) gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)yn adran 14(1), hepgorer “os yw awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc ac”;

(b)mae’r cyfeiriadau at “awdurdod lleol” i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol;

(c)ni chaniateir i’r ddyletswydd yn adran 14(2) gael ei chyflawni ond yn unol â pharagraff (b) o’r ddarpariaeth honno;

(d)nid yw’r ddyletswydd yn adran 14(2) yn gymwys—

(i)os yw’r awdurdod lleol yn gofyn i awdurdod lleol yn Lloegr sicrhau asesiad o dan adran 36 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) ac os yw’r awdurdod yn Lloegr, yn rhinwedd y cais hwnnw neu fel arall, yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 24(1) o’r Ddeddf honno), neu

(ii)os yw awdurdod lleol yn Lloegr yn cynnal cynllun AIG ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc;

(e)os yw’r awdurdod lleol, yn dilyn cais o dan baragraff (d)(i), yn cael ei hysbysu gan yr awdurdod lleol yn Lloegr nad yw’n ofynnol iddo sicrhau cynllun AIG ar gyfer y plentyn, mae’r ddyletswydd yn adran 14(2) yn gymwys eto mewn cysylltiad â’r plentyn neu’r person ifanc;

(f)nid yw is-adrannau (6) i (10) o adran 14 yn gymwys.

(4)Mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc sydd yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr at ddibenion adran 68 a 69—

(a)os yw’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, neu

(b)os yw wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yn ardal yr awdurdod.

Rhoi hysbysiad etc.

88Rhoi hysbysiad etc. o dan y Rhan hon

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol (ar ba delerau bynnag) i gorff llywodraethu neu awdurdod lleol, neu’n awdurdodi (ar ba delerau bynnag) corff llywodraethu neu awdurdod lleol i—

(a)hysbysu person am rywbeth, neu

(b)rhoi dogfen i berson (gan gynnwys hysbysiad neu gopi o ddogfen).

(2)Caniateir i’r hysbysiad gael ei roi neu i’r ddogfen gael ei rhoi i’r person o dan sylw—

(a)drwy ddanfon yr hysbysiad neu’r ddogfen at y person,

(b)drwy anfon yr hysbysiad neu’r ddogfen drwy’r post i gyfeiriad cywir y person,

(c)drwy adael yr hysbysiad neu’r ddogfen yng nghyfeiriad cywir y person, neu

(d)os yw’r amodau yn is-adran (3) wedi eu bodloni, drwy anfon yr hysbysiad neu’r ddogfen yn electronig.

(3)Ni chaiff corff llywodraethu nac awdurdod lleol anfon hysbysiad neu ddogfen at berson yn electronig ond os yw’r gofynion a ganlyn wedi eu bodloni—

(a)rhaid i’r person y mae’r hysbysiad i gael ei roi iddo neu y mae’r ddogfen i gael ei rhoi iddo—

(i)bod wedi nodi wrth y corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol barodrwydd i gael yr hysbysiad neu’r ddogfen yn electronig, a

(ii)bod wedi darparu i’r corff llywodraethu neu i’r awdurdod lleol gyfeiriad sy’n addas at y diben hwnnw, a

(b)mae’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol yn anfon yr hysbysiad neu’r ddogfen i’r cyfeiriad hwnnw.

(4)At ddibenion yr adran hon ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) (cyfeiriadau at gyflwyno drwy’r post) fel y mae’n gymwys i’r adran hon, cyfeiriad cywir person yw cyfeiriad hysbys diwethaf y person.

(5)Mae hysbysiad neu ddogfen a roddir i berson drwy ei adael neu ei gadael yng nghyfeiriad cywir y person i gael ei drin neu ei thrin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai wedi ei roi neu ei rhoi ar yr adeg y gadawyd yr hysbysiad neu’r ddogfen yn y cyfeiriad hwnnw.

Adolygu darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg

89Adolygu darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru drefnu—

(a)ar gyfer adolygiadau o ddigonolrwydd darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg;

(b)i adroddiadau ar ganlyniad yr adolygiadau gael eu llunio a’u cyhoeddi.

(2)Nid yw is-adran (1) yn atal adolygiadau rhag delio â materion eraill hefyd.

(3)Rhaid cyhoeddi’r adroddiad cyntaf ar ganlyniad adolygiad cyn 1 Medi yn y bumed flwyddyn yn dilyn y flwyddyn y dygir unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Rhan hon i rym drwy orchymyn (pa un ai at bob diben neu at ddibenion cyfyngedig).

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiadau dilynol cyn 1 Medi ym mhob pumed flwyddyn yn dilyn y flwyddyn ddiwethaf yr oedd yn ofynnol cyhoeddi adroddiad.

90Pŵer i ddiwygio dyletswyddau i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i’r darpariaethau a ganlyn—

  • adran 12(7)(b);

  • adran 14(10)(c);

  • adran 19(7)(c);

  • adran 20(5)(c);

  • adran 21(5);

  • adran 42(8)(b).

(2)Caiff rheoliadau hepgor y geiriau “gymryd pob cam rhesymol i” o ddarpariaeth.

(3)Caiff rheoliadau ddarparu bod darpariaeth yn cael effaith fel pe bai’r geiriau “gymryd pob cam rhesymol i” wedi eu hepgor—

(a)at ddiben rhagnodedig,

(b)mewn perthynas â chorff rhagnodedig, neu

(c)at ddiben rhagnodedig mewn perthynas â chorff rhagnodedig.

(4)Os yw’r geiriau “gymryd pob cam rhesymol i” wedi eu hepgor gan reoliadau o dan is-adran (2) o bob darpariaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi, caiff rheoliadau hepgor adran 89.

RHAN 3TRIBIWNLYS ADDYSG CYMRU

91Cyfansoddiad Tribiwnlys Addysg Cymru

(1)Mae Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru i barhau a chaiff ei ailenwi’n Dribiwnlys Addysg Cymru.

(2)Mae’r Tribiwnlys i gael—

(a)Llywydd i’r Tribiwnlys,

(b)panel o bersonau a gaiff wasanaethu fel cadeirydd cyfreithiol y Tribiwnlys (“y panel cadeirydd cyfreithiol”), ac

(c)panel o bersonau a gaiff wasanaethu fel y ddau aelod arall o’r Tribiwnlys ond nid fel y cadeirydd cyfreithiol (“y panel lleyg”).

(3)Mae’r Llywydd i gael ei benodi gan yr Arglwydd Ganghellor gyda chytundeb yr Arglwydd Brif Ustus.

(4)Mae pob aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol i gael ei benodi gan yr Arglwydd Ganghellor gyda chytundeb y Llywydd.

(5)Mae aelodau’r panel lleyg i gael eu penodi gan Weinidogion Cymru gyda chytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol a’r Llywydd.

(6)Caiff rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru—

(a)darparu i awdurdodaeth y Tribiwnlys gael ei harfer gan y nifer hwnnw o dribiwnlysoedd y mae’r Llywydd yn penderfynu arno o bryd i’w gilydd, a

(b)gwneud unrhyw ddarpariaeth arall mewn cysylltiad â sefydlu’r Tribiwnlys a’i barhad yr ystyrir ei bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu staff ac adeiladau ar gyfer y Tribiwnlys.

92Y Llywydd ac aelodau’r paneli

(1)Ni chaniateir i berson gael ei benodi’n Llywydd nac yn aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol oni bai ei fod yn bodloni’r amod cymhwystra penodiad barnwrol ar sail 5 mlynedd.

(2)Ni chaniateir i berson gael ei benodi’n aelod o’r panel lleyg oni bai ei fod yn bodloni gofynion a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Os yw’r Llywydd, ym marn yr Arglwydd Ganghellor a’r Arglwydd Brif Ustus, yn anaddas i barhau mewn swydd neu’n analluog i gyflawni ei ddyletswyddau, caiff yr Arglwydd Ganghellor (gyda chytundeb yr Arglwydd Brif Ustus) ei ddiswyddo.

(4)Mae pob aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol neu’r panel lleyg i ddal a gadael swydd o dan delerau’r offeryn y mae wedi ei benodi odano.

(5)Ond dim ond gyda chytundeb y Llywydd y caniateir i aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol neu’r panel lleyg gael ei ddiswyddo o dan delerau’r offeryn.

(6)O ran y Llywydd neu aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol neu’r panel lleyg—

(a)caiff ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Arglwydd Ganghellor neu (yn ôl y digwydd) i Weinidogion Cymru, a

(b)mae’n gymwys i gael ei ailbenodi os yw’n peidio â dal y swydd.

93Dirprwy Lywydd y Tribiwnlys

(1)Caiff y Llywydd benodi aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol yn Ddirprwy Lywydd y Tribiwnlys.

(2)Mae person a benodir yn Ddirprwy Lywydd y Tribiwnlys yn dal ac yn gadael y swydd honno yn unol â’r telerau penodi.

(3)Mae person yn peidio â bod yn Ddirprwy Lywydd os yw’n peidio â bod yn aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol.

(4)Caiff person ymddiswyddo fel Dirprwy Lywydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Llywydd.

(5)Caiff Dirprwy Lywydd arfer swyddogaethau’r Llywydd—

(a)os yw’r Llywydd wedi dirprwyo eu harfer i’r Dirprwy Lywydd,

(b)os yw swydd y Llywydd yn wag, neu

(c)os na all y Llywydd eu harfer am unrhyw reswm.

94Tâl a threuliau

Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)talu tâl a lwfansau i’r Llywydd ac unrhyw berson arall mewn cysylltiad â’i wasanaeth fel aelod o’r Tribiwnlys, a

(b)talu treuliau’r Tribiwnlys.

RHAN 4AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Amrywiol

95Ystyr “yn ardal” awdurdod lleol

Yn adran 579 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56)

(a)yn is-adran (3A), ar ôl “Wales” mewnosoder “or who would be wholly or mainly resident in the area of a local authority in Wales were it not for provision secured for the person under Part 2 of the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018”.

(b)yn is-adran (3B), ar ôl “England” mewnosoder “or who would be wholly or mainly resident in the area of a local authority in England were it not for provision secured for the person under Part 3 of the Children and Families Act 2014”.

(c)ar ôl is-adran (3B) mewnosoder—

(3C)The Welsh Ministers may make further provision by regulations about the meaning of references in this Act to a person who is “in the area” of a local authority in Wales.

Cyffredinol

96Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau

Mae Atodlen 1 yn darparu ar gyfer mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.

97Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc.

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth ynddi neu i roi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt drwy reoliadau wneud—

(a)unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig neu ganlyniadol, a

(b)unrhyw ddarpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad neu ddogfen statudol.

(3)Rhaid i ddogfen statudol a ddiwygir drwy reoliadau o dan yr adran hon gael ei chyhoeddi ar ei ffurf ddiwygiedig gan y person a chanddo’r swyddogaeth o wneud neu ddyroddi’r ddogfen.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “dogfen statudol” yw offeryn (ac eithrio offeryn statudol)—

(a)a wneir neu a ddyroddir o dan ddeddfiad, a

(b)sy’n ddarostyngedig i weithdrefn yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n ofynnol gan ddeddfiad cyn y caniateir iddo gael ei wneud neu ei ddyroddi.

98Rheoliadau

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i gael ei arfer drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud—

(a)darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer achosion gwahanol;

(b)darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, ddarfodol, drosiannol neu arbed.

(3)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—

(a)rheoliadau o dan adran 3(4), 39(2), 45, 46, 60(4), 74(1), 75, 82, 83, 85, 90 neu 99(8);

(b)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan adran 15(2);

(c)rheoliadau a wneir o dan adran 97 sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu mewn Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

99Dehongli cyffredinol

(1)Yn y Ddeddf hon—

  • mae “addysg” (“education”) yn cynnwys addysg lawnamser a rhan-amser, ond nid yw’n cynnwys addysg uwch; ac mae “addysgol” (“educational”) ac “addysgu” (“educate”) (a thermau cysylltiedig eraill) i gael eu dehongli yn unol â hynny;

  • mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) yr ystyr a roddir gan adran 2;

  • mae i “awdurdod cartref” (“home authority”) yr ystyr a roddir gan adran 39;

  • ystyr “Awdurdod Iechyd Arbennig” (“Special Health Authority”) yw Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlir o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) neu adran 28 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (p. 41);

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru, ac eithrio pan fo cyfeiriad penodol yn cael ei wneud at awdurdod lleol yn Lloegr;

  • ystyr “Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service Commissioning Board”) yw corff a sefydlir o dan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlir o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “corff GIG” (“NHS body”) yw—

    (a)

    Bwrdd Iechyd Lleol, neu

    (b)

    ymddiriedolaeth GIG;

  • mae i “corff llywodraethu”, mewn perthynas â chorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach, yr ystyr a roddir i “governing body” gan adran 90 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13);

  • ystyr “cyfaill achos” (“case friend”) yw person a benodir o dan adran 85;

  • mae i “cynllun addysg personol” (“personal education plan”) yr ystyr a roddir gan adran 15;

  • ystyr “cynllun AIG” (“EHC plan”) yw cynllun o fewn adran 37(2) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) (cynlluniau addysg, iechyd a gofal);

  • mae i “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yr ystyr a roddir gan adran 10;

  • mae i “darpariaeth ddysgu ychwanegol” (“additional learning provision”) yr ystyr a roddir gan adran 3;

  • mae i “dechrau’r cyfnod o gadw person yn gaeth” (“beginning of detention”) yr ystyr a roddir gan adran 39;

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw darpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn unrhyw un o’r canlynol (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir)—

    (a)

    Deddf Seneddol;

    (b)

    Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys darpariaeth yn y Ddeddf hon);

    (c)

    is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf sy’n dod o fewn paragraff (a) neu o dan Fesur neu Ddeddf sy’n dod o fewn paragraff (b);

  • ystyr “grŵp comisiynu clinigol” (“clinical commissioning group”) yw corff a sefydlir o dan adran 14D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

  • mae “hyfforddiant” (“training”) yn cynnwys—

    (a)

    hyfforddiant llawnamser a rhan-amser;

    (b)

    hyfforddiant galwedigaethol, cymdeithasol, corfforol a hamdden;

  • mae i “llety ieuenctid perthnasol” (“relevant youth accommodation”) yr ystyr a roddir gan adran 39;

  • ystyr “Llywydd” (“President”) yw Llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru a benodir o dan adran 91;

  • ystyr “panel lleyg” (“lay panel”) yw’r panel o bersonau a benodir o dan adran 91(5);

  • ystyr “panel cadeirydd cyfreithiol” (“legal chair panel”) yw’r panel o bersonau a benodir o dan adran 91(4) (ac ystyr “cadeirydd cyfreithiol” (“legal chair”) yw aelod o’r panel);

  • ystyr “perchennog” (“proprietor”), mewn perthynas â sefydliad nad yw’n ysgol, yw’r person neu’r corff o bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r sefydliad;

  • ystyr “person ifanc” (“young person”) yw person sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol, ond sy’n iau na 25 oed;

  • mae i “person sy’n cael ei gadw’n gaeth” (“detained person”) yr ystyr a roddir gan adran 39;

  • ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;

  • ystyr “rhagnodedig” ac “a ragnodir” (“prescribed”) yw wedi ei ragnodi mewn rheoliadau;

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • ystyr “sefydliad prif ffrwd yn y sector addysg bellach” (“mainstream institution in the further education sector”) yw sefydliad yn y sector addysg bellach nad yw wedi ei drefnu’n arbennig i ddarparu addysg neu hyfforddiant ar gyfer personau ag anghenion dysgu ychwanegol;

  • ystyr “sefydliad yn y sector addysg bellach” (“institution in the further education sector”) yw sefydliad sy’n dod o fewn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;

  • mae i “swyddog adolygu annibynnol” (“independent reviewing officer”) yr ystyr a roddir gan adran 15;

  • ystyr “tîm troseddwyr ifanc” (“youth offending team”) yw tîm a sefydlir o dan adran 39 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p. 37);

  • ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru (gweler adran 91);

  • mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr ystyr a roddir i “pupil referral unit” gan adran 19(2) o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56);

  • ystyr “ymddiriedolaeth GIG” (“NHS trust”) yw ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlir o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • mae i “ymddiriedolaeth sefydledig GIG” yr ystyr a roddir i “NHS foundation trust” gan adran 30 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

  • ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw—

    (a)

    ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol,

    (b)

    ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig nas sefydlwyd mewn ysbyty,

    (c)

    ysgol feithrin a gynhelir, neu

    (d)

    uned cyfeirio disgyblion;

  • ystyr “ysgol brif ffrwd a gynhelir” (“mainstream maintained school”) yw ysgol a gynhelir—

    (a)

    nad yw’n ysgol arbennig, a

    (b)

    nad yw’n uned cyfeirio disgyblion.

(2)Yn y diffiniad o “ysgol a gynhelir” yn is-adran (1), mae i—

(a)ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol (“community, foundation or voluntary school”), a

(b)ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig (“community or foundation special school”),

yr ystyr a roddir gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31).

(3)Yn y Ddeddf hon—

(a)mae sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru os cynhelir ei weithgareddau yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;

(b)mae sefydliad yn y sector addysg bellach yn Lloegr os cynhelir ei weithgareddau yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn Lloegr.

(4)At ddibenion y Ddeddf hon, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc os yw’r plentyn neu’r person ifanc yn ardal yr awdurdod.

(5)Mae i gyfeiriad yn y Ddeddf hon at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (sut bynnag y’i mynegir) yr ystyr a roddir gan adran 15, ac mae cyfeiriadau at awdurdod lleol yn gofalu am blentyn i gael eu dehongli yn unol â hynny.

(6)Mae Deddf Addysg 1996 (“Deddf 1996”) a darpariaethau blaenorol y Ddeddf hon (ac eithrio i’r graddau y bônt yn diwygio Deddfau eraill) i gael eu dehongli fel pe cynhwysid y darpariaethau hynny yn Neddf 1996.

(7)Pan fo ystyr yn cael ei roi i ymadrodd at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon sy’n wahanol i’r ystyr a roddir iddo at ddibenion Deddf 1996, mae’r ystyr hwnnw i fod yn gymwys at ddibenion y ddarpariaeth honno yn lle’r ystyr a roddir at ddibenion Deddf 1996.

(8)Caiff rheoliadau ddiwygio’r diffiniad o “corff GIG” fel ei fod yn cynnwys Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlir o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

100Dod i rym

(1)Daw’r adran hon ac adrannau 1, 97, 98, 99 ac 101 i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw paragraff 5 o Atodlen 1 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(3)Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(4)Caiff gorchymyn o dan is-adran (3)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer achosion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.

101Enw byr a chynnwys y Ddeddf yn y rhestr o Ddeddfau Addysg

(1)Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

(2)Mae’r Ddeddf hon i gael ei chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a nodir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources