RHAN 6DARPARIAETHAU TERFYNOL

I194Rheoliadau o dan y Ddeddf hon: cyffredinol

1

Mae rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w gwneud gan Weinidogion Cymru.

2

Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

a

yn arferadwy drwy offeryn statudol;

b

yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

3

Mae offeryn statudol nad yw ond yn cynnwys rheoliadau o fewn is-adran (4) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

4

Mae rheoliadau o fewn yr is-adran hon os ydynt yn—

a

rheoliadau a wneir o dan adran 16(3) (uchafswm y ganran o ddeunyddiau anghymwys sydd i’w chynnwys mewn cymysgedd cymwys o ddeunyddiau),

b

rheoliadau a wneir o dan adran 41(9) (cynnwys anfoneb dirlenwi), neu

c

rheoliadau a wneir o dan adran 93 sy’n bodloni’r amod yn is-adran (5).

5

Yr amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’r rheoliadau yn gwneud unrhyw ddarpariaeth a all—

a

peri i swm y dreth sydd i’w godi ar warediad trethadwy fod yn fwy na’r swm a fyddai i’w godi ar y gwarediad fel arall, neu

b

peri i dreth fod i’w chodi pan na fyddai treth i’w chodi fel arall.

6

Ni chaniateir gwneud unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon, ac eithrio un y mae adran 95 yn gymwys iddo, oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.