Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

62Cosb am gymhwyso’r disgownt dŵr yn anghywirLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

Pan fo gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig, wrth gyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy—

(a)yn cymhwyso disgownt heb fod â chymeradwyaeth o dan adran 21 i wneud hynny, neu

(b)yn cymhwyso disgownt sy’n fwy na’r disgownt a gymeradwywyd o dan adran 21,

mae’r gweithredwr yn agored i gosb nad yw’n fwy na £500 mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y cymhwysir disgownt iddo yn y naill neu’r llall o’r ffyrdd hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 62 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 62 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3