RHAN 4GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR MEWN LLEOEDD HEBLAW SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG
PENNOD 1Y DRETH SYDD I’W CHODI AR WAREDIADAU TRETHADWY
46Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwy
1
Mae’r adran hon yn gymwys i warediad trethadwy deunydd a wneir yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath.
2
Mae swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad i’w gyfrifo drwy luosi pwysau trethadwy’r deunydd mewn tunelli â’r gyfradd ar gyfer gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi.
3
Pwysau trethadwy’r deunydd yw pwysau’r deunydd fel y’i pennir gan ACC gan ddefnyddio unrhyw ddull y mae ACC o’r farn ei fod yn briodol.
4
Y gyfradd ar gyfer gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw’r gyfradd y dunnell a ragnodir at ddibenion is-adran (2) mewn rheoliadau.
5
Caiff rheoliadau o dan is-adran (4) ragnodi cyfraddau gwahanol ar gyfer disgrifiadau gwahanol o ddeunydd.