RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG
PENNOD 4CASGLU A RHEOLI’R DRETH
Talu, adennill ac ad-dalu treth
I142Talu treth
1
Rhaid i berson sy’n dychwelyd ffurflen dreth dalu’r swm o dreth a nodir ar y ffurflen dreth fel y swm yr aseswyd ei fod i’w godi ar y person ar ddiwrnod ffeilio’r ffurflen dreth neu cyn hynny.
2
Pan asesir bod swm o dreth i’w godi ar y person o ganlyniad i ddiwygiad a wneir i’r ffurflen dreth o dan adran 41 o DCRhT (trethdalwr yn diwygio ffurflen dreth), rhaid i’r person dalu’r swm—
a
os gwneir y diwygiad ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen dreth neu cyn hynny, ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, neu
b
os gwneir y diwygiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, ar y diwrnod y mae’r person yn rhoi hysbysiad i ACC am y diwygiad.
3
Gweler y darpariaethau a ganlyn yn DCRhT am ddarpariaeth ynghylch talu symiau o dreth mewn amgylchiadau eraill—
adran 42(4A) (swm sy’n daladwy o ganlyniad i gywiriad a wneir i ffurflen dreth gan ACC);
adran 45(4) (swm sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad a wneir i ffurflen dreth yn ystod ymholiad);
adran 50(4) (swm sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad a wneir i ffurflen dreth ar ôl cwblhau ymholiad);
adran 52(5) (swm sy’n daladwy yn unol â dyfarniad ACC);
adran 61(2) (swm sy’n daladwy yn unol ag asesiad ACC).