RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG

PENNOD 3RHYDDHAD RHAG TRETH

I128Deunydd sy’n deillio o fwyngloddio a chwarela

1

Mae gwarediad trethadwy wedi ei ryddhau rhag treth os yw’n warediad deunydd—

a

sydd i gyd yn deillio o weithrediadau mwyngloddio (boed yn fwyngloddio dwfn neu’n fwyngloddio brig) neu o weithrediadau chwarela,

b

sydd i gyd yn ddeunydd sy’n bodoli’n naturiol a echdynnwyd o’r ddaear yng nghwrs y gweithrediadau, ac

c

nad oes dim ohono wedi bod yn destun proses o fewn is-adran (2) a gynhaliwyd ar unrhyw gam rhwng yr echdynnu a’r gwaredu, nac wedi deillio ohoni.

2

Mae proses o fewn yr is-adran hon os yw—

a

ar wahân i’r gweithrediadau mwyngloddio neu chwarela, neu

b

yn rhan o’r gweithrediadau hynny ac yn newid cyfansoddiad cemegol y deunydd yn barhaol.