RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG
PENNOD 3RHYDDHAD RHAG TRETH
27Deunydd a dynnir o wely afon, o wely’r môr neu o wely dyfroedd eraill
1
Mae gwarediad trethadwy wedi ei ryddhau rhag treth os yw’n warediad deunydd sy’n gyfan gwbl ar ffurf—
a
deunydd o fewn is-adran (2) neu (3), neu
b
deunydd o fewn un o’r is-adrannau hynny a deunydd o fewn is-adran (4).
2
Mae deunydd o fewn yr is-adran hon os yw wedi ei dynnu o wely unrhyw un o’r canlynol (boed naturiol neu artiffisial)—
a
afon, camlas neu gwrs dŵr arall, neu
b
doc, harbwr neu gyffiniau harbwr.
3
Mae deunydd o fewn yr is-adran hon—
a
os yw’n ddeunydd mwynol sy’n bodoli’n naturiol, a
b
os yw wedi ei dynnu o wely’r môr yng nghwrs gweithrediadau a gyflawnir at ddiben cael deunyddiau megis tywod neu raean.
4
Mae deunydd o fewn yr is-adran hon—
a
os yw’n ddeunydd cymwys,
b
os ychwanegwyd ef at ddeunydd o fewn is-adran (2) neu (3) at ddiben sicrhau nad yw’r deunydd hwnnw ar ffurf hylif, ac
c
os nad yw swm y deunydd a ychwanegwyd yn fwy na’r hyn sy’n angenrheidiol i gyflawni’r diben hwnnw.
5
Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at dynnu deunydd yn gyfeiriadau at ei dynnu drwy garthu neu mewn unrhyw fodd arall.