15Deunydd cymwys
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Deunydd cymwys yw deunydd y mae’r gofynion a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef.
Gofyniad 1
Mae’r deunydd wedi ei bennu yn y Tabl yn Atodlen 1.
Gofyniad 2
Mae pob amod yn y Tabl yn Atodlen 1 sy’n gymwys mewn perthynas â’r deunydd (os oes rhai) wedi ei fodloni.
Gofyniad 3
Ceir—
(a)os yw disgrifiad ysgrifenedig o’r deunydd yn ofynnol yn rhinwedd adran 34(1)(c)(ii) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p. 43), ddisgrifiad ysgrifenedig o’r math sy’n ofynnol, neu
(b)os nad yw disgrifiad ysgrifenedig o’r deunydd yn ofynnol yn rhinwedd yr adran honno, dystiolaeth arall,
y gellir penderfynu ar ei sail bod gofyniad 1 a 2 wedi eu bodloni.
(2)Caiff rheoliadau ddiwygio Atodlen 1.