RHAN 5DARPARIAETH ATODOL
PENNOD 4COSBAU O DAN Y DDEDDF HON
Cosbau sy’n ymwneud â chyfrifo pwysau trethadwy deunydd
I161Cosb am fethu â phennu pwysau yn briodol
Mae gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig sy’n methu â phennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy yn unol ag adran 20 yn agored i gosb nad yw’n fwy na £500 mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y mae’r methiant yn ymwneud ag ef.
I262Cosb am gymhwyso’r disgownt dŵr yn anghywir
Pan fo gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig, wrth gyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy—
a
yn cymhwyso disgownt heb fod â chymeradwyaeth o dan adran 21 i wneud hynny, neu
b
yn cymhwyso disgownt sy’n fwy na’r disgownt a gymeradwywyd o dan adran 21,
mae’r gweithredwr yn agored i gosb nad yw’n fwy na £500 mewn cysylltiad â phob gwarediad trethadwy y cymhwysir disgownt iddo yn y naill neu’r llall o’r ffyrdd hynny.
I363Asesu cosbau o dan adrannau 61 a 62
1
Pan ddaw gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig yn agored i gosb o dan adran 61 neu 62, rhaid i ACC—
a
asesu’r gosb, a
b
dyroddi hysbysiad i’r person am y gosb a aseswyd.
2
Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan adran 61 neu 62 gydag asesiad treth.
3
Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 61 neu 62 o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y gweithredwr yn agored i’r gosb.
Cosbau sy’n ymwneud â chofrestru
I464Cosbau am gyflawni gweithrediadau trethadwy heb fod yn gofrestredig
1
Mae person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy yn groes i adran 35(1) (dyletswydd i fod yn gofrestredig) yn agored i gosb o £300.
2
Os yw person yn parhau i gyflawni gweithrediadau trethadwy yn groes i adran 35(1) ar ôl diwedd y cyfnod cosbi cychwynnol, mae’r person yn agored i gosb bellach neu gosbau pellach nad ydynt yn fwy na £60 ar gyfer pob diwrnod y mae’r person yn parhau i wneud hynny.
3
Y cyfnod cosbi cychwynnol yw’r cyfnod o 10 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad i’r person am y gosb o dan is-adran (1).
4
Wrth gyfrifo’r cyfnod cosbi cychwynnol, rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod y mae penderfyniad sy’n ymwneud â’r gosb o dan is-adran (1) yn destun—
a
adolygiad nad yw hysbysiad am ei gasgliadau wedi ei ddyroddi hyd yma, neu
b
apêl nad yw wedi ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl hyd yma.
I565Esgus rhesymol dros beidio â chydymffurfio
1
Os yw person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy yn groes i adran 35(1) yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys fod esgus rhesymol am y toriad, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 64 mewn cysylltiad â’r toriad.
2
At ddibenion yr adran hon—
a
pan fo person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r toriad;
b
pan fu gan berson esgus rhesymol am doriad ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os yw’r toriad yn cael ei unioni heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.
I666Cosb am fethu â chydymffurfio â gofynion eraill sy’n ymwneud â chofrestru
1
Mae person yn agored i gosb nad yw’n fwy na £300 os yw’r person yn methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—
a
adran 35(2) (cais cofrestru);
b
adran 36(1) i (4) (hysbysiad am newid neu anghywirdeb);
c
adran 37(1) neu (2) (cais i ganslo cofrestriad).
2
Ond nid yw person yn agored i gosb o dan yr adran hon mewn cysylltiad â methu â chyflwyno cais neu roi hysbysiad o fewn cyfnod cyfyngedig os yw’r person yn gwneud hynny o fewn cyfnod pellach a ganiateir gan ACC.
I767Asesu cosbau o dan adrannau 64 a 66
1
Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 64 neu 66, rhaid i ACC—
a
asesu’r gosb, a
b
dyroddi hysbysiad i’r person am y gosb a aseswyd.
2
Rhaid i asesiad o gosb o dan adran 64(1) neu 66 gael ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n ddechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf fod y person yn agored i’r gosb.
3
Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 64(2) o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau a’r diwrnod y mae’r gosb yn ymwneud ag ef.
Cosbau sy’n ymwneud â mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu
I868Cosbau sy’n ymwneud â mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu
1
Mae person sy’n methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan adran 56 neu 57 yn agored i gosb nad yw’n fwy na £3,000.
2
Ond nid yw person yn agored i gosb o dan yr adran hon mewn cysylltiad â methiant i gadw cofnodion neu eu storio’n ddiogel os yw ACC wedi ei fodloni bod unrhyw ffeithiau y mae’n rhesymol ofynnol ganddo iddynt gael eu profi, ac y byddai’r cofnodion wedi eu profi, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.
I969Asesu cosbau o dan adran 68
1
Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 68, rhaid i ACC—
a
asesu’r gosb, a
b
dyroddi hysbysiad i’r person am y gosb a asesir.
2
Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan adran 68 gydag asesiad treth.
3
Rhaid i asesiad o gosb o dan adran 68 gael ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y person yn agored i’r gosb.
Cyffredinol
I1070Talu cosbau
Rhaid talu cosb o dan y Bennod hon cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y gosb (ond gweler adran 182 o DCRhT (talu cosbau yn achos adolygiad neu apêl)).
I1171Gwahardd cosbi ddwywaith
Nid yw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon mewn cysylltiad ag unrhyw beth os yw’r person wedi cael euogfarn am drosedd mewn perthynas â hynny.
I1272Atebolrwydd cynrychiolwyr personol
1
Os yw person sy’n agored i gosb o dan y Bennod hon (“P”) wedi marw, caniateir asesu unrhyw gosb y gellid bod wedi ei hasesu ar P ar gynrychiolwyr personol P.
2
Mae cosb a asesir yn unol ag is-adran (1) i’w thalu o ystad P.
I1373Pŵer i wneud rheoliadau ynghylch cosbau
1
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch—
a
symiau cosbau o dan y Bennod hon, a
b
y weithdrefn ar gyfer asesu cosbau o dan y Bennod hon.
2
Caiff y rheoliadau ddiwygio’r Ddeddf hon.