xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR MEWN LLEOEDD HEBLAW SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG

PENNOD 1Y DRETH SYDD I’W CHODI AR WAREDIADAU TRETHADWY

46Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwy

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i warediad trethadwy deunydd a wneir yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath.

(2)Mae swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad i’w gyfrifo drwy luosi pwysau trethadwy’r deunydd mewn tunelli â’r gyfradd ar gyfer gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi.

(3)Pwysau trethadwy’r deunydd yw pwysau’r deunydd fel y’i pennir gan ACC gan ddefnyddio unrhyw ddull y mae ACC o’r farn ei fod yn briodol.

(4)Y gyfradd ar gyfer gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw’r gyfradd y dunnell a ragnodir at ddibenion is-adran (2) mewn rheoliadau.

(5)Caiff rheoliadau o dan is-adran (4) ragnodi cyfraddau gwahanol ar gyfer disgrifiadau gwahanol o ddeunydd.

PENNOD 2Y WEITHDREFN AR GYFER CODI’R DRETH

47Yr amod ar gyfer codi treth

(1)At ddibenion y Bennod hon, mae person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy os yw’r person—

(a)wedi gwneud y gwarediad, neu

(b)wedi achosi neu ganiatáu i’r gwarediad gael ei wneud, gan wybod ei fod yn gwneud hynny.

(2)At ddibenion is-adran (1)(b)—

(a)mae person a oedd, pan wnaed y gwarediad, yn rheoli, neu mewn sefyllfa i reoli, cerbyd modur neu ôl-gerbyd y gwnaed y gwarediad ohono i’w drin fel pe bai wedi achosi i’r gwarediad gael ei wneud, gan wybod ei fod yn gwneud hynny, a

(b)mae person a oedd, pan wnaed y gwarediad, yn berchennog, yn lesddeiliad neu’n feddiannydd y tir lle y gwnaed y gwarediad i’w drin fel pe bai wedi caniatáu i’r gwarediad gael ei wneud, gan wybod ei fod yn gwneud hynny,

oni bai bod y person yn bodloni ACC neu (ar apêl) y tribiwnlys nad achosodd neu na chaniataodd y person i’r gwarediad gael ei wneud, gan wybod ei fod yn gwneud hynny.

(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch—

(a)amgylchiadau pan fo person i’w drin fel pe bai’n bodloni (neu heb fod yn bodloni) yr amod ar gyfer codi treth, neu

(b)materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu a yw person yn bodloni (neu heb fod yn bodloni) yr amod hwnnw.

(4)Caiff y rheoliadau ddiwygio unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.

48Pŵer i ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol

(1)Caiff ACC ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol i berson os ymddengys i ACC—

(a)bod gwarediad trethadwy wedi ei wneud yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath, a

(b)bod y person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â’r gwarediad (gweler adran 47).

(2)Rhaid i hysbysiad rhagarweiniol—

(a)nodi’r tir lle yr ymddengys fod y gwarediad trethadwy wedi ei wneud;

(b)disgrifio amgylchiadau’r gwarediad a natur y deunydd a waredwyd, i’r graddau y maent yn hysbys i ACC;

(c)datgan pryd yr ymddengys y gwnaed y gwarediad, ac os yw ACC wedi amcangyfrif pryd y gwnaed y gwarediad, esbonio sut y mae ACC wedi amcangyfrif hynny;

(d)esbonio pam fod ACC o’r farn fod y person y dyroddir yr hysbysiad iddo yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â’r gwarediad;

(e)datgan swm y dreth y bwriedir ei godi ar y gwarediad;

(f)esbonio sut y cyfrifwyd y swm hwnnw, gan gynnwys y dull a ddefnyddiodd ACC i bennu pwysau trethadwy’r deunydd a waredwyd.

(3)Rhaid i hysbysiad rhagarweiniol hefyd hysbysu’r person y’i dyroddir iddo—

(a)y dyroddir hysbysiad o dan adran 49 ar ôl diwedd 45 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad rhagarweiniol,

(b)y caiff y person wneud cais i ACC ymestyn y cyfnod hwnnw, ac

(c)y caiff y person gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i ACC unrhyw bryd cyn y dyroddir hysbysiad o dan adran 49.

(4)Caiff un hysbysiad rhagarweiniol ymwneud â mwy nag un gwarediad trethadwy neu â nifer heb ei ganfod o warediadau trethadwy.

(5)Ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol fwy na 4 blynedd ar ôl i ACC ddod yn ymwybodol o unrhyw warediad trethadwy y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

(6)Ni chaiff ACC ychwaith ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol fwy nag 20 mlynedd ar ôl yr adeg yr ymddengys i ACC y gwnaed unrhyw warediad trethadwy y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

49Pŵer i ddyroddi hysbysiad codi treth ar ôl dyroddi hysbysiad rhagarweiniol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)ACC wedi dyroddi hysbysiad rhagarweiniol i berson o dan adran 48, a

(b)y cyfnod o 45 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddwyd yr hysbysiad, neu unrhyw gyfnod hwy y cytunodd ACC iddo, wedi dod i ben.

(2)Rhaid i ACC naill ai—

(a)dyroddi hysbysiad codi treth i’r person mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r gwarediadau y mae’r hysbysiad rhagarweiniol yn ymwneud â hwy, neu

(b)dyroddi hysbysiad i’r person sy’n datgan nad yw’n bwriadu dyroddi hysbysiad codi treth i’r person mewn cysylltiad â’r gwarediadau hynny.

(3)Ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad codi treth i berson onid yw’n fodlon—

(a)bod gwarediad trethadwy wedi ei wneud yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath, a

(b)bod y person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth ar y gwarediad.

(4)Wrth benderfynu pa un ai i ddyroddi hysbysiad codi treth i berson ai peidio, rhaid i ACC roi sylw i unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y person.

(5)Rhaid i hysbysiad codi treth—

(a)rhoi manylion y gwarediad neu’r gwarediadau trethadwy y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef neu â hwy;

(b)esbonio pam fod ACC wedi ei fodloni bod y person y dyroddir yr hysbysiad iddo yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â’r gwarediad neu’r gwarediadau;

(c)datgan swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad neu’r gwarediadau;

(d)esbonio sut y cyfrifwyd y swm hwnnw, gan gynnwys y dull a ddefnyddiodd ACC i bennu pwysau trethadwy’r deunydd a waredwyd;

(e)hysbysu’r person am yr hawl i ofyn am adolygiad a’r hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad o dan Ran 8 o DCRhT.

50Pŵer i ddyroddi hysbysiad codi treth heb ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo ACC—

(a)wedi ei fodloni bod person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy a wnaed yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath, a

(b)o’r farn ei bod yn debygol y collir treth os yw’n gweithredu o dan adrannau 48 a 49.

(2)Caiff ACC ddyroddi hysbysiad codi treth i’r person heb ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol yn gyntaf.

(3)Rhaid i hysbysiad codi treth a ddyroddir o dan yr adran hon gynnwys—

(a)yr wybodaeth a bennir yn adran 49(5), a

(b)rhesymau ACC dros ddyroddi’r hysbysiad heb ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol yn gyntaf.

(4)Ni chaiff ACC ddyroddi hysbysiad codi treth o dan yr adran hon fwy na 4 blynedd ar ôl i ACC ddod yn ymwybodol o unrhyw warediad trethadwy y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

(5)Ni chaiff ACC ychwaith ddyroddi hysbysiad codi treth o dan yr adran hon fwy nag 20 mlynedd ar ôl yr adeg yr ymddengys i ACC y gwnaed unrhyw warediad trethadwy y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

51Talu treth

(1)Rhaid i berson y dyroddir hysbysiad codi treth iddo dalu’r swm o dreth a godir gan yr hysbysiad.

(2)Rhaid talu’r dreth cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.

(3)Os dyroddir hysbysiadau codi treth i fwy nag person mewn cysylltiad â’r un gwarediad trethadwy, mae’r holl bersonau hynny’n atebol ar y cyd ac yn unigol am y swm o dreth a godir ar y gwarediad.

52Pŵer i wneud darpariaeth bellach

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch—

(a)y gweithdrefnau ar gyfer dyroddi hysbysiadau rhagarweiniol a hysbysiadau codi treth;

(b)talu swm o dreth a godir gan hysbysiad codi treth;

(c)unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â chodi swm o dreth neu dalu swm o dreth o dan y Bennod hon, neu’n deillio o hynny.

(2)Caiff y rheoliadau ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.

53Llog taliadau hwyr

(1)Mae adran 157 o DCRhT (llog taliadau hwyr ar drethi datganoledig) (a amnewidir gan baragraff 58 o Atodlen 23 i DTTT) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Mae’r adran hon hefyd yn gymwys i swm o dreth gwarediadau tirlenwi a godir gan hysbysiad codi treth a ddyroddir o dan adran 49 neu 50 o DTGT.

(3)Yn is-adran (3), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)yn achos swm sydd o fewn is-adran (1A), y dyddiad sy’n union ar ôl diwedd y cyfnod a bennir yn adran 51 o DTGT.