xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG

PENNOD 1PERSONAU Y MAE’R DRETH I’W CHODI ARNYNT

13Personau y mae’r dreth i’w chodi arnynt

Mae’r dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwy deunydd a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig i’w chodi ar y person sy’n weithredwr y safle ar adeg y gwarediad (pa un a yw’r gweithredwr yn gwneud y gwarediad neu’n caniatáu ei wneud ai peidio).

PENNOD 2Y DRETH SYDD I’W CHODI AR WAREDIADAU TRETHADWY

Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi

14Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwy

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i warediad trethadwy deunydd a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig.

(2)Mae swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad i’w gyfrifo drwy luosi pwysau trethadwy’r deunydd mewn tunelli â’r gyfradd safonol.

(3)Y gyfradd safonol yw’r gyfradd y dunnell a ragnodir at ddibenion is-adran (2) mewn rheoliadau.

(4)Nid yw is-adran (2) yn gymwys i’r gwarediad os yw’r deunydd a waredir—

(a)yn gyfan gwbl ar ffurf un neu ragor o ddeunyddiau cymwys (gweler adran 15), neu

(b)yn gymysgedd cymwys o ddeunyddiau (gweler adran 16).

(5)Yn lle hynny, mae swm y dreth sydd i’w godi ar warediad o’r disgrifiad hwnnw i’w gyfrifo drwy luosi pwysau trethadwy’r deunydd mewn tunelli â’r gyfradd is.

(6)Y gyfradd is yw’r gyfradd y dunnell a ragnodir at ddibenion is-adran (5) mewn rheoliadau.

(7)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) neu (6) ragnodi cyfraddau gwahanol ar gyfer disgrifiadau gwahanol o ddeunydd.

(8)Gweler adran 18 am ddarpariaeth ynghylch sut y mae pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy i’w gyfrifo.

Deunyddiau cymwys a chymysgeddau cymwys o ddeunyddiau

15Deunydd cymwys

(1)Deunydd cymwys yw deunydd y mae’r gofynion a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef.

(2)Caiff rheoliadau ddiwygio Atodlen 1.

16Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau

(1)Cymysgedd cymwys o ddeunyddiau yw cymysgedd y mae’r gofynion a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef.

(2)At ddibenion gofyniad 1—

(a)rhaid ystyried pwysau a chyfaint y deunyddiau anghymwys wrth benderfynu a yw swm y deunyddiau hynny i’w drin fel swm bychan ai peidio;

(b)rhaid ystyried potensial y deunyddiau anghymwys i beri niwed wrth benderfynu a yw’r deunyddiau hynny i’w trin fel pe baent yn atodol i’r deunyddiau cymwys ai peidio.

(3)Caiff rheoliadau ddarparu nad yw swm o ddeunyddiau anghymwys i’w drin fel swm bychan at ddibenion gofyniad 1 os yw’n fwy na chanran ragnodedig o’r cymysgedd o ddeunyddiau (yn ôl pwysau neu gyfaint neu’r ddau).

(4)Caiff rheoliadau ddiwygio’r adran hon er mwyn—

(a)ychwanegu gofyniad pellach at is-adran (1),

(b)addasu gofyniad presennol,

(c)dileu gofyniad, neu

(d)gwneud darpariaeth bellach ynghylch materion y mae’n rhaid eu hystyried neu y caniateir eu hystyried at ddibenion penderfynu a yw gofyniad wedi ei fodloni, neu addasu neu ddileu darpariaeth bresennol ynghylch y materion hynny.

(5)Yn yr adran hon—

17Cymysgedd cymwys o ddeunyddiau: gronynnau mân

(1)Caiff rheoliadau ragnodi gofynion y mae’n rhaid eu bodloni (yn ychwanegol at ofynion 1 i 6 yn adran 16) er mwyn i gymysgedd o ddeunyddiau sy’n cynnwys dim ond gronynnau mân gael ei drin fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu (ymysg pethau eraill) bod—

(a)rhaid i’r cymysgedd fod wedi tarddu mewn modd rhagnodedig (er enghraifft, drwy broses trin gwastraff ragnodedig);

(b)rhaid bod tystiolaeth ragnodedig ynglŷn â natur y gronynnau mân yn y cymysgedd;

(c)rhaid i gamau rhagnodedig fod wedi eu cymryd mewn perthynas â’r cymysgedd (naill ai gan weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig neu gan unrhyw berson arall);

(d)rhaid bod tystiolaeth ragnodedig ynglŷn â chymryd y camau hynny;

(e)rhaid i’r cymysgedd roi canlyniad rhagnodedig os cynhelir prawf rhagnodedig arno.

(3)Pan wneir rheoliadau o dan is-adran (2)(e), caiff rheoliadau hefyd wneud darpariaeth gysylltiedig, gan gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth—

(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gynnal y prawf rhagnodedig (“y prawf”) ar gymysgeddau rhagnodedig o ronynnau mân;

(b)sy’n pennu pryd y mae’n rhaid i’r gweithredwr wneud hynny;

(c)sy’n galluogi ACC

(i)i gyfarwyddo’r gweithredwr i gynnal y prawf ar bob cymysgedd o ronynnau mân a ddygir ar y safle, neu ar ddisgrifiadau penodol o’r cymysgeddau hynny o ronynnau mân;

(ii)i gynnal y prawf ei hun ar unrhyw gymysgedd o ronynnau mân a ddygir ar y safle;

(d)sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC a’r gweithredwr—

(i)cadw tystiolaeth ragnodedig mewn cysylltiad â’r prawf, a

(ii)ei storio’n ddiogel am gyfnod rhagnodedig;

(e)sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr ddarparu gwybodaeth ragnodedig i ACC mewn cysylltiad â’r prawf—

(i)ar gyfnodau rhagnodedig, a

(ii)yn y ffurf a’r modd rhagnodedig;

(f)sy’n ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i’r gweithredwr gymryd camau rhagnodedig os yw cymysgedd o ronynnau mân yn methu’r prawf;

(g)sy’n gwahardd cymysgeddau rhagnodedig o ronynnau mân rhag cael eu trin fel cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau mewn amgylchiadau rhagnodedig.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) wneud darpariaeth ar gyfer—

(a)cosbau, neu

(b)adolygiadau ac apelau,

mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan yr is-adran honno; a phan fyddant yn gwneud hynny, cânt ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.

(5)Caiff unrhyw reoliadau o dan yr adran hon, ac eithrio rheoliadau sy’n rhoi pwerau i ACC neu’n gosod dyletswyddau arno, wneud darpariaeth drwy gyfeirio at bethau a bennir mewn hysbysiad a gyhoeddwyd gan ACC (ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl drwy hysbysiad a gyhoeddwyd wedi hynny).

(6)Yn yr adran hon—

Pwysau trethadwy deunydd

18Pwysau trethadwy deunydd mewn gwarediad trethadwy

(1)Mewn perthynas â phwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig—

(a)rhaid i weithredwr y safle lle y gwneir y gwarediad trethadwy ei gyfrifo;

(b)caiff ACC ei gyfrifo os yw o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny.

(2)Mae’r pwysau trethadwy i’w gyfrifo—

(a)yn unol ag adran 19, os y’i cyfrifir gan y gweithredwr;

(b)yn unol ag adran 22, os y’i cyfrifir gan ACC.

(3)Pwysau trethadwy’r deunydd at ddibenion adran 14(2) a (5)—

(a)pan na fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â’r gwarediad, a

(b)pan fo ACC—

(i)yn cyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd, a

(ii)yn cymhwyso’r canlyniad wrth ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr mewn cysylltiad â’r gwarediad,

yw’r pwysau trethadwy a gyfrifir gan ACC, oni bai bod y gweithredwr yn cymryd y camau a nodir yn is-adran (4) wedi hynny.

(4)Pan fo’r gweithredwr—

(a)yn cyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd, a

(b)yn cymhwyso’r canlyniad wrth ddychwelyd neu ddiwygio ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r gwarediad,

pwysau trethadwy’r deunydd at ddibenion adran 14(2) a (5) yw’r pwysau trethadwy a gyfrifir gan y gweithredwr, oni bai bod ACC yn cymryd y camau a nodir yn is-adran (5) wedi hynny.

(5)Pan fo ACC—

(a)yn cyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd ar ôl i ffurflen dreth gael ei dychwelyd mewn cysylltiad â’r gwarediad, a

(b)yn cymhwyso’r canlyniad wrth ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr mewn cysylltiad â’r gwarediad,

pwysau trethadwy’r deunydd at ddibenion adran 14(2) a (5) yw’r pwysau trethadwy a gyfrifir gan ACC, oni bai bod y gweithredwr yn cymryd y camau a nodir yn is-adran (4) wedi hynny.

19Cyfrifo pwysau trethadwy deunydd gan y gweithredwr

(1)Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy yn y ffordd a ganlyn.

(2)Rhaid i’r gweithredwr bennu pwysau’r deunydd mewn tunelli yn unol ag adran 20.

(3)Os oes gan y gweithredwr gymeradwyaeth o dan adran 21 i gymhwyso disgownt mewn perthynas â’r gwarediad, caiff y gweithredwr gymhwyso’r disgownt (neu ddisgownt is) i’r pwysau a bennir o dan is-adran (2), yn ddarostyngedig i amodau’r gymeradwyaeth (os oes rhai).

(4)Y canlyniad yw pwysau trethadwy’r deunydd yn y gwarediad trethadwy.

20Pennu pwysau deunydd gan y gweithredwr

(1)Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig bennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy gan ddefnyddio pont bwyso.

(2)Rhaid i’r gweithredwr sicrhau, at ddibenion is-adran (1)—

(a)bod y deunydd yn cael ei bwyso ar y bont bwyso cyn y gwneir y gwarediad, a

(b)bod y bont bwyso yn bodloni pob un o’r gofynion mewn deddfwriaeth pwysau a mesurau sy’n gymwys i’r bont bwyso (os oes rhai).

(3)Caiff gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig wneud cais i ACC am gymeradwyaeth i ddefnyddio dull arall i bennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy.

(4)Rhaid i gais—

(a)cael ei gyflwyno mewn unrhyw fodd,

(b)cynnwys unrhyw wybodaeth, ac

(c)cael ei gyflwyno gydag unrhyw ddogfennau,

a bennir gan ACC (naill ai’n gyffredinol neu mewn achos penodol).

(5)Pan fo’r gweithredwr yn gwneud cais am gymeradwyaeth—

(a)rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr am ei benderfyniad ar y cais, a

(b)os yw ACC yn rhoi cymeradwyaeth, rhaid i’r hysbysiad nodi manylion y gymeradwyaeth.

(6)Mewn perthynas â chymeradwyaeth—

(a)caiff ymwneud â’r holl warediadau trethadwy y gwneir y cais mewn cysylltiad â hwy, neu â disgrifiadau penodol o’r gwarediadau trethadwy hynny yn unig;

(b)caiff fod yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau;

(c)caniateir ei rhoi am gyfnod penodedig neu am gyfnod anghyfyngedig;

(d)caniateir ei hamrywio neu ei dirymu ar unrhyw adeg drwy ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr.

(7)Os yw ACC yn rhoi cymeradwyaeth i’r gweithredwr ddefnyddio dull arall i bennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy, rhaid i’r gweithredwr—

(a)defnyddio’r dull hwnnw mewn perthynas â’r gwarediad (yn hytrach na’r dull a ddisgrifir yn is-adran (1)), a

(b)gwneud hynny yn unol ag unrhyw amod y mae’r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddo.

(8)Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth pwysau a mesurau” yw Deddf Pwysau a Mesurau 1985 (p. 72) a rheoliadau a wneir (yn llwyr neu yn rhannol) o dan y Ddeddf honno.

21Disgownt mewn cysylltiad â dŵr mewn deunydd

(1)Caiff gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig wneud cais i ACC am gymeradwyaeth i gymhwyso disgownt mewn cysylltiad â dŵr sydd mewn deunydd wrth gyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy.

(2)Rhaid i gais am gymeradwyaeth gael ei gyflwyno mewn ysgrifen.

(3)Pan fo’r gweithredwr yn gwneud cais am gymeradwyaeth—

(a)rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr am ei benderfyniad ar y cais, a

(b)os yw ACC yn rhoi cymeradwyaeth, rhaid i’r hysbysiad nodi manylion y gymeradwyaeth.

(4)Ni chaiff ACC roi cymeradwyaeth i’r gweithredwr gymhwyso disgownt mewn cysylltiad â dŵr sydd mewn deunydd onid yw—

(a)y dŵr yno oherwydd—

(i)bod rhaid ei ychwanegu er mwyn gallu cludo’r deunydd i’w waredu,

(ii)bod rhaid ei ddefnyddio i echdynnu mwyn,

(iii)bod rhaid ei ychwanegu yng nghwrs proses ddiwydiannol, neu

(iv)ei fod yn deillio’n anochel o ganlyniad i broses ddiwydiannol, neu

(b)y deunydd yn weddillion trin elifiant neu garthion mewn gwaith trin dŵr.

(5)Mewn perthynas â chymeradwyaeth—

(a)caiff ymwneud â’r holl warediadau trethadwy y gwneir y cais mewn cysylltiad â hwy, neu â disgrifiadau penodol o’r gwarediadau trethadwy hynny yn unig;

(b)caiff bennu disgowntiau gwahanol ar gyfer disgrifiadau gwahanol o warediadau trethadwy;

(c)caiff fod yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau (er enghraifft, amod sy’n gwneud taliad yn ofynnol mewn cysylltiad â phrofion ar ddeunydd);

(d)caniateir ei rhoi am gyfnod penodedig neu am gyfnod anghyfyngedig;

(e)caniateir ei hamrywio neu ei dirymu ar unrhyw adeg drwy ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr.

(6)Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gadw cofnod o bob gwarediad trethadwy y cymhwysir disgownt iddo mewn cysylltiad â dŵr sydd mewn deunydd (sef “cofnod disgownt dŵr”).

(7)Caiff ACC bennu—

(a)ar ba ffurf y mae’n rhaid cadw cofnod disgownt dŵr;

(b)yr wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys ynddo.

(8)Mae’r cofnod i’w drin at ddibenion DCRhT fel cofnod y mae’n ofynnol ei gadw a’i storio’n ddiogel o dan adran 38(1) o DCRhT at ddiben dangos bod y ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r gweithredwr ei dychwelyd, mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu y mae treth i’w chodi ar y gwarediad mewn cysylltiad ag ef, yn gywir ac yn gyflawn.

22Cyfrifo pwysau trethadwy deunydd gan ACC

(1)Pan fo ACC yn cyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy, rhaid iddo wneud hynny—

(a)drwy bennu pwysau’r deunydd mewn tunelli gan ddefnyddio unrhyw ddull sy’n briodol ym marn ACC, a

(b)pan fo cymeradwyaeth o dan adran 21 i gymhwyso disgownt mewn perthynas â’r gwarediad, drwy gymhwyso’r disgownt i’r pwysau a bennir o dan baragraff (a), yn ddarostyngedig i amodau’r gymeradwyaeth (os oes rhai).

(2)Ond os yw wedi ei fodloni bod methiant neu doriad a grybwyllir yn adran 23 wedi digwydd mewn perthynas â’r gwarediad trethadwy, caiff ACC, wrth gyfrifo’r pwysau, gymryd y camau a nodir yn yr adran honno mewn cysylltiad â’r methiant neu’r toriad.

(3)Y canlyniad yw pwysau trethadwy’r deunydd yn y gwarediad trethadwy.

23Cyfrifo pwysau trethadwy deunydd gan ACC: achosion o beidio â chydymffurfio

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo ACC yn cyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy.

(2)Pan fo ACC wedi ei fodloni bod gweithredwr y safle lle y gwneir gwarediad trethadwy wedi methu â dychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â’r gwarediad, caiff ACC anwybyddu adran 22(1)(b).

(3)Pan fo ACC wedi ei fodloni bod gweithredwr y safle lle y gwneir gwarediad trethadwy wedi methu â phennu pwysau’r deunydd yn y gwarediad yn unol ag adran 20, caiff ACC⁠—

(a)anwybyddu adran 22(1)(b), neu

(b)gostwng y disgownt sydd i’w gymhwyso o dan adran 22(1)(b) fel y bo’n briodol yn ei farn.

(4)Pan fo ACC wedi ei fodloni—

(a)bod gan weithredwr y safle lle y gwneir gwarediad trethadwy gymeradwyaeth o dan adran 21 i gymhwyso disgownt mewn perthynas â’r gwarediad, ond

(b)ei fod yn torri amod sydd ynghlwm â’r gymeradwyaeth,

caiff ACC gymryd y camau a nodir yn is-adran (5).

(5)Caiff ACC—

(a)anwybyddu adran 22(1)(b), neu

(b)gostwng y disgownt sydd i’w gymhwyso o dan adran 22(1)(b) fel y bo’n briodol yn ei farn.

(6)Pan fo ACC wedi ei fodloni nad oes cofnod disgownt dŵr mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy, caiff ACC anwybyddu adran 22(1)(b).

(7)Pan fo ACC wedi ei fodloni nad yw’r cofnod disgownt dŵr mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy yn bodloni gofyniad a bennir o dan adran 21(7), caiff ACC—

(a)anwybyddu adran 22(1)(b), neu

(b)gostwng y disgownt sydd i’w gymhwyso o dan adran 22(1)(b) fel y bo’n briodol yn ei farn.

(8)Yn yr adran hon, mae i “cofnod disgownt dŵr” yr ystyr a roddir gan adran 21(6).

24Adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â’r dull o bennu pwysau deunydd

Yn adran 172 o DCRhT (penderfyniadau apeliadwy), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (g) (a fewnosodir gan baragraff 62 o Atodlen 23 i DTTT) mewnosoder—

(h)penderfyniad sy’n ymwneud â’r dull sydd i’w ddefnyddio gan weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig i bennu pwysau deunydd at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;.

25Pŵer i addasu darpariaeth sy’n ymwneud â phwysau trethadwy deunydd

Caiff rheoliadau ychwanegu at unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon sy’n ymwneud â phwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig (gan gynnwys darpariaeth sy’n ymwneud â chymhwyso disgownt mewn cysylltiad â dŵr sydd yn y deunydd), ei diddymu neu ei diwygio fel arall.

PENNOD 3RHYDDHAD RHAG TRETH

26Rhyddhadau: cyffredinol

(1)Mae’r Bennod hon yn darparu rhyddhad rhag treth ar gyfer gwarediadau trethadwy penodol.

(2)Nid yw’r Bennod hon ond yn gymwys i warediadau a wneir ar safleoedd tirlenwi awdurdodedig.

(3)Nid yw’r dreth i’w chodi mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy os yw wedi ei ryddhau rhag treth.

(4)Rhaid hawlio rhyddhad rhag treth ar ffurflen dreth.

27Deunydd a dynnir o wely afon, o wely’r môr neu o wely dyfroedd eraill

(1)Mae gwarediad trethadwy wedi ei ryddhau rhag treth os yw’n warediad deunydd sy’n gyfan gwbl ar ffurf—

(a)deunydd o fewn is-adran (2) neu (3), neu

(b)deunydd o fewn un o’r is-adrannau hynny a deunydd o fewn is-adran (4).

(2)Mae deunydd o fewn yr is-adran hon os yw wedi ei dynnu o wely unrhyw un o’r canlynol (boed naturiol neu artiffisial)—

(a)afon, camlas neu gwrs dŵr arall, neu

(b)doc, harbwr neu gyffiniau harbwr.

(3)Mae deunydd o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw’n ddeunydd mwynol sy’n bodoli’n naturiol, a

(b)os yw wedi ei dynnu o wely’r môr yng nghwrs gweithrediadau a gyflawnir at ddiben cael deunyddiau megis tywod neu raean.

(4)Mae deunydd o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw’n ddeunydd cymwys,

(b)os ychwanegwyd ef at ddeunydd o fewn is-adran (2) neu (3) at ddiben sicrhau nad yw’r deunydd hwnnw ar ffurf hylif, ac

(c)os nad yw swm y deunydd a ychwanegwyd yn fwy na’r hyn sy’n angenrheidiol i gyflawni’r diben hwnnw.

(5)Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at dynnu deunydd yn gyfeiriadau at ei dynnu drwy garthu neu mewn unrhyw fodd arall.

28Deunydd sy’n deillio o fwyngloddio a chwarela

(1)Mae gwarediad trethadwy wedi ei ryddhau rhag treth os yw’n warediad deunydd—

(a)sydd i gyd yn deillio o weithrediadau mwyngloddio (boed yn fwyngloddio dwfn neu’n fwyngloddio brig) neu o weithrediadau chwarela,

(b)sydd i gyd yn ddeunydd sy’n bodoli’n naturiol a echdynnwyd o’r ddaear yng nghwrs y gweithrediadau, ac

(c)nad oes dim ohono wedi bod yn destun proses o fewn is-adran (2) a gynhaliwyd ar unrhyw gam rhwng yr echdynnu a’r gwaredu, nac wedi deillio ohoni.

(2)Mae proses o fewn yr is-adran hon os yw—

(a)ar wahân i’r gweithrediadau mwyngloddio neu chwarela, neu

(b)yn rhan o’r gweithrediadau hynny ac yn newid cyfansoddiad cemegol y deunydd yn barhaol.

29Defnyddio deunydd mewn gwaith adfer safle cymeradwy

(1)Mae gwarediad trethadwy wedi ei ryddhau rhag treth os yw—

(a)yn warediad deunydd sy’n ddeunydd cymwys i gyd, a

(b)yn rhan o waith adfer a gyflawnir yn unol â chymeradwyaeth a roddir gan ACC.

(2)Ni chaiff ACC gymeradwyo cyflawni gwaith adfer ar safle tirlenwi awdurdodedig onid yw⁠—

(a)gweithredwr y safle yn gwneud cais ysgrifenedig i ACC am y gymeradwyaeth,

(b)y cais yn cael ei wneud cyn i’r gwaith adfer ddechrau, ac

(c)ACC wedi ei fodloni bod y gwaith yn ofynnol o dan un o amodau trwydded amgylcheddol neu ganiatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r safle.

(3)Caiff cymeradwyaeth—

(a)ymwneud â’r holl waith a ddisgrifir yn y cais am y gymeradwyaeth neu ran ohono;

(b)ymwneud â gwaith a gyflawnwyd cyn i’r gymeradwyaeth gael ei rhoi neu a gyflawnir ar ôl hynny (neu’r ddau);

(c)bod yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau (er enghraifft, amod sy’n gwneud rhoi adroddiadau i ACC ynglŷn â chyflawni’r gwaith yn ofynnol).

30Gwaith adfer safle: y weithdrefn wrth wneud cais am gymeradwyaeth

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig wedi gwneud cais i ACC am gymeradwyaeth i gyflawni gwaith adfer.

(2)Caiff ACC ofyn drwy hysbysiad am ragor o wybodaeth gan y gweithredwr at ddiben penderfynu a ddylid rhoi cymeradwyaeth ai peidio neu o dan ba delerau y dylid ei rhoi.

(3)Rhaid i hysbysiad am gais am ragor o wybodaeth—

(a)cael ei ddyroddi o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae ACC yn cael y cais am gymeradwyaeth, a

(b)pennu o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid darparu’r wybodaeth bellach, y mae’n rhaid iddo fod yn 30 o ddiwrnodau o leiaf gan ddechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y cais.

(4)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr am ei benderfyniad ar y cais am gymeradwyaeth o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau—

(a)os nad yw ACC yn gwneud cais am ragor o wybodaeth, â’r diwrnod y mae ACC yn cael y cais am gymeradwyaeth, neu

(b)os yw ACC yn gwneud cais am ragor o wybodaeth, â’r cynharaf o’r canlynol—

(i)y diwrnod y mae ACC yn cael yr wybodaeth, a

(ii)y diwrnod y mae’r cyfnod ar gyfer darparu’r wybodaeth yn dod i ben.

(5)Os yw ACC yn cymeradwyo’r cais, rhaid i’r hysbysiad nodi manylion y gymeradwyaeth.

(6)Caiff ACC a gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gytuno i ymestyn cyfnod a bennir gan yr adran hon neu oddi tani.

(7)Os yw’r cyfnod a bennir yn is-adran (4) (gan gynnwys unrhyw estyniad i’r cyfnod y cytunir iddo o dan is-adran (6)) yn dod i ben heb i ACC fod wedi dyroddi hysbysiad am ei benderfyniad, mae ACC i’w drin fel pe bai wedi cymeradwyo cyflawni gwaith adfer fel y’i disgrifir yn y cais (gan gynnwys unrhyw ran o’r gwaith a gyflawnwyd rhwng yr adeg y gwnaed y cais a’r adeg y daeth y cyfnod hwnnw i ben).

31Gwaith adfer safle: amrywio cymeradwyaeth

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo ACC wedi cymeradwyo cyflawni gwaith adfer ar safle tirlenwi awdurdodedig.

(2)Caiff gweithredwr y safle wneud cais ysgrifenedig i ACC amrywio’r gymeradwyaeth; ac mae adran 30 yn gymwys i gais i amrywio fel y mae’n gymwys i gais am gymeradwyaeth.

(3)Caiff ACC amrywio’r gymeradwyaeth ar ei gymhelliad ei hun os yw wedi ei fodloni bod yr amrywiad yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y gymeradwyaeth ond yn ymwneud â gwaith adfer sy’n ofynnol o dan un o amodau trwydded amgylcheddol neu ganiatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r safle.

(4)Os yw ACC yn amrywio cymeradwyaeth ar ei gymhelliad ei hun, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad sy’n nodi manylion yr amrywiad i weithredwr y safle tirlenwi awdurdodedig.

(5)Nid yw amrywio cymeradwyaeth yn effeithio ar gymhwysiad adran 29 i waith adfer a gyflawnwyd yn unol â’r gymeradwyaeth cyn ei hamrywio.

32Ail-lenwi mwyngloddiau brig a chwareli

(1)Mae gwarediad trethadwy wedi ei ryddhau rhag treth—

(a)os yw’n warediad deunydd sy’n ddeunydd cymwys i gyd,

(b)os caiff ei wneud ar safle tirlenwi awdurdodedig (neu ar ran o safle o’r fath) a ddefnyddiwyd ar gyfer gweithrediadau mwyngloddio brig neu weithrediadau chwarela,

(c)os caiff ei wneud yn unol ag amod caniatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r safle sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r safle gael ei ail-lenwi (neu i’r rhan o dan sylw gael ei hail-lenwi) yn llwyr neu’n rhannol ar ôl i’r gweithrediadau hynny ddod i ben, a

(d)os na wnaed unrhyw warediadau trethadwy eraill ar y safle (neu ar y rhan o dan sylw) ers i’r gweithrediadau hynny ddod i ben, ar wahân i warediadau a oedd wedi eu rhyddhau rhag treth o dan adran 28 neu o dan yr adran hon.

(2)Os daeth y gwarediadau a grybwyllir yn is-adran (1)(b) i ben cyn i’r adran hon ddod i rym, mae’r cyfeiriad yn is-adran (1)(d) at warediadau trethadwy eraill yn cynnwys gwarediadau a oedd yn warediadau trethadwy at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Cyllid 1996 (p. 8) (treth dirlenwi).

(3)Os daeth yr holl weithrediadau mwyngloddio brig a’r holl weithrediadau chwarela ar y safle i ben cyn 1 Hydref 1999, nid yw’r gwarediadau deunydd ar y safle wedi eu rhyddhau rhag treth o dan yr adran hon oni bai bod y gofyniad a grybwyllir yn is-adran (1)(c) wedi ei osod ar y dyddiad hwnnw neu cyn hynny.

33Pŵer i addasu rhyddhadau

(1)Caiff rheoliadau—

(a)creu rhyddhad ychwanegol rhag treth,

(b)addasu rhyddhad presennol, neu

(c)dileu rhyddhad.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu i ryddhad fod yn gymwys yn ddarostyngedig i amodau (er enghraifft, amod sy’n ei gwneud yn ofynnol hysbysu ACC cyn gwneud gwarediad trethadwy).

(3)Caiff y rheoliadau ddiwygio unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.

PENNOD 4CASGLU A RHEOLI’R DRETH

Cofrestru

34Cofrestr o bersonau sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy

(1)Rhaid i ACC gadw cofrestr o bersonau sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy.

(2)Mae person yn cyflawni gweithrediadau trethadwy os yw’r person yn weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig lle y gwneir gwarediadau trethadwy.

(3)Rhaid i gofnod person ar y gofrestr gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 2.

(4)Caiff y gofrestr gynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae ACC o’r farn ei bod yn briodol at ddibenion casglu a rheoli’r dreth.

(5)Caiff ACC gyhoeddi gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr.

35Dyletswydd i fod yn gofrestredig

(1)Rhaid i berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy fod wedi ei gofrestru gydag ACC.

(2)Rhaid i berson sy’n bwriadu cyflawni gweithrediadau trethadwy ond nad yw wedi ei gofrestru—

(a)gwneud cais ysgrifenedig i ACC i gael ei gofrestru, a

(b)gwneud hynny o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn y diwrnod y mae’r person yn dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy.

(3)Rhaid i ACC gofrestru’r person os yw wedi ei fodloni bod y cais—

(a)yn cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol gan ACC i gofrestru’r person, a

(b)ar y ffurf a bennir gan ACC (os o gwbl).

(4)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person am ei benderfyniad ar y cais.

(5)Os yw ACC yn cofrestru’r person, rhaid i’r hysbysiad nodi cofnod y person yn y gofrestr.

36Newidiadau a chywiro gwybodaeth

(1)Rhaid i berson cofrestredig roi hysbysiad i ACC am unrhyw newid mewn amgylchiadau sy’n peri i gofnod y person yn y gofrestr fod yn anghywir.

(2)Rhaid rhoi’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r newid yn digwydd.

(3)Rhaid i berson sydd wedi darparu gwybodaeth i ACC at ddiben sy’n ymwneud â chofrestru roi hysbysiad i ACC os yw’r person yn darganfod bod unrhyw ran o’r wybodaeth yn anghywir.

(4)Rhaid rhoi’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n ddechrau â’r diwrnod y mae’r person yn darganfod yr anghywirdeb.

(5)Os yw ACC wedi ei fodloni bod gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr yn anghywir, caiff gywiro’r gofrestr (pa un a yw’r person cofrestredig y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef wedi rhoi hysbysiad i ACC am yr anghywirdeb ai peidio).

(6)Os yw ACC yn cywiro cofnod person yn y gofrestr, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad i’r person yn nodi’r cofnod fel y’i cywirwyd.

37Canslo cofrestriad

(1)Rhaid i berson cofrestredig sy’n peidio â chyflawni gweithrediadau trethadwy wneud cais ysgrifenedig i ACC i ganslo cofrestriad y person hwnnw.

(2)Rhaid gwneud y cais cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person yn peidio â chyflawni gweithrediadau trethadwy.

(3)Caiff ACC ganslo cofrestriad person os yw wedi ei fodloni bod y person wedi peidio â chyflawni gweithrediadau trethadwy (pa un a yw’r person wedi gwneud cais i ganslo’r cofrestriad ai peidio).

(4)Ond ni chaiff ACC ganslo cofrestriad y person oni bai ei fod wedi ei fodloni bod yr holl dreth y mae’n ofynnol i’r person ei thalu wedi ei thalu.

(5)Caiff ACC hefyd ganslo cofrestriad person os yw wedi ei fodloni nad yw’r person wedi cyflawni gweithrediadau trethadwy ac nad yw’n bwriadu gwneud hynny.

(6)Os yw ACC yn canslo cofrestriad person, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am y canslo i’r person.

38Adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â chofrestru

Yn adran 172 o DCRhT (penderfyniadau apeliadwy), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (h) (a fewnosodir gan adran 24 o’r Ddeddf hon) mewnosoder—

(i)penderfyniad sy’n ymwneud â chofrestru person at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;.

Cyfrifo treth

39Dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â chyfnod cyfrifyddu

(1)Rhaid i berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy ddychwelyd ffurflen dreth i ACC mewn cysylltiad â phob cyfnod cyfrifyddu.

(2)Rhaid i’r ffurflen dreth gynnwys—

(a)asesiad o swm y dreth sydd i’w godi ar y person mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu (gweler adran 41), a

(b)naill ai—

(i)datganiad gan y person fod yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ar y ffurflen dreth, a’r wybodaeth mewn unrhyw ddogfen sy’n mynd gyda’r ffurflen dreth, yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf gwybodaeth y person, neu

(ii)os yw’r person yn awdurdodi asiant i lenwi a dychwelyd y ffurflen dreth ar ran y person, ardystiad gan yr asiant fod y person wedi gwneud datganiad i’r perwyl hwnnw.

(3)Rhaid dychwelyd y ffurflen dreth ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen dreth neu cyn hynny.

(4)Dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth—

(a)yw diwrnod gwaith olaf y mis sy’n dilyn y mis y daw’r cyfnod cyfrifyddu i ben ynddo, oni bai y caiff y dyddiad ffeilio ei amrywio o dan adran 40;

(b)os caiff y dyddiad ffeilio ei amrywio o dan adran 40, yw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad sy’n gwneud yr amrywiad (ac os gwneir mwy nag un amrywiad i’r dyddiad ffeilio, yw’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad sy’n gwneud yr amrywiad diwethaf).

(5)Y cyfnodau cyfrifyddu y mae’n rhaid i berson ddychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â hwy—

(a)yw’r cyfnodau a bennir yn is-adrannau (6) a (7), oni bai y caiff y cyfnodau hynny eu hamrywio o dan adran 40;

(b)os caiff y cyfnodau a bennir yn is-adrannau (6) a (7) eu hamrywio o dan adran 40, yw’r cyfnodau a bennir yn yr hysbysiad sy’n gwneud yr amrywiad (ac os gwneir mwy nag un amrywiad i’r cyfnodau cyfrifyddu, yw’r cyfnodau a bennir yn yr hysbysiad sy’n gwneud yr amrywiad diwethaf).

(6)Yn achos person sy’n gofrestredig—

(a)y cyfnod cyfrifyddu cyntaf yw’r cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person yn dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy (neu, os yw’n ddiweddarach, y diwrnod y daw’r person yn gofrestredig), a

(ii)sy’n dod i ben â diwrnod a bennir mewn hysbysiad a ddyroddir gan ACC i’r person;

(b)y cyfnodau cyfrifyddu dilynol yw pob cyfnod dilynol o 3 mis y mae’r person yn cyflawni gweithrediadau trethadwy ynddo.

(7)Yn achos person nad yw’n gofrestredig—

(a)y cyfnod cyfrifyddu cyntaf yw’r cyfnod—

(i)sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person yn dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy, a

(ii)sy’n dod i ben â diwedd y chwarter calendr y mae’r person yn dechrau gwneud hynny (neu, os yw’n gynharach, y diwrnod cyn y diwrnod y daw’r person yn gofrestredig);

(b)y cyfnodau cyfrifyddu dilynol yw pob chwarter calendr dilynol y mae’r person yn cyflawni gweithrediadau trethadwy ynddo (ond os daw’r person yn gofrestredig cyn diwedd chwarter calendr, daw’r cyfnod cyfrifyddu sy’n ymwneud â’r chwarter hwnnw i ben â’r diwrnod cyn y diwrnod y daw’r person yn gofrestredig).

(8)Yn yr adran hon, ystyr “chwarter calendr” yw cyfnod o 3 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi neu 31 Rhagfyr.

40Pŵer i amrywio cyfnod cyfrifyddu neu ddyddiad ffeilio

(1)Caiff ACC amrywio—

(a)hyd cyfnod cyfrifyddu;

(b)dyddiad ffeilio ffurflen dreth.

(2)Gwneir amrywiad drwy ddyroddi hysbysiad i’r person y mae’r amrywiad yn gymwys iddo.

(3)Rhaid i’r hysbysiad nodi manylion yr amrywiad.

(4)Caiff ACC ddyroddi hysbysiad o dan yr adran hon naill ai—

(a)ar gais person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy neu sy’n bwriadu gwneud hynny, neu

(b)ar ei gymhelliad ei hun.

(5)Rhaid i gais i amrywio gael ei gyflwyno mewn ysgrifen.

(6)Os yw ACC yn gwrthod cais i amrywio, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am ei benderfyniad i’r person a wnaeth y cais.

41Y dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â chyfnod cyfrifyddu

(1)Mae’r dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwy a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig i’w chodi mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu y gwneir y gwarediad ynddo.

(2)Ond os yw’r person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy ar y safle yn dyroddi anfoneb dirlenwi mewn cysylltiad â’r gwarediad o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y gwarediad, mae swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad i’w godi mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu y dyroddir yr anfoneb ynddo (yn hytrach na’r cyfnod cyfrifyddu y gwneir y gwarediad ynddo).

(3)Nid yw is-adran (2) yn gymwys i’r gwarediad os yw’r person wedi rhoi hysbysiad i ACC, cyn dyroddi’r anfoneb dirlenwi, nad yw’r person yn dymuno manteisio arni.

(4)Caiff y person amrywio’r hysbysiad, neu ei dynnu’n ôl, drwy roi hysbysiad pellach i ACC.

(5)Caiff person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy, neu sy’n bwriadu gwneud hynny, wneud cais ysgrifenedig i ACC am gymhwyso is-adran (2)—

(a)i’r holl warediadau trethadwy a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig y mae’r person yn cyflawni gweithrediadau trethadwy arno, neu

(b)i ddisgrifiad o warediadau trethadwy a bennir yn y cais,

fel pe bai’r cyfeiriad at gyfnod o 14 o ddiwrnodau yn gyfeiriad at gyfnod hwy.

(6)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person am ei benderfyniad ar y cais; ac os yw ACC yn caniatáu’r cais, rhaid i’r hysbysiad bennu’r cyfnod hwy a’r gwarediadau trethadwy y mae’r cyfnod hwy i’w gymhwyso mewn perthynas â hwy.

(7)Caiff ACC amrywio’r hysbysiad, neu ei dynnu’n ôl, drwy ddyroddi hysbysiad pellach i’r person.

(8)Yn yr adran hon, ystyr “anfoneb dirlenwi” yw anfoneb—

(a)a ddyroddir mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy, a

(b)sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 3.

(9)Caiff rheoliadau ddiwygio Atodlen 3.

Talu, adennill ac ad-dalu treth

42Talu treth

(1)Rhaid i berson sy’n dychwelyd ffurflen dreth dalu’r swm o dreth a nodir ar y ffurflen dreth fel y swm yr aseswyd ei fod i’w godi ar y person ar ddiwrnod ffeilio’r ffurflen dreth neu cyn hynny.

(2)Pan asesir bod swm o dreth i’w godi ar y person o ganlyniad i ddiwygiad a wneir i’r ffurflen dreth o dan adran 41 o DCRhT (trethdalwr yn diwygio ffurflen dreth), rhaid i’r person dalu’r swm—

(a)os gwneir y diwygiad ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen dreth neu cyn hynny, ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, neu

(b)os gwneir y diwygiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, ar y diwrnod y mae’r person yn rhoi hysbysiad i ACC am y diwygiad.

(3)Gweler y darpariaethau a ganlyn yn DCRhT am ddarpariaeth ynghylch talu symiau o dreth mewn amgylchiadau eraill—

43Dyletswydd i gadw crynodeb treth gwarediadau tirlenwi

(1)Rhaid i berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy gadw cofnod (sef “crynodeb treth gwarediadau tirlenwi”) o—

(a)swm y dreth sydd i’w godi ar y person, a

(b)y dreth a dalwyd gan y person,

mewn cysylltiad â phob cyfnod cyfrifyddu.

(2)Caiff ACC bennu—

(a)ar ba ffurf y mae’n rhaid cadw’r crynodeb treth gwarediadau tirlenwi, a

(b)yr wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys ynddo.

(3)Mae’r crynodeb treth gwarediadau tirlenwi i’w drin at ddibenion DCRhT fel cofnod y mae’n ofynnol ei gadw a’i storio’n ddiogel o dan adran 38(1) o DCRhT at ddiben dangos bod y ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dychwelyd mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu yn gywir ac yn gyflawn.

44Gohirio adennill

(1)Mae adran 181B o DCRhT (ceisiadau i ohirio) (a fewnosodir gan baragraff 63 o Atodlen 23 i DTTT) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (3)—

(a)hepgorer yr “a” ar ôl paragraff (a), a

(b)ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder , ac

(c)pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, y rhesymau pam y mae’r person sy’n gwneud y cais yn credu y byddai adennill y swm (a llog ar y swm hwnnw) yn achosi caledi ariannol i’r person.

(3)Yn is-adran (4)—

(a)daw’r geiriau o “yn credu” i “yn ormodol,” yn baragraff (a), a

(b)ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder a

(b)pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, â rheswm i gredu y byddai adennill y swm (a llog ar y swm hwnnw) yn achosi caledi ariannol i’r person,.

(4)Yn is-adran (5)—

(a)daw’r geiriau o “yn credu” i “yn ormodol,” yn baragraff (a), a

(b)yn lle’r geiriau o “caiff ganiatáu” i’r diwedd rhodder neu

(b)pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, â rheswm i gredu mai dim ond mewn cysylltiad â rhan o’r swm (a llog ar y rhan honno) y byddai adennill yn achosi caledi ariannol i’r person,

caiff ACC ganiatáu’r cais mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r swm sy’n briodol yn ei farn.

45Dim gofyniad i ollwng neu ad-dalu treth oni thelir yr holl dreth

Yn adran 67 o DCRhT (achosion pan na fo angen i ACC roi effaith i hawliad), ar ôl is-adran (11) mewnosoder—

(12)Achos 8 yw—

(a)pan wneir yr hawliad mewn cysylltiad â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, a

(b)pan na fo swm o dreth gwarediadau tirlenwi y mae’n ofynnol i’r hawlydd ei dalu wedi ei dalu.