Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 4 - Gwarediadau Trethadwy A Wneir Mewn Lleoedd Heblaw Safleoedd.Tirlenwi Awdurdodedig

Pennod 7 – Amrywiol
Darpariaeth bellach mewn perthynas â’r dreth
Adran 88 – Addasu contractau

161.Mae adran 88 yn darparu pan fo:

a.

gwarediad trethadwy yn cael ei wneud ar safle tirlenwi awdurdodedig,

b.

contract yn ei le sy’n darparu ar gyfer gwneud taliad am y gwarediad hwnnw, ac

c.

y dreth sydd i’w chodi ar y gwarediad hwnnw yn newid o ganlyniad i ddeddfiad sy’n ymwneud â TGT,

bod y taliad o dan y contract ar gyfer y gwarediad hwnnw i’w addasu i adlewyrchu’r newid yn y dreth sydd i’w chodi ar y gwarediad, oni bai bod y contract yn darparu fel arall.

Adran 89 – Pŵer i osod atebolrwydd eilaidd ar reolwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig

162.Mae’r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i reolwr safle tirlenwi awdurdodedig (neu ran o safle o’r fath), dalu’r dreth sydd i’w chodi ar warediadau a wneir ar y safle (neu’r rhan o dan sylw). Rheolwr yw’r person heblaw gweithredwr y safle tirlenwi awdurdodedig sy’n rheoli penderfyniadau am yr hyn y mae modd ei waredu ar y safle, ond nad yw’n gwneud y penderfyniadau hynny fel gweithiwr neu asiant yn unig.

Adran 90 – Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

163.Mae’r adran hon yn cyflwyno Atodlen 4 sy’n nodi’r mân ddiwygiadau a’r diwygiadau canlyniadol y mae’r Ddeddf hon yn eu gwneud i DCRhT.

Adran 91 - Arfer pwerau a dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon

164.Mae is-adran (1)(a) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw i’r amcan o leihau gwarediadau tirlenwi yng Nghymru wrth arfer eu dyletswyddau a’u pwerau o dan y Ddeddf hon.

165.Mae is-adran (1)(b) yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi sylw, yn ogystal, i unrhyw faterion eraill y maent yn meddwl eu bod yn briodol. Gallai’r materion eraill hyn gynnwys ffactorau masnachol, cyllidol, iechyd y cyhoedd neu ffactorau amgylcheddol eraill. Er enghraifft, efallai y byddai Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol annog mathau penodol o warediadau i safleoedd tirlenwi er mwyn lleihau’r niwed posibl i’r amgylchedd.

166.Effaith is-adran (2) yw nad yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw i’r amcan o leihau gwarediadau tirlenwi pan fyddant yn arfer eu pwerau a’u dyletswyddau o dan adran 92 mewn perthynas â Chynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.