Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 4 - Gwarediadau Trethadwy A Wneir Mewn Lleoedd Heblaw Safleoedd.Tirlenwi Awdurdodedig

Pennod 2 – Mannau nad ydynt at Ddibenion Gwaredu
Adran 55 – Dynodi Man nad yw at Ddibenion Gwaredu

102.Caiff man nad yw at ddibenion gwaredu ei chreu ar safle tirlenwi awdurdodedig naill ai oherwydd bod gweithredwr y safle tirlenwi yn gwneud cais i greu man nad yw at ddibenion gwaredu neu oherwydd bod ACC yn ei gwneud yn ofynnol i fan o’r fath gael ei greu.

103.Mae’r adran hon yn caniatáu i ACC ddynodi rhan o safle tirlenwi awdurdodedig yn fan nad yw at ddibenion gwaredu drwy ddyroddi hysbysiad i weithredwr y safle. Fe’i bwriedir i alluogi ACC i wahaniaethu rhwng y gweithgarwch hwnnw ar safle tirlenwi a ystyrir yn warediadau trethadwy a’r dulliau hynny o ddefnyddio gwastraff nad ydynt yn drethadwy. Mae hyn yn bwysig i ganfod yr atebolrwydd cywir o ran treth.

104.Mae is-adran (3) yn nodi’r wybodaeth y caiff ACC ei phennu neu y mae’n rhaid iddo ei phennu yn yr hysbysiad dynodi i alluogi gweithredwr y safle tirlenwi i reoli’r man nad yw at ddibenion gwaredu. Ymhlith pethau eraill, rhaid i ACC nodi pa ddeunydd y mae’n rhaid ei ddodi mewn man a chaiff hefyd nodi pa ddeunydd na chaniateir ei ddodi mewn man; er enghraifft, gallai ACC ddyroddi hysbysiad sy’n nodi na chaniateir dodi deunydd cyfradd safonol mewn man nad yw at ddibenion gwaredu lle y mae deunydd cymwys yn cael ei storio.

105.Mae is-adran (4) yn darparu y caiff yr hysbysiad gynnwys amodau neu eithriadau ac y caiff wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol. Er enghraifft, gallai amod ei gwneud yn ofynnol i weithredwr y safle tirlenwi weithredu mewn ffordd sy’n dderbyniol o dan delerau ei drwydded amgylcheddol. Mae’r ddarpariaeth hon yn darparu hyblygrwydd i alluogi ACC i addasu dynodiad man nad yw at ddibenion gwaredu fesul achos, gan gydnabod bod pob safle tirlenwi yn wahanol.

106.Mae is-adrannau (5) i (7) yn rhoi pŵer i ACC amrywio neu ddileu hysbysiad dynodi ac yn nodi’r broses ar gyfer gwneud hynny. Yn yr un modd â dynodiad gwreiddiol man nad yw at ddibenion gwaredu, gall amrywio neu ddileu dynodiad ddeillio o ganlyniad i gais gan weithredwr y safle tirlenwi, neu gall ACC ei ysgogi.

107.Rhaid i geisiadau i wneud, i amrywio neu i ddileu hysbysiad dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu gael eu cyflwyno yn ysgrifenedig a chaiff ACC bennu ffurf, cynnwys a dull danfon hysbysiad o’r fath (o dan adran 191 o DCRhT). Mae is-adran (9) yn ei gwneud yn ofynnol i ACC ddyroddi hysbysiad i weithredwr y safle tirlenwi os yw ACC yn gwrthod cais i wneud, i amrywio neu i ddileu hysbysiad dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu.

108.Caiff rheoliadau ddiwygio’r adran hon i wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch yr hyn sydd i’w gynnwys mewn hysbysiad a ddyroddir o dan yr adran hon.

Adran 56 – Dyletswyddau gweithredwr mewn perthynas â man nad yw at ddibenion gwaredu

109.Mae is-adran (1) yn gosod dyletswydd ar weithredwyr safleoedd tirlenwi i gydymffurfio â thelerau hysbysiad dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu. Mae is-adrannau (2) i (4) yn nodi’r amgylchiadau pan na fydd y ddyletswydd hon yn gymwys. Mae hyn yn cynnwys achosion pan fo deunydd yn cael ei waredu yn rhywle arall ar y safle, fel y nodir yn is-adran (2), a phan fo deunydd a gludir i’r safle yn cael ei waredu neu ei symud o’r safle tirlenwi ar unwaith (er enghraifft, am ei fod yn llwyth wedi ei rannu), fel y nodir yn is-adran (3). Mae is-adran (4) yn darparu’r hyblygrwydd i ACC gytuno i ddeunydd gael ei drin mewn modd nad yw’n unol â thelerau’r dynodiad mewn achosion penodol. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys sefyllfa pan fo llwyth llosg yn cyrraedd y safle tirlenwi a bod angen ei drin ar unwaith.

110.Mae is-adran (5) yn caniatáu i gytundeb gan ACC o dan is-adran (4) fod yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau. Mae is-adran (5)(b) yn ystyried yn benodol y caiff cytundeb o’r fath ymwneud â storio symiau mawr o ddeunydd tebyg (y cyfeirir ato yn aml fel gwastraff swmpus), ac mae’n galluogi ACC i gytuno i drin symudiadau o’r man fel symudiadau gwastraff a storiwyd ynghynt.

Adran 57 - Dyletswyddau i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel

111.Mae is-adrannau (1) a (2) yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr y safle tirlenwi gadw cofnodion priodol o ddeunydd mewn man nad yw at ddibenion gwaredu i dystio bod y man nad yw at ddibenion gwaredu yn cael ei weithredu yn unol â’r hysbysiad dynodi a wnaed o dan adran 55(3). Caiff ACC bennu ffurf a chynnwys cofnodion o’r fath.

112.Rhaid storio’r cofnodion yn ddiogel hyd ddiwedd y cyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff y deunydd ei symud o’r man nad yw at ddibenion gwaredu, neu’r dyddiad y mae’n peidio â bod yn ddeunydd o ddisgrifiad y mae’n rhaid ei ddodi yn y man, pa un bynnag sydd gynharaf. Caiff cytundeb o dan adran 56(4)(a) bennu dyddiad gwahanol y bydd y cyfnod o 6 mlynedd yn dechrau, a allai, er enghraifft, gael ei ddefnyddio mewn achosion sy’n ymwneud â storio gwastraff swmpus.

113.Mae cosbau yn gysylltiedig â’r gofynion o ran y mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu yn adrannau 56 a 57. Nodir y cosbau hyn yn adrannau 68 a 69 o’r Ddeddf.

Adran 58 – Adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â dynodi mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu

114.Mae’r adran hon yn mewnosod penderfyniad sy’n ymwneud â dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu (gan gynnwys mewn perthynas â’i amrywio neu ei ddileu) yn y rhestr o benderfyniadau y gellir eu hadolygu a/neu apelio yn eu herbyn yn unol â’r darpariaethau yn Rhan 8 o DCRhT.