Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

(a gyflwynir gan adran 118)

ATODLEN 4DARPARU TOILEDAU: DIWYGIADAU CANLYNIADOL

This schedule has no associated Explanatory Notes

Deddf Iechyd y Cyhoedd 1936 (p.49)

1(1)Mae adran 87 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 (darparu cyfleusterau cyhoeddus) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1)—

(a)yn lle “A county council, a local authority” rhodder “A county council in England, a local authority in England”;

(b)hepgorer “or community”.

(3)Yn y pennawd, ar ôl “conveniences”, mewnosoder “in England”.

Deddf Priffyrdd 1980 (p.66)

2Yn adran 114 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (darparu cyfleusterau cyhoeddus ar gyfer defnyddwyr ffyrdd), yn lle is-adran (4) rhodder—

(4)The powers in subsection (1) are without prejudice to—

(a)section 87 of the Public Health Act 1936 (provision of public conveniences in England);

(b)section 116 of the Public Health (Wales) Act 2017 (local authority power to provide public toilets in Wales).

Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 (dccc 2)

3(1)Yn Neddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012, mae Atodlen 1 (is-ddeddfau pan na fo cadarnhad yn ofynnol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mhob tabl, hepgorer y cofnod sy’n ymwneud ag adran 87 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936.

(3)Ym mhob tabl, yn y lle priodol mewnosoder—

Adran 117 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017Rheoleiddio ymddygiad personau mewn toiledauCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned