Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 1.Trosolwg

8.Mae adran 1 yn rhoi trosolwg o brif ddarpariaethau’r Ddeddf. Mae’n crynhoi’r pynciau yr ymdrinnir â hwy ym mhob Rhan ddilynol.

Rhan 2.Gordewdra

Adran 2 - Strategaeth genedlaethol ar atal a lleihau gordewdra: cyhoeddi ac adolygu

9.Mae’r adran hon yn gosod gofyniad ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth genedlaethol ar atal gordewdra a lleihau lefelau gordewdra yng Nghymru. Rhaid i’r strategaeth nodi amcanion a fydd yn cyfrannu at atal gordewdra a lleihau lefelau gordewdra, yn ogystal â chamau gweithredu ar gyfer cyflawni’r amcanion.

10.Mae’r adran hon hefyd yn darparu manylion ynghylch sut y mae’r strategaeth genedlaethol i gael ei hadolygu a sut yr ymgynghorir yn ei chylch. Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r strategaeth ar unrhyw adeg, ond os ydynt yn gwneud hynny, rhaid iddynt gyhoeddi’r fersiwn ddiwygiedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Rhaid i’r strategaeth gael ei hadolygu dair blynedd ar ôl iddi gael ei chyhoeddi am y tro cyntaf, ac ar ôl pob cyfnod dilynol o dair blynedd. Wrth ddatblygu’r strategaeth a chyn pob adolygiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â rhanddeiliaid priodol.

Adran 3 - Gweithredu‘r strategaeth genedlaethol

11.Mae’r adran hon yn darparu manylion pellach ynghylch sut y mae’r strategaeth genedlaethol ar atal a lleihau gordewdra i gael ei gweithredu a sut yr adroddir amdani. Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r amcanion a nodir yn y fersiwn fwyaf diweddar o’r strategaeth, a rhaid iddynt gyhoeddi adroddiad cynnydd yn dilyn pob adolygiad o’r strategaeth.

Rhan 3.Tybaco a Chynhyrchion Nicotin

Pennod 1 - Ysmygu

12.Mae’r Bennod hon yn cynnwys darpariaethau sy’n gwneud mangreoedd cyhoeddus caeedig, mangreoedd cyhoeddus sylweddol gaeedig a gweithleoedd a rennir yn ddi-fwg, yn ogystal â rhai mangreoedd penodol nad ydynt yn gaeedig. Cyfeirir atynt fel ‘mangreoedd di-fwg’. At ddiben y Bennod hon, ystyr ‘di-fwg’ yw na chaniateir ysmygu, oni bai bod y mangreoedd wedi eu hesemptio drwy reoliadau a wneir o dan adran 16 o’r Ddeddf.

13.Mae’r Bennod hon yn ailddatgan Pennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Iechyd 2006 (Mangreoedd, Mannau a Cherbydau Di-fwg) o ran Cymru, gyda rhai mân addasiadau. Mae hefyd yn dod â lleoliadau ychwanegol o dan y drefn ddi-fwg yng Nghymru, sef lleoliadau gofal awyr agored i blant, tir ysgolion, tir ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus.

14.Gall rheoliadau hefyd ddarparu i fangreoedd ychwanegol fod yn ddi-fwg o dan amgylchiadau penodol. Nid oes angen i’r mangreoedd di-fwg ychwanegol hyn fod yn gaeedig nac yn sylweddol gaeedig. Caiff rheoliadau hefyd ddarparu i gerbydau fod yn ddi-fwg; cyfeirir at gerbydau o’r fath fel ‘cerbydau di-fwg’ yn y Bennod hon.

Adran 4 - Ysmygu

15.Mae’r adran hon yn darparu’r diffiniad o “ysmygu” ar gyfer Pennod 1 o Ran 3 o’r Ddeddf. Mae’r diffiniad yn cwmpasu ysmygu sigaréts, pibau, sigârs, sigaréts llysieuol a phibau dŵr (a elwir yn aml yn bibau hookah neu shisha) etc. Nid yw’n cwmpasu “e-sigaréts”.

Adran 5 - Y drosedd o ysmygu mewn mangre ddi-fwg neu gerbyd di-fwg

16.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn drosedd i ysmygu mewn mangre ddi-fwg neu gerbyd di-fwg. Dim ond yn y llys ynadon y caniateir gwrando achos am y drosedd hon a chaniateir i’r drosedd gael ei chosbi ar euogfarn drwy ddirwy nad yw’n uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol. Nodir y lefelau ar y raddfa safonol yn adran 37 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982. Caiff swyddog awdurdodedig ddyroddi hysbysiad cosb benodedig yn hytrach nag erlyn (gweler adran 27).

Adran 6 - Y drosedd o fethu ag atal ysmygu mewn mangre ddi-fwg

17.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i reolwyr gweithleoedd di-fwg, mangreoedd cyhoeddus a lleoliadau gofal awyr agored i blant gymryd camau rhesymol i atal ysmygu yn y mannau hynny. Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n gosod dyletswyddau cyfatebol mewn cysylltiad â thir ysgolion di-fwg, tir ysbytai di-fwg a meysydd chwarae cyhoeddus di-fwg, ac unrhyw fangreoedd di-fwg ychwanegol a cherbydau di-fwg a ddynodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 13 neu 15. Mae unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio â’r dyletswyddau hyn yn cyflawni trosedd. Dim ond yn y llys ynadon y caniateir gwrando achos am y drosedd hon a chaniateir i’r drosedd gael ei chosbi ar euogfarn drwy ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol. Nodir y lefelau ar y raddfa safonol yn adran 37 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982.

Adran 7 - Gweithleoedd

18.Mae’r adran hon yn manylu ar ystyr “gweithleoedd” yng nghyd-destun y mangreoedd di-fwg yn y Bennod hon. Ystyr “gweithle” yw man a ddefnyddir fel man gwaith gan fwy nag un person (ni waeth a yw’r bobl hynny yn gweithio yno ar yr un pryd), neu fan gwaith i un person ond y caiff y cyhoedd gael mynediad iddo at ddibenion penodol. Er enghraifft, byddai siop lle y mae un person yn unig yn gweithio yn weithle at ddibenion y Bennod. Pan fo rhannau o’r fangre yn unig yn cael eu defnyddio fel man gwaith, dim ond y rhannau hynny sy’n ddi-fwg. Ym mhob achos, dim ond yr ardaloedd hynny sy’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig sy’n ddi-fwg. Mae pob gweithle yn ddi-fwg drwy’r amser, ac eithrio nad yw annedd a ddefnyddir fel gweithle ond yn ddi-fwg pan y’i defnyddir felly. Er enghraifft, felly, os yw person yn defnyddio ei gartref fel gweithle, a’i bod yn bosibl y daw aelodau o’r cyhoedd yno i gael y nwyddau neu’r gwasanaethau a gynigir, yna dim ond yn y rhannau ohono a ddefnyddir fel gweithle, a dim ond pan fo’r rhannau hynny yn cael eu defnyddio gan y person ar gyfer ei waith, y bydd ei gartref yn ddi-fwg.

Adran 8 - Mangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd

19.Mae’r adran hon yn manylu ar ystyr “mangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd” yng nghyd-destun mangreoedd di-fwg yn y Bennod hon. Mae’n cynnwys pob mangre sydd ar agor i’r cyhoedd neu garfan o’r cyhoedd (ni waeth a yw hyn drwy wahoddiad ai peidio, neu a delir am fynediad ai peidio). Er enghraifft, felly, byddai mannau addoli, clybiau aelodau preifat a phob mangre drwyddedig ar agor i’r cyhoedd at ddibenion y Bennod hon. Pan fo rhannau o’r fangre yn unig ar agor i’r cyhoedd, dim ond y rhannau hynny sy’n ddi-fwg. Dim ond pan fydd ar agor i’r cyhoedd y bydd unrhyw fangre o’r fath yn ddi-fwg a dim ond yn yr ardaloedd hynny sy’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig.

Adran 9 - Lleoliadau gofal awyr agored i blant

20.Mae’r adran hon yn darparu bod lleoliadau gofal awyr agored i blant yng Nghymru yn fangreoedd di-fwg. Mae’n darparu manylion ynghylch ystyr “lleoliadau gofal awyr agored i blant” yng nghyd-destun mangreoedd di-fwg yn y Bennod hon.

21.Yr ardaloedd a gwmpesir gan yr adran hon yw ardaloedd awyr agored y mangreoedd hynny sydd wedi eu cwmpasu gan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Mae’r rhain yn fangreoedd sy’n darparu gofal dydd neu wasanaeth gwarchod plant ar gyfer plentyn neu blant o dan 12 oed.

22.Dim ond pan yw’r fangre yn cael ei defnyddio ar gyfer gofal dydd neu wasanaeth gwarchod plant y mae’r ardaloedd awyr agored yn ddi-fwg. Yn achos gwarchodwyr plant sy’n darparu gofal yn eu cartrefi eu hunain, dim ond os yw un neu ragor o’r plant yn yr ardal awyr agored y mae’r ardaloedd awyr agored yn ddi-fwg.

Adran 10 - Tir ysgolion

23.Mae’r adran hon yn darparu bod tir ysgolion yng Nghymru yn fangreoedd di-fwg. Mae’n darparu manylion ynghylch ystyr “tir ysgolion” yng nghyd-destun mangreoedd di-fwg yn y Bennod hon.

24.Mae tir sy’n cael ei ddefnyddio gan ysgol ond nad yw’n cydffinio â hi yn ddi-fwg pan y’i defnyddir ar gyfer darparu addysg neu ofal plant yn unig, ac yn y rhannau hynny’n unig (is-adran (3)). Er enghraifft, felly, os oes gan ysgol gae chwarae at ei defnydd ei hun yn unig, ond sydd ar draws y ffordd i’r ysgol, dim ond pan fydd y cae chwarae yn cael ei ddefnyddio at ddibenion addysgol neu ofal plant y bydd yn ddi-fwg. Diffinnir “gofal plant” yn adran 28.

25.Ond os yw’r cae chwarae yn cydffinio â’r ysgol, bydd yn ddi-fwg pan yw’n cael ei ddefnyddio at ddiben addysg neu ofal plant, neu pan yw’r ysgol ei hun yn cael ei defnyddio ar gyfer addysg neu ofal plant (is-adran (2)). Felly, yn yr achos hwn bydd y cae chwarae yn ddi-fwg yn ystod oriau ysgol, ac os oes clwb ar ôl yr ysgol yn neuadd yr ysgol (er enghraifft), tra bo’r clwb hwnnw yn cael ei gynnal.

26.Caiff ysgolion sy’n darparu llety preswyl i ddisgyblion ddynodi ardal lle y caniateir ysmygu. Caiff Gweinidogion Cymru bennu mewn rheoliadau amodau sy’n ymwneud ag unrhyw ddynodiad o’r fath, er enghraifft ynghylch maint neu leoliad yr ardal ddynodedig. Nid yw mangre a ddefnyddir i unrhyw raddau fel annedd yn ddi-fwg o dan yr adran hon, felly, er enghraifft, ni fyddai gardd tŷ’r gofalwr sydd o fewn tir yr ysgol yn ddi-fwg.

Adran 11 - Tir ysbytai

27.Mae’r adran hon yn darparu bod tir ysbytai yng Nghymru yn fangreoedd di-fwg. Mae’n darparu manylion ynghylch ystyr “tir ysbytai” yng nghyd-destun mangreoedd di-fwg yn y Bennod hon. Mae’n cynnwys yr holl dir sy’n cydffinio â’r ysbyty, sy’n cael ei ddefnyddio neu ei feddiannu ganddo, ac nad yw’n gaeedig nac yn sylweddol gaeedig. Caniateir dynodi ardal ar dir yr ysbyty lle y caniateir ysmygu. Caiff Gweinidogion Cymru bennu mewn rheoliadau amodau sy’n ymwneud ag unrhyw ddynodiad, er enghraifft ynghylch maint neu leoliad unrhyw ardal ddynodedig.

28.Mae esemptiad o’r gofynion di-fwg ar gyfer tir cartrefi gofal i oedolion a thir hosbisau i oedolion, ac ar gyfer anheddau. Er enghraifft, felly, os yw llety yn cael ei ddarparu i aelod o staff ar dir yr ysbyty, ni fydd gardd ei gartref yn ddi-fwg. Ni fydd gardd hosbis i oedolion yn ddi-fwg ychwaith.

Adran 12 - Meysydd chwarae cyhoeddus

29.Mae’r adran hon yn darparu bod meysydd chwarae cyhoeddus awyr agored yng Nghymru yn fangreoedd di-fwg. Mae’n darparu manylion ynghylch ystyr “meysydd chwarae cyhoeddus” yng nghyd-destun mangreoedd di-fwg yn y Bennod hon. Bydd mangre awyr agored yn gyfystyr â maes chwarae os yw’n bodloni’r gofynion a bennir yn is-adran (4). Mae’r gofynion hyn yn canolbwyntio ar unrhyw ymwneud ar ran awdurdodau lleol, y diben y defnyddir y fangre ato, a phresenoldeb cyfarpar maes chwarae. Mae mangre sy’n gyfystyr â maes chwarae yn ddi-fwg o fewn ei ffin os oes un, neu os nad oes ffin, yna o fewn 5 metr i gyfarpar maes chwarae. Diffinnir “cyfarpar maes chwarae” yn adran 28.

Adran 13 - Mangreoedd di-fwg ychwanegol

30.Mae’r adran hon yn rhoi i Weinidogion Cymru bŵer i wneud rheoliadau i ddynodi mangreoedd di-fwg ychwanegol. Nid oes angen i’r mangreoedd hyn fod yn gaeedig neu’n sylweddol gaeedig (h.y. cânt fod yn fannau agored). Dim ond os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod dynodi’r mangreoedd hynny yn ddi-fwg yn debygol o gyfrannu at hybu iechyd pobl Cymru y cânt ddynodi’r mangreoedd di-fwg ychwanegol hynny.

31.Caiff y rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru hefyd ddarparu ar gyfer esemptiadau i statws di-fwg unrhyw fangreoedd di-fwg ychwanegol. Caiff y rheoliadau, er enghraifft, ganiatáu i’r person a chanddo ofal am y fangre ddynodi ardaloedd lle y mae ysmygu i gael ei ganiatáu. Byddai rhaid i’r dynodiad fod yn unol ag unrhyw amodau a nodir yn y rheoliadau.

32.Ni chaniateir gwneud mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd yn ddi-fwg gan ddefnyddio’r pŵer hwn i wneud rheoliadau.

Adran 14 - Darpariaeth bellach ynghylch mangreoedd di-fwg ychwanegol: anheddau

33.Mae’r adran hon yn cyfyngu ar bŵer Gweinidogion Cymru i ddynodi mangreoedd a ddefnyddir yn rhannol fel anheddau yn fangreoedd di-fwg ychwanegol. Dim ond i’r graddau nad ydynt yn gaeedig nac yn sylweddol gaeedig ac i’r graddau y maent yn weithleoedd neu ar agor i’r cyhoedd y caniateir i Weinidogion Cymru ddynodi anheddau yn ddi-fwg. Ni chaniateir iddynt gael eu gwneud yn ddi-fwg ond pan ydynt yn cael eu defnyddio fel gweithleoedd neu pan ydynt ar agor i’r cyhoedd; ac yn yr ardaloedd hynny sy’n cael eu defnyddio fel gweithleoedd neu sydd ar agor i’r cyhoedd.

Adran 15 - Cerbydau di-fwg

34.Mae’r adran hon yn rhoi i Weinidogion Cymru bŵer i wneud rheoliadau sy’n darparu i gerbydau fod yn ddi-fwg.

35.Mae pŵer cyfatebol i wneud rheoliadau sy’n gymwys i gerbydau at ddibenion mangreoedd di-fwg o dan Ddeddf Iechyd 2006 wedi ei gynnwys yn adran 5 o’r Ddeddf honno. Mae rheoliad 4 o Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007, a wnaed drwy arfer y pŵer yn adran 5 o Ddeddf Iechyd 2006, yn pennu y bydd cerbydau caeedig yn ddi-fwg os cânt eu defnyddio i gludo aelodau o’r cyhoedd, neu fel gweithle ar gyfer mwy nag un person. Mae’r rheoliadau hyn yn parhau yn eu lle hyd nes i reoliadau gael eu gwneud gan ddefnyddio’r pwerau yn yr adran hon o’r Ddeddf hon.

36.Dim ond pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod dynodi cerbyd yn ddi-fwg yn debygol o gyfrannu at hybu iechyd pobl Cymru y cânt ddynodi’r cerbyd hwnnw.

Adran 16 - Mangreoedd di-fwg: esemptiadau

37.Mae’r adran hon yn rhoi i Weinidogion Cymru bŵer i wneud rheoliadau i esemptio mangreoedd neu fannau yng Nghymru o’r gofyniad i fod yn ddi-fwg. Caiff y rheoliadau hyn esemptio mangreoedd ddiffiniedig neu ardaloedd penodol o fewn mangreoedd. Er enghraifft, gellid esemptio ystafell wely ddynodedig mewn gwesty neu ystafell ddynodedig mewn cyfleuster ymchwil neu brofi o’r gofynion di-fwg.

38.Mae pŵer cyfatebol i esemptio mangreoedd, at ddibenion mangreoedd di-fwg o dan Ddeddf Iechyd 2006, wedi ei gynnwys yn adran 3 o’r Ddeddf honno. Mae rheoliad 3 o Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007, a wnaed drwy arfer y pŵer yn adran 3 o Ddeddf Iechyd 2006, yn nodi’r mangreoedd y caiff rheolwyr ddynodi ystafelloedd ysmygu ynddynt (h.y. cânt ddynodi ystafelloedd fel rhai esempt o ofynion di-fwg Deddf Iechyd 2006). Ar hyn o bryd, mae esemptiadau yn gymwys i ystafelloedd penodol mewn cartrefi gofal, hosbisau i oedolion, unedau iechyd meddwl, cyfleusterau ymchwil neu brofi, gwestai, gwestai bach, tafarndai, hostelau a chlybiau aelodau. Mae’r rheoliadau hyn yn parhau yn eu lle hyd nes i reoliadau gael eu gwneud gan ddefnyddio’r pwerau yn yr adran hon o’r Ddeddf hon.

Adran 17 - Arwyddion: mangreoedd di-fwg

39.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n meddiannu neu’n rheoli mangreoedd di-fwg arddangos arwyddion di-fwg yn unol â rheoliadau. Caiff gofynion ar gyfer arwyddion di-fwg gynnwys manylion ynghylch sut y maent i gael eu harddangos, manylebau ynghylch dimensiynau’r arwydd, isafswm maint y testun a’r ffont, unrhyw waith graffig neu symbol y mae rhaid ei gynnwys ac unrhyw rybudd mandadol y mae rhaid ei gynnwys. Caiff Gweinidogion Cymru hefyd wneud rheoliadau sy’n gosod dyletswydd gyfatebol ar y rheini sy’n meddiannu neu’n rheoli mangreoedd di-fwg ychwanegol (adran 13) a cherbydau di-fwg (adran 15). Caiff rheoliadau hefyd ei gwneud yn ofynnol arddangos arwyddion mewn ardaloedd a ddynodir fel rhai nad ydynt yn ddi-fwg. Ni chaiff rheoliadau a wneir o dan yr adran hon ei gwneud yn ofynnol i arwyddion di-fwg gael eu harddangos mewn mangreoedd a ddefnyddir fel anheddau.

40.Mae methu â chydymffurfio â’r gofynion hyn yn drosedd. Dim ond yn y llys ynadon y caniateir gwrando achos am y drosedd hon a chaniateir i’r drosedd gael ei chosbi ar euogfarn drwy ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol. Nodir y lefelau ar y raddfa safonol yn adran 37 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982. Caiff swyddog awdurdodedig ddyroddi hysbysiad cosb benodedig yn hytrach nag erlyn. Mae adran 27 yn cynnwys rhagor o fanylion am hysbysiadau cosb benodedig.

Adran 18 - Awdurdodau gorfodi

41.Mae’r adran hon yn enwi awdurdodau lleol fel yr awdurdodau gorfodi ar gyfer y Bennod hon. Mae hefyd yn caniatáu i’r heddlu gael ei enwi mewn rheoliadau fel awdurdod gorfodi ychwanegol mewn perthynas â’r cyfyngiadau ar ysmygu mewn cerbydau.

42.Mae’r adran hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau gorfodi i orfodi’r darpariaethau di-fwg yn y Bennod hon. Caiff awdurdodau gorfodi drefnu trosglwyddo achos penodol i awdurdod gorfodi arall, er enghraifft, pan fo’r awdurdodau gorfodi hynny yn ymchwilio i’r un person am droseddau sy’n ymwneud â mangreoedd di-fwg a cherbydau di-fwg.

43.Mae ystyr y term “swyddog awdurdodedig” hefyd wedi ei nodi yn yr adran hon. Swyddog awdurdodedig yw unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod gorfodi i gyflawni ei swyddogaethau gorfodi. Gall swyddog awdurdodedig fod neu beidio â bod yn swyddog i’r awdurdod gorfodi.

Adran 19 - Pwerau mynediad

44.Mae’r adran hon yn rhoi pwerau i swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i unrhyw fangre yng Nghymru, ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd, ar unrhyw adeg resymol os yw’n ystyried ei bod yn angenrheidiol er mwyn ymchwilio i drosedd yn y Bennod hon. Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.

45.Ni chaniateir i swyddogion awdurdodedig ddefnyddio grym i fynd i mewn i fangreoedd neu gerbydau wrth arfer eu pŵer o dan yr adran hon. Rhaid i swyddogion awdurdodedig ddangos tystiolaeth o’u hawdurdod cyn mynd i mewn i unrhyw fangreoedd neu gerbydau os gofynnir iddynt wneud hynny. Mae adran 67(9) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 yn darparu bod rhaid i swyddogion awdurdodedig yr awdurdod gorfodi, wrth weithredu yng nghwrs eu swyddogaethau gorfodi, roi sylw i’r cod ymarfer perthnasol a wnaed o dan y Ddeddf honno. Felly, rhaid i swyddogion awdurdodedig roi sylw i God Ymarfer B Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 wrth arfer eu swyddogaethau gorfodi.

Adran 20 - Gwarant i fynd i mewn i annedd

46.Mae’r adran hon yn darparu y caiff ynad heddwch ddyroddi gwarant i alluogi swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd o dan amgylchiadau penodol. Dim ond pan fo’r ynad heddwch wedi ei fodloni bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd wedi ei chyflawni yn y fangre a’i bod yn angenrheidiol mynd i mewn i’r fangre at ddiben cadarnhau a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni y caniateir i warant gael ei dyroddi. Os oes angen caiff swyddog awdurdodedig gael mynediad drwy rym. Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.

Adran 21 - Gwarant i fynd i mewn i fangreoedd eraill

47.Mae’r adran hon yn darparu y caiff ynad heddwch ddyroddi gwarant i alluogi swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i unrhyw fangreoedd, gan gynnwys cerbydau, yng Nghymru, os yw’n ystyried ei bod yn angenrheidiol mewn perthynas â throsedd yn y Bennod hon. Nid yw hyn yn cynnwys mangreoedd a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel anheddau yr ymdrinnir â hwy yn adran 20. Mae’r adran yn nodi’r amgylchiadau pan ganiateir i warant gael ei dyroddi. Os oes angen caiff swyddog awdurdodedig gael mynediad drwy rym.

Adran 22 - Darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediad

48.Mae’r adran hon yn galluogi swyddog awdurdodedig sy’n mynd i mewn i fangre o dan adran 19, 20 neu 21 i fynd ag unrhyw bersonau eraill neu unrhyw gyfarpar y mae’r swyddog yn ystyried ei fod yn briodol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol, os yw meddiannydd mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd i mewn iddi o dan adran 20 neu 21 yn bresennol ar yr adeg y mae’r swyddog awdurdodedig yn ceisio gweithredu’r warant, fod rhaid i’r meddiannydd gael gwybod enw’r swyddog; rhaid i’r swyddog gyflwyno tystiolaeth ddogfennol bod y swyddog yn swyddog awdurdodedig; rhaid i’r swyddog gyflwyno’r warant a chyflenwi copi ohoni i’r meddiannydd. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol, os nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, i’r swyddog awdurdodedig adael y fangre wedi ei diogelu rhag mynediad anawdurdodedig yr un mor effeithiol ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi. Mae’r darpariaethau yn yr adran hon hefyd yn gymwys i gerbyd.

Adran 23 - Pwerau arolygu etc.

49.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i swyddogion awdurdodedig i gynnal arolygiadau o fangreoedd a cherbydau. Caiff swyddogion ofyn am eitemau, eu harolygu, cymryd samplau ohonynt a/neu fynd â’r eitem(au) a/neu’r samplau o’r fangre. Er enghraifft, efallai y bydd swyddogion yn dymuno edrych ar gofnod teledu cylch cyfyng o’r fangre, cadw malurion ysmygu at ddibenion tystiolaeth, neu gymryd dogfennau neu gopïau o ddogfennau. Cânt hefyd ofyn am wybodaeth a chymorth gan unrhyw berson ond nid yw’n ofynnol i’r person hwnnw ateb unrhyw gwestiynau na chyflwyno unrhyw ddogfen y byddai ganddo hawl i wrthod eu hateb neu ei chyflwyno yn ystod achos llys yng Nghymru a Lloegr. Caiff y swyddog awdurdodedig ddadansoddi unrhyw samplau a gymerir. Rhaid i’r swyddog awdurdodedig adael datganiad sy’n rhoi manylion unrhyw eitemau sydd wedi eu cymryd, ac sy’n nodi’r person y caniateir gofyn iddo i’r eiddo gael ei ddychwelyd. Mae’r darpariaethau yn yr adran hon hefyd yn gymwys i gerbyd.

Adran 24 - Rhwystro etc. swyddogion

50.Mae’r adran hon yn darparu bod unrhyw berson sy’n rhwystro’n fwriadol swyddog awdurdodedig rhag arfer ei swyddogaethau o dan y Bennod hon yn cyflawni trosedd. Mae unrhyw berson sy’n methu, heb achos rhesymol, â darparu i’r swyddog gyfleusterau y mae’n rhesymol i’r swyddog ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu darparu i gyflawni ei swyddogaethau yn cyflawni trosedd. Fodd bynnag, nid yw’n ofynnol i’r person hwnnw ateb unrhyw gwestiynau na chyflwyno unrhyw ddogfen y byddai ganddo hawl i wrthod eu hateb neu ei chyflwyno yn ystod achos llys yng Nghymru a Lloegr. Dim ond yn y llys ynadon y caniateir gwrando achos am y drosedd hon a chaniateir i’r drosedd gael ei chosbi ar euogfarn drwy ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol. Nodir y lefelau ar y raddfa safonol yn adran 37 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982.

Adran 25 - Eiddo a gedwir: apelau

51.Mae’r adran hon yn darparu diogelwch ychwanegol sy’n ymwneud â’r darpariaethau pwerau mynediad ac arolygu. Mae’n galluogi person a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth y mae swyddog awdurdodedig yn mynd ymaith ag ef o fangre o dan adran 23(1)(c) i wneud cais i lys ynadon am orchymyn sy’n gofyn i’r eiddo gael ei ryddhau. Gan ddibynnu ar ystyriaeth y llys i gais, caiff wneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r eiddo a gedwir gael ei ryddhau.

Adran 26 - Eiddo a gyfeddir: digolledu

52.Mae’r adran hon yn darparu hawl i berson y mae cymryd meddiant o’r eiddo o dan adran 23(1)(c) yn effeithio arno i wneud cais i lys ynadon i gael ei ddigolledu. Pan fo’r amgylchiadau a nodir yn is-adran (2) wedi eu bodloni (h.y. bod y person wedi dioddef colled neu ddifrod oherwydd bod yr eiddo wedi ei gymryd ac nad yw’r golled neu’r difrod oherwydd ei esgeulustod neu ei fethiant i weithredu), caiff y llys orchymyn i’r awdurdod gorfodi ddigolledu’r ceisydd.

Adran 27 - Hysbysiadau cosb benodedig

53.Mae’r adran hon yn caniatáu i swyddogion awdurdodedig ddyroddi hysbysiadau cosb benodedig i bersonau y credir eu bod wedi cyflawni troseddau penodol o dan y Bennod hon. Gall cosb benodedig gael ei dyroddi am y troseddau a ganlyn:

  • ysmygu mewn mangreoedd di-fwg neu gerbydau di-fwg;

  • methu â chydymffurfio â’r gofynion i osod arwyddion.

54.Caniateir i hysbysiadau cosb benodedig gael eu dyroddi i berson, partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig. Mae talu hysbysiad cosb benodedig yn rhyddhau’r person y credir ei fod wedi cyflawni trosedd o gael ei euogfarnu am y drosedd mewn llys. Mae’r adran hefyd yn cyflwyno Atodlen 1 ar gosbau penodedig (am sylwebaeth ar hyn, gweler Atodlen 1 isod).

Adran 28 - Dehongli’r Bennod hon

55.Mae’r adran hon yn nodi ystyr termau allweddol a ddefnyddir yn y Bennod hon.

56.Mae’r adran hefyd yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddiffinio’r hyn a olygir wrth “caeedig”, “sylweddol gaeedig” ac “nad yw’n gaeedig nac yn sylweddol gaeedig” at ddibenion y Bennod hon.

Pennod 2 - Manwerthwyr Tybaco a Chynhyrchion Nicotin

57.Mae’r Bennod hon yn cynnwys darpariaethau i sefydlu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin. Bydd yn ofynnol i bob manwerthwr sy’n gwerthu naill ai cynhyrchion tybaco, cynhyrchion nicotin neu’r ddau o fangre i’r cyhoedd yng Nghymru gofrestru er mwyn eu gwerthu. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n gwerthu o strwythurau symudol. Ni fydd y gofrestr yn cynnwys busnesau nad ydynt ond yn gwerthu i fanwerthwyr eraill, masnachwyr neu fusnesau.

Adran 30 - Dyletswydd i gynnal cofrestr o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin

58.Mae’r adran hon yn sefydlu cofrestr o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin, a fydd yn cynnwys manylion busnesau sydd â mangre yng Nghymru sy’n gwerthu’r cynhyrchion hynny i’r cyhoedd. Mae’r adran yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod cofrestru i gynnal y gofrestr. Bydd rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn pennu corff, er enghraifft awdurdod lleol, i weithredu fel yr awdurdod cofrestru.

59.Caiff y gofrestr gynnwys gwybodaeth briodol arall a ddarperir yn y ffurflen gais am gofnod ar y gofrestr (gweler adran 31).

Adrannau 31 a 32 - Cais am gofnod yn y gofrestr a Chaniatáu cais

60.Mae adran 31 yn galluogi manwerthwyr i wneud cais i fod ar y gofrestr o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin, ac yn amlinellu’r wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn unrhyw gais. Ni chaiff yr awdurdod cofrestru wrthod cais ond os yw’r ceisydd yn ddarostyngedig i Orchymyn Gwerthu o dan Gyfyngiad o dan adran 12B o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933. Ni chaniateir i fangre gael ei hychwanegu at y gofrestr os yw ar hyn o bryd yn ddarostyngedig i Orchymyn Mangre o dan Gyfyngiad o dan adran 12A o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933. Os yw’r cais yn cwmpasu mwy nag un fangre yna dim ond y mangreoedd nad ydynt yn ddarostyngedig i Orchymyn Mangre o dan Gyfyngiad a fydd yn cael eu hychwanegu at y gofrestr.

61.Mae Gorchymyn Mangre o dan Gyfyngiad yn orchymyn a wneir gan lys ynadon sy’n gwahardd mangre fanwerthu rhag gwerthu cynhyrchion tybaco neu nicotin am gyfnod o hyd at 12 mis. Dim ond os yw wedi ei fodloni bod person sydd wedi ei euogfarnu o drosedd o ran tybaco neu nicotin yn y fangre o dan sylw hefyd wedi cyflawni troseddau eraill o ran tybaco neu nicotin ar o leiaf ddau achlysur blaenorol o fewn cyfnod o ddwy flynedd y gall llys ddyroddi Gorchymyn Mangre o dan Gyfyngiad. Mae trosedd o ran tybaco wedi ei diffinio yn adran 12D o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933 ac mae’n cynnwys gwerthu tybaco i berson o dan 18 oed. Ar 1 Hydref 2015, diwygiwyd y diffiniad o droseddau o ran tybaco i gynnwys trosedd o dan adran 92 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (gwahardd gwerthu cynhyrchion nicotin i bersonau o dan 18 oed).

62.Mae Gorchymyn Gwerthu o dan Gyfyngiad yn gwahardd person a enwir sydd wedi ei euogfarnu o drosedd o ran tybaco rhag gwerthu cynhyrchion tybaco neu nicotin am gyfnod o hyd at 12 mis. Fel yn achos Gorchymyn Mangre o dan Gyfyngiad, dim ond os yw wedi ei fodloni bod y person a enwir hefyd wedi cyflawni troseddau eraill o ran tybaco neu nicotin ar o leiaf ddau achlysur blaenorol o fewn cyfnod o ddwy flynedd y gall llys ynadon wneud Gorchymyn Gwerthu o dan Gyfyngiad.

63.Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth ychwanegol gael ei darparu wrth gyflwyno cais i gynnwys person yn y gofrestr, a chânt wneud darpariaethau i ffi gael ei thalu wrth gyflwyno cais.

Adran 33 - Dyletswydd i roi hysbysiad o newidiadau penodol

64.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar fanwerthwyr i hysbysu’r awdurdod cofrestru o fewn 28 o ddiwrnodau am newidiadau i amgylchiadau sy’n berthnasol i gofnod sydd wedi ei gynnwys yn y gofrestr, er enghraifft os nad yw’r manwerthwr bellach yn gwerthu tybaco neu gynhyrchion nicotin o’r fangre sydd wedi ei chynnwys ar y gofrestr. Yn ogystal, os daw awdurdod lleol yn ymwybodol o unrhyw newidiadau perthnasol i fanwerthwyr y cynhyrchion hyn, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod cofrestru.

Adran 34 - Dyletswydd i ddiwygio’r gofrestr

65.Mae’r adran hon yn nodi manylion ynghylch pryd y mae rhaid i’r awdurdod cofrestru wneud newidiadau i’r gofrestr a’r broses y mae rhaid iddo ei dilyn wrth wneud hyn.

66.Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ganiatáu i’r awdurdod cofrestru godi ffi am ddiwygio’r gofrestr.

Adran 35 - Mynediad i’r gofrestr

67.O dan yr adran hon rhaid i’r awdurdod cofrestru gyhoeddi rhestr o’r holl bersonau a mangreoedd sydd ar y gofrestr o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin. Pan fo’r busnes yn cael ei gynnal o gerbyd, stondin, pabell neu strwythur symudol arall, rhaid i’r rhestr nodi pob awdurdod lleol y mae’n gweithredu ynddo.

Adran 36 - Mangreoedd a eithrir

68.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i esemptio mangreoedd rhag gorfod cofrestru ar y gofrestr o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin. Er enghraifft, gallai’r pŵer hwn gael ei ddefnyddio i esemptio clybiau aelodau pan fo aelodaeth wedi ei chyfyngu i’r rhai dros 18 oed a bod gwerthu tybaco neu gynhyrchion nicotin wedi ei gyfyngu i aelodau llawn yn unig.

Adran 37 - Strwythurau symudol etc.

69.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru i addasu sut y mae’r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas â mangre sy’n gerbyd, yn stondin, yn babell neu’n strwythur symudol. Er enghraifft, gellid gwneud hyn er mwyn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth ychwanegol (efallai rhif cerbyd, neu fanylion adnabod eraill) gael ei darparu wrth gyflwyno cais i gynnwys cofnod yn y gofrestr mewn perthynas â’r mathau hyn o fangreoedd.

Adran 38 - Troseddau

70.Mae’r adran hon yn creu troseddau mewn perthynas â’r gofrestr. Mae is-adrannau (6) a (7) yn nodi’r lefelau gwahanol o gosb ar gyfer y troseddau. Nid yw’r ddirwy ar gyfer y drosedd o gynnal busnes tybaco neu nicotin heb ei gofrestru wedi ei chyfyngu gan unrhyw lefelau ar y raddfa safonol, felly’r llys ynadon a fydd yn dyfarnu ar swm y ddirwy. Caniateir i droseddau eraill gael eu cosbi drwy ddirwy nad yw’n uwch na lefel 2 ar y raddfa safonol. Mae’r lefelau ar y raddfa safonol wedi eu nodi yn adran 37 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982. Caniateir i hysbysiad cosb benodedig gael ei ddyroddi gan swyddog awdurdodedig yn lle dirwy. Mae adran 49 yn cynnwys rhagor o fanylion am hysbysiadau cosb benodedig.

Adran 39 - Swyddogion awdurdodedig

71.Mae’r adran hon yn egluro bod unrhyw gyfeiriadau at swyddogion awdurdodedig yn y Bennod hon yn gyfeiriadau at swyddog sydd wedi ei awdurdodi gan awdurdod lleol, pa un a yw’n swyddog i’r awdurdod lleol ai peidio.

Adran 40 - Pwerau mynediad

72.Mae’r adran hon yn amlinellu’r amgylchiadau pan gaiff swyddog awdurdodedig fynd i mewn i fangre yng Nghymru at ddiben gorfodi darpariaethau sy’n ymwneud â’r gofrestr o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin.

73.Ni chaiff swyddogion awdurdodedig fynd i mewn i fangre drwy rym wrth arfer eu pŵer o dan yr adran hon. Os gofynnir iddynt wneud hynny, rhaid i swyddogion awdurdodedig ddangos tystiolaeth o’u hawdurdod cyn mynd i mewn i unrhyw fangre. Mae adran 67(9) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 yn darparu bod rhaid i swyddogion awdurdodedig yr awdurdod gorfodi, wrth weithredu yng nghwrs eu swyddogaethau gorfodi, roi sylw i’r cod ymarfer perthnasol a wnaed o dan y Ddeddf honno. Felly, rhaid i swyddogion awdurdodedig roi sylw i God Ymarfer B Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 wrth arfer eu swyddogaethau gorfodi.

Adrannau 41 a 42 - Gwarant i fynd i mewn i annedd a Gwarant i fynd i mewn i fangreoedd eraill

74.Mae’r adrannau hyn yn nodi’r amgylchiadau pan gaiff ynad heddwch ddyroddi gwarant i fynd i mewn i fangre ddomestig neu fangre busnes yng Nghymru at ddiben gorfodi darpariaethau sy’n ymwneud â’r gofrestr o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin. Mae gwarant yn parhau mewn grym am 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad y’i dyroddwyd gan yr ynad heddwch, a chaniateir cael mynediad drwy rym os oes angen. Gall gwarant gael ei dyroddi mewn fformat ac eithrio dogfen ar ffurf copi caled, megis fersiwn electronig.

Adran 43 - Darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediad

75.Mae’r adran hon yn galluogi swyddog awdurdodedig sy’n mynd i mewn i fangre o dan adran 40, 41 neu 42 i fynd ag unrhyw bersonau eraill neu unrhyw gyfarpar y mae’r swyddog yn ystyried ei fod yn briodol. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol, os yw meddiannydd mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd i mewn iddi o dan adran 41 neu 42 yn bresennol ar yr adeg y mae’r swyddog awdurdodedig yn ceisio gweithredu’r warant, fod rhaid i’r meddiannydd gael gwybod enw’r swyddog; rhaid i’r swyddog gyflwyno tystiolaeth ddogfennol bod y swyddog yn swyddog awdurdodedig; rhaid i’r swyddog gyflwyno’r warant a chyflenwi copi ohoni i’r meddiannydd. Os nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, mae’n ofynnol i’r swyddog awdurdodedig adael y fangre wedi ei diogelu rhag mynediad anawdurdodedig yr un mor effeithiol ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi. Mae’r darpariaethau yn yr adran hon hefyd yn gymwys i gerbyd.

Adran 44 - Pwerau arolygu etc.

76.Mae’r adran hon yn caniatáu i swyddogion awdurdodedig gynnal arolygiadau mewn mangreoedd. Wrth wneud hynny, caiff swyddogion awdurdodedig ofyn am eitemau a’u harolygu, cymryd samplau ohonynt a/neu fynd â’r eitem(au), dogfennau neu gopïau o ddogfennau o’r fangre. Cânt hefyd ofyn am wybodaeth a chymorth gan unrhyw berson a all eu helpu i gyflawni eu swyddogaethau, ond nid yw’n ofynnol i’r person hwnnw ateb unrhyw gwestiynau na chyflwyno unrhyw ddogfen y byddai ganddo hawl i wrthod eu hateb neu ei chyflwyno yn ystod achos llys yng Nghymru a Lloegr. Caiff y swyddog awdurdodedig ddadansoddi unrhyw samplau a gymerir. Rhaid i’r swyddog awdurdodedig adael datganiad sy’n rhoi manylion unrhyw eitemau sydd wedi eu cymryd ac sy’n nodi’r person y caniateir gofyn iddo i’r eiddo gael ei ddychwelyd.

Adran 45 - Rhwystro etc. swyddogion

77.Mae’r adran hon yn darparu bod unrhyw berson sy’n rhwystro’n fwriadol swyddog awdurdodedig rhag cyflawni ei swyddogaeth o dan y Bennod hon yn cyflawni trosedd. Mae unrhyw berson sy’n methu, heb achos rhesymol, â darparu i’r swyddog gyfleusterau y mae’n rhesymol i’r swyddog ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu darparu i gyflawni ei swyddogaethau, sy’n methu â rhoi gwybodaeth, heb achos rhesymol, neu sy’n gwneud datganiad anwir neu gamarweiniol hefyd yn cyflawni trosedd. Fodd bynnag, nid yw’n ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiynau na chyflwyno unrhyw ddogfen y byddai ganddo hawl i wrthod eu hateb neu ei chyflwyno yn ystod achos llys yng Nghymru a Lloegr. Dim ond yn y llys ynadon y caniateir gwrando achos am y drosedd a chaniateir i’r drosedd gael ei chosbi ar euogfarn drwy ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol. Mae’r lefelau ar y raddfa safonol wedi eu nodi yn adran 37 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982.

Adran 46 - Pŵer i wneud pryniannau prawf

78.Mae’r adran hon yn darparu y caiff swyddog awdurdodedig wneud pryniannau a sicrhau y darperir gwasanaethau os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben gorfodi mewn perthynas â’r Bennod hon.

Adran 47 - Eiddo a gedwir: apelau

79.Mae’r adran hon yn darparu diogelwch ychwanegol sy’n ymwneud â’r darpariaethau pwerau mynediad ac arolygu. Mae’n galluogi person a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth yr eir ymaith ag ef o’r fangre gan swyddog awdurdodedig o dan adran 44(1)(c) i wneud cais i lys ynadon am orchymyn sy’n gofyn i’r eiddo gael ei ryddhau. Gan ddibynnu ar ystyriaeth y llys i gais, caiff wneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r eiddo a gedwir gael ei ryddhau.

Adran 48 - Eiddo a gyfeddir: digolledu

80.Mae’r adran hon yn darparu hawl i berson y mae cymryd meddiant o’r eiddo o dan adran 44(1)(c) yn effeithio arno i wneud cais i lys ynadon i gael ei ddigolledu. Pan fo’r amgylchiadau a nodir yn is-adran (2) wedi eu bodloni (h.y. bod y person wedi dioddef colled neu ddifrod oherwydd bod yr eiddo wedi ei gymryd, ac nad yw’r golled neu’r difrod wedi digwydd oherwydd ei esgeulustod neu ei fethiant i weithredu), caiff y llys orchymyn i’r awdurdod lleol ddigolledu’r ceisydd.

Adran 49 - Hysbysiadau cosb benodedig

81.Mae’r adran hon yn darparu manylion ynghylch pa bryd y caiff swyddog awdurdodedig ddyroddi hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd sy’n gysylltiedig â’r gofrestr. Gall cosb benodedig gael ei dyroddi ar gyfer y troseddau a ganlyn:-

  • Person cofrestredig sy’n cynnal busnes tybaco neu nicotin mewn mangre ac eithrio’r rhai a nodir yng nghofnod y person ar y gofrestr;

  • Person cofrestredig sy’n cynnal busnes tybaco neu nicotin mewn mangre sy’n strwythur symudol, megis stondin neu gerbyd, mewn ardal awdurdod lleol ac eithrio’r rhai a nodir yng nghofnod y person ar y gofrestr; a

  • Pherson cofrestredig sy’n methu â chydymffurfio ag adran 33 (dyletswydd i roi hysbysiad o newidiadau penodol).

82.Caniateir i hysbysiadau cosb benodedig gael eu dyroddi i berson, partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig. Mae talu hysbysiad cosb benodedig yn rhyddhau’r person y credir ei fod wedi cyflawni trosedd o gael ei euogfarnu am y drosedd mewn llys. Mae’r adran hefyd yn cyfeirio at Atodlen 1 ar gosbau penodedig (am sylwebaeth ar hyn, gweler Atodlen 1 isod).

Adran 50 - Dehongli’r Bennod hon

83.Mae’r adran hon yn nodi ystyr termau allweddol a ddefnyddir yn y Bennod hon.

Pennod 3: Gwaharddiad Ar Werthu Tybaco a Chynhyrchion Nicotin
Adran 51 - Gorchmynion mangre o dan gyfyngiad: trosedd o ran tybaco neu nicotin

84.Mae’r adran hon yn diwygio adran 12D o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933. Mae’r ddarpariaeth honno yn nodi nifer o droseddau sy’n drosedd dybaco neu nicotin (“tobacco or nicotine offence”) at ddibenion adran 12A o’r Ddeddf honno. Caniateir i orchmynion mangre o dan gyfyngiad a gorchmynion gwerthu o dan gyfyngiad gael eu gwneud mewn cysylltiad â phersonau sydd wedi eu heuogfarnu o droseddau o ran tybaco neu nicotin. Mae’r diwygiad i adran 12D yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau er mwyn ychwanegu troseddau newydd at y rheini y caniateir eu defnyddio i gefnogi cais i wneud gorchymyn mangre o dan gyfyngiad.

Pennod 4 - Rhoi Tybaco Etc. I Bersonau O Dan 18 Oed
Adrannau 52 a 53 - Y drosedd o roi tybaco etc. i bersonau o dan 18 oed a Threfniadau mewn cysylltiad â rhoi tybaco etc.

85.Mae adran 52 yn ei gwneud yn drosedd rhoi tybaco, papurau sigaréts neu gynhyrchion nicotin wrth ddanfon nwyddau i berson sydd o dan 18 oed. Mae’r drosedd yn gymwys oni bai ei fod yng nghwmni rhywun sy’n 18 oed neu’n hŷn, neu fod y rhoi yn digwydd fel rhan o’u masnach, eu proffesiwn, eu busnes neu eu cyflogaeth (er enghraifft, pan fo cyflogai yn rhoi tybaco neu gynhyrchion nicotin i gydweithiwr sydd o dan 18 oed i fynd â hwy i ran arall o’r siop).

86.Er mwyn osgoi cyflawni trosedd, pan fo tybaco, papurau sigaréts neu gynhyrchion nicotin wedi eu cynnwys mewn pryniant o nwyddau (pa un ai ar eu pennau eu hunain neu fel rhan o bryniant mwy), gallai fod angen i’r person sy’n danfon y nwyddau, er enghraifft, dynnu unrhyw dybaco, papurau sigaréts neu gynhyrchion nicotin o’r danfoniad os nad yw wedi ei fodloni bod y person sy’n cael y nwyddau yn 18 oed neu’n hŷn.

87.Mae’r drosedd hefyd yn cynnwys unrhyw dybaco, papurau sigaréts neu gynhyrchion nicotin sydd wedi eu prynu o bell (er enghraifft, dros y ffôn neu drwy’r rhyngrwyd) i’w casglu o fangre yng Nghymru (y cyfeirir ato’n aml fel “clicio a chasglu”).

88.Dim ond yn y llys ynadon y caniateir gwrando achos am y drosedd a chaniateir i’r drosedd gael ei chosbi ar euogfarn drwy ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol. Nodir y lefelau ar y raddfa safonol yn adran 37 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982.

89.Ni chyflawnir trosedd os yw’r tybaco, y papurau sigaréts neu’r cynhyrchion nicotin wedi eu lapio a’u selio neu pe na allai’r cyhuddedig fod wedi amau’n rhesymol o olwg y person ei fod o dan 18 oed. Er enghraifft, gallai’r cynhyrchion fod wedi eu selio mewn amlen, neu wedi eu lapio mewn papur brown ac wedi eu selio â thâp. Hefyd, rhaid i’r parsel fod ag arno gyfeiriad y person y dylid danfon y parsel iddo.

Adran 54 - Gorfodi

90.Mae adran 5 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Amddiffyn rhag Tybaco) 1991 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried, o leiaf unwaith y flwyddyn, a yw’n briodol iddynt gynnal rhaglen o gamau gorfodi sy’n ymwneud â gwahanol droseddau sy’n gysylltiedig â thybaco. Mae rhaglen orfodi yn golygu dwyn erlyniadau, ymchwilio i gwynion a chymryd camau i ostwng troseddau.

91.Mae adran 54 yn diwygio adran 5 o Ddeddf 1991 i wneud y drosedd o roi tybaco, papurau sigaréts neu gynhyrchion nicotin i berson o dan 18 oed, fel y manylir arni yn adran 52, yn un o’r troseddau y mae rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru ystyried rhaglen orfodi mewn cysylltiad â hwy.

Adran 55 - Dehongli’r Bennod hon

92.Mae’r adran hon yn nodi ystyr termau allweddol a defnyddir yn y Bennod hon.

93.Diffinnir “cynnyrch nicotin” drwy gyfeirio at reoliadau a wneir o dan adran 92 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014. Mae’r ddarpariaeth honno yn caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau sy’n gwahardd gwerthu cynhyrchion nicotin i bersonau o dan 18 oed yng Nghymru a Lloegr. Mae’r drosedd o dan adran 52 yn gymwys i gynhyrchion nicotin y gwaherddir eu gwerthu i’r rheini o dan 18 oed yn unol â’r rheoliadau hynny.

94.Caiff rheoliadau o dan adran 92 o Ddeddf 2014 wneud darpariaeth wahanol mewn cysylltiad â chynhyrchion nicotin penodol. Er enghraifft, caniateir i rai cynhyrchion nicotin gael eu gwahardd i’w gwerthu i’r rheini o dan 16 oed yn unig. Mae diffinio “cynnyrch nicotin” drwy gyfeirio at reoliadau o dan adran 92 o Ddeddf 2014 yn sicrhau mai dim ond os yw’r cynnyrch nicotin o dan sylw wedi ei wahardd i’w werthu i’r person o dan 18 oed y mae wedi ei roi iddo y cyflawnir y drosedd o dan adran 52.

Rhan 4.Triniaethau Arbennig

Adran 57 - Beth yw triniaeth arbennig?

95.Mae’r adran hon yn rhestru’r triniaethau hynny sy’n cael eu hystyried yn driniaeth arbennig at ddibenion y Rhan hon. Y triniaethau hyn yw aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a thatŵio. Mae pob un o’r triniaethau wedi eu diffinio yn adran 94(1). Caniateir i ystyr triniaeth arbennig gael ei ddiwygio drwy reoliadau, fel y’i darperir gan adran 93.

Adran 58 - Gofyniad i unigolyn sy’n rhoi triniaeth arbennig gael ei drwyddedu

96.Mae adran 58(2) yn darparu bod rhaid i berson sy’n rhoi triniaeth arbennig i rywun arall yng Nghymru yng nghwrs busnes gael ei drwyddedu, oni bai ei fod yn ymarferydd sydd wedi ei esemptio o dan adran 60. Mae’r gofyniad hefyd yn gymwys i’r personau hynny sydd wedi eu dynodi mewn cysylltiad â thriniaeth arbennig o dan adran 61.

Adran 59 - Darpariaeth gyffredinol ynghylch trwyddedau triniaeth arbennig

97.Mae’r adran hon yn darparu mai awdurdod lleol sy’n dyroddi trwydded triniaeth arbennig. Mae’r drwydded yn awdurdodi i’r driniaeth arbennig (neu’r triniaethau arbennig) a bennir yn y drwydded gael ei rhoi gan ddeiliad y drwydded.

98.Nid yw trwydded triniaeth arbennig yn awdurdodi person i roi triniaeth arbennig mewn mangre neu mewn cerbyd y mae’r person yn ei rheoli neu’n ei reoli, oni bai bod y fangre neu’r cerbyd wedi ei chymeradwyo neu ei gymeradwyo (fel sy’n ofynnol gan adran 70). Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd, y bydd triniaeth arbennig yn cael ei rhoi ynddi neu ynddo, gael ei nodi ar drwydded triniaeth arbennig deiliad y drwydded. Mae’r gofynion hyn yn sicrhau bod telerau ymarfer deiliad y drwydded yn glir i’r cleientiaid a’r swyddogion gorfodi.

99.Nid yw’r gofyniad ar ddeiliad y drwydded i roi triniaethau arbennig o fangre neu gerbyd a gymeradwywyd yn unig yn gymwys os yw’r fangre neu’r cerbyd wedi ei phennu neu ei bennu mewn rheoliadau a wneir o dan adran 69(8). Felly mae’r rheoliadau hyn yn galluogi i fangreoedd neu gerbydau penodol fod yn esempt rhag y gofynion cymeradwyo a’r gofyniad o ran eu nodi ar y drwydded.

100.Mae trwydded triniaeth arbennig yn awdurdodi deiliad y drwydded i roi’r triniaethau arbennig penodedig am y cyfnod a bennir ar y drwydded. Ni chaniateir i’r cyfnod hwn fod yn hwy na saith niwrnod (i ystyried arddangosfeydd dros dro, adloniant neu ddigwyddiadau eraill), neu dair blynedd. Unwaith y bydd y drwydded wedi dod i ben, rhaid gwneud cais i’r awdurdod lleol am drwydded yn ei lle.

101.Amlinellir y weithdrefn ar gyfer gwneud cais am drwydded triniaeth arbennig, gan gynnwys y broses ar gyfer amrywio, adolygu neu ddirymu trwydded, yn Atodlen 3. Am sylwebaeth ar hyn, gweler Atodlen 3 isod.

102.Mae adran 59(8) yn nodi ystyr y tri therm allweddol (“cyfnod y drwydded”; “deiliad trwydded” a “trwydded dros dro”) y cyfeirir atynt yn y Rhan hon.

Adran 60 - Unigolion sydd wedi eu hesemptio

103.Mae’r adran hon yn darparu manylion ynghylch yr amgylchiadau pan fo unigolyn yn esempt rhag y gofyniad i gael trwydded triniaeth arbennig. Mae is-adran (2) yn darparu bod unigolyn sy’n aelod o broffesiwn a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (ga) o adran 25(3) o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 yn esempt, oni bai bod rheoliadau yn pennu ei bod yn ofynnol cael trwydded mewn perthynas â thriniaeth arbennig benodol. Mae’r proffesiynau hyn yn cynnwys meddygon, deintyddion a nyrsys.

104.Mae is-adran (3) yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau er mwyn galluogi unigolion sy’n aelodau o broffesiwn (ond nid y proffesiynau hynny a bennir ym mharagraffau (a) i (ga) o adran 25(3) o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002) neu sy’n weithwyr o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau, i fod yn esempt os ydynt wedi eu cofrestru gyda chofrestr gymhwysol. Mae cofrestr gymhwysol wedi ei diffinio yn is-adran (4) fel un a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, neu gofrestr wirfoddol sydd wedi ei hachredu gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac sydd wedi ei phennu mewn rheoliadau neu odanynt.

105.Mae’r pwerau hyn i wneud rheoliadau yn darparu’r disgresiwn i Weinidogion Cymru i esemptio proffesiynau cymhwysol o’r gofyniad i gael trwydded triniaeth arbennig.

Adran 61 - Dynodi unigolyn at ddibenion adran 58(3)

106.Os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni, mae’r adran hon yn galluogi’r awdurdod lleol i roi hysbysiad i unigolyn sy’n ei ddynodi’n berson y mae’n ofynnol iddo gael trwydded triniaeth arbennig os yw’n bwriadu rhoi triniaeth arbennig benodedig.

107.Mae i’r amod yn is-adran (2) nifer o elfennau. Mae’r rhain yn darparu bod y person yn debygol o roi’r driniaeth benodedig i rywun arall yng Nghymru, bod rhoi’r driniaeth yn y modd y mae’n debygol o gael ei rhoi gan y person yn peri risg sylweddol neu y gallai beri risg sylweddol o niwed i iechyd dynol, ac er mwyn dileu neu leihau’r risg honno, ei bod yn briodol dynodi’r person yn un y mae angen trwydded arno. Nid yw gallu’r awdurdod lleol i ddynodi’r person yn dibynnu ar roi’r driniaeth arbennig yng nghwrs busnes; felly gall person sy’n rhoi triniaeth arbennig o dan unrhyw amgylchiadau ac at unrhyw ddiben (megis o’r cartref ac nid am dâl) gael ei ddynodi a’i wahardd felly rhag rhoi’r driniaeth arbennig benodedig.

108.Rhaid i’r hysbysiad a ddarperir i’r unigolyn bennu pam y mae’r awdurdod wedi penderfynu dynodi’r unigolyn, y dyddiad y bydd y dynodiad yn cymryd effaith (caniateir i’r dyddiad fod naill ai’n ddyddiad yr hysbysiad neu’n ddyddiad ar ôl hynny), a gwahardd yr unigolyn rhag rhoi’r driniaeth arbennig benodedig oni bai bod hynny o dan awdurdod trwydded triniaeth arbennig. Rhaid i’r hysbysiad hefyd ddatgan y caiff y person apelio yn erbyn y dynodiad a’r cyfnod y caniateir i apêl gael ei dwyn ynddo. Caniateir i’r apêl gael ei gwneud i Lys Ynadon. Mae’r weithdrefn apelio wedi ei nodi ym mharagraff 18 o Atodlen 3 o’r Ddeddf hon.

109.Unwaith y bydd yr hysbysiad dynodi wedi ei gyflwyno, bydd yn parhau yn ei le hyd nes y bydd yr awdurdod lleol yn ei dynnu’n ôl, gan atal yr unigolyn dynodedig rhag rhoi’r driniaeth arbennig benodedig oni bai bod hynny o dan awdurdod trwydded triniaeth arbennig. Os yw’r unigolyn yn dymuno rhoi triniaeth arbennig, rhaid iddo wneud cais am drwydded i’r awdurdod lleol.

110.Os yw’r awdurdod lleol yn tynnu’r dynodiad yn ôl, rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad i’r unigolyn. Rhaid i’r hysbysiad gynnwys y rhesymau dros dynnu’r dynodiad yn ôl a’r dyddiad y mae tynnu’r dynodiad yn ôl i gymryd effaith. Unwaith y bydd y dynodiad wedi ei dynnu’n ôl bydd y gwaharddiad ar roi’r driniaeth arbennig yn dod i ben.

Adran 62 - Meini prawf trwyddedu

111.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n nodi’r meini prawf trwyddedu. Bydd y meini prawf trwyddedu yn nodi’r holl ofynion y mae rhaid eu bodloni er mwyn i gais am drwydded triniaeth arbennig gael ei ganiatáu. Rhaid bod meini prawf trwyddedu sy’n ymwneud â gwybodaeth unigolyn (“ceisydd”) am—

  • rheoli heintiau a chymorth cyntaf, yng nghyd-destun y driniaeth arbennig y mae’r cais yn ymwneud â hi;

  • y dyletswyddau a osodir, o dan neu yn rhinwedd Rhan 4 o’r Ddeddf hon, ar berson sydd wedi ei awdurdodi i roi’r driniaeth arbennig y mae’r cais yn ymwneud â hi. Enghraifft o’r dyletswyddau hyn yw’r gofynion i ddilysu oedran mewn perthynas â thatŵio a rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff.

112.Caiff y meini prawf trwyddedu, ymhlith pethau eraill, ymwneud â chymhwystra unigolyn i gael trwydded, y fangre neu’r cerbyd y mae triniaeth arbennig i gael ei rhoi ynddi neu ynddo a’r cyfarpar a ddefnyddir wrth roi triniaeth arbennig (neu mewn cysylltiad â rhoi triniaeth arbennig).

113.Caiff y meini prawf trwyddedu hefyd gynnwys pethau megis safonau cymhwysedd i roi triniaeth arbennig. Caiff hyn gynnwys yr hyfforddiant cymwys a wneir gan y ceisydd neu wybodaeth y ceisydd am y driniaeth arbennig.

114.Caiff reoliadau a wneir o dan yr adran hon ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol gynnal arolygiad o’r fangre neu’r cerbyd a nodir yn y cais cyn i drwydded gael ei dyroddi neu ei hadnewyddu. Mae hyn er mwyn galluogi’r awdurdod lleol i ddyfarnu ar gydymffurfedd y fangre neu’r cerbyd â’r meini prawf trwyddedu. Caiff y rheoliadau hefyd wneud darpariaeth wahanol ar gyfer disgrifiadau gwahanol o fangreoedd a cherbydau; ar gyfer triniaethau arbennig gwahanol; ac ar gyfer yr amgylchiadau gwahanol y rhoddir triniaeth arbennig odanynt. Caiff yr amgylchiadau hyn gynnwys pa mor aml neu reolaidd y rhoddir triniaeth neu’r cyfnod ar gyfer rhoi triniaeth. Caiff y meini prawf trwyddedu hefyd gyfeirio at y sail y bydd y driniaeth arbennig yn cael ei rhoi arni a phennu’r gofynion mewn perthynas ag arfer y triniaethau.

115.Y sail y rhoddir triniaeth arbennig arni yw: ar sail beripatetig (h.y. mae’r ceisydd yn bwriadu arfer triniaeth arbennig mewn mangreoedd gwahanol, er enghraifft cartrefi cleientiaid); ar sail safle sefydlog (er enghraifft o glinig penodedig neu stiwdio benodedig); ar sail symudol (os rhoddir y driniaeth arbennig mewn cerbyd); neu ar sail dros dro (os rhoddir y driniaeth arbennig yng nghwrs adloniant, arddangosfa neu ddigwyddiad arall nad yw’n hwy na saith niwrnod). Bydd y rheoliadau felly yn nodi’r meini prawf y mae rhaid eu bodloni mewn perthynas ag arfer pob triniaeth arbennig, ym mhob lleoliad.

Adran 63 - Amodau trwyddedu mandadol

116.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n nodi’r amodau trwyddedu mandadol. Bydd yr amodau trwyddedu mandadol yn rhoi manylion y gofynion y mae rhaid i ddeiliad trwydded triniaeth arbennig lynu wrthynt er mwyn cadw ei drwydded. Caiff yr amodau trwyddedu mandadol fod yn wahanol gan ddibynnu ar y driniaeth sy’n cael ei rhoi ac ar y sail y caiff ei rhoi arni h.y. ar sail beripatetig neu o leoliad sefydlog. Mae is-adrannau (2) a (3) yn nodi’r elfennau y mae rhaid i’r amodau trwyddedu mandadol ymwneud â hwy a’r gofynion y mae rhaid iddynt gael eu cynnwys yn y rheoliadau. Mae’r rhain yn cynnwys gofynion o ran dilysu oedran unigolyn y mae triniaeth arbennig i gael ei rhoi iddo mewn perthynas â thatŵio a rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff; arferion rheoli heintiau; safonau hylendid; a sut y mae rhaid i ddeiliad y drwydded gynnal ei gofnodion. Rhaid i’r rheoliadau hefyd gynnwys amod sy’n atal deiliad trwydded rhag rhoi triniaeth arbennig i unigolyn sy’n feddw neu yr ymddengys ei fod yn feddw, yn rhinwedd diodydd, cyffuriau, neu unrhyw fodd arall.

117.Caiff yr amodau trwyddedu mandadol (ymhlith pethau eraill) wneud darpariaeth bellach sy’n ymwneud â mangreoedd neu gerbydau (gan gynnwys glanhau a chynnal a chadw’r fangre neu’r cerbyd lle y rhoddir triniaeth arbennig, neu lle y mae’r cyfarpar neu’r deunydd yn cael ei gadw neu ei baratoi). Caiff yr amodau hefyd gwmpasu sut y mae rhaid i ddeiliad trwydded arddangos ei drwydded, yr wybodaeth y mae rhaid i ddeiliad y drwydded ei darparu i’r awdurdod lleol mewn achos o euogfarn am drosedd berthnasol, pryd y mae cais i amrywio trwydded i gael ei wneud a phryd y mae rhaid dychwelyd trwydded.

118.Caiff yr amodau trwyddedu mandadol hefyd bennu’r ffordd y mae triniaeth arbennig i gael ei rhoi. Bydd hyn yn cynnwys y cyfarpar y dylid ei ddefnyddio, sut y dylai’r driniaeth gael ei rhoi a’r gofynion mewn perthynas â’r dillad diogelu y mae deiliad y drwydded yn eu gwisgo. Caniateir i ddarpariaethau sy’n ymwneud â gwybodaeth a ddarperir gan ddeiliad y drwydded neu i ddeiliad trwydded cyn rhoi trwydded arbennig ac ar ôl rhoi trwydded arbennig gael eu pennu hefyd, er enghraifft cyngor ynghylch ôl-ofal.

119.Caiff yr amodau trwyddedu mandadol hefyd bennu safonau cymhwysedd sy’n berthnasol i roi triniaeth arbennig, gan gynnwys safonau sy’n ymwneud â chymwysterau neu brofiad, neu â rhoi triniaeth arbennig ar ran benodedig o gorff unigolyn. Felly er enghraifft pe bai triniaeth yn cael ei rhoi ar ran hynod hyglwyf neu sensitif o gorff person, gallai fod yn ofynnol cael hyfforddiant neu gymwysterau penodedig.

120.Caiff y rheoliadau ddarparu bod amodau trwyddedu mandadol gwahanol yn gymwys mewn perthynas â dibenion gwahanol. Er enghraifft, gall fod amodau trwyddedu mandadol gwahanol ar gyfer mangreoedd a cherbydau gwahanol, ar gyfer triniaethau arbennig gwahanol, ac er mwyn ystyried yr amgylchiadau gwahanol ar gyfer arfer triniaeth arbennig.

Adran 64 - Ymgynghori ynghylch meini prawf trwyddedu ac amodau trwyddedau mandadol

121.Cyn gwneud rheoliadau o dan adran 62 neu 63, mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried a oes pobl yr ymddengys eu bod yn cynrychioli buddiannau’r rheini y mae’r rheoliadau yn debygol o effeithio arnynt, ac ymgynghori’n briodol â hwy. Mae hyn yn sicrhau yr ymgynghorir â’r rheini y mae’r rheoliadau yn effeithio arnynt ac yr ystyrir eu safbwyntiau.

Adran 65 - Caniatâd neu wrthodiad mandadol i gais am drwydded triniaeth arbennig

122.Mae’r adran hon yn amlinellu’r amgylchiadau pan fo rhaid i awdurdod lleol ganiatáu neu wrthod cais am drwydded triniaeth arbennig. Mae’r manylion o ran sut y mae rhaid i gais am drwydded gael ei wneud wedi eu nodi yn Atodlen 3 (gweler y sylwebaeth isod).

123.Rhaid i’r awdurdod lleol ganiatáu’r cais am drwydded triniaeth arbennig os (a dim ond os) yw wedi ei fodloni bod yr holl feini prawf trwyddedu cymwys wedi eu bodloni mewn cysylltiad â rhoi’r driniaeth arbennig, gan awdurdodi felly i’r driniaeth gael ei rhoi ar y sail honno, ac yn y fangre neu’r cerbyd a bennir yn y cais. Os yw cais yn ymwneud â mwy nag un driniaeth, a/neu â mwy nag un set o fangreoedd, ond nid yw’r meini prawf wedi eu bodloni mewn cysylltiad â phob triniaeth a/neu set o fangreoedd, rhaid i’r awdurdod ganiatáu’r cais, ond dim ond mewn cysylltiad â’r triniaethau hynny a/neu’r mangreoedd hynny y mae’r meini prawf wedi eu bodloni mewn perthynas â hwy.

124.Os nad yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod yr holl feini prawf trwyddedu cymwys wedi eu bodloni, rhaid iddo roi hysbysiad i’r ceisydd fod y cais wedi ei wrthod. Mae’r broses y mae rhaid i’r awdurdod lleol ei dilyn mewn perthynas â darparu hysbysiad a chyfathrebu â’r ceisydd (gan gynnwys y broses sydd ar gael iddo ar gyfer cyflwyno sylwadau) wedi ei darparu yn Atodlen 3. Bydd pwyllgor trwyddedu’r awdurdod (neu un o’i is-bwyllgorau) yn ystyried y cais ac yn gwneud penderfyniad. Caiff y ceisydd apelio i’r llys ynadon yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol.

Adran 66 - Disgresiwn i ganiatáu cais am drwydded triniaeth arbennig

125.Nid yw’r gofyniad ar yr awdurdod lleol i ganiatáu cais yn gymwys yn achos ceisydd sydd wedi ei euogfarnu o drosedd berthnasol. Mae’r troseddau perthnasol wedi eu darparu o dan is-adran (8). Mae pŵer i wneud rheoliadau ar gael yn is-adran (10) i ddiwygio’r rhestr o droseddau perthnasol drwy ychwanegu, amrywio neu ddileu disgrifiad o drosedd.

126.Os yw ceisydd wedi ei euogfarnu o drosedd berthnasol, mae’r awdurdod lleol yn cadw’r disgresiwn i roi trwydded triniaeth arbennig, os yw’n meddwl bod hynny’n briodol, gan roi sylw i natur y drosedd ac unrhyw driniaeth arbennig y mae’r cais yn ymwneud â hi. Y prawf yw a oes amheuaeth wedi ei chodi ynghylch addasrwydd y ceisydd i roi triniaeth arbennig i’r fath graddau fel na ddylai’r drwydded gael ei chaniatáu. Caiff yr awdurdod lleol benderfynu peidio â dyroddi trwydded, ac os felly rhaid iddo ddarparu hysbysiad i’r ceisydd fod y cais wedi ei wrthod. Mae euogfarn am drosedd berthnasol i gael ei diystyru gan yr awdurdod lleol os yw wedi ei disbyddu at ddibenion Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (p.53). Yn unol ag is-adran (11), rhaid i Weinidogion Cymru roi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch materion sydd i gael eu hystyried wrth benderfynu a oes amheuaeth wedi ei chodi, ac os felly, i ba raddau, ynghylch addasrwydd ceisydd i roi triniaeth arbennig.

Adran 67 - Caniatáu neu wrthod cais i adnewyddu

127.Mae’r adran hon yn egluro bod adrannau 65, 66 ac 68 yn gymwys at ddibenion cais i adnewyddu trwydded triniaeth arbennig yn yr un ffordd ag fel pe bai’r cais yn gais i ddyroddi trwydded.

Adran 68 - Dirymu trwydded triniaeth arbennig

128.Mae’r adran hon yn darparu disgresiwn i’r awdurdod lleol i ddirymu trwydded triniaeth arbennig (neu ei dirymu i’r graddau y mae’n ymwneud â rhoi triniaeth arbennig benodol), os yw wedi ei fodloni bod yr amodau yn is-adran (2), (3) neu (4) wedi eu bodloni.

129.Y set gyntaf o amodau (a nodir yn is-adran (2)) yw (a) bod deiliad y drwydded wedi methu â chydymffurfio ag amod trwyddedu mandadol cymwys; a (b) bod peidio â chydymffurfio yn peri risg sylweddol, neu y gallai beri risg sylweddol, o niwed i iechyd dynol. Mae’r ail set o amodau (a nodir yn is-adran (3)) yn ymwneud ag euogfarnau am drosedd berthnasol a hefyd yn darparu sail y caiff awdurdod lleol ddirymu trwydded triniaeth arbennig arni, er enghraifft os nad oedd yr awdurdod lleol yn ymwybodol o’r euogfarn am drosedd berthnasol ar adeg rhoi’r drwydded, neu pan na fo’r euogfarn wedi digwydd cyn dyroddi’r drwydded. Mae’r drydedd set o amodau (a nodir yn is-adran (4)) yn ymwneud â datganiad a wneir gan ddeiliad y drwydded mewn cysylltiad â chais a oedd yn anwir neu’n gamarweiniol. Pe na bai’r awdurdod wedi dyroddi’r drwydded pe bai wedi gwybod bod y datganiad yn anwir neu’n gamarweiniol, neu pe na bai wedi dyroddi’r drwydded yn llawn, caniateir i’r drwydded gael ei dirymu.

130.Mae’r adran hefyd yn darparu y bydd dirymiad yn cael effaith ar ôl i’r cyfnod ar gyfer dwyn apêl neu apêl bellach mewn cysylltiad â’r dirymiad ddod i ben, neu ar ôl tynnu’n ôl unrhyw apêl neu apêl bellach. Mae manylion pellach am y weithdrefn ar gyfer dirymu wedi eu darparu yn Atodlen 3. Am sylwebaeth, gweler Atodlen 3 isod.

Adran 69 - Rhoi triniaeth arbennig yng nghwrs busnes: gofyniad i gael cymeradwyaeth

131.Mae’r adran hon yn sefydlu bod rhaid i berson sy’n cynnal busnes y rhoddir triniaeth arbennig ynddo gydymffurfio â dau ofyniad. Y gofyniad cyntaf yw bod y driniaeth yn cael ei rhoi mewn mangre neu mewn cerbyd a gymeradwywyd gan yr awdurdod lleol o dan adran 70. Mae’r ail ofyniad yn sicrhau bod cydymffurfedd, unwaith y cymeradwyir y fangre neu’r cerbyd, â’r amodau cymeradwyo mandadol (a ddarperir yn adran 70(3)).

132.Bydd y gofynion cymeradwyo hefyd yn gymwys yn achos arddangosfa, adloniant neu ddigwyddiad arall y mae aelodau o’r cyhoedd yn cael mynediad iddo a lle y rhoddir triniaeth arbennig gan berson yng nghwrs busnes. O dan yr amgylchiadau hyn, mae’r person sy’n trefnu’r arddangosfa, yr adloniant neu’r digwyddiad yn gyfrifol am sicrhau bod y fangre wedi ei chymeradwyo ac y cydymffurfir â’r amodau cymeradwyo mandadol cymwys. Mae is-adran (7) yn egluro mai’r fangre ei hun, yn hytrach na’r busnesau unigol sy’n gweithredu o’r fangre honno, y mae rhaid ei chymeradwyo. Gall enghraifft fod pan fo busnesau unigol yn gweithredu wrth fyrddau mewn arddangosfa mewn gwesty. Yn yr achos hwn, byddai’n ofynnol i fangre’r gwesty fod wedi ei chymeradwyo yn hytrach na’r busnesau unigol a oedd yn gweithredu o’r stondinau hynny.

133.Mae is-adran (8) yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i esemptio mangreoedd neu gerbydau penodol o’r gofynion cymeradwyo. Caniateir i’r fangre neu’r cerbyd gael ei disgrifio neu ei ddisgrifio yn y rheoliadau drwy gyfeirio at y personau sy’n rheoli’r fangre neu’r cerbyd neu y mae’r fangre neu’r cerbyd o dan reolaeth y person hwnnw; natur y gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yn y fangre neu’r cerbyd; yr amgylchiadau gwahanol y rhoddir triniaeth arbennig odanynt yn y fangre neu’r cerbyd; neu nifer yr unigolion sy’n rhoi triniaethau arbennig. Gall hyn alluogi, er enghraifft, i fangre lle y rhoddir triniaeth arbennig gan unigolyn sydd wedi ei esemptio fod yn esempt hefyd, er enghraifft meddyg yn rhoi triniaeth mewn ysbyty.

Adran 70 - Cymeradwyo mangreoedd a cherbydau mewn cysylltiad â rhoi triniaeth arbennig

134.Mae’r adran hon yn galluogi awdurdod lleol i ddyroddi tystysgrif gymeradwyo, a thrwy hynny gymeradwyo mangre neu gerbyd er mwyn caniatáu i driniaeth arbennig (neu nifer o driniaethau arbennig) gael ei rhoi (neu eu rhoi) yno. Bydd y gymeradwyaeth yn para am gyfnod o naill ai uchafswm o saith niwrnod (os yw’n ymwneud â thriniaethau a roddir ar sail dros dro (h.y. yng nghwrs adloniant, arddangosfa neu ddigwyddiad arall)), neu dair blynedd. Rhaid i’r cyfnod y mae’r gymeradwyaeth yn ddilys ar ei gyfer gael ei bennu ar y dystysgrif gymeradwyo. Rhaid i’r fangre fod yn ardal yr awdurdod lleol a rhaid ystyried bod y cerbyd yn cael ei yrru, ei ddefnyddio neu ei gadw yn ardal yr awdurdod lleol, er mwyn i’r awdurdod lleol gymeradwyo’r fangre neu’r cerbyd.

135.Mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â chymeradwyo mangreoedd a cherbydau. Rhaid i’r rheoliadau hyn gwmpasu’r meini prawf sydd i gael eu bodloni er mwyn i gais gael ei ganiatáu, yr amgylchiadau pan fo cais i gael ei ganiatáu, a’r broses i geisydd apelio yn erbyn gwrthodiad i gais. Yn ogystal, bydd y rheoliadau yn pennu’r amodau (yr “amodau cymeradwyo mandadol”) y mae rhaid cydymffurfio â hwy er mwyn cadw’r gymeradwyaeth. Caniateir i’r amodau hyn gynnwys y cyfleusterau sydd ar gael yn y fangre neu yn y cerbyd, megis cyfleusterau addas ar gyfer glanhau dwylo, a darparu manylion ynghylch arddangos tystysgrif gymeradwyo mewn mangre neu gerbyd a gymeradwywyd. Diben arddangos tystysgrifau cymeradwyo yw gwella tryloywder mewn perthynas ag arfer triniaethau arbennig, a galluogi defnyddwyr i nodi bod yr awdurdod lleol wedi cymeradwyo’r fangre neu’r cerbyd.

136.Caiff y rheoliadau hefyd wneud darpariaeth ynghylch y ffordd y mae cais am gymeradwyaeth yn cael ei wneud a sut i ddelio â’r cais (gan gynnwys talu ffi), yr amgylchiadau pan na chaniateir i gais gael ei ganiatáu, neu pan ganiateir i gymeradwyaeth gael ei rhoi yn ôl disgresiwn yr awdurdod lleol, a’r broses a fydd yn gymwys ar gyfer adnewyddu cymeradwyaeth. Yn ogystal, caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch sut y mae awdurdod lleol yn dyfarnu ar swm y ffi sy’n daladwy gan geisydd wrth wneud cais am gymeradwyaeth i fangre neu gerbyd, yn ogystal â manylion ynghylch canlyniadau methu â chydymffurfio â’r gofyniad i dalu ffi (megis dirymu cymeradwyaeth).

137.Caiff y rheoliadau hefyd wneud darpariaeth wahanol ar gyfer disgrifiadau gwahanol o fangreoedd a cherbydau; ar gyfer triniaethau arbennig gwahanol; ac ar gyfer yr amgylchiadau gwahanol y rhoddir triniaeth arbennig odanynt.

Adran 71 - Tystysgrifau cymeradwyo

138.Mae’r adran hon yn darparu manylion ynghylch ffurf a chynnwys tystysgrifau cymeradwyo. Rhaid i’r dystysgrif gymeradwyo ddatgan y dyddiad y cymeradwywyd y fangre neu’r cerbyd gan yr awdurdod lleol (y “dyddiad cymeradwyo”); y driniaeth arbennig y mae’r fangre neu’r cerbyd wedi ei chymeradwyo neu wedi ei gymeradwyo ar ei chyfer; a’r dyddiad y daw’r gymeradwyaeth i ben. Os yw’r dystysgrif gymeradwyo yn ymwneud â mangre, rhaid iddi hefyd ddatgan cyfeiriad y fangre y mae’n ei chwmpasu. Yn achos cerbyd, rhaid i’r dystysgrif gymeradwyo ddatgan rhif cofrestru’r cerbyd, os oes un ganddo, neu fel arall nodi’r cerbyd ym mha ffordd bynnag y mae’r awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn briodol. Mae is-adran (4) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth bellach drwy reoliadau ynghylch ffurf a chynnwys tystysgrifau cymeradwyo.

Adran 72 - Terfynu cymeradwyaeth yn wirfoddol

139.Mae’r adran hon yn darparu hyblygrwydd i berson sydd wedi cael cymeradwyaeth i fangre neu gerbyd mewn cysylltiad â thriniaeth arbennig i derfynu’r gymeradwyaeth yn wirfoddol, er enghraifft os yw ei amgylchiadau yn newid. Caiff y person roi hysbysiad i’r awdurdod lleol a ddyroddodd y gymeradwyaeth, gan bennu’r dyddiad y mae’r gymeradwyaeth i ddod i ben.

140.Rhaid i’r awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i ddwyn yr hysbysiad o derfynu gwirfoddol i sylw personau y mae’n meddwl ei fod yn debygol o effeithio arnynt, er enghraifft deiliaid trwydded a restrir fel rhai sy’n gweithredu o’r fangre neu’r cerbyd y cyfeirir ati neu ato yn yr hysbysiad. Bwriad hyn yw osgoi sefyllfa pan fo ymarferydd yn parhau i weithio mewn mangre neu gerbyd nad yw’n ymwybodol nad yw wedi ei chymeradwyo neu wedi ei gymeradwyo mwyach - gan y byddai, drwy wneud hynny, yn cyflawni trosedd.

141.Mae is-adran (5) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaethau pellach ynghylch yr hysbysiad mewn rheoliadau, gan gynnwys ynghylch yr wybodaeth sydd i gael ei chynnwys yn yr hysbysiad.

Adran 73 - Dirymu cymeradwyaeth

142.Mae’r adran hon yn galluogi’r awdurdod lleol i ddirymu cymeradwyaeth i fangre neu gerbyd os yw wedi ei fodloni bod y ddau amod yn is-adran (2) wedi eu bodloni. Yr amodau hyn yw na chydymffurfiwyd â’r amodau cymeradwyo mandadol sy’n gymwys i’r fangre neu’r cerbyd (fel sy’n ofynnol gan adran 70(3)), a bod peidio â chydymffurfio yn peri risg sylweddol, neu y gallai beri risg sylweddol, o niwed i iechyd dynol. Er mwyn dirymu’r gymeradwyaeth, rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad i’r person a wnaeth gais amdani.

143.Mae Atodlen 3 yn amlinellu’r broses ar gyfer dirymu’r gymeradwyaeth. Hon yw’r un broses ag ar gyfer dirymu trwydded triniaeth arbennig (fel y’i darperir gan adran 68) ac mae’n darparu y caiff y person apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol i’r llys ynadon.

144.Darperir ar gyfer y dyddiad y bydd y dirymiad yn cael effaith ohono yn is-adran (4). Mae hyn yn ystyried y prosesau apelio a’r amserlenni a nodir yn Atodlen 3.

Adran 74 - Dirymu cymeradwyaeth: gofynion hysbysu

145.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi hysbysiad i berson mewn cysylltiad â dirymiad, neu ddirymiad arfaethedig, o gymeradwyaeth i fangre neu gerbyd. Rhaid i’r awdurdod lleol hefyd gymryd camau rhesymol i ddwyn yr hysbysiad i sylw unrhyw un y mae’n meddwl ei fod yn debygol o effeithio arnynt (er enghraifft, deiliaid trwydded a restrir fel rhai sy’n gweithredu o’r fangre neu’r cerbyd yr effeithir arni neu arno). Bwriad hyn yw osgoi sefyllfa pan fo deiliad trwydded yn parhau i weithio mewn mangre neu gerbyd nad yw’n ymwybodol nad yw wedi ei chymeradwyo neu ei gymeradwyo mwyach – gan y byddai, drwy wneud hynny, yn cyflawni trosedd.

Adran 75 - Dyletswydd i gynnal cofrestr o drwyddedau triniaeth arbennig a mangreoedd a cherbydau a gymeradwywyd

146.Mae adran 75 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gynnal a chyhoeddi cofrestr sy’n cynnwys manylion yr holl drwyddedau triniaeth arbennig dilys sydd wedi eu dyroddi ganddo, yn ogystal â manylion yr holl fangreoedd a cherbydau sydd wedi eu cymeradwyo ganddo ar hyn o bryd. Mae hyn er mwyn caniatáu i aelodau’r cyhoedd weld manylion deiliaid trwydded a/neu fangreoedd neu gerbydau a gymeradwywyd yn eu hardal. Y diben yw gwella tryloywder mewn perthynas ag arfer triniaethau arbennig, a rhoi hyder i ddefnyddwyr.

147.Mae is-adrannau (2) a (3) yn pennu’r wybodaeth y mae rhaid ei darparu yn y gofrestr mewn perthynas â thrwyddedau a chymeradwyaethau. Mewn cysylltiad â thrwyddedau, mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r gofrestr gynnwys gwybodaeth gan gynnwys enw deiliad y drwydded, y dyddiad y dyroddwyd y drwydded, y driniaeth arbennig a awdurdodir gan y drwydded a’r cyfnod y mae’r drwydded yn ddilys ar ei gyfer (h.y. saith niwrnod neu dair blynedd). Os yw’r drwydded yn ymwneud â rhoi triniaeth arbennig mewn mangre neu gerbyd penodol, rhaid i’r gofrestr gynnwys gwybodaeth berthnasol sy’n ymwneud â’r gymeradwyaeth.

148.Yn achos cymeradwyaethau i fangre a cherbyd, mae is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r gofrestr gynnwys gwybodaeth megis enw’r person sydd wedi cael y gymeradwyaeth, y dyddiad y dyroddwyd y gymeradwyaeth a’r cyfnod y mae’n ddilys ar ei gyfer, yn ogystal â’r driniaeth arbennig yr awdurdodir iddi gael ei rhoi yn y fangre honno neu’r cerbyd hwnnw. Mae gwybodaeth benodol megis cyfeiriad y fangre neu rif cofrestru’r cerbyd hefyd yn ofynnol.

149.Mae is-adran (4) yn darparu y caiff yr awdurdod lleol sy’n cynnal y gofrestr gynnwys unrhyw wybodaeth y mae’n ystyried ei bod yn briodol.

150.Er bod yr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol gynnal a chyhoeddi ei gofrestr ei hun, mae is-adran (5) yn galluogi Gweinidogion Cymru i drefnu i gofrestr ganolog gael ei chyhoeddi gan un awdurdod lleol penodedig. Gan y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru gymryd rhan a darparu ei gwybodaeth i’r awdurdod lleol penodedig, byddai’r gofrestr ganolog hon yn cynnwys gwybodaeth am bob trwydded a chymeradwyaeth sy’n ddilys yng Nghymru ar hyn o bryd. Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol gyfrannu at gostau cofrestr ganolog o’r fath.

Adran 76 - Ffioedd

151.Mae’r adran hon yn galluogi awdurdod lleol i godi ffi ar ddeiliad trwydded triniaeth arbennig neu gymeradwyaeth i fangre neu gerbyd. Caniateir i’r ffi gael ei chymhwyso naill ai’n gyfnodol neu fel arall am gyhyd ag y mae’r drwydded/cymeradwyaeth yn cael effaith. Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y ffordd y mae awdurdod lleol i ddyfarnu ar swm y ffi, gan roi sylw i’r costau y mae’r awdurdod yn mynd iddynt neu y disgwylir i’r awdurdod fynd iddynt, yn ogystal â’r ffordd y mae’r ffi yn cael ei thalu, ei had-dalu neu ei hadennill os nad yw wedi ei thalu.

Adran 77 - Hysbysiadau stop

152.Os yw’r awdurdod lleol yn ymwybodol o unigolyn sy’n rhoi triniaeth arbennig yn ei ardal heb drwydded, neu sy’n cynnal busnes o fangre neu gerbyd nad yw wedi ei chymeradwyo neu ei gymeradwyo, caiff yr awdurdod lleol ddyroddi hysbysiad stop i’r unigolyn hwnnw. Nod yr hysbysiad stop yw gwahardd rhoi’r driniaeth arbennig a bennir yn yr hysbysiad.

153.Mae torri’r hysbysiad stop yn drosedd (fel y’i darperir gan adran 82(4)) a chaniateir i’r drosedd gael ei chosbi drwy ddirwy ddiderfyn.

154.Rhaid darparu’r hysbysiad stop i’r person o dan sylw a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol yn is-adrannau (4) a (5). Mae hyn yn cynnwys y rheswm dros yr hysbysiad stop, manylion y gwaharddiad a hysbysu’r person sy’n ddarostyngedig i’r hysbysiad am ei hawl i apelio yn ei erbyn (gweler adran 81). Bydd yr hysbysiad stop yn gymwys yn unrhyw le yng Nghymru a bydd yn effeithiol hyd nes y bydd y person yn cael y drwydded neu’r gymeradwyaeth berthnasol.

Adran 78 - Trwyddedau triniaeth arbennig: hysbysiadau camau adfer i ddeiliad trwydded

155.Os daw awdurdod lleol yn ymwybodol bod deiliad trwydded yn torri amod trwyddedu mandadol cymwys, caiff ddyroddi hysbysiad camau adfer i ddeiliad y drwydded. Rhaid i hwn bennu’r materion sy’n arwain at y toriad a’r camau y mae rhaid i ddeiliad y drwydded eu cymryd i sicrhau cydymffurfedd â’r amodau trwyddedu mandadol cymwys. Os yw’r awdurdod wedi ei fodloni bod torri’r amod trwyddedu mandadol yn peri risg sylweddol, neu y gallai beri risg sylweddol, o niwed i iechyd dynol, caiff yr hysbysiad hefyd wahardd rhoi triniaeth arbennig hyd nes bod y camau a bennir yn yr hysbysiad wedi eu cymryd. Caiff y gwaharddiad ymwneud â rhoi’r driniaeth arbennig mewn ardal o Gymru (er enghraifft, ardal yr awdurdod lleol) neu caiff rychwantu pob rhan o Gymru.

156.Rhaid i’r hysbysiad bennu’r cyfnod cydymffurfio (a rhaid i hwn beidio â bod yn llai na 14 o ddiwrnodau) y dylai deiliad y drwydded gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad ynddo. Os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y camau a bennir yn yr hysbysiad wedi eu cymryd, rhaid iddo ddyroddi tystysgrif gwblhau i ddeiliad y drwydded i ryddhau’r hysbysiad, fel sy’n ofynnol gan adran 80.

157.Rhaid i’r hysbysiad camau adfer hefyd ddarparu manylion hawl deiliad y drwydded i apelio i’r llys ynadon yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol.

158.Er bod torri’r hysbysiad camau adfer yn drosedd (fel y’i darperir gan adran 82(5)) ac y caniateir ei chosbi drwy ddirwy ddiderfyn, rhaid i’r awdurdod lleol beidio â dechrau achos yn erbyn deiliad y drwydded hyd nes bod y cyfnod cydymffurfio wedi dod i ben. Os bydd deiliad y drwydded yn cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad o fewn y cyfnod cydymffurfio, ni chaiff yr awdurdod lleol ddwyn achos am drosedd. Bydd yr awdurdod lleol, fodd bynnag, yn gallu ymgymryd ag achos os bydd deiliad y drwydded yn parhau i arfer triniaeth arbennig er gwaethaf y gwaharddiad a osodir ar ei arfer. Yn ychwanegol at yr hysbysiad camau adfer, caiff yr awdurdod lleol hefyd ddirymu trwydded triniaeth arbennig os yw deiliad y drwydded yn methu â chydymffurfio ag amod trwyddedu mandadol cymwys.

Adran 79 - Mangreoedd a cherbydau a gymeradwywyd: hysbysiadau camau adfer ar gyfer mangre

159.Yn debyg i’r darpariaethau a nodir yn adran 78, mae’r adran hon yn galluogi’r awdurdod lleol i ddyroddi hysbysiad camau adfer i berson mewn cysylltiad â mangre neu gerbyd a gymeradwywyd. Caniateir i’r hysbysiad gael ei ddyroddi os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y person yn torri amod cymeradwyo mandadol cymwys. Rhaid i’r hysbysiad camau adfer bennu’r rheswm neu’r rhesymau dros y toriad a’r camau y mae rhaid i ddeiliad y drwydded eu cymryd i sicrhau cydymffurfedd. Os yw’r awdurdod wedi ei fodloni bod torri’r amod cymeradwyo mandadol yn peri risg sylweddol, neu y gallai beri risg sylweddol, o niwed i iechyd dynol, caiff yr hysbysiad hefyd wahardd rhoi’r driniaeth arbennig yn y fangre neu yn y cerbyd, hyd nes bod y camau a bennir yn yr hysbysiad wedi eu cymryd. Yn yr achos hwn, rhaid i’r awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i ddwyn yr hysbysiad i sylw unrhyw un y mae’n meddwl ei fod yn debygol o effeithio arnynt (er enghraifft, deiliaid trwydded a restrir fel rhai sy’n gweithredu o’r fangre neu’r cerbyd). Mae hyn yn sicrhau nad yw pobl sy’n rhoi triniaethau arbennig o’r fangre/cerbyd yn cyflawni trosedd yn anfwriadol drwy dorri’r gwaharddiad.

160.Rhaid i’r hysbysiad bennu’r cyfnod cydymffurfio (a rhaid i hwn beidio â bod yn llai na 14 o ddiwrnodau) y dylai deiliad y drwydded gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad ynddo. Os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y camau a bennir yn yr hysbysiad wedi eu cymryd, rhaid iddo ddyroddi tystysgrif gwblhau i ddeiliad y drwydded i ryddhau’r hysbysiad, fel sy’n ofynnol gan adran 80.

161.Rhaid i’r hysbysiad hefyd ddarparu manylion hawl y person i apelio i’r llys ynadon yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol i ddyroddi hysbysiad camau adfer. Mae torri’r hysbysiad yn drosedd (fel y darperir ar ei gyfer gan adran 82(6)) a chaniateir i’r drosedd gael ei chosbi drwy ddirwy ddiderfyn. Fodd bynnag, rhaid i’r awdurdod lleol beidio â dechrau achos hyd nes bod y cyfnod cydymffurfio wedi dod i ben.

162.Os bydd y person yn cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad adfer o fewn y cyfnod cydymffurfio, ni chaiff yr awdurdod lleol ddwyn achos am drosedd. Bydd yr awdurdod lleol, fodd bynnag, yn gallu ymgymryd ag achos os bydd y person yn parhau i arfer y driniaeth arbennig o’r fangre neu’r cerbyd a bennir yn yr hysbysiad, er gwaethaf y gwaharddiad. Yn ychwanegol at yr hysbysiad camau adfer, caiff yr awdurdod lleol hefyd ddirymu cymeradwyaeth i fangre neu gerbyd os yw’r person yn methu â chydymffurfio ag amod cymeradwyo mandadol.

Adran 80 - Tystysgrif gwblhau

163.Os yw awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y camau a bennir mewn hysbysiad camau adfer y mae wedi ei ddyroddi o dan adran 78 neu 79 wedi eu cymryd, rhaid iddo roi tystysgrif (“tystysgrif gwblhau”) i’r person sy’n rhyddhau’r hysbysiad. Mae hyn yn sicrhau bod y person a oedd yn ddarostyngedig i’r hysbysiad a’r awdurdod lleol yn ymwybodol y cydymffurfiwyd â’r hysbysiad camau adfer a bod ganddynt gofnod o’r camau sydd wedi eu cymryd. Rhaid i’r awdurdod lleol hefyd gymryd camau rhesymol i ddwyn y dystysgrif gwblhau neu’r hysbysiad i sylw unrhyw un y mae’n meddwl ei fod yn debygol o effeithio arnynt.

164.Mae’r adran hefyd yn darparu y caiff person sy’n ddarostyngedig i’r hysbysiad wneud cais i’r awdurdod lleol am dystysgrif gwblhau ar unrhyw adeg. Yr awdurdod lleol fydd yn pennu’r broses a’r wybodaeth sy’n ofynnol yn hyn o beth. Os bydd yr awdurdod lleol yn gwrthod y cais, rhaid iddo roi hysbysiad o hyn i’r person. Yn ychwanegol, rhaid rhoi’r rhesymau dros y gwrthodiad a’r wybodaeth am y broses apelio (gweler adran 81) i’r person.

 Adran 81 - Apelau

165.Mae’r adran hon yn rhoi i berson hawl i apelio i’r llys ynadon yn erbyn penderfyniad awdurdod lleol o dan adran 77, 78 neu 79. Hefyd, caniateir i apêl gael ei gwneud yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol i wrthod cais am dystysgrif gwblhau (adran 80(5)). Caiff y llys ynadon gymryd unrhyw un neu ragor o’r camau a bennir yn is-adran (5); mae’r rhain yn cynnwys cynnal yr hysbysiad neu’r gwrthodiad, diddymu neu amrywio’r hysbysiad, neu atgyfeirio’r achos i’r awdurdod lleol i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan y llys.

166.Os caiff penderfyniad yr awdurdod lleol ei amrywio neu ei ddiddymu, caiff y llys ynadon orchymyn i’r awdurdod lleol ddigolledu’r person am golled a ddioddefodd o ganlyniad i’r hysbysiad. Er enghraifft, gellid digolledu’r person am golli incwm oherwydd penderfyniad yr awdurdod lleol i’w rwystro rhag gweithio.

167.Caiff naill ai’r person neu’r awdurdod lleol wneud apêl i Lys y Goron yn erbyn penderfyniad llys ynadon.

Adran 82 - Troseddau

168.Mae’r adran hon yn nodi’r troseddau sy’n gymwys mewn perthynas â’r Rhan hon o’r Ddeddf. Ymhlith eraill, caiff troseddau eu cyflawni os bydd person yn methu â chydymffurfio â’r amodau trwyddedu neu gymeradwyo, neu’n methu â chydymffurfio â chamau gorfodi a orchmynnir gan awdurdod lleol megis hysbysiad stop neu hysbysiad camau adfer, heb achos rhesymol. Mae trosedd hefyd ar gyfer gwneud datganiad anwir neu gamarweiniol (gan gynnwys os yw’r person yn gwybod ei fod yn anwir neu’n gamarweiniol neu’n ddi-hid o ran a yw’n anwir neu’n gamarweiniol) wrth wneud cais am drwydded neu gymeradwyaeth i fangre neu gerbyd.

169.O’i euogfarnu, mae person sydd wedi ei ddyfarnu’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored i ddirwy ddiderfyn.

Adran 83 - Swyddogion awdurdodedig

170.Mae’r adran hon yn egluro bod unrhyw gyfeiriadau at swyddogion awdurdodedig yn adrannau 84 i 92 yn gyfeiriadau at unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i arfer swyddogaethau awdurdod lleol, pa un a yw’n swyddog i’r awdurdod lleol ai peidio.

Adran 84 - Pwerau mynediad etc.

171.Mae adran 84 yn galluogi swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i fangre (ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd) ar unrhyw adeg resymol, os oes gan y swyddog reswm dros gredu bod triniaeth arbennig wedi ei rhoi, yn cael ei rhoi neu’n debygol o gael ei rhoi yn y fangre, neu fod deunydd neu gyfarpar sy’n ymwneud â thriniaeth arbennig yn cael ei gadw neu ei baratoi yn y fangre. Nid yw’r pŵer i fynd i mewn i fangre yn galluogi’r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn drwy rym. Os yw’n ofynnol, rhaid i swyddog awdurdodedig ddangos tystiolaeth o’i awdurdodiad cyn mynd i mewn i’r fangre. Mae’r pŵer mynediad hefyd yn gymwys i gerbyd.

172.Mae adran 67(9) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 yn darparu bod rhaid i swyddogion awdurdodedig yr awdurdod gorfodi, wrth weithredu yng nghwrs eu swyddogaethau gorfodi, roi sylw i’r cod ymarfer perthnasol a wnaed o dan y Ddeddf honno. Felly, rhaid i swyddogion awdurdodedig roi sylw i God Ymarfer B Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 wrth arfer eu swyddogaethau gorfodi.

Adran 85 - Gwarant i fynd i mewn i annedd

173.Os yw mynediad i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd yn angenrheidiol er mwyn gorfodi’r Rhan hon o’r Ddeddf, rhaid i’r awdurdod lleol wneud cais ysgrifenedig i ynad heddwch. Mae adran 85 yn galluogi ynad heddwch i ddyroddi gwarant a thrwy hynny awdurdodi swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i’r annedd, os oes angen drwy rym. Gall gwarant gael ei dyroddi mewn fformat ac eithrio dogfen ar ffurf copi caled, megis fersiwn electronig. Bydd y warant mewn grym am 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y cafodd ei llofnodi gan yr ynad heddwch. Mae’r adran hon hefyd yn gymwys i gerbyd.

Adran 86 - Gwarant i fynd i mewn i fangreoedd eraill

174.Os yw mynediad i fangre nad yw’n cael ei defnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd yn angenrheidiol, mae adran 86 yn galluogi ynad heddwch i ddyroddi gwarant gan awdurdodi unrhyw swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i’r fangre, os oes angen drwy rym. Gellir cael y warant drwy wneud cais ysgrifenedig i ynad heddwch. Rhaid i’r fangre y mae mynediad iddi yn cael ei geisio gael ei defnyddio at ddibenion busnes, neu ar gyfer busnes ac fel annedd. Yn achos mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd, rhaid i warant gael ei cheisio o dan adran 85. Mae’r adran hon hefyd yn gymwys i gerbyd.

175.Er mwyn i warant gael ei dyroddi, rhaid i un neu ragor o’r gofynion a nodir yn is-adrannau (3) i (6) gael eu bodloni. Mae’r gofynion yn cynnwys bod cais i fynd i mewn i’r fangre wedi ei wrthod neu’n debygol o gael ei wrthod a bod hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant wedi ei roi; bod cais am fynediad, neu roi hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant, yn debygol o danseilio diben y mynediad; nad yw’r fangre wedi ei meddiannu; neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro, a bod aros iddo ddychwelyd yn debygol o danseilio diben y mynediad. Unwaith y bydd y warant wedi ei dyroddi, bydd mewn grym am 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y cafodd ei dyroddi gan yr ynad heddwch.

Adran 87 - Darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediad

176.Mae’r adran hon yn galluogi swyddog awdurdodedig sy’n mynd i mewn i fangre o dan adran 84, 85 neu 86 i fynd ag unrhyw bersonau eraill neu unrhyw gyfarpar y mae’r swyddog yn ystyried ei fod yn briodol, er enghraifft cyfarpar a ddefnyddir i archwilio cofnodion electronig. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol, os yw meddiannydd mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd i mewn iddi o dan adran 85 neu 86 yn bresennol ar yr adeg y mae’r swyddog awdurdodedig yn ceisio gweithredu’r warant, fod rhaid i’r meddiannydd gael gwybod enw’r swyddog; rhaid i’r swyddog gyflwyno tystiolaeth ddogfennol bod y swyddog yn swyddog awdurdodedig; rhaid i’r swyddog gyflwyno’r warant a chyflenwi copi ohoni i’r meddiannydd. Mae’r adran hefyd yn ei gwneud yn ofynnol, os nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, i’r swyddog awdurdodedig adael y fangre wedi ei diogelu rhag mynediad anawdurdodedig yr un mor effeithiol ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi. Mae’r darpariaethau yn yr adran hon hefyd yn gymwys i gerbyd.

Adran 88 - Pwerau arolygu etc.

177.Unwaith y bydd swyddog awdurdodedig wedi cael mynediad i fangre, caiff ymgymryd ag arolygiadau ac archwiliadau at ddibenion swyddogaethau’r awdurdod lleol mewn perthynas â thriniaethau arbennig. Caiff hyn gynnwys arolygu ac archwilio’r fangre, edrych ar gofnodion teledu cylch cyfyng a’u cadw a chael copïau o ddogfennau, megis cofnodion triniaeth a dogfennau cydsyniad. Caiff y swyddog awdurdodedig hefyd ei gwneud yn ofynnol cyflwyno unrhyw beth neu gymryd meddiant o unrhyw beth a’i gadw am gyhyd ag y mae’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben arfer swyddogaethau’r awdurdod. Yn yr achos hwn, fodd bynnag, rhaid i’r swyddog adael datganiad yn y fangre sy’n cynnwys manylion yr hyn sydd wedi ei gymryd, ac sy’n nodi’r person y caniateir gofyn iddo i’r eiddo gael ei ddychwelyd.

178.Caiff y swyddog awdurdodedig hefyd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi gwybodaeth iddo, neu ddarparu cyfleusterau a chymorth mewn cysylltiad â materion sydd o fewn rheolaeth y person. Gall hyn gynnwys darparu disgrifiad o ddigwyddiadau, neu ddarparu gwybodaeth a gedwir ar gyfrifiadur neu ddyfais arall. Fodd bynnag, nid yw’n ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiwn na chyflwyno unrhyw ddogfen y byddai ganddo hawl i wrthod ei ateb neu ei chyflwyno yn ystod achos mewn llys yng Nghymru a Lloegr. Mae’r adran hon hefyd yn gymwys i gerbyd.

Adran 89 - Rhwystro etc. swyddogion

179.Mae’r adran hon yn darparu bod person yn cyflawni trosedd os yw’n rhwystro’n fwriadol swyddog awdurdodedig rhag arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 84 i 88. Bydd hefyd yn cyflawni trosedd os yw, heb achos rhesymol, yn methu â darparu i swyddog awdurdodedig gyfleusterau sy’n ofynnol yn rhesymol o dan adran 88(1), neu os yw’n methu â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 88(1)(b) neu (d) megis cyflwyno deunydd teledu cylch cyfyng neu ddarparu gwybodaeth.

180.Mae person sydd wedi ei ddyfarnu’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol. Nodir y lefelau ar y raddfa safonol yn adran 37 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982.

Adran 90 - Pŵer i wneud pryniannau prawf

181.Caiff swyddog awdurdodedig wneud pryniannau a threfniadau, a sicrhau y darperir gwasanaethau os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben swyddogaethau’r awdurdod lleol mewn perthynas â thriniaethau arbennig. Mae hyn yn cynnwys cael cymorth person i ganfod a yw triniaeth arbennig yn cael ei rhoi mewn mangre neu gerbyd yn groes i’r gofynion yn y Rhan hon o’r Ddeddf.

Adran 91 - Eiddo a gedwir: apelau

182.Mae’r adran hon yn darparu diogelwch ychwanegol sy’n ymwneud â’r darpariaethau pwerau mynediad ac arolygu. Mae’n galluogi person a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth yr eir ymaith ag ef o’r fangre gan swyddog awdurdodedig o dan adran 88(1)(c) i wneud cais i lys ynadon am orchymyn sy’n gofyn i’r eiddo gael ei ryddhau. Gan ddibynnu ar ystyriaeth y llys i gais, caiff wneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r eiddo a gedwir gael ei ryddhau.

Adran 92 - Eiddo a gyfeddir: digolledu

183.Mae’r adran hon yn darparu hawl i berson y mae cymryd meddiant o’r eiddo o dan adran 88(1)(c) yn effeithio arno i wneud cais i lys ynadon i gael ei ddigolledu. Pan fo’r amgylchiadau a nodir yn is-adran (2) wedi eu bodloni (h.y. bod y person wedi dioddef colled neu ddifrod oherwydd bod yr eiddo wedi ei gymryd ac nad yw’r golled neu’r difrod wedi digwydd oherwydd ei esgeulustod neu ei fethiant i weithredu), caiff y llys orchymyn i’r awdurdod lleol ddigolledu’r ceisydd.

Adran 93 - Pŵer i ychwanegu neu ddileu triniaethau arbennig

184.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio, drwy reoliadau, y rhestr o driniaethau arbennig yn adran 57 sy’n ddarostyngedig i’r system drwyddedu. Cyn gwneud rheoliadau o dan y pŵer hwn, mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried a oes pobl yr ymddengys eu bod yn cynrychioli buddiannau’r rheini y mae’r rheoliadau yn debygol o effeithio arnynt, ac ymgynghori â hwy fel y bo’n briodol. Mae hyn yn sicrhau yr ymgynghorir â’r rheini y mae’r rheoliadau yn effeithio arnynt ac yr ystyrir eu safbwyntiau.

185.Mae adran 93 yn caniatáu i’r rhestr o driniaethau arbennig yn adran 57 gael ei diwygio – mae hyn yn cynnwys ychwanegu neu ddileu math neu ddisgrifiad o driniaeth oddi ar y rhestr, neu amrywio’r disgrifiad o driniaeth sydd eisoes yn y rhestr. Ymhlith pethau eraill, caniateir i driniaeth arbennig gael ei disgrifio drwy gyfeirio at yr unigolyn sy’n rhoi’r driniaeth, neu’r unigolyn sy’n cael y driniaeth. Er mwyn i driniaeth gael ei hychwanegu at y rhestr, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried ei bod yn cael ei rhoi at ddibenion esthetig neu therapiwtig, ac y gall rhoi’r driniaeth achosi niwed i iechyd dynol. Diffinnir niwed i iechyd dynol yn adran 94(5) ac mae’n cynnwys niwed i iechyd corfforol neu iechyd meddwl unigolyn.

186.Mae’r pŵer hwn i wneud rheoliadau yn caniatáu i’r rhestr o driniaethau arbennig barhau’n gyfredol, gan sicrhau felly fod y system yn ystyried arferion a thueddiadau sy’n newid ac yn ymateb iddynt.

Adran 94 - Dehongli’r Rhan hon

187.Mae’r adran hon yn nodi ystyr y termau allweddol a ddefnyddir yn y Rhan hon, gan gynnwys ystyr aciwbigo, electrolysis, tatŵio a thyllu’r corff. Mae’r diffiniad o datŵio yn cynnwys microbigmentiad. Ystyr tyllu’r corff yw gwneud trydylliad (gan gynnwys pric neu endoriad) yng nghroen neu ym mhilen fwcaidd unigolyn, gyda golwg ar alluogi i emwaith neu wrthrych arall gael ei atodi i gorff yr unigolyn, ei fewnblannu yng nghorff yr unigolyn neu ei dynnu o gorff yr unigolyn. Rhagnodir gwrthrychau mewn rheoliadau a chânt gynnwys glain, er enghraifft.

188.Mae is-adran (4) yn darparu manylion ynghylch ystyr y seiliau gwahanol (h.y. sail safle sefydlog, sail symudol, sail beripatetig a sail dros dro) y cyfeirir atynt yn y Rhan mewn perthynas ag arfer triniaeth arbennig. Er enghraifft, caniateir i feini prawf trwyddedu gwahanol gael eu cymhwyso i’r seiliau gwahanol hyn yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adran 62(5).

189.Mae is-adran (5) yn darparu diffiniad o’r term “niwed i iechyd dynol”. Mae hyn yn cynnwys niwed i iechyd corfforol unigolyn sy’n deillio o anaf corfforol neu ddod i gysylltiad â haint, a niwed i iechyd meddwl unigolyn. Rhaid i unrhyw driniaeth a ystyrir i’w hychwanegu at y rhestr o driniaethau arbennig (ac felly a ddelir gan y darpariaethau yn y Rhan hon) allu achosi niwed i iechyd dynol. Er enghraifft, caniateir i driniaeth gael ei hystyried i’w chynnwys yn y rhestr os yw’n gallu achosi anaf corfforol.

Rhan 5.Rhoi Twll Mewn Rhan Bersonol O’R Corff

Adran 95 - Y drosedd o roi neu wneud trefniadau i roi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn

190.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn drosedd rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn yng Nghymru. Mae hefyd yn ei gwneud yn drosedd gwneud trefniadau i roi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn yng Nghymru. Mae plentyn at ddibenion y Rhan hon o’r Ddeddf yn unrhyw berson sydd o dan 18 oed. Mae person sydd wedi ei euogfarnu o’r naill drosedd neu’r llall yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy ddiderfyn.

191.Caiff person sydd wedi ei gyhuddo o’r drosedd o roi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn yng Nghymru gyflwyno amddiffyniad ei fod yn credu bod y person dros 18 oed. Byddai angen i’r cyhuddedig ddangos iddo naill ai gymryd camau rhesymol i gadarnhau oedran y person (er enghraifft, drwy ofyn am brawf o oedran ac y byddai’r dystiolaeth a ddarperid wedi argyhoeddi person rhesymol), neu na allai neb fod wedi amau’n rhesymol o’i olwg fod y person o dan 18 oed. Os yw person wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon oherwydd gweithredoedd person arall, byddai’n amddiffyniad dangos i’r cyhuddedig gymryd rhagofalon rhesymol ac arfer diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni’r drosedd, er enghraifft drwy ddarparu hyfforddiant i staff neu sefydlu systemau i osgoi cyflawni’r drosedd.

Adran 96 - Beth yw rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff?

192.Darperir y diffiniad o “tyllu’r corff” yn adran 94 a’i ystyr yw gwneud trydylliad (gan gynnwys pric neu endoriad) yng nghroen neu ym mhilen fwcaidd unigolyn, gyda golwg ar alluogi i emwaith neu wrthrych arall gael ei atodi i gorff yr unigolyn, ei fewnblannu yng nghorff yr unigolyn neu ei dynnu o gorff yr unigolyn. Rhagnodir gwrthrychau mewn rheoliadau a chânt gynnwys glain, er enghraifft.

193.Rhestrir y rhannau personol o’r corff yn is-adran (2) ac maent yn cynnwys y fron (gan gynnwys y deth a’r areola), y ffolen, yr organau cenhedlu a’r tafod. Ar y rhestr mae rhannau o’r anatomi gwrywaidd a benywaidd. Cynhwysir pilenni mwcaidd yn y diffiniad gan y gall arwyneb rhannau personol o’r corff megis y fwlfa gynnwys croen neu bilenni mwcaidd.

194.Nid yw’r troseddau sydd wedi eu creu gan yr adran hon yn gymwys i dyllau mewn rhannau personol o gorff person o dan 18 oed os ydynt yn digwydd yng nghwrs triniaeth feddygol a gyflawnir gan ymarferydd meddygol cofrestredig, nyrs gofrestredig neu fydwraig gofrestredig. Diffinnir triniaeth feddygol fel unrhyw driniaeth a gyflawnir at ddibenion diagnosio, atal, monitro, trin neu liniaru clefyd, afiechyd, anabledd neu annormaledd corfforol neu feddyliol arall, neu atal cenhedlu, neu mewn cysylltiad â hynny.

Adran 97 - Camau gorfodi gan awdurdodau lleol

195.Mae’r adran hon yn galluogi awdurdod lleol i ymgymryd â chamau gorfodi mewn perthynas â’r Rhan hon o’r Ddeddf. Caiff awdurdod lleol:

  • dwyn erlyniadau mewn cysylltiad â throseddau o dan adran 95;

  • ymchwilio i gwynion mewn perthynas â throseddau honedig o dan adran 95;

  • cymryd camau eraill gyda golwg ar ostwng nifer y troseddau sy’n digwydd yn ei ardal. Caiff y rhain gynnwys camau gweithredu megis cyfathrebu ag ymarferwyr tyllu’r corff a’u haddysgu, neu ymgymryd ag arolygiadau pryniannau prawf i asesu cydymffurfedd.

196.Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ystyried o leiaf unwaith bob 12 mis raglen o gamau gorfodi er mwyn atal y troseddau o ran rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff a nodir yn adran 95. Rhaid i awdurdod lleol hefyd gynnal rhaglen o gamau gorfodi o’r fath i’r graddau y mae’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny. Caiff y camau gorfodi hyn gynnwys unrhyw un neu ragor neu bob un o’r camau y cyfeirir atynt yn is-adran (1).

197.Wrth ymgymryd â’i gamau gorfodi, rhaid i awdurdod lleol gynnal unrhyw ymgynghoriad y mae’n ystyried ei fod yn briodol â’r heddlu.

Adran 98 - Swyddogion awdurdodedig

198.Mae’r adran yn egluro bod unrhyw gyfeiriad at swyddogion awdurdodedig yn y Rhan hon yn gyfeiriad at unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi gan awdurdod lleol, pa un a yw’n swyddog i’r awdurdod lleol ai peidio.

Adran 99 - Pwerau mynediad

199.Mae’r adran hon yn galluogi cwnstabl neu swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i fangre (ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd, gweler adran 100 am ragor o wybodaeth) ar unrhyw adeg resymol, os oes seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 95 wedi ei chyflawni a bod mynd i mewn yn angenrheidiol er mwyn canfod a yw trosedd o’r fath wedi digwydd ai peidio. Mae’r cyfeiriadau yn y darpariaethau gorfodi hyn at gwnstabl yn adlewyrchu natur sensitif y drosedd, y gallai ymchwilio iddi ei gwneud yn ofynnol cael tystiolaeth ffotograffig a/neu archwiliadau personol. Nid yw’r pŵer hwn i fynd i mewn i fangre yn galluogi’r cwnstabl neu’r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn drwy rym. Os yw’n ofynnol, rhaid i swyddog awdurdodedig ddangos tystiolaeth o’i awdurdodiad gan yr awdurdod lleol cyn mynd i mewn i’r fangre. Mae’r pŵer i fynd i mewn i fangre (fel y’i darperir gan adrannau 100 i 103) yn cwmpasu unrhyw fan ac unrhyw gerbyd (ac eithrio awyren a hofrenfad), stondin neu strwythur symudol.

200.Mae adran 67(9) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 yn darparu bod rhaid i swyddogion awdurdodedig yr awdurdod gorfodi, wrth weithredu yng nghwrs eu swyddogaethau gorfodi, roi sylw i’r cod ymarfer perthnasol a wnaed o dan y Ddeddf honno. Felly, rhaid i swyddogion awdurdodedig roi sylw i God Ymarfer B Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 wrth arfer eu swyddogaethau gorfodi.

Adran 100 - Gwarant i fynd i mewn i annedd

201.Os yw mynediad i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd yn angenrheidiol, oherwydd bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 95 wedi ei chyflawni, a bod mynediad yn ofynnol er mwyn canfod a yw trosedd o’r fath wedi digwydd ai peidio, rhaid i gais ysgrifenedig gael ei wneud i ynad heddwch. Mae’r adran hon yn galluogi ynad heddwch i ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi cwnstabl neu swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i’r annedd, os oes angen drwy rym. Gall gwarant gael ei dyroddi mewn fformat ac eithrio dogfen ar ffurf copi caled, megis fersiwn electronig. Bydd y warant mewn grym am 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y cafodd ei llofnodi gan yr ynad heddwch.

Adran 101 - Gwarant i fynd i mewn i fangreoedd eraill

202.Os yw mynediad i fangre nad yw’n cael ei defnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd yn ofynnol oherwydd bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 95 wedi ei chyflawni, a bod mynediad yn angenrheidiol er mwyn canfod a yw trosedd o’r fath wedi digwydd ai peidio, mae adran 101 yn galluogi ynad heddwch i ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi cwnstabl neu swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i’r fangre honno, os oes angen drwy rym. Gellir cael y warant drwy wneud cais i ynad heddwch. Rhaid i’r fangre y mae mynediad iddi yn cael ei geisio o dan yr adran hon gael ei defnyddio at ddibenion busnes, neu ar gyfer busnes ac fel annedd. Yn achos mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd, rhaid i warant gael ei cheisio o dan adran 100.

203.Er mwyn i warant gael ei dyroddi, rhaid i un neu ragor o’r gofynion a nodir yn is-adrannau (3) i (6) gael eu bodloni. Mae’r gofynion yn cynnwys bod cais i fynd i mewn i’r fangre wedi ei wrthod neu’n debygol o gael ei wrthod a bod hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant wedi ei roi; bod gofyn am fynd i mewn, neu roi hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant, yn debygol o danseilio diben y mynediad; nad yw’r fangre wedi ei meddiannu; neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro, a bod aros i’r meddiannydd ddychwelyd yn debygol o danseilio diben y mynediad. Unwaith y bydd y warant wedi ei dyroddi, bydd mewn grym am 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y cafodd ei dyroddi gan yr ynad heddwch.

Adran 102 - Darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediad

204.Mae’r adran hon yn galluogi swyddogion awdurdodedig neu gwnstabliaid sy’n mynd i mewn i fangre o dan adrannau 99, 100 a 101 i fynd ag unrhyw bersonau eraill neu unrhyw gyfarpar sy’n briodol i ganfod a yw trosedd o dan adran 95 wedi ei chyflawni, er enghraifft cyfarpar a ddefnyddir i archwilio cofnodion electronig. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol, os yw meddiannydd mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd i mewn iddi o dan adran 100 neu 101 yn bresennol ar yr adeg y mae’r swyddog awdurdodedig yn ceisio gweithredu’r warant, fod rhaid i’r meddiannydd gael gwybod enw’r swyddog; os nad yw’n gwnstabl mewn lifrai rhaid i’r swyddog gyflwyno tystiolaeth ddogfennol bod y swyddog yn gwnstabl neu’n swyddog awdurdodedig; rhaid i’r swyddog gyflwyno’r warant a chyflenwi copi ohoni i’r meddiannydd. Yn ogystal, mae’r adran yn ei gwneud yn ofynnol, os nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, i’r rheini sydd wedi eu hawdurdodi i fynd i mewn i’r fangre ei gadael wedi ei diogelu rhag mynediad anawdurdodedig yr un mor effeithiol ag yr oedd pan aethant iddi.

Adran 103 - Pwerau arolygu etc.

205.Unwaith y bydd cwnstabl neu swyddog awdurdodedig wedi mynd i mewn i fangre, caiff ymgymryd ag arolygiadau ac archwiliadau er mwyn canfod a yw trosedd o dan adran 95 wedi ei chyflawni. Caiff hyn gynnwys arolygu ac archwilio’r fangre, edrych ar gofnodion teledu cylch cyfyng a chael copïau o ddogfennau, megis cofnodion triniaeth a dogfennau cydsyniad. Caiff y cwnstabl neu’r swyddog awdurdodedig hefyd gymryd meddiant o unrhyw beth yn y fangre, a’i gadw am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol. Caiff y cwnstabl neu’r swyddog awdurdodedig hefyd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi gwybodaeth iddo, neu ddarparu cyfleusterau a chymorth sydd o fewn ei reolaeth. Caiff hyn gynnwys darparu disgrifiad o ddigwyddiadau, neu gyflenwi gwybodaeth a gedwir ar gyfrifiadur neu ar ddyfais arall. Os yw cwnstabl neu swyddog awdurdodedig yn cymryd unrhyw beth o’r fangre, rhaid iddo adael datganiad yn y fangre sy’n cynnwys manylion yr hyn sydd wedi ei gymryd ac sy’n nodi’r person y caniateir gofyn iddo i’r eiddo gael ei ddychwelyd. Fodd bynnag, nid yw’n ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiwn na chyflwyno unrhyw ddogfen y byddai ganddo hawl i wrthod ei ateb neu ei chyflwyno yn ystod achos mewn llys yng Nghymru a Lloegr.

Adran 104 - Rhwystro etc. cwnstabl neu swyddog

206.Mae’r adran hon yn darparu bod person yn cyflawni trosedd os yw’n rhwystro’n fwriadol gwnstabl neu swyddog awdurdodedig rhag mynd i mewn i fangre pan yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny. Bydd hefyd yn cyflawni trosedd os yw, heb achos rhesymol, yn methu â darparu cyfleusterau neu gydymffurfio ag unrhyw ofynion sy’n ofynnol arnynt o dan adran 103 (h.y. i ddarparu i gwnstabl neu swyddog awdurdodedig unrhyw beth yn y fangre neu gyfleusterau, cymorth neu wybodaeth (er enghraifft, mynediad i gofnodion electronig) sy’n ofynnol yn rhesymol gan y cwnstabl neu’r swyddog awdurdodedig).

207.Mae person sydd wedi ei ddyfarnu’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol. Nodir y lefelau ar y raddfa safonol yn adran 37 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982.

Adran 105 - Pŵer i wneud pryniannau prawf

208.Caiff swyddog awdurdodedig wneud pryniannau a threfniadau, a sicrhau y darperir gwasanaethau os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben gorfodi’r troseddau. Mae hyn yn cynnwys cael cymorth person ifanc i ganfod a yw person yn cynnig rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff y rheini o dan 18 oed ac yn gwneud trefniadau i wneud hynny.

Adran 106 - Eiddo a gedwir: apelau

209.Mae’r adran hon yn darparu diogelwch ychwanegol sy’n ymwneud â’r darpariaethau pwerau mynediad ac arolygu. Mae’n galluogi person a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth yr eir ymaith ag ef o’r fangre gan swyddog awdurdodedig o dan adran 103(1)(c) i wneud cais i lys ynadon am orchymyn sy’n gofyn i’r eiddo gael ei ryddhau. Gan ddibynnu ar ystyriaeth y llys i gais, caiff wneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r eiddo a gedwir gael ei ryddhau.

Adran 107 - Eiddo a gyfeddir: digolledu

210.Mae’r adran hon yn darparu hawl i berson y mae cymryd meddiant o’r eiddo o dan adran 103(1)(c) yn effeithio arno i wneud cais i lys ynadon i gael ei ddigolledu. Pan fo’r amgylchiadau a nodir yn is-adran (2) wedi eu bodloni (h.y. bod y person wedi dioddef colled neu ddifrod oherwydd bod yr eiddo wedi ei gymryd ac nad yw’r golled neu’r difrod wedi digwydd oherwydd ei esgeulustod neu ei fethiant i weithredu), caiff y llys orchymyn i’r awdurdod lleol ddigolledu’r person.

Rhan 6.Asesiadau O’R Effaith Ar Iechyd

Adran 108 - Y gofyniad i gynnal asesiadau o’r effaith ar iechyd

211.Mae’r adran hon yn diffinio asesiad o’r effaith ar iechyd fel asesiad o effaith debygol, yn y tymor byr ac yn y tymor hir, gam arfaethedig ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl holl bobl Cymru neu rai ohonynt. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch cynnal asesiadau o’r fath gan gyrff cyhoeddus. Rhaid i’r rheoliadau hyn bennu’r amgylchiadau pan fo asesiad o’r effaith ar iechyd i gael ei gynnal a sut y gwneir hynny.

212.Mae’r adran hon hefyd yn galluogi i’r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd ag arbenigedd yn y maes hwn, roi cymorth i gorff cyhoeddus arall i gynnal asesiad o’r effaith ar iechyd, gyda’r posibilrwydd i’r rheoliadau hynny bennu sut a phryd y gellid rhoi cymorth o’r fath.

Adran 109 - Asesiadau o’r effaith ar iechyd: eu cyhoeddi a’u hystyried

213.Pan fo corff cyhoeddus wedi cynnal asesiad o’r effaith ar iechyd yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 108, mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff cyhoeddus gyhoeddi’r asesiad ac ystyried ei gasgliadau wrth arfer y rhai hynny o’i swyddogaethau y cynhaliwyd yr asesiad mewn cysylltiad â hwy. Caiff y rheoliadau bennu sut a phryd y mae canlyniadau asesiad o’r effaith ar iechyd i gael eu cyhoeddi.

214.Wrth ystyried yr asesiad o’r effaith ar iechyd, mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff cyhoeddus weithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy fel y’i diffinnir yn adran 5 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hyn yn golygu bod rhaid i’r corff ystyried pethau penodol er mwyn gweithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Adran 110 - Ystyr “corff cyhoeddus”

215.Mae’r adran hon yn nodi’r cyrff cyhoeddus y bydd y rheoliadau ynghylch cynnal asesiadau o’r effaith ar iechyd yn gymwys iddynt.

216.Mae’r adran hefyd yn rhoi’r pŵer drwy reoliadau i Weinidogion Cymru i ddiwygio’r rhestr o gyrff cyhoeddus drwy ychwanegu at y rhestr, neu drwy ddiwygio neu ddileu corff cyhoeddus (neu ddisgrifiad o gorff) sydd wedi ei restru eisoes. Dim ond os ydynt yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus y caniateir ychwanegu cyrff at y rhestr. Pe bai corff y mae ei swyddogaethau yn gymysgedd o swyddogaethau o natur gyhoeddus a swyddogaethau eraill yn cael ei ychwanegu at y rhestr o gyrff cyhoeddus, byddai is-adran (4) yn gweithredu i atal darpariaethau’r Rhan hon o’r Ddeddf rhag bod yn gymwys i’r swyddogaethau eraill hynny.

Rhan 7.Gwasanaethau Fferyllol

217.Mae’r Rhan hon yn cyflwyno newidiadau i’r ffordd y mae Byrddau Iechyd Lleol (“BILlau”) yn penderfynu ar geisiadau i ddarparu gwasanaethau fferyllol y GIG. Mae’r prif newidiadau yn ei gwneud yn ofynnol i BILlau lunio a chyhoeddi asesiad o anghenion fferyllol ar gyfer eu hardal, ac i benderfynu ar geisiadau ar gyfer rhoi cofnod ar y rhestr fferyllol (neu geisiadau i ddiwygio cofnodion ar y rhestr fferyllol) drwy gyfeirio at ba un a yw’r cais yn diwallu’r angen am wasanaeth neu wasanaethau a nodwyd yn yr asesiad ai peidio. Mae pob BILl yn cynnal rhestr fferyllol sy’n cynnwys manylion am y personau y mae eu ceisiadau i ddarparu gwasanaethau fferyllol y GIG wedi eu cymeradwyo ac am y lleoliad y maent yn darparu’r gwasanaethau hynny ohono.

218.Mae’r “prawf rheoli mynediad” newydd hwn yn disodli’r prawf yn adran 83 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (‘Deddf 2006’), sy’n ei gwneud yn ofynnol i BILlau benderfynu a yw’n angenrheidiol neu’n hwylus (“necessary or expedient”) caniatáu’r cais o dan sylw. Mae newidiadau pellach yn awdurdodi BILlau i ddileu enw person o’i restr fferyllol am dorri telerau ac amodau gwasanaeth yn ddifrifol iawn neu’n fynych.

Adran 111 - Asesiadau o anghenion fferyllol

219.Mae’r adran hon yn mewnosod adran 82A yn Neddf 2006 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer dyletswydd newydd ar gyfer BILlau yng Nghymru i lunio a chyhoeddi asesiad o’r angen am wasanaethau fferyllol.

220.Mae adran 82A(2) yn gosod dyletswydd ar bob BILl i gadw ei asesiad a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan adolygiad a’i ddiwygio pan fo’n briodol gwneud hynny.

221.Mae adran 82A(3) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n darparu ar gyfer:

  • y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i BILl gyhoeddi ei asesiad cyntaf o anghenion fferyllol. Mae hyn i sicrhau bod gan bob BILl asesiad wedi ei lunio a’i gyhoeddi erbyn dyddiad penodol a bod trosglwyddiad esmwyth o’r trefniadau blaenorol i’r trefniadau hyn ar gyfer penderfynu ar geisiadau;

  • yr amgylchiadau pan fo BILl i ddiwygio ei asesiad. Er enghraifft, gallai rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i BILl adolygu ei asesiad, a’i ddiwygio os yw’n briodol, os oes newidiadau sylweddol i ddemograffeg ardal a allai gael effaith ar yr angen am wasanaethau fferyllol. Gallai rheoliadau hefyd fynnu ei bod yn ofynnol i BILl ddiwygio ei asesiad bob tair blynedd, er enghraifft, er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth yn parhau’n gyfredol; ac

  • y modd y mae asesiad i gael ei gyhoeddi. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys gofyniad i roi copi o’r asesiad ar wefan y BILl yn ogystal â rhoi ar gael gopïau caled yn fferyllfeydd y GIG a meddygfeydd, fel bod pobl sy’n byw yn ardal y BILl yn cael mynediad ato.

222.Caiff rheoliadau hefyd wneud darpariaeth ynghylch llunio, cyhoeddi, adolygu a diwygio asesiad o dan is-adran (1) gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • yr wybodaeth sydd i gael ei chynnwys mewn asesiad. Er enghraifft, gallai rheoliadau bennu bod rhaid i asesiad gynnwys gwybodaeth am ddemograffeg y bobl yn ei ardal, unrhyw dueddiadau tymhorol, proffiliau oedran a gwybodaeth ynghylch darpariaeth Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn yr ardal;

  • y graddau y mae asesiad i ystyried anghenion tebygol yn y dyfodol a materion eraill. Er enghraifft, gallai rheoliadau bennu bod rhaid i asesiad ystyried effaith datblygiadau tai neu ddatblygiadau masnachol sydd yn yr arfaeth;

  • yr ymgynghoriad sydd i gael ei gynnal mewn cysylltiad ag asesiad. Er enghraifft, caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i BILlau ymgynghori â phersonau penodedig ynghylch materion penodedig pan fônt yn llunio eu hasesiad. Efallai, er enghraifft, y bydd yn ofynnol i BILlau ymgynghori ag awdurdodau lleol, grwpiau cleifion a chymunedol a phwyllgorau cynrychiadol proffesiynol lleol; a

  • gofynion gweithdrefnol.

223.Mae adran 111(2) yn darparu y bydd y rheoliadau cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru ynghylch asesiadau o anghenion fferyllol o dan adran 82A o Ddeddf 2006 yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol. Mae hyn yn golygu bod rhaid eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chael eu cymeradwyo ganddo. Bydd rheoliadau dilynol yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol.

Adran 112 - Rhestrau fferyllol

224.Mae’r adran hon yn diwygio adrannau 83 a 84 o Ddeddf 2006. Mae adran 83 o’r Ddeddf honno yn nodi’r prif bwerau i wneud rheoliadau sy’n llywodraethu darparu gwasanaethau fferyllol y GIG yng Nghymru, tra bo adran 84 yn darparu ar gyfer hawliau i apelio o ganlyniad i benderfyniadau a wneir o dan adran 83.

225.Mae adran 83(2)(c) o Ddeddf 2006 yn nodi’r meini prawf deddfwriaethol y mae rhaid i BILl eu cymhwyso wrth ystyried ceisiadau sydd i gael eu cynnwys ar restr fferyllol BILl a cheisiadau i newid y rhestr. Yn aml, cyfeirir at y meini prawf hyn fel y “prawf rheoli mynediad”.

226.Mae is-adrannau (2) a (3) yn addasu’r “prawf rheoli mynediad” y mae’n ofynnol i BILlau ei gymhwyso wrth ystyried ceisiadau i ymuno â’u rhestr fferyllol. Mae is-adran (2) yn dileu’r gofyniad i BILlau ystyried a yw’n angenrheidiol neu’n hwylus (“neccessary or expedient”) caniatáu’r cais er mwyn sicrhau darpariaeth ddigonol (“adequate”) o wasanaethau fferyllol yn y gymdogaeth.

227.Yn lle hynny, mae is-adran (3) yn mewnosod yr is-adran newydd (2B) yn Neddf 2006 sy’n darparu y caiff BILl ganiatáu cais pan fo BILl wedi ei fodloni, o roi sylw i’w asesiad o anghenion fferyllol a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar, ac unrhyw faterion a bennir mewn rheoliadau, y byddai caniatáu’r cais yn diwallu’r angen (anghenion) a nodwyd yn ei asesiad. Golyga hyn y bydd y “prawf rheoli mynediad” wedi ei seilio’n glir ar ddiwallu’r anghenion fferyllol lleol sydd wedi eu hasesu.

228.Mae adran 112(3) hefyd yn mewnosod is-adran newydd (2A) yn adran 83 o Ddeddf 2006, sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru bennu, mewn rheoliadau, bersonau neu ddisgrifiad o bersonau nad ydynt i gael eu cynnwys ar restr fferyllol.

229.Mae adran 112(3) hefyd yn mewnosod is-adran newydd (2C) yn Neddf 2006 sy’n gwneud darpariaeth ychwanegol mewn achosion pan fo BILl wedi ei fodloni bod cais yn bodloni’r meini prawf ar gyfer caniatáu’r cais sy’n ofynnol o dan is-adran (2B). Yn gyntaf, mae is-adran newydd (2C) yn darparu y caiff y rheoliadau nodi’r weithdrefn y mae rhaid i’r BILl ei dilyn wrth benderfynu ar gais i gynnwys person ar restr fferyllol. Er enghraifft, caiff y rheoliadau ddarparu bod rhaid i BILl geisio sylwadau gan gyrff sy’n cynrychioli cleifion lleol a phartïon allweddol eraill a chanddynt fuddiant. Yn ail, mae is-adran newydd (2C) yn darparu y caiff y rheoliadau fynnu materion penodol y mae rhaid i BILl eu hystyried, a’r materion penodol nad yw BILl i’w hystyried, wrth benderfynu pa un a ddylid caniatáu cais o dan is-adran (2B) ai peidio.

230.Mae is-adrannau (4), (5) a (6) yn addasu’r darpariaethau sydd eisoes yn bodoli sy’n galluogi i reoliadau bennu’r amgylchiadau pan fo dau gais neu ragor yn cael eu hystyried gyda’i gilydd gan BILl.

231.Mae is-adran (4) yn mewnosod is-adran newydd (3A) yn Neddf 2006 i ddarparu y caiff y rheoliadau ragnodi’r amgylchiadau pan ganiateir i ddau gais neu ragor gael eu hystyried gyda’i gilydd gan BILl. Mae is-adran (5) yn diwygio adran 83(4) o Ddeddf 2006 i greu pŵer cyffredinol i wneud darpariaeth ar gyfer achos pan fo dau gais neu ragor, o’u cymryd yn unigol, yn bodloni’r prawf o dan is-adran newydd (2B), ond, o’u cymryd gyda’i gilydd, nid ydynt yn bodloni’r prawf.

232.Mae adran 112(7) yn mewnosod is-adran newydd (6)(za) yn adran 83 o Ddeddf 2006, sy’n caniatáu i’r rheoliadau ragnodi’r amgylchiadau pan gaiff BILlau wahodd ceisiadau i gynnwys personau ar eu rhestr fferyllol. Bydd hyn yn galluogi BILl, os nad yw’n cael ceisiadau i ddarparu’r gwasanaethau fferyllol sy’n ofynnol i ddiwallu’r anghenion a nodwyd yn ei asesiad o anghenion fferyllol, i fynd ati i chwilio am geisiadau a fydd yn diwallu’r anghenion hynny.

233.Mae adran 112(7)(b) yn mewnosod is-adran newydd (6)(fa) yn adran 83 o Ddeddf 2006, sy’n caniatáu i’r rheoliadau ragnodi’r amserlen ar gyfer gwneud penderfyniadau gan BILlau ar geisiadau gan bersonau i gael eu cynnwys ar y rhestr fferyllol, neu i ddiwygio cofnod yn y rhestr fferyllol.

234.Mae adran 112(7)(d) yn gwneud diwygiadau i adran 83(6)(g) o Ddeddf 2006 fel y caiff rheoliadau o dan adran 83 ddarparu seiliau dros ddileu enw person o’r rhestr fferyllol nad ydynt yn gysylltiedig ag addasrwydd person i ymarfer. Mae’r pŵer hwn yn galluogi BILlau i ddileu enwau fferyllwyr o’r rhestr fferyllol am dorri eu telerau ac amodau gwasanaeth mewn modd difrifol a/neu’n fynych. Cyn dileu enw person o’r rhestr fferyllol rhaid i BILl yn y lle cyntaf ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n disgrifio’r toriad honedig (yr hyn a elwir yn “hysbysiad torri”) ac unrhyw gamau y mae’n ofynnol i’r person eu cymryd er mwyn mynd ati i gywiro’r sefyllfa. Dim ond pan fo person yn methu â chydymffurfio â’r gofynion sydd wedi eu pennu mewn hysbysiad torri y caniateir i enw person gael ei ddileu o’r rhestr fferyllol. Bydd apelau yn erbyn dileu enw o’r rhestr fferyllol yn cael eu gwneud i Weinidogion Cymru.

235.Mae adran 112(9) yn mewnosod is-adran (10A) sy’n ei gwneud yn ofynnol i BILlau roi rhesymau dros eu penderfyniadau o ran unrhyw faterion sydd yn adran 83.

236.Mae’r is-adrannau sy’n weddill yn diwygio adran 84 o Ddeddf 2006, sy’n delio ag apelau yn erbyn penderfyniadau BILlau o dan y rheoliadau y darperir ar eu cyfer yn adran 83.

237.Mae adran 112(10) yn diwygio adran 84 o Ddeddf 2006 er mwyn sicrhau mai dim ond os ydynt ar sail addasrwydd i ymarfer y caiff apelau yn erbyn penderfyniad gan BILl ar gais i gynnwys person ar restr fferyllol eu gwrando gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf. Mae hyn yn dileu’r gofyniad sy’n ymwneud ag ailbenderfynu fel nad yw’r Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi ei gyfyngu yn y ffordd y mae’n penderfynu ar yr apêl, er enghraifft, gallai anfon y mater yn ôl i’r BILl. Mae apelau ar seiliau eraill i gael eu gwneud i Weinidogion Cymru – gan gynnwys apelau yn erbyn dileu enw person o’r rhestr am dorri telerau ac amodau gwasanaeth.

238.Mae adran 112(11) yn darparu, os yw rheoliadau a wneir o dan adran 83 o Ddeddf 2006 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer tynnu person neu gofnod mewn cysylltiad â mangreoedd oddi ar restr fferyllol, fod rhaid i’r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i BILlau roi hysbysiad i’r fferyllydd o’u bwriad i’w dynnu oddi ar y rhestr, ynghyd â’u rhesymau dros hynny. Rhaid i’r rheoliadau hefyd nodi’r hawliau a fydd gan fferyllydd i gyflwyno sylwadau cyn i BILl wneud penderfyniad o’r fath.

239.Mae adran 112(12) yn dileu testun sy’n ymwneud ag adran 83(6)(d) o Ddeddf 2006 o’r tabl yn Atodlen 6 (diddymiadau a dirymiadau) i Ddeddf Iechyd 2009.

Rhan 8.Darparu Toiledau

Adran 113 - Strategaethau toiledau lleol: llunio ac adolygu

240.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i lunio a chyhoeddi strategaeth toiledau lleol ar gyfer ei ardal.

241.Rhaid i strategaeth awdurdod gynnwys asesiad o’r angen am doiledau, gan gynnwys cyfleusterau newid ar gyfer babanod a mannau newid ar gyfer pobl anabl, yn ei ardal i’r cyhoedd eu defnyddio. Bydd y strategaeth hefyd yn nodi sut y mae’r awdurdod yn bwriadu diwallu’r anghenion hynny. Bydd y strategaeth hefyd yn cynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn briodol.

242.Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei strategaeth gyntaf heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl cychwyn yr adran hon. Yn dilyn cyhoeddi’r strategaeth gyntaf, caiff awdurdod adolygu ei strategaeth ar unrhyw adeg, ond rhaid iddo ei hadolygu heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl pob etholiad cyffredin o gynghorwyr i’r awdurdod.

243.Pan fo awdurdod lleol yn cynnal adolygiad, rhaid iddo gyhoeddi datganiad o’r camau y mae wedi eu cymryd yn unol â’i strategaeth ar gyfer y cyfnod rhwng y dyddiad diwethaf y cyhoeddwyd y strategaeth a dyddiad yr adolygiad. Os yw awdurdod lleol yn ystyried, wrth adolygu ei strategaeth, fod angen newid, rhaid iddo wneud y newidiadau a chyhoeddi ei strategaeth ddiwygiedig.

244.Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch y materion y dylent roi ystyriaeth iddynt wrth lunio strategaeth toiledau lleol, adolygu strategaeth toiledau lleol, ymgynghori ar strategaeth toiledau lleol neu gyhoeddi strategaeth toiledau lleol. Rhaid i’r canllawiau gwmpasu nifer o faterion penodol gan gynnwys asesu’r angen am doiledau gan ddefnyddwyr priffyrdd a llwybrau teithio llesol, a chydweithredu rhwng awdurdodau lleol.

Adran 114 - Strategaethau toiledau lleol: datganiad cynnydd interim

245.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol sydd wedi cyhoeddi strategaeth toiledau lleol, neu sydd wedi cynnal adolygiad mandadol o strategaeth, i lunio a chyhoeddi datganiad cynnydd interim.

246.Bydd pob datganiad cynnydd interim yn adolygu’r cynnydd a wnaed gan awdurdod wrth roi ei strategaeth ar waith yn ystod cyfnod o ddwy flynedd, a ddiffinnir gan is-adran (3) fel “cyfnod y datganiad”.

247.Mewn achos pan nad yw’r strategaeth ddiweddaraf a gyhoeddwyd gan awdurdod wedi cael ei hadolygu o dan adran 113, bydd cyfnod y datganiad yn dechrau ar y dyddiad cyhoeddi. Yn achos y datganiad cynnydd interim cyntaf i gael ei lunio, bydd cyfnod dwy flynedd y datganiad yn dechrau o ddyddiad cyhoeddi’r strategaeth gyntaf, oni bai bod y strategaeth yn cael ei diwygio cyn diwedd y cyfnod dwy flynedd. Yn yr achos hwnnw, bydd cyfnod dwy flynedd y datganiad yn dechrau eto o dyddiad cyhoeddi’r strategaeth ddiwygiedig. Byddai dyddiad cyhoeddi unrhyw strategaeth ddiwygiedig ar ôl hyn – pa un ai yn dilyn adolygiad mandadol neu’n dilyn adolygiad y mae awdurdod yn dewis ei gynnal – yn nodi dechrau cyfnod datganiad arall.

248.Yn achos adolygiad mandadol o strategaeth mae cyfnod y datganiad yn dechrau ar y dyddiad yr adolygwyd y strategaeth honno ddiwethaf gan yr awdurdod lleol.

249.Rhaid i awdurdod gyhoeddi datganiad cynnydd interim heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl diwrnod olaf cyfnod y datganiad sy’n berthnasol.

250.Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch y materion y dylent eu hystyried wrth lunio datganiad cynnydd interim.

Adran 115 - Strategaethau toiledau lleol: ymgynghori

251.Mae’r adran hon yn nodi’r hyn y mae rhaid i awdurdod lleol ei wneud o ran ymgynghori cyn cyhoeddi ei strategaeth toiledau lleol neu ei strategaeth ddiwygiedig.

252.Nid yw’r adran hon yn pennu categorïau o bobl y dylai awdurdod lleol ymgynghori â hwy. Mater i bob awdurdod lleol fydd penderfynu pwy, yn ei farn ef, sy’n debygol o fod â buddiant yn y ddarpariaeth o doiledau lleol. Yn yr un modd, nid yw’r amserlen ar gyfer ymgynghori na’r dulliau i’w defnyddio wedi eu pennu. Mater i awdurdod lleol fydd penderfynu ar yr amserlen ar gyfer ymgynghori effeithiol a’r dull ymgynghori priodol i’w ddefnyddio i drin a thrafod â’r rheini sydd â buddiant yn y ddarpariaeth o doiledau lleol, gan roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 113.

Adran 116 - Pŵer awdurdod lleol i ddarparu toiledau cyhoeddus

253.Mae’r adran hon yn darparu y caiff awdurdodau lleol yng Nghymru ddarparu toiledau cyhoeddus mewn unrhyw ran o’u hardaloedd. Mae’n ailddatgan y pwerau a roddwyd gynt i awdurdodau lleol o dan adran 87 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 mewn perthynas â darparu toiledau cyhoeddus a’r pŵer i godi tâl am ddefnyddio’r toiledau a ddarperir ganddynt.

254.Yn yr adran hon, ac yn wahanol i adrannau blaenorol, mae’r term “awdurdod lleol” yn cynnwys cynghorau cymuned. Wrth benderfynu pa un ai i ddarparu toiledau, ble y mae toiledau i gael eu darparu, neu benderfynu ar y math o doiledau i’w darparu, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i’r strategaeth toiledau lleol sydd yn ei lle ar gyfer ei ardal. Yn achos cyngor cymuned, y strategaeth toiledau berthnasol fydd strategaeth y cyngor ar gyfer y sir neu’r fwrdeistref sirol lle y mae’r gymuned. Caiff awdurdod lleol godi ffi am ddefnyddio’r toiledau y mae’n eu darparu o dan yr adran hon.

255.Os yw toiledau i fod ar neu o dan dir sy’n cydffinio â phriffordd neu briffordd arfaethedig, neu yng nghyffiniau priffordd o’r fath, rhaid i’r awdurdod priffyrdd perthnasol gydsynio i’r toiledau gael eu darparu. Mewn rhai achosion, yr awdurdod lleol fydd yr awdurdod priffyrdd, felly ni fydd cydsyniad yn ofynnol. Mae i’r diffiniad o ”priffordd” yn yr adran hon yr un ystyr ag a roddir i “highway” yn adran 328 o Ddeddf Priffyrdd 1980; mae’r diffiniad hwn yn cynnwys pontydd mewn achosion pan fo priffordd yn mynd dros bont a thwnelau mewn achosion pan fo priffordd yn mynd drwy dwnnel.

Adran 117 - Pŵer i wneud is-ddeddfau mewn perthynas â thoiledau

256.Mae is-adran (1) yn galluogi awdurdod lleol sy’n darparu toiledau i wneud is-ddeddfau mewn perthynas ag ymddygiad personau sy’n defnyddio’r toiledau neu’n mynd i mewn iddynt. Fel yn adran 116 uchod, mae hyn yn ailddatgan y pŵer a roddwyd gynt i awdurdodau lleol o dan adran 87 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 i wneud is-ddeddfau o’r fath.

257.Mae “awdurdod lleol” yn yr adran hon yn cynnwys cyngor cymuned. Os yw cyngor cymuned yn gwneud is-ddeddfau o’r fath, ni fydd unrhyw is-ddeddfau perthnasol a wneir gan gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol o dan adran 2 o Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 mewn perthynas â’r toiledau yn gymwys cyhyd ag y bydd is-ddeddfau’r cyngor cymuned perthnasol yn parhau mewn grym.

Adran 118 - Diwygiadau canlyniadol

258.Mae’r adran hon yn rhoi effaith i Atodlen 4, sy’n gwneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â darparu toiledau. Gweler Atodlen 4 isod am ragor o wybodaeth.

Rhan 9.Amrywiol a Chyffredinol

Adran 119 - Derbyniadau cosb benodedig ar gyfer troseddau sgorio hylendid bwyd

259.Mae’r adran hon yn diwygio adran 22 o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013. Mae’r adran honno yn rheoleiddio’r defnydd a wneir o arian a geir gan gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru fel tâl cosbau penodedig mewn cysylltiad â throseddau amrywiol sy’n berthnasol i arddangos sticeri sgôr hylendid bwyd yn fandadol sy’n ofynnol gan Ddeddf 2013.

260.Mae adran 22 o Ddeddf 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau dalu’r arian a geir i Weinidogion Cymru; mae’r adran hon, yn lle hynny, yn galluogi cyngor i ddefnyddio derbyniadau cosb benodedig at ddiben ei swyddogaethau sy’n ymwneud â gorfodi darpariaethau Deddf 2013, a rheoliadau a wneir odani.

Adrannau 120 a 121 - Troseddau gan gyrff corfforaethol, partneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig eraill

261.Mae’r adrannau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â throseddau a gyflawnir, neu yr honnir eu bod wedi eu cyflawni, o dan y Ddeddf gan gorff corfforaethol; partneriaeth; neu gymdeithas anghorfforedig arall (“cyrff perthnasol”).

262.Mae adran 120 yn ei gwneud yn bosibl, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adran (2), i unigolion sy’n dal swyddi cyfrifol mewn corff perthnasol (yr “uwch-swyddogion” a ddiffinnir gan yr adran) fod yn droseddol atebol am drosedd a gyflawnir gan y corff.

263.Mae adran 121 yn gwneud darpariaeth ynghylch dwyn achos yn erbyn partneriaethau neu gymdeithasau anghorfforedig eraill ac mewn cysylltiad â dwyn achos o’r fath.

Adran 122 - Rhoi hysbysiadau

264.Mae’r adran hon yn darparu manylion ynghylch sut y mae hysbysiad i gael ei roi o berson i berson arall o dan y Ddeddf neu reoliadau a wneir odani. Mae’n gosod gofynion mewn perthynas â ffurf yr hysbysiad (rhaid iddo fod yn ysgrifenedig) a’r dull a ganiateir ar gyfer danfon hysbysiad. Mae hyn yn darparu eglurder ar gyfer y person sy’n rhoi’r hysbysiad a’r person sy’n cael yr hysbysiad.

Adran 123 - Rheoliadau

265.Mae’r adran hon yn esbonio bod pwerau i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i gael eu harfer drwy offeryn statudol (ystyr hyn yw bod gofynion gweithdrefnol penodol a gofynion eraill sydd wedi eu cynnwys yn Neddf Offerynnau Statudol 1946 yn gymwys i reoliadau a wneir o dan y Ddeddf), ac yn nodi’r weithdrefn, mewn perthynas â rhan Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd i gael ei dilyn wrth wneud rheoliadau o dan adrannau gwahanol o’r Ddeddf.

Adran 124 - Dehongli

266.Mae’r adran hon yn diffinio termau cyffredinol sy’n gymwys yn y Ddeddf gyfan.

Adran 125 - Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc.

267.Mae’r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol neu arbed mewn rheoliadau. Rhaid i ddarpariaeth o’r fath fod at ddibenion y Ddeddf, o ganlyniad i ddarpariaeth o’r fath neu’n angenrheidiol er mwyn rhoi effaith lawn iddynt. Er enghraifft, gall fod angen trefniadau â therfyn amser iddynt er mwyn caniatáu amser priodol i ymarferydd triniaeth arbennig gydymffurfio â’r gofynion newydd a gyflwynir gan y Ddeddf.

Adran 126 - Dod i rym

268.Mae is-adran (1) o’r adran hon yn nodi darpariaethau’r Ddeddf sy’n cael effaith ar ddyddiad y Cydsyniad Brenhinol. Bydd unrhyw ddarpariaeth nas crybwyllir yn is-adran (1) yn dod i rym ar ddyddiad a bennir drwy orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru. Caniateir i ddyddiadau gwahanol gael eu pennu.

Adran 127 - Enw byr

269.Mae hyn yn darparu mai enw byr y Ddeddf yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.

Atodlen 1 - Cosbau penodedig

270.Mae Atodlen 1 yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â chosbau penodedig a hysbysiadau cosb benodedig. Mae’r rhain yn ymwneud â chynnwys ffurf yr hysbysiad cosb, pwerau Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i bennu’r gosb a’r symiau gostyngol, a’r cyfnodau ar gyfer talu’r gosb a’r symiau gostyngol. Mae paragraffau 15 ac 16 yn galluogi person i ofyn am sefyll prawf am y drosedd mewn llys yn lle talu’r gosb benodedig. Mae paragraff 17 yn caniatáu i swyddogion awdurdodedig yr awdurdod dyroddi dynnu hysbysiad cosb benodedig yn ôl. Mae paragraff 18 yn darparu na chaniateir defnyddio derbyniadau ar gyfer hysbysiadau cosb benodedig sy’n ymwneud ag ysmygu ond i orfodi darpariaethau ym Mhennod 1 a 2 o Ran 3 o’r Ddeddf hon.

Atodlen 2 - Ysmygu: diwygiadau canlyniadol

271.Mae Atodlen 2 yn gwneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas ag ysmygu. Mae’r diwygiadau hyn yn:

  • Datgymhwyso Pennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Iechyd 2006 o ran Cymru oherwydd bod Pennod 1 o Ran 3 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn ailddatgan y darpariaethau hynny o ran Cymru. Mae Pennod 1 o Ddeddf Iechyd 2006 yn parhau mewn grym o ran Lloegr; a

  • Diwygio adran 91 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014, sy’n addasu adran 9 o Ddeddf Iechyd 2006 ac Atodlen 1 iddi. Mae’r diwygiad yn mewnosod paragraff newydd yn is-adran (5)(c) o adran 91 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014. Mae hyn yn cynnal pwerau Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i bennu ffurf hysbysiadau cosb benodedig mewn perthynas â throsedd o dan yr adran honno (mewn perthynas â’r drosedd o brynu neu geisio prynu tybaco i berson o dan 18 oed).

Atodlen 3 - Darpariaeth bellach mewn cysylltiad â thrwyddedau triniaeth arbennig

272.Mae paragraffau 1-4 yn nodi’r broses y mae rhaid i geisydd am drwydded triniaeth arbennig ei dilyn, gan gynnwys yr wybodaeth y mae rhaid iddo ei darparu i’r awdurdod lleol er mwyn cael trwydded. Yn y cais, rhaid i’r ceisydd bennu’r driniaeth (triniaethau) arbennig y mae’r cais yn ymwneud â hi (hwy) a darparu manylion ynghylch y sail y mae’r driniaeth i gael ei rhoi arni (h.y. ar sail beripatetig (h.y. mae’r ceisydd yn bwriadu arfer triniaeth arbennig mewn mangreoedd gwahanol, er enghraifft yng nghartrefi cleientiaid), ar sail safle sefydlog, ar sail symudol, ar sail dros dro, neu fel arall). Os bwriedir i’r driniaeth gael ei rhoi mewn mangre neu gerbyd penodol, rhaid darparu manylion y fangre honno neu’r cerbyd hwnnw yn y cais.

273.Rhaid i’r cais hefyd gynnwys manylion am y ceisydd (gan gynnwys ei enw llawn, dyddiad geni, cyfeiriad a manylion cyswllt) ynghyd â gwybodaeth arall sy’n ofynnol gan gynnwys, er enghraifft, wybodaeth am unrhyw drosedd y mae wedi ei euogfarnu ohoni. Mae pa ffi bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod lleol i ddod gyda’r cais. Wrth bennu’r ffi hon, rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i’r costau y mae’n mynd iddynt neu y disgwylir iddo fynd iddynt mewn cysylltiad â delio â cheisiadau. Wrth ystyried y cais, caiff yr awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd ddarparu gwybodaeth bellach, gan gynnwys yr wybodaeth y mae ei hangen i wirio hunaniaeth y ceisydd. Mae paragraff 4(4) yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i wneud darpariaeth bellach ynghylch y ffordd y mae awdurdod lleol i ddyfarnu ar swm y ffi sydd i ddod gyda chais, a’r weithdrefn ar gyfer delio â cheisiadau. Caiff hyn gynnwys y ffordd y mae cais yn cael ei wneud, yr wybodaeth sydd i gael ei darparu yn y cais a’r ffordd y mae’r awdurdod i ddelio â chais.

274.Mae paragraff 5 yn pennu cynnwys trwydded triniaeth arbennig. Rhaid i’r drwydded, ymhlith pethau eraill, ddatgan enw deiliad y drwydded, enwi’r awdurdod sy’n dyroddi’r drwydded a datgan y driniaeth arbennig sydd wedi ei hawdurdodi gan y drwydded. Rhaid hefyd gynnwys y cyfnod y mae’r drwydded yn ddilys ar ei gyfer; yn achos trwydded dros dro sy’n ddilys am gyfnod nad yw’n hwy na saith niwrnod, rhaid pennu hyn ar y drwydded. Os yw’n ofynnol gan adran 59, rhaid i’r drwydded hefyd gynnwys manylion y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd y mae deiliad y drwydded wedi ei awdurdodi i roi triniaethau arbennig ynddi neu ynddo. Mae paragraff 5(3) yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i wneud darpariaeth bellach ynghylch ffurf a chynnwys trwyddedau triniaeth arbennig. Caiff y rheoliadau hyn gynnwys, ymhlith pethau eraill, wybodaeth am yr amodau trwyddedu mandadol cymwys y mae rhaid i ddeiliad y drwydded triniaeth arbennig lynu wrthynt. Caiff yr amodau trwyddedu mandadol hyn ymwneud â chyflwr (h.y. glanweithdra, cynnal a chadw a safonau hylendid) y fangre neu’r cerbyd lle y rhoddir y driniaeth arbennig neu lle y mae’r cyfarpar neu’r deunydd yn cael ei gadw neu ei baratoi.

275.Mae paragraffau 6 a 7 yn galluogi deiliad y drwydded i wneud cais i’r awdurdod lleol am gopi o’i drwydded os yw’n mynd ar goll, yn cael ei dwyn neu’n cael ei difrodi. Gan y caniateir i’r amodau trwyddedu mandadol ei gwneud yn ofynnol i’r drwydded gael ei harddangos, mae’n bosibl y bydd yn ofynnol i ddeiliad y drwydded gael copi o’r drwydded er mwyn cydymffurfio â’r gofyniad hwnnw. Rhaid i’r cais gael ei gyflwyno ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod lleol a rhaid i ba ffi bynnag a osodir gan yr awdurdod ddod gyda’r cais. Os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y drwydded ar goll, wedi ei dwyn neu wedi ei difrodi, rhaid i’r awdurdod lleol ganiatáu’r cais a dyroddi copi o’r drwydded i’r ceisydd cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Yn achos trwydded sydd ar goll neu sydd wedi ei dwyn, rhaid i’r awdurdod lleol hefyd fod wedi ei fodloni bod yr heddlu wedi ei hysbysu bod y drwydded ar goll neu wedi ei dwyn. Rhaid i’r copi o’r drwydded gael ei ardystio gan yr awdurdod lleol fel copi gwir a chaiff ei drin fel y drwydded wreiddiol.

276.Mae paragraff 8(1) yn darparu manylion am yr amgylchiadau pan ddaw trwydded i ben. Mae’r rhain yn cynnwys diwedd cyfnod y drwydded, terfynu trwydded yn wirfoddol neu’r dyddiad y mae dirymu’r drwydded gan yr awdurdod lleol (fel y’i darperir gan adran 68) yn cymryd effaith. Bydd trwydded hefyd yn dod i ben unwaith y bydd tynnu dynodiad unigolyn yn ôl o dan adran 61 yn cymryd effaith.

277.Mae paragraff 9 yn galluogi deiliad trwydded i wneud cais i awdurdod lleol i adnewyddu ei drwydded triniaeth arbennig. Rhaid cyflwyno’r cais i’r un awdurdod lleol a roddodd y drwydded wreiddiol a rhaid iddo gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod lleol a chynnwys pa wybodaeth bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod lleol. Rhaid i’r cais hefyd gynnwys y ffi a osodir gan yr awdurdod lleol.

278.Mae paragraff 10 yn darparu nad yw trwydded yn dod i ben yn ystod y cyfnod y mae’r awdurdod lleol yn ystyried y cais i adnewyddu, yn ystod y cyfnod apelio sydd ar gael mewn cysylltiad â chais i adnewyddu, neu tra bo apêl yn yr arfaeth.

279.Mae paragraffau 11, 12 a 13 yn galluogi trwydded triniaeth arbennig i gael ei hamrywio ar gais deiliad y drwydded. Er enghraifft, caniateir gwneud cais i amrywio trwydded oherwydd bod deiliad y drwydded yn dymuno ychwanegu disgrifiad o driniaeth arbennig at ei drwydded, diwygio disgrifiad o driniaeth arbennig yn ei drwydded neu ddileu disgrifiad o driniaeth arbennig o’i drwydded. Efallai y bydd angen yr amrywiad hefyd er mwyn ychwanegu cyfeiriad at fangre neu gerbyd a gymeradwywyd lle y mae deiliad y drwydded yn bwriadu rhoi triniaethau arbennig, neu er mwyn dileu mangre neu gerbyd a nodwyd o’r blaen ar y drwydded. Os yw deiliad y drwydded yn gwneud cais i ychwanegu triniaeth arbennig at ei drwydded, rhaid i ddeiliad y drwydded bennu’r driniaeth arbennig y mae’n dymuno ei hychwanegu a bodloni’r meini prawf mewn perthynas â’r driniaeth honno. Fodd bynnag, ni chaniateir i’r amrywiad drosglwyddo’r drwydded o ddeiliad y drwydded i unigolyn arall nac ychwaith estyn cyfnod y drwydded. Rhaid i’r cais gael ei wneud ym mha ffordd bynnag sy’n ofynnol gan yr awdurdod lleol a rhaid i ba ffi bynnag a osodir gan yr awdurdod lleol ddod gyda’r cais.

280.Os yw deiliad trwydded yn bwriadu terfynu ei drwydded, mae paragraff 14 yn galluogi deiliad y drwydded i roi hysbysiad o hyn i’r awdurdod lleol. Wrth roi hysbysiad, rhaid i ddeiliad y drwydded ddatgan y dyddiad y mae’r drwydded i beidio â chael effaith. Yn ddarostyngedig i unrhyw ddyddiad dod i ben cynharach o dan baragraff 8(1)(a), (b), neu (d), bydd y drwydded yn peidio â chael effaith ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

281.Mae paragraff 15 yn darparu, pan fo awdurdod lleol yn bwriadu rhoi hysbysiad i geisydd, i ddeiliad trwydded neu i unigolyn (y cyfeirir ato fel “A”), fod gan A yr hawl i gyflwyno sylwadau i bwyllgor trwyddedu’r awdurdod lleol. Caiff yr hysbysiad ymwneud:

  • â’r gwrthodiad i gais am drwydded o dan adran 65(2) neu 66(3) (gan gynnwys o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hynny sy’n gymwys mewn cysylltiad â’r cais yn rhinwedd adran 67 neu baragraff 13);

  • â’r bwriad i ddirymu trwydded (adran 68); neu

  • â dynodiad unigolyn o dan adran 61(1), yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael trwydded.

282.Cyn i’r awdurdod lleol wneud penderfyniad, rhaid iddo ddarparu hysbysiad rhybuddio i A sy’n nodi’r hyn y mae’n bwriadu ei wneud a pham. Rhaid i’r hysbysiad rhybuddio ddatgan y caiff A, o fewn y cyfnod a bennir (na chaniateir iddo fod yn llai na 14 o ddiwrnodau), naill ai gyflwyno sylwadau neu hysbysu’r awdurdod lleol ei fod yn dymuno cyflwyno sylwadau ynghylch y cynnig. Os yw A yn dymuno gwneud hynny, rhaid i’r awdurdod lleol alluogi A i gyflwyno sylwadau (gan gynnwys sylwadau ar lafar os yw A neu ei gynrychiolydd yn dymuno gwneud hynny) a rhaid iddo ystyried y sylwadau hynny. Os nad yw A yn dymuno cyflwyno sylwadau, neu os nad yw’n hysbysu’r awdurdod lleol ei fod yn dymuno cyflwyno sylwadau o fewn y cyfnod a bennir, caiff yr awdurdod lleol gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad rhybuddio.

283.Ar ôl cydymffurfio â’r gofynion ym mharagraff 15, mae paragraff 16 yn galluogi’r awdurdod lleol i gymryd y camau a nodir yn yr hysbysiad rhybuddio a dyroddi hysbysiad o benderfyniad. Rhaid i’r hysbysiad o benderfyniad nodi rhesymau’r awdurdod dros roi’r hysbysiad. Yn yr un modd, os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chymryd y camau a nodir yn yr hysbysiad rhybuddio, mae’n ofynnol iddo hefyd hysbysu’r ceisydd neu ddeiliad y drwydded am ei benderfyniad. Mae hyn yn sicrhau bod ceisydd neu ddeiliad trwydded wedi ei hysbysu am y canlyniad ym mhob sefyllfa. Rhaid i’r hysbysiad o benderfyniad hefyd ddatgan y caiff A apelio yn erbyn y penderfyniad a darparu manylion am y cyfnod y caniateir i apêl gael ei dwyn ynddo. Yn achos dirymiad o dan adran 68, rhaid i’r hysbysiad o benderfyniad hefyd ddatgan y dyddiad (yn absenoldeb apêl) y bydd y dirymiad yn cymryd effaith.

284.Mae paragraff 18 yn darparu y caiff ceisydd, deiliad trwydded neu unigolyn apelio i lys ynadon yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol (fel y’i gwnaed o dan baragraff 16). Rhaid dwyn yr apêl o fewn 21 o ddiwrnodau i hysbysiad o benderfyniad yr awdurdod lleol. Wrth wrando’r apêl, caiff y llys ynadon gadarnhau, diddymu neu amrywio’r penderfyniad a wnaed gan yr awdurdod lleol; fel arall, gallai’r llys ynadon anfon yr achos yn ôl i gael ei ystyried gan yr awdurdod lleol yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan y llys ynadon. Caiff y llys ynadon hefyd wneud gorchymyn i’r costau yr aed iddynt gael eu talu. Gall y costau hyn fod yn gostau yr aed iddynt gan y ceisydd neu’r awdurdod lleol wrth amddiffyn ei benderfyniad.

285.Mae paragraff 19 yn darparu y caniateir i apêl yn erbyn penderfyniad y llys ynadon o dan baragraff 18 gael ei dwyn gerbron Llys y Goron. Caiff Llys y Goron gadarnhau, amrywio neu wrth-droi penderfyniad y llys ynadon neu ei gwneud yn ofynnol i’r achos gael ei ystyried gan y llys ynadon neu gan yr awdurdod lleol yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Lys y Goron.

286.Os caiff penderfyniad yr awdurdod lleol ei amrywio neu ei wrth-droi, ar apêl o dan baragraffau 18 a 19, caiff y llys ynadon neu Lys y Goron orchymyn i’r awdurdod lleol ddigolledu’r ceisydd, deiliad y drwydded neu’r person sy’n ddarostyngedig i ddynodiad o dan adran 61, am golled a ddioddefodd o ganlyniad i’r penderfyniad. Er enghraifft, gellid digolledu’r person am golli incwm oherwydd penderfyniad yr awdurdod lleol i’w rwystro rhag gweithio tra bo’r apêl yn mynd rhagddi.

287.Yn ystod y cyfnod pan fydd apêl o dan baragraffau 18 a 19 yn mynd rhagddi, mae’r penderfyniad a wnaed neu’r hysbysiad a roddwyd gan yr awdurdod lleol yn parhau i gael effaith. Felly, os penderfyniad yr awdurdod lleol yw dirymu trwydded o dan adran 68, bydd y penderfyniad yn parhau mewn grym hyd nes y bydd y llys yn gwneud ei ddyfarniad.

288.Mae paragraff 21 yn dirprwyo swyddogaethau penodedig awdurdod lleol i bwyllgor trwyddedu’r awdurdod lleol. Mae hyn yn caniatáu i’r pwyllgor trwyddedu wneud y penderfyniadau mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny a restrir o dan baragraff 21(1). Er bod y swyddogaethau yn parhau’n swyddogaethau’r awdurdod lleol, mae ei gwneud yn ofynnol i’r pwyllgor trwyddedu (neu un o’i is-bwyllgorau) wneud y penderfyniad yn sicrhau bod rhywfaint o oruchwyliaeth o’r broses. Mae gan bwyllgorau a’u haelodau brofiad o wneud penderfyniadau trwyddedu sy’n gallu cael effaith ar fywoliaeth pobl. Wrth wneud penderfyniad, bydd yn ofynnol i’r pwyllgor trwyddedu glywed unrhyw sylwadau a ddarperir gan ‘A’ ar ôl i’r awdurdod lleol ddyroddi hysbysiad rhybuddio o dan baragraff 15. Mae swyddogaethau’r pwyllgor trwyddedu wedi eu darparu iddo gan adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003. Yn ychwanegol at alluogi’r pwyllgor trwyddedu i wneud penderfyniadau mewn perthynas â meysydd penodol, mae’r swyddogaethau hyn yn galluogi’r pwyllgor trwyddedu i gyfeirio penderfyniadau penodedig at yr awdurdod lleol ac i isddirprwyo’r broses o wneud penderfyniadau.

289.Mae paragraff 21(4) yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau er mwyn gwneud darpariaeth ynghylch y gweithdrefnau sy’n gymwys i bwyllgorau trwyddedu a’u his-bwyllgorau at ddiben arfer y swyddogaethau sydd wedi eu dirprwyo o dan y paragraff hwn, gan gynnwys mynediad y cyhoedd ac argaeledd cofnodion. Yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, mae paragraff 21(5) yn galluogi pob pwyllgor trwyddedu a’i is-bwyllgorau i reoleiddio ei weithdrefn ei hun.

290.Mae paragraff 22 yn diddymu darpariaethau yn Rhan 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 o ran Cymru. Mae hyn yn golygu na fydd y system gofrestru sydd ar gael o dan y Ddeddf honno sy’n cynnwys aciwbigo, tatŵio, rhoi lliw lled-barhaol ar y croen, tyllu cosmetig ac electrolysis yn gymwys mwyach. Bydd cyfeiriadau at adrannau 14 a 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 hefyd yn cael eu dileu o’r Atodlen i Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012. Gan na fydd y darpariaethau hyn yn gymwys mwyach, ni fydd awdurdodau lleol yn gallu rhedeg systemau cyfochrog sy’n ymdrin â’r un pryderon, gan felly roi eglurder i awdurdodau lleol ac i ymarferwyr o ran y cynllun sy’n weithredol.

Atodlen 4  - Darparu toiledau: diwygiadau canlyniadol

291.Mae Atodlen 4 yn gwneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â’r ddarpariaeth a wneir yn Rhan 8 mewn perthynas â thoiledau. Mae’r diwygiadau hyn yn:

i.

Datgymhwyso adran 87 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 mewn perthynas ag awdurdodau lleol yng Nghymru oherwydd bod y Ddeddf hon yn ailddatgan y pwerau a roddwyd gynt i’r awdurdodau hynny gan adran 87 o Ddeddf 1936 mewn perthynas â:

  • y ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus;

  • y pŵer i wneud is-ddeddfau ynghylch ymddygiad personau sy’n defnyddio’r toiledau neu’n mynd i mewn iddynt; ac

  • y pŵer i godi tâl am ddefnyddio’r toiledau y maent yn eu darparu.

ii.

Mewnosod cyfeiriad at adran 116 o’r Ddeddf hon yn adran 114 o Ddeddf Priffyrdd 1980 er mwyn sicrhau nad yw’r pwerau yn yr adran honno yn cael eu rhagfarnu gan y darpariaethau yn adran 116. Mae adran 117 yn rhoi pŵer i awdurdodau lleol i ddarparu cyfleusterau iechydol cyhoeddus ar gyfer defnyddwyr ffyrdd pan yr awdurdod lleol yw’r awdurdod priffyrdd.

iii.

Mewnosod cyfeiriad at adran 117 o’r Ddeddf hon yn y tablau yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012, fel nad yw’r is-ddeddfau y caiff cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned eu gwneud drwy arfer eu pŵer o dan adran 117 yn ddarostyngedig i gadarnhad gan Weinidogion Cymru, ac fel y caiff awdurdodau ddyroddi cosbau penodedig mewn perthynas â thorri’r is-ddeddfau hyn. Yn hynny o beth, mae’r newidiadau hyn yn cadw’r sefyllfa bresennol o dan Ddeddf 2012 mewn perthynas ag is-ddeddfau awdurdodau lleol ynghylch toiledau ond maent yn rhoi cyfeiriadau at yr adran berthnasol o’r Ddeddf hon yn lle cyfeiriadau at adran 87 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources