RHAN 6FFURFLENNI TRETH A THALIADAU
PENNOD 2RHWYMEDIGAETH AR GYFER TRETH A THALU TRETH
Talu treth
I1I257Talu treth
1
Pan fo prynwr mewn trafodiad tir yn dychwelyd ffurflen dreth, rhaid i’r prynwr dalu unrhyw swm o dreth sy’n daladwy, neu unrhyw swm ychwanegol o dreth sy’n daladwy, yn ddim hwyrach na dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth.
2
Pan fo prynwr mewn trafodiad tir yn diwygio ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r trafodiad hwnnw, rhaid i’r prynwr dalu unrhyw swm o dreth sy’n daladwy o ganlyniad i’r diwygiad hwnnw neu unrhyw swm ychwanegol o dreth sy’n daladwy o ganlyniad i’r diwygiad hwnnw—
a
os gwneir y diwygiad erbyn dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth honno, yn ddim hwyrach na’r dyddiad hwnnw, a
b
os gwneir y diwygiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, pan fydd y prynwr yn hysbysu ACC am y diwygiad.
3
Ond gweler Pennod 3 (gohirio treth).