37Cydbrynwyr: rheolau cyffredinol
(1)Mae’r adran hon ac adrannau 38 i 40 yn gymwys i drafodiad tir pan fo dau brynwr neu ragor sydd neu a fydd â’r hawl ar y cyd i’r buddiant a gaffaelir.
(2)Y rheolau cyffredinol yw—
(a)mae unrhyw rwymedigaeth ar ran y prynwr o dan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn perthynas â’r trafodiad yn rhwymedigaeth ar ran y prynwyr ar y cyd ond caniateir i unrhyw un neu ragor ohonynt ei chyflawni,
(b)mae’n rhaid i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud gan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn perthynas â’r prynwr gael ei wneud mewn perthynas â hwy i gyd,
(c)mae’n rhaid i unrhyw beth y mae’r Ddeddf hon neu DCRhT yn awdurdodi ei wneud gan y prynwr gael ei wneud ganddynt hwy i gyd, a
(d)mae unrhyw atebolrwydd ar ran y prynwr o dan y Ddeddf hon neu DCRhT mewn perthynas â’r trafodiad (yn benodol, unrhyw atebolrwydd sy’n codi yn rhinwedd y methiant i gyflawni rhwymedigaeth o fewn paragraff (a)) yn atebolrwydd ar ran y prynwyr ar y cyd ac yn unigol.
(3)Mae’r rheolau cyffredinol hyn yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir yn adrannau 38 i 40.
(4)Mae’r adran hon ac adrannau 38 i 40 yn cael effaith yn ddarostyngedig i—
(a)darpariaethau Atodlen 7 sy’n ymwneud â phartneriaethau, a
(b)darpariaethau Atodlen 8 sy’n ymwneud ag ymddiriedolwyr.