RHAN 1TROSOLWG

1Trosolwg o’r Ddeddf

1

Mae’r Ddeddf hon wedi ei threfnu fel a ganlyn—

a

mae Rhan 2 yn darparu bod treth i’w chodi ar drafodiadau tir (“treth trafodiadau tir”) ac yn gwneud darpariaeth ynghylch y prif gysyniadau sy’n sail i’r dreth gan gynnwys—

i

pa drafodiadau sy’n drafodiadau tir,

ii

yr hyn sy’n fuddiant trethadwy, a’r hyn nad yw’n fuddiant trethadwy,

iii

pa bryd y caffaelir buddiant trethadwy a thrin trafodiadau sy’n cynnwys contractau y mae’n ofynnol eu cwblhau drwy drosglwyddiad, yn ogystal â thrin mathau eraill o drafodiadau,

iv

pa drafodiadau tir y mae’r dreth i’w chodi arnynt (“trafodiadau trethadwy”) a pha rai nad yw’r dreth i’w chodi arnynt, a

v

yr hyn sy’n gydnabyddiaeth drethadwy, a’r hyn nad yw’n gydnabyddiaeth drethadwy, mewn perthynas â thrafodiad trethadwy,

b

mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch—

i

bandiau treth a chyfraddau treth,

ii

sut i gyfrifo swm y dreth sydd i’w godi, a

iii

y rhyddhadau sydd ar gael rhag treth trafodiadau tir,

c

mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon i lesoedd,

d

mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) i bersonau a chyrff penodol, gan gynnwys cwmnïau, partneriaethau ac ymddiriedolaethau,

e

mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch ffurflenni treth a thalu’r dreth gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

i

pa bryd y mae’n ofynnol dychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â thrafodiad tir,

ii

y personau y mae’n ofynnol iddynt ddychwelyd ffurflen dreth a thalu’r dreth, a

iii

pa bryd y mae’n ofynnol talu’r dreth (gan gynnwys darpariaeth ynghylch pa bryd y caniateir gohirio taliad),

f

mae Rhan 7 yn mewnosod yn Neddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) ddarpariaethau sy’n sefydlu rheol gyffredinol at ddibenion gwrthweithio trefniadau osgoi trethi datganoledig, ac

g

mae Rhan 8 yn darparu diwygiadau i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) ac yn cynnwys darpariaethau sy’n gymwys yn gyffredinol at ddibenion y Ddeddf hon, gan gynnwys diffiniadau o ymadroddion a ddefnyddir yn y Ddeddf hon.

2

Mae Atodlen 1 yn cynnwys trosolwg o Atodlenni y Ddeddf hon.