ATODLEN 9RHYDDHAD GWERTHU AC ADLESU

(a gyflwynir gan adran 30(1))

1Y rhyddhad

Mae’r elfen adlesu o drefniant gwerthu ac adlesu wedi ei ryddhau rhag treth os bodlonir yr amodau cymhwyso.

2Trefniadau gwerthu ac adlesu

Trefniant gwerthu ac adlesu yw trefniant pan fo—

a

person (“A”) yn trosglwyddo neu’n rhoi i berson arall (“B”) brif fuddiant mewn tir (“gwerthu”), a

b

B yn rhoi les i A allan o’r buddiant hwnnw (“adlesu”).

3Amodau cymhwyso

1

Yr amodau cymhwyso yw—

a

yr ymrwymir i’r trafodiad gwerthu yn llwyr neu’n rhannol mewn cydnabyddiaeth yr ymrwymir i’r trafodiad adlesu,

b

mai’r unig gydnabyddiaeth arall (os o gwbl) ar gyfer y gwerthu yw talu arian (boed mewn sterling neu mewn arian arall) neu ysgwyddo, fodloni neu ollwng dyled (neu’r ddau),

c

nad yw’r gwerthu yn drosglwyddiad hawliau o fewn ystyr adran 12 (contract sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti: effaith trosglwyddo hawliau) nac yn drafodiad cyn-gwblhau o fewn ystyr Atodlen 2 (trafodiadau cyn-gwblhau), a

d

pan fo A a B ill dau yn gyrff corfforaethol ar y dyddiad y mae’r trafodiad adlesu yn cael effaith, nad ydynt yn aelodau o’r un grŵp at ddibenion rhyddhad grŵp (gweler Atodlen 16) ar y dyddiad hwnnw.

2

Yn is-baragraff (1)(b), ystyr “dyled” yw rhwymedigaeth, boed yn bendant neu’n ddibynnol, i dalu swm o arian naill ai ar unwaith neu yn y dyfodol.