Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

RHAN 8TROSGLWYDDIADAU SY’N YMWNEUD Â PHARTNERIAETHAU BUDDSODDI MEWN EIDDO

Rhagarweiniad

32Mae’r Rhan hon o’r Atodlen yn gwneud darpariaeth—

(a)ynghylch trafodiadau penodol sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo, a

(b)i bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo ddewis datgymhwyso paragraff 13 mewn perthynas â thrafodiadau tir penodol.

Ystyr partneriaethau buddsoddi mewn eiddo

33(1)Yn yr Atodlen hon, ystyr “partneriaeth buddsoddi mewn eiddo” yw partneriaeth y mae ei hunig weithgaredd neu ei phrif weithgaredd yn fuddsoddi neu ddelio mewn buddiannau trethadwy (pa un a yw’r gweithgaredd hwnnw yn cynnwys cynnal gweithrediadau adeiladu ar y tir o dan sylw ai peidio).

(2)Yn is-baragraff (1), mae i “gweithrediadau adeiladu” yr un ystyr ag a roddir i “construction operations” ym Mhennod 3 o Ran 3 o Ddeddf Cyllid 2004 (p. 12) (gweler adran 74 o’r Ddeddf honno).

(3)At ddibenion is-baragraff (1), mae “buddiannau trethadwy” yn cynnwys unrhyw fuddiant a fyddai’n fuddiant trethadwy oni bai am y ffaith ei fod yn ymwneud â thir y tu allan i Gymru.

Trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo

34(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan drosglwyddir buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo, a

(b)pan fo eiddo perthnasol y bartneriaeth yn cynnwys buddiant trethadwy.

(2)At ddibenion y Ddeddf hon—

(a)cymerir bod y trosglwyddiad yn drafodiad tir, a

(b)mae’r trosglwyddiad yn drafodiad trethadwy.

(3)Y prynwr yn y trafodiad yw’r person sy’n caffael cyfranddaliad uwch yn y bartneriaeth neu, yn ôl y digwydd, sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad.

(4)Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn hafal i gyfran o werth marchnadol eiddo perthnasol y bartneriaeth.

(5)Y gyfran honno—

(a)os nad oedd y person sy’n caffael y buddiant yn y bartneriaeth yn bartner cyn y trosglwyddiad, yw cyfranddaliad y person yn y bartneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad;

(b)os oedd y person yn bartner cyn y trosglwyddiad, yw’r gwahaniaeth rhwng cyfranddaliad y person hwnnw yn y bartneriaeth cyn y trosglwyddiad ac ar ei ôl.

(6)Ystyr “eiddo perthnasol y bartneriaeth”, mewn perthynas â throsglwyddiad Math A o fuddiant mewn partneriaeth, yw pob buddiant trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad, ac eithrio—

(a)unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddwyd i’r bartneriaeth mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad,

(b)les y mae paragraff 35 (eithrio lesoedd rhent marchnadol) yn gymwys iddi, ac

(c)unrhyw fuddiant trethadwy nad yw i’w briodoli yn economaidd i’r buddiant yn y bartneriaeth a drosglwyddir.

(7)Ystyr “eiddo perthnasol y bartneriaeth”, mewn perthynas â throsglwyddiad Math B o fuddiant mewn partneriaeth, yw pob buddiant trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad, ac eithrio—

(a)unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddwyd i’r bartneriaeth mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad,

(b)les y mae paragraff 35 (eithrio lesoedd rhent marchnadol) yn gymwys iddi,

(c)unrhyw fuddiant trethadwy nad yw i’w briodoli yn economaidd i’r buddiant yn y bartneriaeth a drosglwyddir,

(d)unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddwyd i’r bartneriaeth ar 22 Gorffennaf 2004 neu cyn hynny,

(e)unrhyw fuddiant trethadwy y gwnaed dewis yn ei gylch o dan baragraff 36, mewn cysylltiad â’i drosglwyddiad i’r bartneriaeth, ac

(f)unrhyw fuddiant trethadwy arall nad oedd ei drosglwyddiad i’r bartneriaeth o fewn paragraff 13(1).

(8)Ystyr trosglwyddiad Math A yw—

(a)trosglwyddiad sydd ar ffurf trefniadau yr ymrwymir iddynt pan fo, oddi tanynt—

(i)holl fuddiant partner fel partner, neu ran ohono, yn cael ei gaffael gan berson arall (a gaiff fod yn bartner presennol), a

(ii)cydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol yn cael ei rhoi gan y person sy’n caffael y buddiant, neu ar ei ran, neu

(b)trosglwyddiad sydd ar ffurf trefniadau yr ymrwymir iddynt pan fo, oddi tanynt—

(i)person yn dod yn bartner,

(ii)buddiant partner presennol yn y bartneriaeth yn cael ei ostwng neu bartner presennol yn peidio â bod yn bartner, a

(iii)arian neu gyfwerth ariannol yn cael ei dynnu o’r bartneriaeth gan y partner presennol a grybwyllir ym mharagraff (ii) (ac eithrio arian neu gyfwerth ariannol a dalwyd o’r adnoddau a oedd ar gael i’r bartneriaeth cyn y trosglwyddiad).

(9)Mae unrhyw drosglwyddiad arall y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn drosglwyddiad Math B.

(10)Mae buddiant mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo i’w drin fel buddiant trethadwy at ddibenion paragraff 8(2) o Atodlen 16 (rhyddhad grŵp) i’r graddau y bo eiddo perthnasol y bartneriaeth yn fuddiant trethadwy.

Eithrio lesoedd rhent marchnadol

35(1)Nid yw les a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl trosglwyddo buddiant yn y bartneriaeth yn eiddo perthnasol y bartneriaeth at ddibenion paragraff 34(6) na (7) os bodlonir y pedwar amod a ganlyn.

(2)Amod 1 yw—

(a)nad oes unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent wedi ei rhoi mewn cysylltiad â rhoi’r les, a

(b)nad oes unrhyw drefniadau yn eu lle ar adeg y trosglwyddiad i unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent gael ei rhoi mewn cysylltiad â rhoi’r les.

(3)Amod 2 yw bod y rhent sy’n daladwy o dan y les fel y’i rhoddwyd yn rhent marchnadol ar adeg rhoi’r les.

(4)Amod 3 yw—

(a)bod cyfnod y les yn 5 mlynedd neu lai, neu

(b)os yw cyfnod y les yn fwy na 5 mlynedd—

(i)bod y les yn darparu y bydd y rhent sy’n daladwy oddi tani yn cael ei adolygu o leiaf unwaith ym mhob 5 mlynedd o’r cyfnod, a

(ii)ei bod yn ofynnol i’r rhent sy’n daladwy o dan y les o ganlyniad i adolygiad fod yn rent marchnadol ar y dyddiad adolygu.

(5)Amod 4 yw na chafwyd unrhyw newid i’r les ers iddi gael ei rhoi sy’n golygu, yn union ar ôl i’r newid gael effaith, fod y rhent sy’n daladwy o dan y les yn llai na rhent marchnadol.

(6)Rhent marchnadol les ar unrhyw adeg yw’r rhent y gellid disgwyl yn rhesymol i’r les ei ddenu ar y farchnad agored ar yr adeg honno.

(7)Dyddiad adolygu yw dyddiad y mae’r rhent a bennir o ganlyniad i adolygiad rhent yn daladwy ohono.

Dewis gan bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo i ddatgymhwyso paragraff 13

36(1)Nid yw paragraff 13 yn gymwys i drosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo os yw’r prynwr yn y trafodiad yn dewis i’r paragraff hwnnw beidio â bod yn gymwys.

(2)Pan wneir dewis o dan y paragraff hwn mewn cysylltiad â thrafodiad—

(a)mae paragraff 21 (trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth: cyffredinol) hefyd wedi ei ddatgymhwyso,

(b)cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yw gwerth marchnadol y buddiant trethadwy a drosglwyddir, ac

(c)mae’r trafodiad o fewn Rhan 3 (trafodiadau cyffredin gan bartneriaeth) o’r Atodlen hon.

(3)Rhaid i ddewis o dan y paragraff hwn gael ei gynnwys ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn perthynas â’r trafodiad, neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno (gweler adran 41 o DCRhT am ddarpariaeth ynghylch diwygio ffurflenni treth).

(4)Mae’r dewis yn un di-alw’n-ôl, felly ni chaniateir diwygio’r ffurflen dreth er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.

(5)Pan wneir dewis o dan y paragraff hwn mewn cysylltiad â thrafodiad (y “prif drafodiad”) mewn diwygiad i ffurflen dreth—

(a)mae’r dewis yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud ar y dyddiad y dychwelwyd y ffurflen dreth, a

(b)caniateir diwygio unrhyw ffurflen dreth mewn cysylltiad â thrafodiad yr effeithir arno (o fewn y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth honno) er mwyn adlewyrchu’r dewis hwnnw.

(6)Yn is-baragraff (5), ystyr “trafodiad yr effeithir arno” mewn perthynas â’r prif drafodiad yw trafodiad—

(a)yr oedd paragraff 34 (trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo) yn gymwys iddo, a

(b)sy’n cael effaith ar y dyddiad, neu ar ôl y dyddiad, y mae’r prif drafodiad yn cael effaith.

Buddiannau partneriaethau: cymhwyso darpariaethau ynghylch cyfnewid

37(1)Pan fo adran 16 (cyfnewidiadau) yn gymwys i gaffael buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo yn gydnabyddiaeth am ymrwymo i drafodiad tir â phartner presennol, mae’r buddiant yn y bartneriaeth i’w drin fel prif fuddiant mewn tir, at ddibenion paragraff 5 o Atodlen 4 os yw eiddo perthnasol y bartneriaeth yn cynnwys prif fuddiant mewn tir.

(2)Yn is-baragraff (1), mae i “eiddo perthnasol y bartneriaeth” yr ystyr a roddir gan baragraffau 34(6) neu (7) (fel y bo’n briodol, ac fel y’u darllenir ar y cyd â pharagraff 35).

(3)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, nid yw paragraff 6 o Atodlen 4 (darnddosbarthu etc.: diystyru buddiant presennol) yn gymwys.