Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddoLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

34(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan drosglwyddir buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo, a

(b)pan fo eiddo perthnasol y bartneriaeth yn cynnwys buddiant trethadwy.

(2)At ddibenion y Ddeddf hon—

(a)cymerir bod y trosglwyddiad yn drafodiad tir, a

(b)mae’r trosglwyddiad yn drafodiad trethadwy.

(3)Y prynwr yn y trafodiad yw’r person sy’n caffael cyfranddaliad uwch yn y bartneriaeth neu, yn ôl y digwydd, sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad.

(4)Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn hafal i gyfran o werth marchnadol eiddo perthnasol y bartneriaeth.

(5)Y gyfran honno—

(a)os nad oedd y person sy’n caffael y buddiant yn y bartneriaeth yn bartner cyn y trosglwyddiad, yw cyfranddaliad y person yn y bartneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad;

(b)os oedd y person yn bartner cyn y trosglwyddiad, yw’r gwahaniaeth rhwng cyfranddaliad y person hwnnw yn y bartneriaeth cyn y trosglwyddiad ac ar ei ôl.

(6)Ystyr “eiddo perthnasol y bartneriaeth”, mewn perthynas â throsglwyddiad Math A o fuddiant mewn partneriaeth, yw pob buddiant trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad, ac eithrio—

(a)unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddwyd i’r bartneriaeth mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad,

(b)les y mae paragraff 35 (eithrio lesoedd rhent marchnadol) yn gymwys iddi, ac

(c)unrhyw fuddiant trethadwy nad yw i’w briodoli yn economaidd i’r buddiant yn y bartneriaeth a drosglwyddir.

(7)Ystyr “eiddo perthnasol y bartneriaeth”, mewn perthynas â throsglwyddiad Math B o fuddiant mewn partneriaeth, yw pob buddiant trethadwy a ddelir fel eiddo’r bartneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad, ac eithrio—

(a)unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddwyd i’r bartneriaeth mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad,

(b)les y mae paragraff 35 (eithrio lesoedd rhent marchnadol) yn gymwys iddi,

(c)unrhyw fuddiant trethadwy nad yw i’w briodoli yn economaidd i’r buddiant yn y bartneriaeth a drosglwyddir,

(d)unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddwyd i’r bartneriaeth ar 22 Gorffennaf 2004 neu cyn hynny,

(e)unrhyw fuddiant trethadwy y gwnaed dewis yn ei gylch o dan baragraff 36, mewn cysylltiad â’i drosglwyddiad i’r bartneriaeth, ac

(f)unrhyw fuddiant trethadwy arall nad oedd ei drosglwyddiad i’r bartneriaeth o fewn paragraff 13(1).

(8)Ystyr trosglwyddiad Math A yw—

(a)trosglwyddiad sydd ar ffurf trefniadau yr ymrwymir iddynt pan fo, oddi tanynt—

(i)holl fuddiant partner fel partner, neu ran ohono, yn cael ei gaffael gan berson arall (a gaiff fod yn bartner presennol), a

(ii)cydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol yn cael ei rhoi gan y person sy’n caffael y buddiant, neu ar ei ran, neu

(b)trosglwyddiad sydd ar ffurf trefniadau yr ymrwymir iddynt pan fo, oddi tanynt—

(i)person yn dod yn bartner,

(ii)buddiant partner presennol yn y bartneriaeth yn cael ei ostwng neu bartner presennol yn peidio â bod yn bartner, a

(iii)arian neu gyfwerth ariannol yn cael ei dynnu o’r bartneriaeth gan y partner presennol a grybwyllir ym mharagraff (ii) (ac eithrio arian neu gyfwerth ariannol a dalwyd o’r adnoddau a oedd ar gael i’r bartneriaeth cyn y trosglwyddiad).

(9)Mae unrhyw drosglwyddiad arall y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn drosglwyddiad Math B.

(10)Mae buddiant mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo i’w drin fel buddiant trethadwy at ddibenion paragraff 8(2) o Atodlen 16 (rhyddhad grŵp) i’r graddau y bo eiddo perthnasol y bartneriaeth yn fuddiant trethadwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 7 para. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 7 para. 34 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3