ATODLEN 7PARTNERIAETHAU

RHAN 6TRAFODIADAU ERAILL SY’N YMWNEUD Â PHARTNERIAETHAU

I1I229Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth i bartneriaeth

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

a

pan drosglwyddir buddiant trethadwy o bartneriaeth i bartneriaeth, a

b

pan fo’r trosglwyddiad—

i

yn drafodiad y mae paragraff 13 (trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth) yn gymwys iddo, a

ii

hefyd yn drafodiad y mae paragraff 21 (trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth) yn gymwys iddo.

2

Nid yw paragraffau 13(3) ac 21(2) yn gymwys.

3

Cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yw’r hyn a fyddai pe bai paragraff 13(3) yn gymwys neu, os yw’n fwy na hynny, yr hyn a fyddai pe bai paragraff 21(2) yn gymwys.

4

Pan fo’r holl gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad, neu ran ohoni, ar ffurf rhent⁠—

a

nid yw paragraff 31 yn gymwys;

b

cymerir mai’r dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd ar ffurf rhent yw’r mwyaf o—

i

y dreth a fyddai i’w chodi pe bai paragraff 31 yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad y mae paragraff 13 yn gymwys iddo, neu

ii

y dreth a fyddai i’w chodi pe bai paragraff 31 yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad y mae paragraff 21 yn gymwys iddo;

c

mae datgymhwyso’r band cyfradd sero y darperir ar ei gyfer gan baragraff 34 o Atodlen 6 yn cael effaith pe bai wedi cael effaith pe bai paragraff 31(6) o’r Atodlen hon yn gymwys.