ATODLEN 7PARTNERIAETHAU

RHAN 4TRAFODIADAU SY’N YMWNEUD Â THROSGLWYDDIADAU I BARTNERIAETH

I114Trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth: swm y cyfrannau is

Pennir swm y cyfrannau is mewn perthynas â thrafodiad y mae paragraff 13 yn gymwys iddo fel a ganlyn—

  • Cam 1

    Nodi’r perchennog neu’r perchnogion perthnasol (gweler paragraff 15).

  • Cam 2

    Ar gyfer pob perchennog perthnasol, nodi’r partner neu’r partneriaid cyfatebol (gweler paragraff 16).

    Os nad oes gan unrhyw berchennog perthnasol bartner cyfatebol, swm y cyfrannau is yw sero.

  • Cam 3

    Ar gyfer pob perchennog perthnasol, canfod y gyfran o’r buddiant trethadwy yr oedd gan y perchennog hawl iddi yn union cyn y trafodiad.

    Dosrannu’r gyfran honno rhwng unrhyw un neu ragor o bartneriaid cyfatebol y perchennog perthnasol.

  • Cam 4

    Canfod yr isaf o’r canlynol (“y gyfran is”) ar gyfer pob partner cyfatebol—

    1. a

      y gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i’r partner (gweler paragraff 17);

    2. b

      cyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth yn union ar ôl y trafodiad.

  • Cam 5

    Adio cyfrannau is pob partner cyfatebol.

    Y canlyniad yw swm y cyfrannau is.