ATODLEN 6LESOEDD
RHAN 2HYD LES A THRIN LESOEDD SY’N GORGYFFWRDD
4Lesoedd sy’n parhau ar ôl cyfnod penodol: rhoi les newydd
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
pe bai paragraff 3 (gan anwybyddu’r paragraff hwn) yn gymwys er mwyn trin les (“y les wreiddiol”) fel pe bai’n les cyfnod penodol sydd flwyddyn yn hwy na’r cyfnod penodol gwreiddiol,
b
pan fo les newydd ar gyfer yr un eiddo, neu’r un eiddo i raddau helaeth, yn cael ei rhoi i’r tenant o dan y les honno yn ystod y cyfnod hwnnw o flwyddyn,
c
pan fo cyfnod y les newydd yn dechrau yn ystod y cyfnod hwnnw o flwyddyn, a
d
pan na fo paragraff 8 (tenant yn dal drosodd: ôl-ddyddio les newydd i flwyddyn flaenorol) yn gymwys.
2
Nid yw paragraff 3 yn gymwys i drin y les fel pe bai’n parhau ar ôl y cyfnod penodol gwreiddiol.
3
Caiff cyfnod y les newydd ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel pe bai’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod penodol gwreiddiol.
4
Mae unrhyw rhent a fyddai, oni bai am y paragraff hwn, yn daladwy o dan y les wreiddiol mewn cysylltiad â’r cyfnod hwnnw o flwyddyn i’w drin fel pe bai’n daladwy o dan y les newydd (ac nid yw paragraff 9(3) yn gymwys i’r rhent hwnnw).
5
Pan fo cyfnod penodol les wedi ei drin yn flaenorol fel pe bai wedi ei ymestyn (ar un achlysur neu ragor) o dan baragraff 3, mae’r paragraff hwn yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at y cyfnod penodol gwreiddiol yn gyfeiriadau at y cyfnod penodol a ymestynnwyd yn flaenorol.