Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

Addasu treth pan bennir y rhent ar y dyddiad ailystyriedLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

12(1)Pan fo, yn achos trafodiad tir sy’n ymwneud â les—

(a)adran 19 neu 20 (cydnabyddiaeth ddibynnol, ansicr neu heb ei chanfod) yn gymwys i’r trafodiad tir yn rhinwedd paragraff 10, a

(b)y dyddiad ailystyried yn cyrraedd,

rhaid i’r prynwr yn y trafodiad bennu, ar y dyddiad ailystyried, y rhent a dalwyd neu’r rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â 5 mlynedd gyntaf cyfnod y les.

(2)Mae paragraffau 13 a 14 yn gwneud darpariaeth ynghylch addasu’r dreth sy’n daladwy mewn cysylltiad â thrafodiad tir (ac unrhyw drafodiad cysylltiol o ran trafodiad o’r fath) o ganlyniad i bennu rhent felly.

(3)At ddibenion y paragraff hwn a pharagraffau 13 a 14, y dyddiad ailystyried yw—

(a)y dyddiad sydd ar ddiwedd pumed flwyddyn cyfnod y les, neu

(b)unrhyw ddyddiad cynharach pan fo swm y rhent sy’n daladwy mewn cysylltiad â 5 mlynedd gyntaf cyfnod y les yn peidio â bod yn ansicr.

(4)At ddibenion is-baragraff (3)(b) a pharagraff 13(2), mae swm y rhent sy’n daladwy yn peidio â bod yn ansicr—

(a)yn achos rhent dibynnol, pan geir y digwyddiad dibynnol neu pan ddaw’n amlwg na fydd yn digwydd;

(b)yn achos rhent ansicr neu heb ei ganfod, pan gaiff y swm ei ganfod.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 6 para. 12 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3