ATODLEN 5LL+CTRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH

RHAN 2LL+CPRYNWR SY’N UNIGOLYN: TRAFODIADAU ANNEDD UNIGOL

Eithriad ar gyfer buddiant yn yr un brif breswylfaLL+C

7Nid yw trafodiad yn drafodiad eiddo preswyl cyfraddau uwch o dan baragraff 3 os yw prif destun y trafodiad yn brif fuddiant—

(a)mewn annedd yr oedd gan y prynwr [F1neu briod neu bartner sifil y prynwr], yn union cyn y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, brif fuddiant arall ynddi, a

(b)mewn annedd sydd, yn union cyn ac ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa’r prynwr.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3