Valid from 01/04/2018
Prynwr â phrif fuddiant mewn annedd arallLL+C
5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad—
(a)os oes gan y prynwr brif fuddiant mewn annedd ar wahân i’r annedd a brynir, a
(b)os yw gwerth marchnadol y buddiant hwnnw yn £40,000 neu ragor,
ar ddiwedd y dydd ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith.
(2)Ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r buddiant a ddisgrifir yn is-baragraff (1) yn rifersiwn ar les—
(a)nad yw’n cael ei dal gan berson sy’n gysylltiedig â’r prynwr, a
(b)sydd â chyfnod o fwy na 21 o flynyddoedd yn weddill.
(3)Pan fo gan y prynwr hawl ar y cyd ag un person neu ragor i’r prif fuddiant y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a), mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1)(b) at werth marchnadol y buddiant yn gyfeiriad at werth marchnadol cyfran lesiannol y prynwr yn y buddiant fel y’i pennir yn unol ag is-baragraff (4) neu (5).
(4)Pan fo gan y prynwr hawl lesiannol fel tenant ar y cyd, mae gwerth marchnadol cyfran lesiannol y prynwr yn gyfwerth â—
GM × CB
Ffigwr 4
pan fo—
GM yn werth marchnadol y prif fuddiant, a
CB yn—
(a)canran y buddiant y mae gan y prynwr hawl iddo, neu
(b)pan fo—
(i)y prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr yn cyd-fyw ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”), a
(ii)hawl fel tenantiaid ar y cyd gan y prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr, o’u cymryd gyda’i gilydd,
canran y buddiant y mae gan y prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr hawl iddi felly.
(5)Pan fo gan y prynwr hawl lesiannol fel cyd-denant, mae gwerth marchnadol cyfran lesiannol y prynwr yn gyfwerth â—
Ffigwr 5
pan fo—
GM yn werth marchnadol y prif fuddiant, a
CD yn nifer y cyd-denantiaid sydd â hawl i’r buddiant.
(6)At ddiben is-baragraff (5), mae’r prynwr a phriod neu bartner sifil y prynwr i’w trin fel un cyd-denant—
(a)os ydynt yn cyd-fyw ar y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith (gweler paragraff 25(3) am ystyr “cyd-fyw”), a
(b)os oes ganddynt hawl lesiannol i’r buddiant fel cyd-denantiaid.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 5 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)