ATODLEN 5TRAFODIADAU EIDDO PRESWYL CYFRADDAU UWCH
RHAN 5DARPARIAETHAU ATODOL
27Setliadau ac ymddiriedolaethau noeth
1
Mae is-baragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir—
a
os yw prif destun y trafodiad ar ffurf prif fuddiant mewn un annedd neu ragor,
b
os yw’r prynwr (neu un ohonynt) yn gweithredu fel ymddiriedolwr setliad, ac
c
os bydd gan fuddiolwr, o dan delerau’r setliad, hawl i—
i
meddiannu’r annedd neu’r anheddau am oes, neu
ii
incwm a enillir mewn cysylltiad â’r annedd neu’r anheddau.
2
Mae is-baragraff (3) hefyd yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir—
a
os yw prif destun y trafodiad ar ffurf cyfnod o flynyddoedd absoliwt mewn annedd, a
b
os yw’r prynwr (neu un ohonynt) yn gweithredu fel ymddiriedolwr ymddiriedolaeth noeth (o fewn yr ystyr a roddir gan baragraffau 2(1) a (2) o Atodlen 8).
3
Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrafodiad tir, mae buddiolwr y setliad neu’r ymddiriedolaeth noeth (yn hytrach na’r ymddiriedolwr) i’w drin at ddibenion yr Atodlen hon fel y prynwr (neu fel un ohonynt).
4
Mae paragraffau 3(3) a 4 o Atodlen 8 (trin ymddiriedolwyr fel y prynwr) yn cael effaith yn ddarostyngedig i is-baragraff (3).