xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 3LL+CTRAFODIADAU SY’N ESEMPT RHAG CODI TRETH ARNYNT

Amrywio gwarediadau testamentaidd etc.LL+C

6(1)Pan fydd person yn marw, mae trafodiad sy’n amrywio gwarediad eiddo (pa un a roddir effaith iddo gan ewyllys, o dan y gyfraith mewn perthynas â diewyllysedd neu fel arall) yr oedd yr ymadawedig yn gymwys i’w waredu yn esempt rhag codi treth arno os bodlonir yr amodau a ganlyn.

(2)Yr amodau yw—

(a)bod y trafodiad yn cael ei gyflawni o fewn y cyfnod o ddwy flynedd ar ôl marwolaeth person, a

(b)na roddir unrhyw gydnabyddiaeth ariannol na chyfwerth ariannol ar ei gyfer ac eithrio amrywio gwarediad arall o’r fath.

(3)Pan na fo’r amod yn is-baragraff (2)(b) wedi ei gyflawni, pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yn unol â pharagraff 9(3) o Atodlen 4.

(4)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pa un a yw gweinyddiad yr ystad wedi ei gwblhau ai peidio neu pa un a yw’r eiddo wedi ei ddosbarthu yn unol â’r gwarediadau gwreiddiol ai peidio.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3