ATODLEN 23DIWYGIADAU I DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016

41

Yn adran 120 (cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth o fewn 12 mis wedi’r dyddiad ffeilio)—

a

yn is-adran (1), ar ôl “Mae person” mewnosoder “y mae’n ofynnol iddo ddychwelyd ffurflen dreth”, a

b

yn is-adran (2), yn lle’r geiriau o “yw’r mwyaf o” i’r diwedd rhodder

yw—

a

£300, neu

b

swm uwch, heb fod yn fwy na 95% o’r swm o dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd.