Rhyddhad cymdeithasau cyfeillgar
11(1)Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth os rhoddir effaith iddo gan neu o ganlyniad i—
(a)cyfuno dwy gymdeithas gofrestredig neu ragor o dan adran 82 o Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1974 (p. 46) (“Deddf 1974”) (cyfuno a throsglwyddo ymrwymiadau),
(b)trosglwyddo ymrwymiadau o dan yr adran honno,
(c)cyfuno dwy gymdeithas gyfeillgar neu ragor o dan adran 85 o Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1992 (p. 40) (“Deddf 1992”) (cyfuno cymdeithasau cyfeillgar),
(d)trosglwyddo ymrwymiadau cymdeithas gyfeillgar o dan adran 86 o Ddeddf 1992 (trosglwyddo ymrwymiadau gan gymdeithas gyfeillgar neu iddi), neu
(e)trosglwyddo ymrwymiadau cymdeithas gyfeillgar yn unol â chyfarwyddyd a roddir gan yr awdurdod priodol o dan adran 90 o Ddeddf 1992 (pŵer awdurdod priodol i roi effaith i drosglwyddo ymrwymiadau).
(2)Yn y paragraff hwn—
mae i “awdurdod priodol” yr ystyr a roddir i “appropriate authority” gan adran 119 o Ddeddf 1992;
mae i “cymdeithas gyfeillgar” yr ystyr a roddir i “friendly society” gan adran 116 o Ddeddf 1992;
mae i “cofrestredig”, mewn perthynas â chymdeithas, yr ystyr a roddir i “registered” gan adran 111 o Ddeddf 1974.