ATODLEN 20RHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU GAN GYRFF CYHOEDDUS A CHYRFF IECHYD

I12Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan gyrff penodol y gwasanaeth iechyd

Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth os yw’r prynwr yn unrhyw un o’r canlynol⁠—

a

Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);

b

Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd o dan adran 22 o’r Ddeddf honno;

c

Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o’r Ddeddf honno;

d

person a bennwyd at ddibenion y paragraff hwn gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.