Trosolwg
1(1)Mae’r Atodlen hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf hon (adran 10 (contract a throsglwyddo) yn benodol) i drafodiadau cyn-gwblhau (nodir ystyr hynny ym mharagraff 3).
(2)Mae’r Atodlen wedi ei threfnu fel a ganlyn—
(a)mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaethau rhagarweiniol sy’n nodi’r amgylchiadau pan fo’r Atodlen hon yn gymwys (paragraff 2) ac yn esbonio ystyr “trafodiad cyn-gwblhau” a thermau allweddol eraill y cyfeirir atynt yn yr Atodlen;
(b)mae Rhan 2 yn nodi sut y mae’r Ddeddf hon yn gymwys mewn achosion pan fo’r trafodiad cyn-gwblhau yn achos o aseinio hawliau (nodir ystyr hynny ym mharagraff 6);
(c)mae Rhan 3 yn nodi sut y mae’r Ddeddf hon yn gymwys mewn achosion sy’n ymwneud â throsglwyddiadau annibynnol (nodir ystyr hynny ym mharagraff 12);
(d)mae Rhan 4 yn darparu ar gyfer rheol arbennig (“rheol isafswm y gydnabyddiaeth”) sy’n gymwys i bennu’r gydnabyddiaeth a roddir mewn achosion pan fo’r partïon i drafodiad cyn-gwblhau yn gysylltiedig â’i gilydd neu fel arall heb fod yn gweithredu hyd braich;
(e)mae Rhan 5 yn darparu i ryddhad fod ar gael i brynwyr penodol mewn achosion pan ymrwymir i drafodiadau cyn-gwblhau penodol;
(f)mae Rhan 6 yn gwneud rhai darpariaethau dehongli cyffredinol.