ATODLEN 17RHYDDHAD ATGYFANSODDI A RHYDDHAD CAFFAEL
RHAN 4TYNNU’N ÔL RYDDHAD ATGYFANSODDI NEU RYDDHAD CAFFAEL
6Achosion pan na chaiff rhyddhad atgyfansoddi neu ryddhad caffael ei dynnu’n ôl
1
Ni chaiff rhyddhad atgyfansoddi na rhyddhad caffael ei dynnu’n ôl o dan baragraff 5 yn yr achosion a ganlyn.
2
Yr achos cyntaf yw pan fo rheolaeth dros y cwmni caffael yn newid o ganlyniad i drafodiad cyfranddaliadau sy’n cael effaith fel a grybwyllir—
a
yn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (d) o baragraff 3 o Atodlen 3 (trafodiadau mewn cysylltiad ag ysgariad etc.), neu
b
yn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (d) o baragraff 4 o’r Atodlen honno (trafodiadau mewn cysylltiad â diddymu partneriaeth sifil etc.).
3
Yr ail achos yw pan fo rheolaeth dros y cwmni caffael yn newid o ganlyniad i drafodiad cyfranddaliadau—
a
sy’n cael effaith fel a grybwyllir yn is-baragraff (1) o baragraff 6 o Atodlen 3 (amrywio gwarediadau testamentaidd etc.), a
b
sy’n bodloni’r amodau yn is-baragraff (2) o’r paragraff hwnnw.
4
Y trydydd achos yw pan fo rheolaeth dros y cwmni caffael yn newid o ganlyniad i drosglwyddiad esempt oddi mewn i’r grŵp.
5
Ystyr “trosglwyddiad esempt oddi mewn i’r grŵp” yw trosglwyddo cyfranddaliadau sy’n cael effaith yn sgil offeryn sydd wedi ei esemptio rhag treth stamp yn rhinwedd adran 42 o Ddeddf Cyllid 1930 (p. 28) neu adran 11 o Ddeddf Cyllid (Gogledd Iwerddon) 1954 (p. 23 (G.I.)) (trosglwyddiadau rhwng cyrff corfforaethol cyswllt).
6
Ond gweler paragraff 7 (tynnu rhyddhad yn ôl yn achos trosglwyddiad dilynol nad yw’n esempt).
7
Y pedwerydd achos yw pan fo rheolaeth dros y cwmni caffael yn newid o ganlyniad i drosglwyddo cyfranddaliadau i gwmni arall y mae rhyddhad caffael cyfranddaliadau yn gymwys iddo.
8
Ystyr “rhyddhad caffael cyfranddaliadau” yw rhyddhad o dan adran 77 o Ddeddf Cyllid 1986 (p. 41) ac mae trosglwyddiad yn un y mae’r rhyddhad hwnnw yn gymwys iddo os yw offeryn sy’n rhoi effaith i’r trosglwyddiad yn esempt rhag treth stamp yn rhinwedd y ddarpariaeth honno.
9
Ond gweler paragraff 7 (tynnu rhyddhad yn ôl yn achos trosglwyddiad dilynol nad yw’n esempt).
10
Y pumed achos yw pan fo—
a
rheolaeth dros y cwmni caffael yn newid o ganlyniad i gredydwr benthyciadau yn dod i gael ei drin, neu’n peidio â chael ei drin, fel pe bai ganddo reolaeth dros y cwmni, a
b
y personau eraill a oedd yn cael eu trin fel pe bai ganddynt reolaeth dros y cwmni cyn hynny yn parhau i gael eu trin felly.
11
Mae i “credydwr benthyciadau” yma yr ystyr a roddir i “loan creditor” gan adran 453 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4).