RHAN 4TYNNU RHYDDHAD YN ÔL
Dehongli: trafodiad a ryddheir
7Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon, cyfeirir at drafodiad sydd wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd paragraff 2 (rhyddhad grŵp) fel “trafodiad a ryddheir”.
Tynnu rhyddhad grŵp yn ôl
8(1)Pan fo is-baragraff (2) yn gymwys, mae rhyddhad grŵp wedi ei dynnu’n ôl mewn perthynas â thrafodiad a ryddheir, neu gyfran briodol ohono, ac mae treth i’w chodi yn unol â’r paragraff hwn.
(2)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys, yn achos trafodiad a ryddheir—
(a)pan fo’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr—
(i)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith, neu
(ii)yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy, a
(b)ar yr adeg y mae’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr (“yr adeg berthnasol”), pan fo’r prynwr neu gwmni cyswllt perthnasol yn dal buddiant trethadwy—
(i)a gaffaelwyd gan y prynwr yn y trafodiad a ryddheir, neu
(ii)sy’n deillio o fuddiant a gaffaelwyd felly,
ac nad yw wedi ei gaffael wedi hynny am ei werth marchnadol o dan drafodiad trethadwy yr oedd rhyddhad grŵp ar gael mewn perthynas ag ef, ond nas hawliwyd.
(3)Y swm sydd i’w godi yw’r dreth y byddid wedi ei chodi mewn cysylltiad â’r trafodiad a ryddheir oni bai am ryddhad grŵp pe bai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad hwnnw wedi bod yn swm cyfwerth ag—
(a)gwerth marchnadol testun y trafodiad, a
(b)os rhoi les am rent oedd y caffaeliad, y rhent hwnnw,
neu, yn ôl y digwydd, gyfran briodol o’r dreth y byddid wedi ei chodi.
(4)Yn is-baragraffau (1) a (3), ystyr “cyfran briodol” yw cyfran briodol gan roi sylw i destun y trafodiad a ryddheir a’r hyn y mae’r cwmni sy’n drosglwyddai neu, yn ôl y digwydd, y cwmni hwnnw a’i gwmnïau cyswllt perthnasol yn ei ddal ar yr adeg berthnasol.
(5)Yn y paragraff hwn—
ystyr “cwmni cyswllt perthnasol” (“relevant associated company”), mewn cysylltiad â’r prynwr, yw cwmni—
(a)sy’n aelod o’r un grŵp â’r prynwr yn union cyn i’r prynwr beidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr, a
(b)sy’n peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr o ganlyniad i’r ffaith fod y prynwr yn peidio â bod yn aelod;
mae “trefniadau” (“arrangements”) yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio.
(6)Mae’r paragraff hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i baragraffau 9 ac 10 (achosion pan na fo rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl) a pharagraff 12 (tynnu rhyddhad grŵp yn ôl mewn achosion penodol sy’n ymwneud â thrafodiadau olynol).
Achosion pan na fo rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu’n ôl
9(1)Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl o dan baragraff 8 yn yr achosion a ganlyn.
(2)Yr achos cyntaf yw pan fo’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr—
(a)o ganlyniad i unrhyw beth a wneir at ddibenion, neu yng nghwrs, dirwyn i ben y gwerthwr neu gwmni arall sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp, neu
(b)am fod y gwerthwr neu gwmni arall sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp yn peidio â bodoli fel arall.
(3)At ddibenion is-baragraff (2), mae cwmni “uwchlaw” y gwerthwr yn strwythur y grŵp os yw’r gwerthwr, neu gwmni arall sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp, yn is-gwmni 75% i’r cwmni.
(4)Yr ail achos yw—
(a)pan fo’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr o ganlyniad i’r ffaith fod cwmni arall (“y cwmni caffael”) wedi caffael cyfranddaliadau a bod, mewn perthynas â’r caffaeliad—
(i)adran 75 o Ddeddf Cyllid 1986 (p. 41) yn gymwys (y dreth stamp: rhyddhad caffael), a
(ii)yr amodau ar gyfer rhyddhad o dan yr adran honno wedi eu bodloni, a
(b)bod y prynwr, yn union ar ôl y caffaeliad hwnnw, yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni caffael.
(5)Ond mewn achos sydd o fewn is-baragraff (4), mae is-baragraff (6) yn gymwys—
(a)os yw’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni caffael—
(i)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu
(ii)yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy, a
(b)ar yr adeg y mae’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni caffael, os yw’r prynwr neu gwmni cyswllt perthnasol yn dal buddiant trethadwy—
(i)a gaffaelwyd gan y prynwr yn y trafodiad a ryddheir, neu
(ii)sy’n deillio o fuddiant a gaffaelwyd felly,
ac nad yw wedi ei gaffael wedi hynny am ei werth marchnadol o dan drafodiad trethadwy yr oedd rhyddhad grŵp ar gael mewn perthynas ag ef, ond nas hawliwyd.
(6)Mae darpariaethau’r Atodlen hon yn gymwys fel pe bai’r prynwr bryd hynny wedi peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr.
(7)Yn is-baragraff (5)—
ystyr “cwmni cyswllt perthnasol” (“relevant associated company”), mewn perthynas â’r prynwr, yw cwmni sy’n aelod o’r un grŵp â’r prynwr sy’n peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r cwmni caffael o ganlyniad i’r ffaith fod y prynwr yn peidio â bod yn aelod;
mae “trefniadau” (“arrangements”) yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio.
Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl pan fo gwerthwr yn gadael grŵp
10(1)Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl o dan baragraff 8 pan fo’r prynwr yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr am fod y gwerthwr yn gadael y grŵp.
(2)Ystyrir bod y gwerthwr yn gadael y grŵp os yw’r cwmnïau yn peidio â bod yn aelodau o’r un grŵp oherwydd trafodiad sy’n ymwneud â chyfranddaliadau—
(a)yn y gwerthwr, neu
(b)mewn cwmni arall—
(i)sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp, a
(ii)sydd, o ganlyniad i’r trafodiad, yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r prynwr.
(3)At ddiben is-baragraff (2), mae cwmni “uwchlaw” y gwerthwr yn strwythur y grŵp os yw’r gwerthwr, neu gwmni arall sydd uwchlaw’r gwerthwr yn strwythur y grŵp, yn is-gwmni 75% i’r cwmni.
(4)Ond os yw rheolaeth dros y prynwr yn newid ar ôl i’r gwerthwr adael y grŵp, mae paragraffau 8, 9(4) a (6), 13 a 14 yn cael effaith fel pe bai’r prynwr bryd hynny wedi peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr (ond gweler is-baragraff (7)).
(5)At ddibenion y paragraff hwn, mae rheolaeth dros y prynwr yn newid os yw—
(a)person sydd â rheolaeth dros y prynwr (ar ei ben ei hun neu ynghyd ag eraill) yn peidio â bod â rheolaeth drosto,
(b)person yn cael rheolaeth dros y prynwr (ar ei ben ei hun neu ynghyd ag eraill), neu
(c)y prynwr yn cael ei ddirwyn i ben.
(6)At ddibenion is-baragraff (5), nid oes gan berson (“P”) reolaeth dros y prynwr, ac nid yw’n cael rheolaeth dros y prynwr, os oes gan berson arall neu bersonau eraill reolaeth dros P.
(7)Nid yw is-baragraff (4) yn gymwys pan fo—
(a)rheolaeth dros y prynwr yn newid am fod credydwr benthyciadau (o fewn yr ystyr a roddir i “loan creditor” gan adran 453 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4)) yn cael rheolaeth dros y prynwr, neu’n peidio â bod â rheolaeth dros y prynwr, a
(b)y personau eraill a oedd â rheolaeth dros y prynwr cyn y newid hwnnw yn parhau i fod â rheolaeth drosto.
(8)Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at “rheolaeth” i’w dehongli yn unol â’r diffiniad o “control” yn adrannau 450 a 451 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (yn ddarostyngedig i is-baragraff (6)).
Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl o ganlyniad i drosglwyddiadau penodol busnes etc. gan gymdeithasau cydfuddiannol
11(1)Ni chaiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl o dan baragraff 8—
(a)pan fo trosglwyddiad perthnasol o fusnes neu ymrwymiad,
(b)pan fu trafodiad a ryddheir cyn dyddiad y trosglwyddiad perthnasol, ac
(c)o ganlyniad i’r trosglwyddiad hwnnw, pan fo’r prynwr yn y trafodiad a ryddheir yn peidio â bod yn aelod o’r un grŵp â’r gwerthwr—
(i)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu
(ii)yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy.
(2)Yn y paragraff hwn, ystyr “trosglwyddiad perthnasol o fusnes neu ymrwymiad” yw—
(a)trosglwyddiad busnes a ddisgrifir ym mharagraff 10(1)(a) a (b) o Atodlen 22 (trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan gymdeithasau adeiladu);
(b)trosglwyddiad busnes a ddisgrifir ym mharagraffau 11(1) o’r Atodlen honno (trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan gymdeithasau cyfeillgar);
(c)trosglwyddiad busnes a ddisgrifir ym mharagraff 12(1) o’r Atodlen honno (trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan gymdeithasau cydweithredol a chymdeithasau budd cymunedol neu undebau credyd).
Tynnu rhyddhad grŵp yn ôl mewn achosion penodol sy’n ymwneud â thrafodiadau olynol
12(1)Yn achos trafodiad a ryddheir—
(a)pan fo rheolaeth dros y prynwr yn newid,
(b)pan fo’r newid hwnnw yn digwydd—
(i)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith, neu
(ii)yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy,
(c)pe na byddai rhyddhad grŵp mewn perthynas â’r trafodiad a ryddheir, oni bai am y paragraff hwn, yn cael ei dynnu’n ôl o dan baragraff 8, a
(d)pan fo unrhyw drafodiad blaenorol yn dod o fewn is-baragraff (3),
mae paragraffau 8, 9 ac 10 yn cael effaith mewn perthynas â’r trafodiad a ryddheir fel pe bai’r gwerthwr yn y trafodiad blaenorol cynharaf sydd o fewn is-baragraff (3) yn werthwr yn y trafodiad a ryddheir.
(2)Mae is-baragraff (1) yn cael effaith yn ddarostyngedig i is-baragraff (6).
(3)Mae trafodiad blaenorol o fewn yr is-baragraff hwn—
(a)os yw’r trafodiad blaenorol yn drafodiad a ryddheir neu os yw wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd Atodlen 17 (rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael),
(b)os yw’r dyddiad y mae’r trafodiad blaenorol yn cael effaith lai na 3 blynedd cyn dyddiad y digwyddiad sydd o fewn is-baragraff (1)(a),
(c)os yw’r buddiant trethadwy a gaffaelir o dan y trafodiad a ryddheir gan y prynwr yn y trafodiad hwnnw yr un fath â’r buddiant trethadwy a gaffaelwyd o dan y trafodiad blaenorol gan y prynwr yn y trafodiad blaenorol, neu’n ei ffurfio, yn ffurfio rhan ohono, neu’n deillio ohono, a
(d)os nad yw, ers y trafodiad blaenorol, y buddiant trethadwy a gaffaelwyd o dan y trafodiad hwnnw wedi ei gaffael gan unrhyw berson mewn trafodiad nad yw’n drafodiad a ryddheir nac wedi ei ryddhau rhag treth yn rhinwedd Atodlen 17 (rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael).
(4)At ddibenion y paragraff hwn, mae rheolaeth dros gwmni yn newid os yw—
(a)unrhyw berson sydd â rheolaeth dros y cwmni (ar ei ben ei hun neu ynghyd ag eraill) yn peidio â bod â rheolaeth drosto,
(b)person yn cael rheolaeth dros y cwmni (ar ei ben ei hun neu ynghyd ag eraill), neu
(c)y cwmni yn cael ei ddirwyn i ben.
(5)Mae cyfeiriadau at “rheolaeth” yn y paragraff hwn i’w dehongli yn unol â’r diffiniad o “control” yn adrannau 450 a 451 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4).
(6)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys pan fo—
(a)rheolaeth dros y prynwr yn newid am fod credydwr benthyciadau (o fewn yr ystyr a roddir i “loan creditor” gan adran 453 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4)) yn cael rheolaeth dros y prynwr, neu’n peidio â bod â rheolaeth dros y prynwr, a
(b)y personau eraill a oedd â rheolaeth dros y prynwr cyn y newid hwnnw yn parhau i fod â rheolaeth drosto.
(7)Os dau drafodiad neu ragor y rhoddwyd effaith iddynt ar yr un pryd yw’r trafodiadau blaenorol cynharaf o fewn is-baragraff (3), mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (1) at y gwerthwr yn y trafodiad blaenorol cynharaf yn gyfeiriad at y personau sy’n werthwyr yn y trafodiadau blaenorol cynharaf.
(8)Yn y paragraff hwn, mae “trefniadau” yn cynnwys unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb neu unrhyw ddealltwriaeth, pa un a ellir ei orfodi neu ei gorfodi’n gyfreithiol ai peidio.