ATODLEN 16LL+CRHYDDHAD GRŴP

RHAN 3LL+CCYFYNGIADAU AR ARGAELEDD RHYDDHAD

Trefniadau morgais penodol nad ydynt o fewn paragraff 4LL+C

6(1)Nid yw trefniadau yr ymrwymir iddynt gan gwmni y byddent, oni bai am y paragraff hwn, yn drefniadau y mae paragraff 4 yn gymwys iddynt i’w trin fel trefniadau o’r fath—

(a)os yw, a chyhyd â bod, y trefniadau yn forgais, a sicrheir gan gyfranddaliadau neu warannau yn y cwmni, sydd yn achos drwgdaliad neu unrhyw ddigwyddiad arall yn caniatáu i’r morgeisai arfer ei hawliau yn erbyn y morgeisiwr, a

(b)os nad yw, a chyhyd nad yw, y morgeisai wedi arfer ei hawliau yn erbyn y morgeisiwr.

(2)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os yw’r morgeisai yn meddu ar fwy o hawliau mewn cysylltiad â’r cyfranddaliadau neu’r gwarannau y mae’r morgais yn ymwneud â hwy nag y bo’n ofynnol ganddo er mwyn gwarchod ei fuddiant fel morgeisai, neu

(b)pe gallai’r morgeisai, ar ei ben ei hun neu ynghyd â phersonau cysylltiedig, bennu telerau neu amseriad y drwgdaliad neu unrhyw ddigwyddiad sy’n caniatáu iddo arfer ei hawliau yn erbyn y morgeisiwr.

(3)At ddibenion is-baragraff (2)(b), nid yw morgeisai, yn unig oherwydd y morgais, yn gysylltiedig â chwmni y mae’r morgais yn ymwneud â’i gyfranddaliadau neu ei warannau.

(4)Yn y paragraff hwn ystyr “morgais”—

(a)yng Nghymru a Lloegr, ac yng Ngogledd Iwerddon, yw unrhyw arwystl cyfreithiol neu ecwitïol, a

(b)yn yr Alban, yw unrhyw hawl sicrhad.