ATODLEN 16RHYDDHAD GRŴP
RHAN 3CYFYNGIADAU AR ARGAELEDD RHYDDHAD
I1I25Trefniadau penodol nad ydynt o fewn paragraff 4: cwmnïau cyd-fenter
1
Nid yw trefniadau yr ymrwymir iddynt gan gwmni cyd-fenter y byddent, oni bai am y paragraff hwn, yn drefniadau y mae paragraff 4 yn gymwys iddynt i’w trin fel trefniadau o’r fath—
a
os yw, a chyhyd â bod, y trefniadau o fewn is-baragraff (2), a
b
os na fu, a chyhyd na fu, unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau dibynnol a grybwyllir yn is-baragraff (3) y mae’r trefniadau’n ymwneud â hwy.
2
Mae trefniadau o fewn yr is-baragraff hwn os ydynt—
a
yn gytundeb sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo cyfranddaliadau neu warannau yn y cwmni cyd-fenter i un aelod neu ragor o’r cwmni hwnnw pan geir un neu ragor o’r digwyddiadau dibynnol a grybwyllir yn is-baragraff (3), neu o ganlyniad i hynny, neu
b
yn ddarpariaeth yn un o ddogfennau cyfansoddiadol y cwmni cyd-fenter sy’n darparu ar gyfer atal dros dro hawliau pleidleisio aelod pan geir un neu ragor o’r digwyddiadau dibynnol hynny, neu o ganlyniad i hynny.
3
Y digwyddiadau dibynnol y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (1)(b) a (2) yw—
a
ymadawiad aelod yn wirfoddol,
b
cychwyn trafodiadau datod, gweinyddu, derbynyddiad gweinyddol neu dderbynyddiad ar gyfer aelod, neu aelod yn ymrwymo i drefniant gwirfoddol, o dan Ddeddf Ansolfedd 1986 (p. 45) neu Orchymyn Ansolfedd (Gogledd Iwerddon) 1989 (O.S.1989/2405 (G.I.19)) neu gychwyn, neu ymrwymo i, achos neu drefniadau cyfatebol o dan gyfraith unrhyw wlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig,
c
dirywiad difrifol yng nghyflwr ariannol aelod,
d
rheolaeth dros aelod yn newid,
e
methiant ar ran aelod i gyflawni ei rwymedigaethau o dan unrhyw gytundeb rhwng yr aelodau neu â’r cwmni cyd-fenter (sydd, at y diben hwn, yn cynnwys unrhyw un neu ragor o ddogfennau cyfansoddiadol y cwmni cyd-fenter),
f
newid allanol yn yr amgylchiadau masnachol y mae’r cwmni cyd-fenter yn gweithredu ynddynt i’r graddau bod bygythiad i’w hyfywedd,
g
anghytundeb heb ei ddatrys rhwng yr aelodau, a
h
unrhyw ddigwyddiad dibynnol tebyg i’r rhai a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (g) y darperir ar ei gyfer, ond na fwriadwyd iddo ddigwydd, pan ymrwymwyd i’r trefniadau o dan sylw.
4
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys pe gallai aelod, ar ei ben ei hun neu ynghyd â phersonau cysylltiedig, bennu telerau neu amseriad—
a
trosglwyddo cyfranddaliadau neu warannau, neu
b
atal dros dro hawliau pleidleisio aelod,
cyn un neu ragor o’r digwyddiadau dibynnol.
5
At ddibenion is-baragraff (4), nid yw aelodau yn gysylltiedig â’i gilydd yn unig oherwydd eu bod yn aelodau o’r cwmni cyd-fenter.
6
Yn y paragraff hwn—
ystyr “aelod” (“member”) yw deiliad cyfranddaliadau neu warannau yn y cwmni cyd-fenter;
ystyr “cwmni cyd-fenter” (“joint venture company”) yw cwmni—
- a
sydd â dau neu ragor o aelod-gwmnïau, a
- b
sy’n ymgymryd â gweithgarwch masnachol a lywodraethir gan gytundeb sy’n rheoleiddio materion ei aelodau;
- a
ystyr “dogfen gyfansoddiadol” (“constitutional document”) yw memorandwm cymdeithasu, erthyglau cymdeithasu neu unrhyw ddogfen arall debyg sy’n rheoleiddio materion y cwmni cyd-fenter.