ATODLEN 16RHYDDHAD GRŴP
RHAN 2Y RHYDDHAD
3Rhyddhad grŵp: dehongli
1
Mae’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys at ddibenion rhyddhad grŵp.
2
Ystyr “cwmni” yw corff corfforaethol.
3
Mae cwmnïau yn aelodau o’r un grŵp os yw un yn is-gwmni 75% i’r llall neu os yw’r ddau yn is-gwmnïau 75% i drydydd cwmni.
4
Mae cwmni (“cwmni A”) yn is-gwmni 75% i gwmni arall (“cwmni B”)—
a
os yw cwmni B yn berchennog llesiannol ar ddim llai na 75% o gyfalaf cyfranddaliadau cyffredin cwmni A,
b
os oes gan gwmni B hawl lesiannol i ddim llai na 75% o unrhyw elw sydd ar gael i’w ddosbarthu i ddeiliaid ecwiti cwmni A, ac
c
pe bai gan gwmni B hawl lesiannol i ddim llai na 75% o unrhyw asedau cwmni A sydd ar gael i’w dosbarthu i’w ddeiliaid ecwiti mewn achos o ddirwyn i ben.
5
At ddibenion is-baragraff (4)(a)—
a
y berchnogaeth y cyfeirir ati yw perchnogaeth naill ai’n uniongyrchol neu drwy gwmni arall neu gwmnïau eraill, a
b
mae swm cyfalaf cyfranddaliadau cyffredin cwmni A y mae cwmni B yn berchen arno drwy gwmni arall neu gwmnïau eraill i’w bennu yn unol ag adrannau 1155 i 1157 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4).
6
Yn is-baragraffau (4)(a) a (5)(b), ystyr “cyfalaf cyfranddaliadau cyffredin”, mewn perthynas â chwmni, yw holl gyfalaf cyfranddaliadau dyroddedig (o ba enw bynnag) y cwmni, ac eithrio cyfalaf y mae gan ei ddeiliaid hawl i ddifidend arno ar gyfradd benodedig ond heb unrhyw hawl arall i rannu yn elw’r cwmni.
7
Mae Pennod 6 o Ran 5 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4) (rhyddhad grŵp: deiliaid ecwiti ac elw neu asedau sydd ar gael i’w dosbarthu) yn gymwys at ddibenion is-baragraff (4)(b) ac (c) fel y mae’n gymwys at ddibenion adran 151(4)(a) a (b) o’r Ddeddf honno.
8
Ond mae adrannau 171(1)(b) a (3), 173, 174 a 176 i 178 o’r Ddeddf honno i’w trin fel pe baent wedi eu hepgor at ddibenion is-baragraff (4)(b) ac (c).