ATODLEN 15RHYDDHAD AR GYFER TRAFODIADAU PENODOL SY’N YMWNEUD Â THAI CYMDEITHASOL
RHAN 3LESOEDD RHANBERCHNOGAETH
3Les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
a
les yn cael ei rhoi—
i
gan gorff cymwys, neu
ii
yn unol â’r hawl i brynu a gadwyd,
b
yr amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, ac
c
y prynwr yn dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn.
2
Yr amodau yw—
a
bod rhaid i’r les fod ar gyfer annedd;
b
bod rhaid i’r les roi’r hawl i ddefnyddio’r annedd i’r tenant, a neb arall;
c
bod rhaid i’r les ddarparu i’r tenant gaffael y rifersiwn;
d
bod rhaid i’r les gael ei rhoi yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer rhent ac yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer premiwm a gyfrifir ar sail—
i
gwerth marchnadol yr annedd, neu
ii
swm a gyfrifir ar sail y gwerth hwnnw;
e
bod rhaid i’r les gynnwys datganiad o—
i
gwerth marchnadol yr annedd, neu
ii
y swm a gyfrifir ar sail y gwerth hwnnw;
y cyfrifir y premiwm ar ei sail.
3
O ran dewis i dreth gael ei chodi o dan y paragraff hwn—
a
rhaid cynnwys hynny ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad â rhoi’r les (neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno), a
b
mae’n ddi-alw’n-ôl, fel na chaniateir diwygio’r ffurflen dreth er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.
4
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer rhoi’r les yw’r swm a nodir yn y les yn unol ag is-baragraff (2)(e)(i) neu (ii).
5
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys rhaid diystyru’r rhent a grybwyllir yn is-baragraff (2)(d) at ddibenion treth trafodiadau tir.
6
Nid yw adran 70 (ystyr gwerth marchnadol) yn gymwys i’r paragraff hwn.
4Les ranberchnogaeth: trosglwyddo rifersiwn pan ddewisir triniaeth gwerth marchnadol
Mae trosglwyddo’r rifersiwn i’r tenant o dan delerau les y mae paragraff 3 yn gymwys iddi (les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol) wedi ei ryddhau rhag treth—
a
os gwnaed dewis o dan baragraff 3, a
b
os talwyd unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhoi’r les.
5Les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol ar gyfer premiwm pan ganiateir cynyddu perchentyaeth
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
a
les yn cael ei rhoi—
i
gan gorff cymwys, neu
ii
yn unol â’r hawl i brynu a gadwyd,
b
yr amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, ac
c
y prynwr yn dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn.
2
Yr amodau yw—
a
bod rhaid i’r les fod ar gyfer annedd;
b
bod rhaid i’r les roi’r hawl i ddefnyddio’r annedd i’r tenant, a neb arall;
c
bod rhaid i’r les ddarparu y caiff y tenant, ar ôl talu swm, ei gwneud yn ofynnol i delerau’r les gael eu hamrywio fel bod y rhent sy’n daladwy oddi tani yn cael ei ostwng;
d
bod rhaid i’r les gael ei rhoi yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer rhent ac yn rhannol fel cydnabyddiaeth ar gyfer premiwm a gyfrifir ar sail—
i
y premiwm y gellir ei gael ar y farchnad agored am roi les sy’n cynnwys yr un telerau â’r les ond gan roi’r isafswm rhent yn lle’r rhent sy’n daladwy o dan y les, neu
ii
swm a gyfrifir ar sail y premiwm hwnnw;
e
bod rhaid i’r les gynnwys datganiad o’r isafswm rhent ynghyd ag—
i
y premiwm y gellir ei gael ar y farchnad agored, neu
ii
y swm a gyfrifir ar sail y premiwm hwnnw,
y cyfrifir y premiwm ar ei sail.
3
O ran dewis i dreth gael ei chodi yn unol â’r paragraff hwn—
a
rhaid cynnwys hynny ar y ffurflen dreth a ddychwelir mewn cysylltiad â rhoi’r les (neu mewn diwygiad i’r ffurflen dreth honno), a
b
mae’n ddi-alw’n-ôl, fel na chaniateir diwygio’r ffurflen er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.
4
Pan wneir dewis o dan y paragraff hwn cymerir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer rhoi’r les ar wahân i rent yw’r swm a nodir yn y les yn unol ag is-baragraff (2)(e)(i) neu (ii).
5
Yn y paragraff hwn, ystyr “isafswm rhent” yw’r rhent isaf a allai ddod yn daladwy o dan y les pe bai’n cael ei hamrywio fel a grybwyllir yn is-baragraff (2)(c) ar y dyddiad y rhoddir y les.
6Les ranberchnogaeth: trafodiadau cynyddu perchentyaeth
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo, o dan les ranberchnogaeth—
a
y tenant â’r hawl, ar ôl talu swm, i’w gwneud yn ofynnol i delerau’r les gael eu hamrywio fel bod y rhent sy’n daladwy oddi tani yn cael ei ostwng, a
b
y tenant, drwy arfer yr hawl honno, yn caffael buddiant, yn ychwanegol at un a ddelir eisoes, a gyfrifir ar sail gwerth marchnadol yr annedd ac a fynegir fel canran o’r annedd honno neu ei gwerth (“cyfran o’r annedd”).
2
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae’r caffaeliad wedi ei ryddhau rhag treth—
a
os gwnaed dewis o dan baragraff 3 (les ranberchnogaeth: dewis triniaeth gwerth marchnadol) neu baragraff 5 (les ranberchnogaeth: dewis pan ganiateir cynyddu perchentyaeth) a bod unrhyw dreth sydd i’w chodi mewn cysylltiad â rhoi’r les wedi ei thalu, neu
b
os nad yw, yn union ar ôl y caffaeliad, gyfanswm cyfran y tenant o’r annedd yn fwy nag 80%.
3
Nid yw adran 70 (ystyr gwerth marchnadol) yn gymwys mewn perthynas â’r cyfeiriadau yn y paragraff hwn at werth marchnadol yr annedd.
7Les ranberchnogaeth: rhoi les a thrafodiadau cynyddu perchentyaeth etc. heb fod yn gysylltiol
At ddibenion pennu swm y dreth sydd i’w godi wrth roi les ranberchnogaeth ar gyfer annedd, mae rhoi’r les i’w drin fel pe na bai’n gysylltiol o ran—
a
unrhyw gaffaeliad buddiant yn yr annedd y mae paragraff 6 yn gymwys iddo, na
b
trosglwyddo’r rifersiwn i’r tenant o dan delerau’r les.
8Rhent i les ranberchnogaeth: y swm y codir treth arno
1
Pennir y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiadau sy’n rhan o gynllun rhent i les ranberchnogaeth yn unol â’r paragraff hwn.
2
Ystyr “cynllun rhent i les ranberchnogaeth” yw cynllun neu drefniant y mae corff cymwys, oddi tano—
a
yn rhoi contract meddiannaeth ar gyfer annedd i berson (“y tenant”) neu i bersonau (“y tenantiaid”), a
b
yn rhoi, wedi hynny, les ranberchnogaeth ar gyfer yr annedd neu annedd arall i’r tenant neu i un neu ragor o’r tenantiaid.
3
Mae’r trafodiadau a ganlyn i’w trin fel pe na baent yn gysylltiol—
a
rhoi’r contract meddiannaeth;
b
rhoi’r les ranberchnogaeth;
c
unrhyw drafodiad tir arall rhwng y corff cymwys a’r tenant, neu unrhyw un neu ragor o’r tenantiaid, yr ymrwymir iddo fel rhan o’r cynllun.
4
At ddibenion pennu’r dyddiad y mae rhoi’r les ranberchnogaeth yn cael effaith, mae’r ffaith fod y tenant neu’r tenantiaid yn meddiannu’r annedd o dan y contract meddiannaeth i’w diystyru.
5
Yn y paragraff hwn, mae i “contract meddiannaeth“ yr un ystyr ag a roddir gan Ran 2 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1).
9Lesoedd rhanberchnogaeth: dehongli
1
At ddibenion paragraffau 6, 7 ac 8, ystyr “les ranberchnogaeth” yw les a roddir—
a
gan gorff cymwys, neu
b
yn unol â’r hawl i brynu a gadwyd,
y bodlonir yr amodau ym mharagraff 3(2) neu 5(2) mewn perthynas â hi.
2
Mae is-baragraffau (3) a (4) yn gymwys i baragraffau 3 i 8.
3
Ystyr “corff cymwys” yw—
a
awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local housing authority” gan adran 1 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68);
b
cymdeithas dai o fewn yr ystyr a roddir i “housing association” gan Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985 (p. 69);
c
ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50).
4
Rhoddir les yn unol â’r hawl i brynu a gadwyd—
a
os yw’r gwerthwr yn berson y mae’r hawl i brynu o dan Ran 5 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) yn arferadwy yn ei erbyn yn rhinwedd adran 171A o’r Ddeddf honno (cadw’r hawl i brynu wrth waredu i landlord sector preifat),
b
os y tenant yw’r person cymwys at ddibenion yr hawl i brynu a gadwyd, ac
c
os yw’r les ar gyfer annedd sydd y tŷ annedd cymwys mewn perthynas â’r prynwr.
5
Yn is-baragraff (4), mae i “person cymwys” a “tŷ annedd cymwys” yr ystyron a roddir i “qualifying person” a “qualifying dwelling-house” gan adran 171B o Ddeddf Tai 1985 (p. 68).