xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2(1)Yn achos trafodiad hawl i brynu—
(a)nid yw adran 19(1) (cydnabyddiaeth ddibynnol i’w chynnwys mewn cydnabyddiaeth drethadwy gan ragdybio y ceir digwyddiad dibynnol) yn gymwys, a
(b)nid yw unrhyw gydnabyddiaeth na fyddai ond yn daladwy pe bai digwyddiad dibynnol, neu sydd ond yn daladwy oherwydd digwyddiad dibynnol, yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy.
(2)Ystyr “trafodiad hawl i brynu” yw—
(a)gwerthu annedd am ddisgownt, neu roi les ar gyfer annedd am ddisgownt, gan gorff sector cyhoeddus perthnasol, neu
(b)gwerthu annedd, neu roi les ar gyfer annedd, yn unol â’r hawl i brynu a gadwyd.
(3)Mae’r canlynol yn gyrff sector cyhoeddus perthnasol at ddibenion y paragraff hwn—
(a)un neu ragor o Weinidogion y Goron;
(b)Gweinidogion Cymru;
(c)awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local housing authority” gan adran 1 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68);
(d)landlord cymdeithasol cofrestredig;
(e)ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 1988 (p.50);
(f)corff plismona lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local policing body” gan adran 101(1) o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p. 16);
(g)person a bennir at ddibenion y paragraff hwn gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.
(4)At ddibenion is-baragraff (2)(b), mae gwerthu annedd, neu roi les ar gyfer annedd, yn cael ei wneud yn unol â’r hawl i brynu a gadwyd—
(a)os yw’r gwerthwr yn berson y mae’r hawl i brynu o dan Ran 5 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) yn arferadwy yn ei erbyn yn rhinwedd adran 171A o’r Ddeddf honno,
(b)os y prynwr yw’r person cymwys at ddibenion yr hawl i brynu a gadwyd, ac
(c)os yr annedd yw’r tŷ annedd cymwys mewn perthynas â’r prynwr.
(5)Nid yw grant gan Weinidogion Cymru o dan adran 20 neu 21 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (grantiau prynu mewn cysylltiad â gwarediadau am ddisgownt gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig) yn cyfrif fel rhan o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer trafodiad hawl i brynu y mae’r gwerthwr yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol cofrestredig preifat mewn perthynas ag ef.
(6)Yn y paragraff hwn—
ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” (“registered social landlord”) yw corff a gofrestrwyd fel landlord cymdeithasol mewn cofrestr a gedwir o dan adran 1(1) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52);
mae i “tŷ annedd cymwys” a “person cymwys” yr ystyron a roddir i “qualifying dwelling-house” a “qualifying person” gan adran 171B o Ddeddf Tai 1985 (p. 68).