ATODLEN 13RHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU SY’N YMWNEUD AG ANHEDDAU LLUOSOG
4Termau allweddol
1
Ystyr “y gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau”—
a
ar gyfer trafodiad annedd unigol, yw hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad sydd i’w briodoli i’r annedd;
b
ar gyfer trafodiad anheddau lluosog, yw hynny o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad sydd i’w briodoli i’r anheddau gyda’i gilydd.
2
Ystyr “y gydnabyddiaeth sy’n weddill” yw’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad llai’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i anheddau.
3
Mae trafodiad perthnasol yn “trafodiad annedd unigol” os ei brif destun yw—
a
buddiant mewn annedd, neu
b
buddiant mewn annedd ac eiddo arall.
4
Mae trafodiad perthnasol yn “trafodiad anheddau lluosog” os ei brif destun yw—
a
buddiant mewn o leiaf ddwy annedd, neu
b
buddiant mewn o leiaf ddwy annedd ac eiddo arall.
5
Ystyr “priodoli” yw priodoli ar sail dosraniad teg a rhesymol.